Agenda item

Trosglwyddo Cwrt Tennis ym Maes Hamdden Pencoed trwy gynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol ac Ystyried y Gwrthwynebiadau a Gafwyd yn Unol ag Adran 123(2a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau adroddiad a oedd yn cadarnhau bod Gr?p Llywio Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Cyngor wedi cymeradwyo trosglwyddo lesddaliad 35 mlynedd y Cwrt Tennis ym Maes Hamdden Pencoed i Gyngor Tref Pencoed ar 30 Hydref 2017. At hynny, gan fod y safle yn cynnwys man agored cyhoeddus, bu'n rhaid i'r Cyngor hysbysebu'r cynnig trosglwyddo asedau cymunedol yn unol ag Adran 123(2A) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gan nodi y dylid cyflwyno unrhyw wrthwynebiadau yn ysgrifenedig erbyn 13 Gorffennaf 2018, fan bellaf.

 

Ychwanegodd fod yr adroddiad a oedd gerbron yr Aelodau yn amlinellu'r gwrthwynebiadau a oedd wedi dod i law, a bod gofyn i'r Cabinet ystyried yr adroddiad hwnnw a phenderfynu a ddylai'r Cyngor gwblhau'r gwaith o drosglwyddo lesddaliad y Cwrt Tennis er mwyn galluogi i Gyngor Tref Pencoed ei drawsnewid yn Barc Sglefrfyrddio. Ychwanegodd hefyd fod angen i'r Cabinet bwyso a mesur y cynnig hwn yng ngoleuni nifer helaeth o wrthwynebiadau a gyflwynwyd yn ei erbyn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod y Cwrt Tennis dan sylw wedi ei leoli ym Maes Hamdden Pencoed, Heol Felindre, Pencoed, fel y dangosir yn y darn a oedd wedi'i arlliwio'n wyrdd yn Atodiad A i'r adroddiad.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi rhywfaint o wybodaeth gefndir arwyddocaol, ac roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau wedi cyfeirio'r Aelodau at Atodiad B, a oedd yn amlinellu'r ffioedd cyfredol i ddefnyddwyr y cyfleusterau chwaraeon hyn, yn ogystal â nodi manylion pellach am y lefelau cymhorthdal a'r incwm a gynhyrchir trwy logi'r cyfleusterau. Roedd yr adran hon o'r adroddiad yn nodi y byddai'r Parc Sglefrfyrddio yn cynorthwyo â'r gwaith o hybu iechyd da ac yn darparu gweithgaredd ychwanegol i bobl ifanc gymryd rhan ynddo, gweithgaredd a oedd yn dod yn gynyddol boblogaidd. Nodwyd bod Cyngor Tref Pencoed wedi cael rhywfaint o gyllid i ariannu cost cyfleuster o'r fath, a hynny trwy Gyllid Grant Cyfalaf Cyngor Tref/Cymuned, a gymeradwywyd yn flaenorol gan y Cabinet.

 

Roedd adran ddilynol yr adroddiad yn manylu ymhellach ar y gwrthwynebiadau a oedd wedi dod i law o ran y cynnig, fel y dangosir yn Atodiadau C a D i'r adroddiad.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at baragraff 4.11 o'r adroddiad a oedd yn rhestru ymatebion Cyngor Tref Pencoed i'r gwrthwynebiadau a oedd wedi dod i law.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau fod y Cwrt Tennis yn cael ei danddefnyddio a'i fod mewn cyflwr gwael, ac nad oedd digon o gyllid ar gael i'w ddiweddaru, tra bo Cyllid Grant Cyfalaf Cyngor Tref a Chymuned 2018-19 yn cynnig llwybr cyllido ar gyfer darparu'r datblygiad arfaethedig i greu Parc Sglefrfyrddio, a hynny gyda chyllid pellach gan Gyngor Tref Pencoed. Roedd wedi nodi'r rhesymau dros ei wrthwynebu, fel y nodir yn yr adroddiad, yn ogystal ag ymateb Cyngor Tref Pencoed i'r gwrthwynebiadau hynny, ac roedd yn fodlon cefnogi cynnig yr adroddiad trwy drefniant Trosglwyddo Asedau Cymunedol, a fyddai'n darparu cyfleuster hamdden amgen, a hynny yn seiliedig ar ei boblogrwydd ymhlith etholwyr yr ardal hon yn benodol.

 

Cefnogwyd hyn gan yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio a longyfarchodd Cyngor Tref Pencoed am gefnogi cyfleuster yr oedd galw mawr amdano yn y lleoliad dan sylw o ran hamdden a mwynderau.

 

Gofynnodd yr Arweinydd a allai'r Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau gadarnhau a oedd pobl ifanc wedi cefnogi'r cynnig i ddarparu Parc Sglefrfyrddio trwy'r ymgynghoriad a oedd yn rhan o Strategaeth Adfywio a Chynllun Gweithredu Pencoed.

 

Cadarnhawyd hynny gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau.

 

Daeth yr Arweinydd â'r ddadl ar yr eitem hon i ben trwy gadarnhau na fyddai darparu'r cyfleuster hwn yn amharu ar ddarparu cwrt tennis yn y lleoliad hwn, neu mewn lleoliad arall ym Mhencoed, pe byddai tystiolaeth yn cael ei chyflwyno yn y dyfodol i brofi fod digon o alw amdano.

 

PENDERFYNWYD:             Bod y Cabinet yn awdurdodi trosglwyddo'r Cwrt Tennis ym Maes Hamdden Pencoed i Gyngor Tref Pencoed trwy drefniant trosglwyddo asedau cymunedol er mwyn ei ddatblygu yn Barc Sglefrfyrddio, a hynny ar ôl ystyried yr adroddiad a'r gwrthwynebiadau a oedd wedi dod i law mewn ymateb i'r Hysbysiadau a gyhoeddwyd yn unol ag Adran 123(2A) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Dogfennau ategol: