Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan:

 (i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

(iv) Swyddog Monitro

 

Cofnodion:

Y Maer

 

Croesawodd y Maer yr Aelodau yn ôl ar ôl gwyliau Awst a gobeithiai fod pawb wedi llwyddo i fynd i ffwrdd am ychydig ddyddiau yn barod ar gyfer tymor yr hydref/gaeaf.

 

Ers ei adroddiad diwethaf i'r Cyngor, roedd ei Gydymaith ac yntau wedi mynychu 34 o achlysuron a digwyddiadau swyddogol, oedd wedi bod yn amrywiol ac yn wahanol ac eto'n ddifyr iawn, ac roedd hi wedi bod yn anodd dewis ychydig i adrodd wrth yr Aelodau amdanynt.

 

Fe ymwelsant â Mrs Emily McNamara ar ei 100fed pen-blwydd yn ei chartref ym Maesteg. Mae hi'n mwynhau iechyd da, yn dal i fedru mynd i siopa bob wythnos i ASDA gyda'i wyres, ac yn llwyddo i ddringo'r grisiau bob nos. Dywedodd wrthym am ei gwaith yn y ffatri arfau ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ystod y rhyfel a sut y cyfarfu hi â'i gwr mewn dawns ym 1943. Roeddent wedi priodi 6 mis yn ddiweddarach, ac mae'r gweddill yn hanes gyda nifer o wyrion a gorwyrion. Ychwanegodd ei bod wedi bod yn hyfryd ei chyfarfod hi a'i theulu.

 

Fe aethant hefyd i wasanaeth coffa Trychineb Slip y Parc, achlysur dwys wrth gofio yr holl fywydau a gollwyd, yn enwedig dynion ifanc oedd yn 13 mlwydd oed, ac yn rhai achosion nifer o aelodau o'r un teulu wedi eu colli. 

 

Roedd agoriad swyddogol Ysgol Betws gan y Prif Weinidog yn fore ardderchog pan gawsant eu tywys o gwmpas gan y disgyblion, oedd yn dweud wrthynt am eu hysgol newydd.

 

Roedd y Maer/Cydymaith hefyd yn bresennol yn noson wobrwyo chwaraeon Ysgol Gyfun Maesteg, ac yn Sinema'r Odeon, Pen-y-bont ar Ogwr, roeddent wedi bod i weld dangosiad cyntaf Dragon Hunters, ffilmiau byrion newyddiadurllyd ynghylch y problemau gyda dreigiau yn y cymoedd, wedi eu gwneud mewn cydweithrediad gan yr holl ysgolion cynradd yn ardal Maesteg, gyda chymorth staff a disgyblion Ysgol Gyfun Maesteg.

 

Fe wnaethant hefyd ymweld ag Ysgol Trelales i gyflwyno'r faner Blatinwm i'r ysgol ar ôl 10 mlynedd o dderbyn y faner werdd.

 

Roedd ymweliadau eraill yn cynnwys drama plant Blwyddyn 6 oedd yn gadael Ysgol Tondu; sioe geir Pen-y-bont ar Ogwr; gwasanaeth dinesig Maer Porthcawl, y cynghorydd Norah Clark; trwyddedu'r Parch Ian Hodges fel Deon Ardal gyda'r Esgob June; Sioe Frenhinol Cymru; ymweliad ag Uned Ganser symudol Tenovus yn y Pines; pen-blwydd priodas 65ain Mr & Mrs Panter; noson wobrwyo yn HMS Cambria y Barri. Roeddent hefyd wedi ymweld â'r Ymddiriedolaeth G?n ym Mhen-y-Fai a noson gyflwyno gwobrau i arwyr lleol radio FM y Bont. Cyflwynwyd siec i Elusennau'r Maer gan Aelodau a Rheolwyr Casle Bingo, a chafwyd diwrnod materion Tai yn nh? diogel Morfa Llamau.

 

Ychwanegodd mai achlysur trist oedd mynd i angladd Audrey Thomas, chwaer y Cynghorydd Jeff Tildesley, oedd yn Gydymaith iddo ef pan oedd yn Faer.

 

Roedd y Maer wedi derbyn siec ar gyfer radio Pen-y-bont ar Ogwr gan Sainsbury’s, ac ar ôl hynny ymwelodd â'r orsaf radio yn yr ysbyty. Wedyn bu'n bresennol yng nghlwb cicio a bocsio newydd y Gym for Warriors yn YMCA Pen-y-bont ar Ogwr gyda'r Cynghorydd David White a'r Arweinydd.

 

Cyflwynwyd Beiblau Gideon i'r Maer/Cydymaith yn y Swyddfeydd Dinesig; ymwelodd â diwrnod agored St Pauls yn Heol –y-Cyw, garddwest cartref preswyl Glanffrwd ym Mhencoed, codi baner LGBGT yn y Swyddfeydd Dinesig; seremoni ddinasyddiaeth gyda 2 deulu dymunol, ordeinio a sefydlu y Parch Robert Hall QGM, gweinidog newydd Capel Bedyddwyr Hope, (Robbie i'w gyfeillion). Hefyd bu yng ngarddwest Cefn-yr-afon; cyflwyniad Bracla yn ei Blodau; cyngerdd gan gôr meibion Porthcawl gyda phedwarawd o gantorion talentog, sef y 4tunes; lansio cydweithfa grefftau Pen-y-bont ar Ogwr; cyflwyniad a dadorchuddio plac yn Harbwr Porthcawl gyda'r Cynghorydd Charles Smith i nodi dwy ganrif ers geni Robert Pearson Brereton a gynlluniodd ac a adeiladodd harbwr Porthcawl ynghyd â phrosiectau eraill yn yr ardal; Ras Dydd Gwyl Ddewi MPCT yng nghae Coopers ym Mharc Bute.

 

Gorffennodd drwy ddweud bod ei Gydymaith ac yntau yn edrych ymlaen at dymor hydref prysur, os oedd yr uchod yn unrhyw fath o arweiniad.

 

Dirprwy Arweinydd

 

Roedd y dirprwy Arweinydd yn si?r y byddai ar Aelodau eisiau rhoi gwybod i'w hetholwyr ein bod yn paratoi i gynnal Ffair Swyddi flynyddol y Fwrdeistref.

 

Byddai'r digwyddiad poblogaidd am ddim hwn yn cael ei gynnal drannoeth rhwng 10 y bore ac 1 o'r gloch y prynhawn yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr

 

Roedd yn agored i bawb, a'r nod oedd cynorthwyo pobl leol i ddod o hyd i waith neu newid gyrfa tra'n derbyn cyngor a chymorth arbenigol.

 

Roedd y digwyddiad wedi cael ei drefnu mewn partneriaeth gyda Job Centre Plus, a byddai mwy na 40 o gyflogwyr a sefydliadau yn cymryd rhan.

 

Byddai amrywiaeth eang o swyddi gwag dros dro a pharhaol ar gael i wneud cais amdanynt ar y diwrnod, a byddai'r rhain yn cynnwys swyddi mewn adwerthu, lletygarwch, gofal, gweithgynhyrchu, bancio, diogelwch, darparwyr hyfforddiant, gwasanaethau cyhoeddus a recriwtio.

 

Mae'r ffair swyddi wedi datblygu enw cadarn fel lle i geiswyr swyddi gael mynediad at wybodaeth a chyngor, a chael yn ôl i mewn i waith neu gael cyfle i gynyddu eu sgiliau.

 

Roedd y digwyddiad eleni wedi denu nifer fawr o gyflogwyr posibl, ac roedd yn sicr y byddai o fudd mawr i drigolion lleol.

 

Aelod o'r Cabinet - Cymunedau

 

Dywedodd yr aelod o'r Cabinet bod Aelodau yn ddiamau wedi arfer cael etholwyr yn tynnu eu sylw at dyllau yn y ffordd, ac felly roedd yn wirioneddol dda ganddo weld bod ein gwaith uwchraddio priffyrdd £1.5 miliwn wedi cychwyn.

 

Mae hyn yn cynnwys ailwynebu rhai o ffyrdd mwyaf prysur y Fwrdeistref sirol fel rhan o raglen dreigl o fuddsoddi.

 

Roedd yn gwybod bod Aelodau ac aelodau pryderus o'r cyhoedd wedi dwyn llawer o'r ffyrdd i sylw'r Cyngor, ac roedd staff y Cyngor wedi nodi'r rheiny oedd angen eu cynnwys yn y rhaglen.

 

Roedd y ffyrdd wedi eu dewis ar gyfer gwaith yn dilyn arolygon technegol oedd wedi defnyddio radar, offer atal sgidio, arolygon cyflwr ac asesiadau a gynhaliwyd gan arolygwyr y priffyrdd.

 

Unwaith y bydd y gwaith wedi ei gwblhau, dylai sicrhau na fydd ar y ffordd angen unrhyw waith trwsio mawr pellach am rhwng 20 a 30 o flynyddoedd.

 

Mae hyn yn gwneud llawer mwy o synnwyr na thrwsio tyllau wrth iddynt ddigwydd, ac mae'n rhatach yn y pen-draw.

 

Er y byddai peth anhwylustod yn anochel, roedd pob ymdrech yn cael ei gwneud i geisio cadw hyn i lawr i'r eithaf, ac roedd y gwaith yn mynd i wneud gwahaniaeth sylweddol wrth inni symud yn nes i'r gaeaf.

 

Yn olaf, atgoffodd yr Aelodau am ddigwyddiad canmlwyddiant yr RAF fyddai'n cael ei gynnal am 4.30., (h.y. yn dilyn y Cyngor) y prynhawn hwnnw.

 

Aelod o'r Cabinet - Cenedlaethau'r Dyfodol a Llesiant

 

Dywedodd Aelod y Cabinet - Cenedlaethau'r Dyfodol a Llesiant, wrth i dymor yr hydref nesáu, fod ymgyrch 'Nyth Gwag' blynyddol y Cyngor wedi cychwyn recriwtio gofalwyr maeth newydd.

 

Anelir yr ymgyrch at gartrefi lle mae'r plant wedi tyfu a symud yn eu blaen.  Mae'n cynnig ateb i rieni a gwarcheidwaid a all fod yn ceisio addasu i'r newid sydyn yn eu bywydau.

 

Mae hefyd yn annog rhieni a gwarcheidwaid i ddefnyddio'u sgiliau i helpu i sicrhau y gall plant aros yn yr ardal leol, ac mor agos i'w hysgol a'u ffrindiau ag sydd modd.

 

Roeddent hefyd yn edrych am ofalwyr maeth, fel rhan o gynllun 'Pontio'r Bwlch' sy'n darparu gofal tymor byr arbenigol i blant sydd ag amrywiaeth o anghenion ychwanegol. 

 

Darperir hyfforddiant a chyngor yn gyson i'r holl rieni maeth ynghyd â phecyn ariannol cystadleuol.

 

Gorffennodd drwy ddweud y gallai rhywun, fyddai'n dymuno cael gwybod mwy, ymweld â gwefan Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr neu ffonio'r tîm maeth ar 642674.

 

Aelod o'r Cabinet - Addysg ac Adfywio

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio y byddai cydweithwyr yn gwybod bod rhaglen barhaus o foderneiddio ysgolion y Cyngor hwn wedi bod yn darparu cyfleusterau addysgol o'r math diweddaraf ers peth amser bellach.

 

Ynghyd â'r Maer, y Maer Ieuenctid, y Dirprwy Faer Ieuenctid, yr Arweinydd a chyd-aelodau o'r Cabinet ynghyd â'r Cynghorydd lleol Martin Jones, roedd wedi bod wrth ei fodd i fod yn bresennol yn agoriad Ysgol Gynradd gwbl newydd y Betws. Roedd y Prif Weinidog Carwyn Jones yno hefyd ar gyfer y digwyddiad, ac roeddent wedi gweld drostynt eu hunain newid mor enfawr yr oedd yr ysgol yn ei wneud ym mywydau dros 200 o blant lleol rhwng pedair ac unarddeg oed.

 

Fel y gwyddai'r Aelodau, cafodd Ysgol Gynradd Betws ei difrodi yn rhannol yn 2012 ar ôl i dân dorri allan yn y bloc iau. Ynghyd â'r Ysgol Gynradd Gymraeg sy'n cael ei hadeiladu ar yr un safle, Ysgol Gynradd Gymraeg Calon Y Cymoedd, bydd y ddwy ysgol yn cynrychioli buddsoddiad o £10.8 miliwn yn rhan ddeheuol Cwm Garw.

 

Gyda Choleg Cymunedol y Dderwen wedi ei leoli ychydig filltiroedd i ffwrdd, teimlai fod hyn yn dangos yn eglur yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud i greu etifeddiaeth barhaol aruthrol i addysg yn y rhan hon o'r Fwrdeistref Sirol.

 

Diolchodd i bawb a'u llongyfarch am helpu i gyflawni'r adnodd cymunedol gwych hwn.

 

Roedd wedi bod yn falch hefyd i fod mewn digwyddiad diweddar a drefnwyd gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil, neu ICE yn fyr, i nodi cyfraniad Robert Pearson Brereton, peiriannydd o'r 19eg ganrif a chydweithiwr i Brunel, oedd yn gyfrifol am nifer o orchestion peirianyddol yn lleol.

 

Roedd y rhain yn cynnwys adeiladu doc newydd Porthcawl a agorodd yn 1867, a chwblhau y rheilffordd o ardal Maesteg i Ben-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl.

 

Yn y tair blynedd ar ddeg ddiwethaf, roedd ICE Cymru wedi gosod neu gefnogi 27 o blaciau a phaneli gwybodaeth ledled Cymru, yn nodi safleoedd peirianyddol hanesyddol pwysig ac yn coffáu peirianwyr enwog megis Trevithick, Brunel a Telford.

 

Mae ICE wedi rhoi plac coffa inni y byddwn yn ei osod yn barhaol unwaith y bydd peth o'r gwaith ar yr harbwr presennol wedi ei gwblhau.

 

Hwn fydd y seithfed plac ar hugain y mae ICE wedi eu rhoi i nodi safleoedd pwysig a choffáu peirianwyr enwog, ac roedd yn si?r yr hoffai Aelodau weld hwn drostynt eu hunain.

 

Prif Weithredwr

 

Dymunai'r Prif Weithredwr roi diweddariad byr i'r Aelodau ynghylch peth gwaith ymgysylltu â staff oedd wrthi'n cael ei wneud ar y pryd.

 

Dros yr haf, roedd yr Arweinydd ac yntau wedi cynnal nifer o sesiynau gyda'r staff yn Siambr y Cyngor, ac roedd oddeutu 150 o weithwyr wedi mynychu'r rhain i gyd, ac roeddent wedi rhoi blas trawstoriadol iddynt o'r mathau o bryderon a phroblemau oedd yn effeithio ar y staff.

 

Roedd y sesiynau hefyd wedi eu galluogi i rannu rhai o'r problemau mawr oedd yn wynebu'r Cyngor, ac ateb unrhyw gwestiynau oedd yn cael eu codi. Roeddent hefyd wedi annog y staff i edrych ar y sesiynau fel fforwm agored lle gallai unrhyw un godi mater, ac roeddent wedi ymateb yn gadarnhaol i hyn.

 

Roedd y staff wedi mynegi cryn ddiddordeb yn y newidiadau oedd i ddod yn y bwrdd iechyd ac roedd ail-drefnu llywodraeth leol hefyd yn bwnc llosg, fel yr oedd y gyllideb wrth gwrs a llymder.

 

Mae diweddariadau'r staff yn ffurfio rhan o raglen dreigl o fesurau sydd wedi eu bwriadu i'n cynorthwyo ni i ddeall ein staff yn well a'n galluogi i fynd i'r afael â'u hanghenion lles.

 

Roedd hyn yn rhywbeth yr oedd yr Arweinydd ac yntau yn debygol o'i wneud o bryd i'w gilydd yn rheolaidd yn y dyfodol.

 

At hynny, fe wnaethant lansio arolwg staff oedd wedi ei fwriadu i alluogi staff i roi adborth dienw, gonest iddynt, a rhoi dealltwriaeth gywir o'u barn a'u teimladau. Daw hwn i ben ar 10 Hydref, ac ar ôl hynny byddant yn ei ddadansoddi er mwyn nodi pa gamau a allai fod yn angenrheidiol ar gyfer cefnogi lles ac ysbryd y staff.

 

Gorffennodd y Prif Weithredwr drwy ddweud y byddai'n rhoi diweddariad mwy manwl i'r Aelodau unwaith y byddai canlyniadau'r broses hon yn hysbys.

 

Swyddog Monitro

 

Cyhoeddodd y Swyddog Monitro un neu ddau o newidiadau ynghylch aelodaeth y Pwyllgor.

 

Yn gyntaf, dywedodd y byddai'r Cynghorydd Radcliffe yn cymryd lle'r Cynghorydd T Thomas ar y Pwyllgor Rheoli Datblygiad.

 

Yn ail, cytunwyd rhwng y ddau Aelod canlynol, y byddai'r Cynghorydd J Williams yn dod oddi ar SO ac SC 1 ac yn dod yn aelod o SO a SC 3 yn lle hynny. Er mwyn hwyluso hyn, byddai'r Cynghorydd JH Tildesley yn ildio ei aelodaeth o SO ac SC 3 ac yn dod yn aelod o SO a SC 1.

 

Ychwanegodd y Swyddog Monitro na fyddai'r newidiadau uchod yn effeithio ar gydbwysedd gwleidyddol presennol y Pwyllgorau.