Agenda item

Pecynnau Gofal Cymdeithasol a Chymorth Prifysgol ar gyfer Ymadawyr Gofal

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad (a oedd yn ychwanegol at yr adroddiad ar 30 Ionawr 2018), a oedd yn hysbysu'r Cabinet am fethodoleg yr ymgynghoriad a gynhaliwyd dros gyfnod o 12 wythnos, ynghyd â'i ganlyniadau, a hynny mewn perthynas â'r cymorth ariannol a ddarperir i ymadawyr gofal.

 

Atgoffwyd y Cabinet hefyd fod yr adroddiad hwn wedi cael ei lunio yng ngoleuni ymateb Llywodraeth Cymru i'r 'Adolygiad Diamond', sef adolygiad o drefniadau cyllido addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru, a fyddai'n cael ei roi ar waith yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol (2018-19).

 

Yn olaf, roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i barhau â'r gwaith o lunio polisi, a hynny yn unol â'r opsiwn a ffefrir, sef Opsiwn 3, y cyfeirir ato yn yr adroddiad (ochr yn ochr â'r opsiynau eraill).

 

Eglurodd fod yr Awdurdod Lleol wedi darparu cymorth ariannol i alluogi ymadawyr gofal i fynd i brifysgol a chofrestru ar gyrsiau addysg uwch, a hynny am sawl blwyddyn, fel y nodir yn yr adroddiad blaenorol ar 30 Ionawr 2018. Nodwyd bod y cymorth ariannol hwn wedi galluogi pobl ifanc i dalu am lety yn ystod y tymor ac yn ystod y gwyliau, yn ogystal â thalu am y ffioedd dysgu a chael taliadau cynnal a chadw wythnosol.

 

Roedd adrannau dilynol yr adroddiad yn cadarnhau bod yna fwriad i gynyddu nifer yr ymadawyr ifanc a oedd yn gadael trefniadau gofal er mwyn mynd i Brifysgol, neu geisio am gyfleoedd cyflogaeth. Nodwyd hefyd y byddai'r polisi cyfredol a oedd ar waith yn cael ei ystyried o hynny allan, ac y byddai'n cael ei adolygu yn unol ag Adolygiad Diamond; roedd rhai o gynigion yr adolygiad wedi'u hamlinellu yn y rhan hon o'r adroddiad.

 

Gan gyfeirio at y sefyllfa gyfredol, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod ymgynghoriad ynghylch y cynigion wedi cael ei gynnal dros gyfnod o 12 wythnos rhwng diwedd mis Chwefror a chanol/diwedd mis Mai 2018. Roedd tri opsiwn wedi cael eu cynnig mewn perthynas â hynny, ac roedd disgwyl i'r ymatebwyr roi eu sylwadau arnynt.

 

Nodwyd bod y prif ffigurau mewn perthynas ag ymatebwyr yr ymgynghoriad i'w gweld ym mharagraff 4.7 yn yr adroddiad, gan gynnwys natur y ffigurau hyn, ynghyd ag oedran yr ymatebwyr a'u rhywedd, ac ati, yn ogystal â data penodol eraill. Dywedwyd bod yr opsiynau dan sylw i'w gweld yn llawn ym mharagraff 4.9 yn yr adroddiad.

 

Roedd paragraff 4.28 yn yr adroddiad yn adlewyrchu'r modd yr oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi myfyrwyr ar y pryd, a hynny o gymharu â phedwar awdurdod cyfagos arall a grybwyllwyd. Nodwyd wedi hynny y rheswm yr oedd Opsiwn 3 yn cael ei ffafrio yng nghyd-destun yr awdurdod lleol.

 

Daeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cyhoeddus a Llesiant â'i chyflwyniad i ben trwy amlinellu goblygiadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn ogystal â goblygiadau ariannol yr adroddiad.

 

Llongyfarchodd y Dirprwy Arweinydd yr Ymarferwyr Gofal Cymdeithasol i Blant am eu gwaith yn cynorthwyo'r nifer o bobl ifanc a oedd yn gadael gofal ac yn dechrau ar gyfnodau mewn addysg uwch, yn ogystal â'u gwaith yn cynyddu nifer y rhai a oedd yn gwneud hynny.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod Opsiwn 3 yn adlewyrchu'r hyn y byddai'r rhieni yn ei ddarparu, gan mwyaf, tra bo'r Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol yn cefnogi'r elfen yn ôl disgresiwn yr oedd yr opsiwn a ffefrir yn ei gynnig, a fyddai'n arwain at lai o gostau ar gyfer y myfyrwyr.

 

Daeth yr Arweinydd â'r ddadl ar yr eitem hon i ben trwy nodi y dylai'r Aelodau fod yn falch, fel rhieni corfforaethol, o gynigion yr adroddiad a oedd yn decach ac yn fwy cyson na'r hyn a oedd ar waith ar y pryd. Dywedodd ei bod yn bwysig cefnogi myfyrwyr ifanc â 'chostau cychwynnol', er mwyn eu galluogi i brynu cyfarpar sylfaenol, er enghraifft haearn smwddio neu degell, ac ati, ac y dylid ymgorffori hyn yn rhan o'r cynllun.

 

Nododd hefyd ei bod yn bwysig adolygu'r cynllun wrth iddo fynd rhagddo, er mwyn ystyried ei effaith ac unrhyw gynnydd yn nifer y dysgwyr a fyddai'n manteisio arno. Daeth i'r casgliad fod hwn yn fater y gellid ei drafod yn fanylach mewn cyfarfod yn y dyfodol o Bwyllgor y Cabinet dros Rianta Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cabinet yn cymeradwyo Opsiwn 3, fel y'i disgrifir yn yr adroddiad, er mwyn rhoi'r polisi priodol newydd ar waith. 

Dogfennau ategol: