Agenda item

Rhesymoli Gwasanaethau Bysiau â Chymhorthdal 2018-2019

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am effaith cwtogi'r gwasanaethau bysiau â chymhorthdal, fel y nodwyd yn adroddiad y Cabinet ar 15 Mai 2018, yn ogystal â chynnig bod y Cabinet yn cytuno i gynnal ymgynghoriad pellach ynghylch y cynnig i gael gwared â gweddill y cymhorthdal bysiau, fel y'i darperid gan y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20, a hynny yn rhan o arbedion arfaethedig Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor ar gyfer 2019-20 hyd at 2022-23.

Nodwyd bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Cymru yn cefnogi darparu gwasanaethau bysiau rhanbarthol a lleol trwy roi cymorthdaliadau i lwybrau nad oeddent o bosibl yn fasnachol hyfyw. Roedd y gwasanaethau hyn yn gwasanaethu llwybrau a oedd yn galluogi'r trigolion lleol i gyrchu cyflogaeth, addysg, gofal iechyd a gweithgareddau cymdeithasol.

Eglurodd fod cyllideb graidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer gwasanaethau bysiau â chymhorthdal bellach yn £180,000 ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, sef 2018-19. Ategir at hyn gan ddyraniad gwerth £386,825 gan Lywodraeth Cymru a ddarperir i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer 2018-19 trwy'r Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau, a nodwyd y dylid gwario swm targed o £85,224 ar gyllido gweithrediadau cludiant cymunedol yn y fwrdeistref sirol.

Nodwyd bod Cludiant Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyflwyno cais am grant gwerth £84,934.32 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar 9 Gorffennaf 2018, gan adael balans o £301,890.68 i'w wario ar rwydwaith strategol graidd o fysiau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a hynny yn unol â nodiadau cyfarwyddyd Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau Llywodraeth Cymru.

Cyfeiriodd yr Aelodau at y Tabl ym mharagraff 3.6 yn yr adroddiad a oedd yn nodi'r llwybrau bysiau a oedd yn rhan o'r gostyngiad cyllidebol cytunedig ar gyfer 2018-19. Cytunwyd i ddefnyddio £50,000 o'r cyllid ychwanegol a godwyd trwy gynyddu'r Dreth Gyngor 4.5% (yn hytrach na'r cynnydd o 4.2% a gynigiwyd yn wreiddiol), a hynny er mwyn parhau â'r cymorthdaliadau ar gyfer y tri gwasanaeth bysiau a ddangosir ar frig y tabl (Gwasanaethau Rhif 51, 803 a 61) ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.

I grynhoi, ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod y canlyniad o ran tynnu'r cymhorthdal wedi bod yn gadarnhaol iawn, ar y cyfan, a hynny wrth i bump o'r chwe llwybr cymhorthdal barhau i gael eu cadw a'u darparu yn fasnachol, er bod addasiadau neu ostyngiadau wedi cael eu gwneud o ran pa mor aml yr oeddent yn gwasanaethu, fel y manylir arnynt yn is-baragraffau paragraff 4.2 yn yr adroddiad.

Roedd adran ddilynol yr adroddiad yn amlinellu'r goblygiadau yn y dyfodol (ar gyfer y gwasanaeth), gan nodi hefyd y byddai angen rhoi ystyriaeth i gynnwys a goblygiadau llythyr a oedd wedi dod i law gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, dyddiedig 02 Mai 2018, a oedd yn nodi'r canlynol: "O fis Ebrill 2019 ymlaen, bydd yn rhaid i bob awdurdod lleol a fydd yn cael dyraniad gan y Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau ymrwymo i wario'r un swm o leiaf o'i gyllideb ei hun, er mwyn cefnogi rhwydweithiau bysiau a chludiant cymunedol yn ei ardal." Nodwyd bod y safbwynt hwn yn parhau i gael ei asesu'n briodol a bod yr awdurdod yn aros am eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr union oblygiadau. Ychwanegodd y byddai'r ymarfer ymgynghori arfaethedig ynghylch dyfodol Gwasanaethau Bysiau â Chymhorthdal yn cael ei gynnal cyn gynted â phosibl.

Daeth â'r eitem hon i ben trwy amlinellu goblygiadau ariannol yr adroddiad.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau fod cynnal yr uchod yn ariannol yn parhau'n anodd o dan y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, a bod y cyllid ychwanegol a gafwyd yn 2017-18 yn berthnasol am flwyddyn yn unig. Y gobaith oedd y byddai Llywodraeth Cymru wedi cynorthwyo â'r cyllid ar gyfer darparu'r gwasanaeth hwn, er nad dyna fu'r achos wedi hynny. 

Ychwanegodd na ellid parhau i roi cymorth ariannol i wasanaethau bysiau â chymhorthdal, ac anogodd y cyhoedd i barhau i ddefnyddio'r gwasanaethau hyn er mwyn sicrhau na fyddant yn cael eu colli.

Ychwanegodd yr Arweinydd ei fod yn annog y bobl hynny a oedd yn gymwys i gael y gwasanaeth hwn i brynu tocyn bws yn ôl disgresiwn, a fyddai'n cynorthwyo'r arfer o ddefnyddio'r math hwn o gludiant yn fwy, a bod angen i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn cludiant ar fysiau trwy gynllun Metro De Cymru hefyd, yn lle canolbwyntio yn unig ar ddarparu cysylltiadau trenau ychwanegol, a hynny er mwyn sicrhau gwasanaethau bysiau a fyddai'n fwy lleol ac yn gyflymach.

PENDERFYNWYD:             (1)     Bod angen ystyried cynnwys yr adroddiad, a chytunwyd bod angen cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y cynigion, gan gynnal Asesiad Llawn o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi hynny.

                                               (2) Bod angen cyflwyno adroddiad pellach i gyfarfod o'r Cabinet yn y dyfodol a fyddai'n amlinellu canlyniadau'r ymgynghoriad, ynghyd ag Asesiad Llawn o'r Effaith ar Gydraddoldeb, er mwyn galluogi i'r cynigion a amlinellir yn yr adroddiad gael eu hystyried.

Dogfennau ategol: