Agenda item

Derbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor ar fin cychwyn yr ymgynghoriad ynghylch y gyllideb eleni, ac y byddent unwaith eto yn annog trigolion lleol i gymryd rhan a chynorthwyo i ailsiapio dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr. Fel rhan o hyn, byddent yn cynnal ymgyrch gyhoeddusrwydd a marchnata lawn fyddai'n cynnwys digwyddiadau cymunedol, datganiadau i'r wasg, hysbysebu a mwy.

 

Bydd y cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan amlwg yn y broses, a gobeithiai ef y byddai'r holl Aelodau etholedig yn cefnogi'r ymgyrch ac yn annog cymaint o bobl ag sydd modd i gymryd rhan. Byddwn yn gofyn i'r trigolion pa wasanaethau y maent yn meddwl ddylai gael blaenoriaeth wrth i'r Awdurdod geisio ymdopi â gostyngiad o £35 miliwn mewn cyllid erbyn 2023. Mae'n hawdd iawn gweld dim ond y toriad ac nid y rhesymeg y tu ôl iddo, ac felly mae arnom angen i Aelodau ein cynorthwyo i gyfleu rhai problemau anodd iawn.

 

Fel yr oedd yr Aelodau'n gwybod, roedd y Cyngor eisoes wedi arbed £30 miliwn drwy wneud pethau fel lleihau nifer ein staff o fwy na 400, gweithio gyda phartneriaid megis Halo, neu gwtogi ar wasanaethau megis toiledau cyhoeddus, glanhau strydoedd, clybiau ieuenctid ac addysg i oedolion. Gwnaed hyn tra hefyd yn gwneud buddsoddiad hanfodol mewn ysgolion newydd, tai i bobl h?n, amddiffynfeydd morol hanfodol a mwy. Ond fel y gwyddai'r Aelodau hefyd, roedd pwynt critigol wedi ei gyrraedd bellach, ac roedd rhai penderfyniadau caled eto i gael eu gwneud.

 

Roedd yr ychydig flynyddoedd nesaf yn mynd i fod y rhai mwyaf heriol eto, gan ein bod yn cael ein gorfodi i ystyried meysydd pwysig fel ysgolion ac addysg feithrin, gwasanaethau cymdeithasol i blant, trigolion h?n a phobl anabl, a mwy. Dyma pam roedd angen i'r Cyngor ymgysylltu'n llawn â phobl leol, ac roedd yn apelio ar y Cynghorwyr i gyd, gan gynnwys Cynghorau Tref a Chymuned, i gynorthwyo i gyflawni hyn.

 

Byddai aelodau yn derbyn gwahoddiad cyn bo hir i ddigwyddiad ymgynghori arbennig. Mae hwn yn cael ei drefnu fel y gellir ei gynnal ochr yn ochr â'r Cyngor llawn ar Ddydd Mercher, 24 Hydref, a bydd yn rhoi cyfle i'r Aelodau roi eu barn a dod i wybod mwy am yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni. At hynny, byddai manylion llawn y digwyddiadau cymunedol oedd yn cael eu trefnu yn cael eu hanfon at y Cynghorwyr, ynghyd â gwybodaeth yn dweud wrth drigolion am y ffyrdd gwahanol y gallant gymryd rhan.

 

Cynhelir ymgynghoriad y gyllideb rhwng 24 Medi a 18 Tachwedd. Byddai digon o gyfle i gymryd rhan, ac felly gofynnodd i'r rhai oedd yn bresennol gynorthwyo i ledaenu'r neges ynghylch y cyfle tra phwysig hwn.

 

Yn olaf, llongyfarchodd yr Arweinydd Mr Lindsay Harvey oedd wedi ei benodi'n ddiweddar i swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd, ar ôl cyflawni'r swydd hon ar sail dros dro. Gwnaed y penodiad gan y Pwyllgor Penodiadau, corff sy'n cynnwys Aelodau trawsbleidiol.

 

Roedd yr Arweinydd yn sylweddoli mai dyma'r swydd fyddai'n freuddwyd i Mr Harvey, a gwyddai y byddai'n llwyddiannus iawn yn cyflawni ei waith yn effeithiol fel yr oedd wedi gwneud dros dro am nifer o fisoedd eisoes.