Agenda item

Cwestiwn i Aelod y Cabinet - Addysg ac Adfywio gan y Cynghorydd Tim Thomas

A wnaiff yr Aelod Cabinet ddatganiad ar statws cyfredol y Cyngor hwn mewn cysylltiad â gweithredu’r strategaeth cynhwysiant yn yr ysgol?

 

Cofnodion:

"A wnaiff Aelod y Cabinet wneud datganiad ar y modd y mae'r Cyngor hwn ar hyn o bryd yn gweithredu strategaeth cynhwysant yn yr ysgolion?"

 

Ymateb gan Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio

 

Gweithredu diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yw ffocws strategaeth Cynhwysiant ac ADY ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (BCBC).

 

Cafodd Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 12 Rhagfyr 2017 ac, ar ôl derbyn Cydsyniad Brenhinol, daeth yn Ddeddf ar 24 Ionawr 2018. Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer fframwaith statudol newydd i gefnogi plant a phobl ifanc ag ADY o'r crud nes eu bod yn 25 mlwydd oed. Mae'r Ddeddf hon i ddisodli deddfwriaeth flaenorol ynghylch Anghenion Addysg Arbennig ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu a/neu anableddau mewn addysg a hyfforddiant ôl-16.

 

I gefnogi gweithredu'r system newydd, gan gynnwys y Ddeddf, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu pump Arweinydd Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae pedwar o'r arweinyddion trawsnewid yn gweithredu'n rhanbarthol, ar ôl troed y consortia addysg, ac mae un arweinydd yn gweithio fel Arweinydd Trawsnewid Addysg Bellach ar lefel genedlaethol.

 

Dylai'r system newydd ddechrau cael ei gweithredu ym mis Medi 2020 a disgwylir iddi gael ei chwblhau erbyn diwedd 2023. Mae'r llinell amser fel a ganlyn:-

 

  • Ionawr 2018 - Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys (Cymru) yn derbyn Cydsyniad Brenhinol
  • Mawrth 2018 - arweinyddion Trawsnewid ADY yn eu swyddi
  • Tymor yr hydref 2018 - ymgynghori ar y Cod a’r Rheoliadau ADY drafft
  • Rhagfyr 2019 - cyhoeddi'r Cod ADY terfynol
  • Ionawr 2020 – cynnal hyfforddiant sut i weithredu’r Cod ADY newydd
  • Medi 2020 - cynnal hyfforddiant sut i weithredu’r Cod ADY newydd
  • Haf 2023 - systemau AAA ac anawsterau a/neu anableddau dysgu (AAD) yn dod i ben.

 

Mae'r Cynllun Gweithredu ADY Rhanbarthol (2018-2019) wedi cael ei gytuno gan Gyfarwyddwyr Addysg o Gonsortiwm Canolbarth y De (CCD). Mae'r cynllun yn disgwyl i gael ei lofnodi'n derfynol gan Lywodraeth Cymru a ddisgwylir ym Medi 2018. Mae yna wyth o flaenoriaethau wedi eu cynnwys yn y cynllun sydd fel a ganlyn:

 

  • Blaenoriaeth 1- creu cynllun gweithredu rhanbarthol amlasiantaethol ac amlddisgyblaethol, fydd yn tanategu'r newid llwyddiannus i'r ffordd newydd o weithio.

 

  • Blaenoriaeth 2 - cyflwyno rhaglen i godi ymwybyddiaeth fydd yn sicrhau bod y gweithwyr proffesiynol i gyd, llywodraethwyr ysgol, rhieni, gofalwyr, plant a phobl ifanc a'r trydydd sector yn derbyn gwybodaeth amserol am y newidiadau a'r cyfnodau amser sy'n gysylltiedig â hwy.

 

  • Blaenoriaeth 3 - Gweithredu cynllun datblygu gweithlu cynhwysfawr sy'n cydymffurfio â Deddf ALNET ac yn ategu'r diwygiadau addysgol cenedlaethol ehangach.

 

  • Blaenoriaeth 4 - datblygu cefnogaeth a darpariaeth ar gyfer dysgwyr sydd dros oed addysg orfodol drwy nodi cynigion lleol a rhanbarthol posibl.

 

  • Blaenoriaeth 5 - sicrhau bod y disgwyliadau statudol newydd ar gyfer y blynyddoedd cynnar wedi eu deall ac yn cael eu darparu a bod y cymorth addas yn cael ei roi i gynyddu capasiti mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.

 

  • Blaenoriaeth 6 - gwella ymgysylltu strategol gydag iechyd i gefnogi sefydlu rôl statudol y Swyddog Arweiniol Clinigol Addysg Dynodedig a datblygu disgwyliadau cyffredin ac arferion gwaith cefnogol.

 

  • Blaenoriaeth 7 - adolygu a gwella darpariaeth gyfrwng Cymraeg a chymorth arbenigol i gefnogi cynnydd yn y capasiti rhanbarthol.

 

  • Blaenoriaeth 8 - cefnogi hawliau'r plentyn a'r person ifanc ag ADY drwy ddatblygu arferion cyfeillgar i'r dysgwr sy'n esbonio prosesau'n glir a pha gefnogaeth y gallant ddisgwyl ei derbyn yn ogystal â hyrwyddo eu hawliau i apelio.

 

Yn ychwanegol at y Ddeddf, mae yna hefyd raglen trawsnewid ADY ehangachi gefnogi diwygio ADY. Ym mis Chwefror 2017, cyhoeddodd y Gweinidog dros Addysg Gydol Oes a'r Gymraeg ddatganiad gweinidogol ysgrifenedig yn cyhoeddi buddsoddiad o £20 miliwn mewn ADY i gefnogi'r holl bartneriaid i weithredu a chyflwyno'r system newydd yn llwyddiannus.  Darparwyd £1.1 miliwn o'r buddsoddiad hwnnw drwy Gronfa Arloesi ADY, oedd yn grant cyn deddfwriaeth i gefnogi prosiectau cydweithredol rhwng amrywiaeth o asiantaethau oedd yn ymwneud â chefnogi dysgwyr ag ADY.  Nod y gronfa oedd canfod a datblygu gwaith arloesol oedd yn gwella systemau, trefniadau a pherthynas yn barod ar gyfer lledaenu'r newidiadau deddfwriaethol oedd i ddod.

 

Cafodd yr hyn a ddysgwyd oddi wrth y prosiectau a ariannwyd drwy'r cynllun grant ei rannu ledled Cymru ar 19 Mehefin 2018. Darparodd hyn gyfle allweddol i ddatblygu ffyrdd o weithio'n gyson gyda'r diwygiadau a dylanwadu ar y dull o drawsnewid a gweithredu. Mae'r prosiectau fel a ganlyn:

 

  • Prosiect 1 - cynllunio trawsnewid rhwng lleoliadau addysg, allan o addysg ac i ofal cymdeithasol ac i fywyd fel oedolyn. Capasiti darpariaeth ôl-16 leol gyda AAD.

 

  • Prosiect 2 - capasiti Cydlynwyr ADY i roi cymorth i staff yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys datblygu sgiliau.

 

  • Prosiect 3 - capasiti ysgolion arbennig i weithredu fel cymorth arbenigol i ysgolion prif lif, a chapasiti gwasanaethau arbenigol seiliedig mewn awdurdodau lleol i gefnogi dysgwyr yn y blynyddoedd cynnar, mewn ysgolion a gynhelir ac mewn sefydliadau addysg bellach.

 

  • Prosiect 4 - arferion a threfniadau ar gyfer datrys anghydfod ac osgoi dadleuon.

 

Mae diwygio ADY yn eitem ar agenda cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1 ar 18 Hydref 2018. Bydd Cyfarwyddwr Corfforaethol, Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn trefnu i adroddiad gael ei gyflwyno mewn cyfarfod o'r Cyngor yn y dyfodol ar y cynnydd mewn gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) maes o law.

 

Cwestiwn ychwanegol gan y Cynghorydd T Thomas

 

'Gyda golwg yn arbennig ar y Strategaeth Cynhwysiant mewn Ysgolion, pa ddulliau ymgynghori penodol a ddefnyddiwyd i sicrhau bod y disgyblion wrth ganol y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud?'

 

Ymateb y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd

 

Mae llais y disgybl wrth ganol prosesau penderfynu'r Cyngor, ac felly, mae hyn yn benthyg ei hun i amrywiaeth o ddulliau ymgynghori, yn enwedig o ran Deddf Cydraddoldeb 2010.

 

Cwestiwn ychwanegol pellach gan y Cynghorydd T Thomas

 

Drwy ba ddulliau?

 

Ymateb gan Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio

 

Bydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn ymateb i'r Cynghorydd Thomas a'r holl Aelodau eraill ymhellach ynghylch yr uchod, y tu allan i'r cyfarfod.