Agenda item

Gwasanaethau Gwastraff

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau adroddiad am y modd roedd Cytundeb Gwasanaethau Gwastraff y Cyngor yn cael ei weithredu. Ers cyflwyno’r gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu newydd ar 5 Mehefin 2017, meddai, roedd y sefyllfa wedi gwella’n raddol, ond yn arwyddocaol. Roedd problemau’n codi o bryd i’w gilydd mewn ambell leoliad ond roedd swyddogion yn cydweithio’n agos â’r contractwyr i’w datrys. Esboniodd bod yr ymatebion i’r cwestiynau penodol a ofynnwyd yn y cyfarfod diwethaf wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ac roeddent yn dangos bod perfformiad wedi gwella. Ystyriwyd bod y perfformiad yn gyffredinol yn awr cystal â safonau’r diwydiant er ei fod yn cydnabod nad oedd rhai problemau wedi’u datrys yn llawn. Esboniodd fod y Cyngor, o’r 22 awdurdod lleol, yn safle 21 ar un adeg ond erbyn hyn, roedd yn yr ail safle. Nid oedd hyn yn adlewyrchu casgliadau blwyddyn lawn ac roedd yn rhagweld y byddai’r gyfradd ailgylchu dros 70%. Ychwanegodd fod canran y cynwysyddion na chawsant eu gwagu hefyd yn is na’r ganran yn 2016.

 

Rhoddodd Rheolwr Rhanbarthol Kier, Mr Maz Akhtar, ychydig o ystadegau i ddangos sut roedd y gwasanaeth wedi gwella. Esboniodd fod cydberthynas i’w weld rhwng ceisiadau am gynwysyddion a chartrefi a oedd yn llenwi mwy na dau fag o wastraff. Roedd nifer y ceisiadau’n uwch nag y buont yn y gorffennol ond roeddent yn dechrau sefydlogi. Dywedodd y Rheolwr Rhanbarthol fod nifer y galwadau i’r ganolfan alwadau’n awr yn cyfateb i’r contract gwreiddiol ac roedd dros 7000 o ddigwyddiadau wedi’u cofnodi ar y wefan ers i’r system newydd fynd yn fyw.  Roedd y system hon yn cael ei hyrwyddo a dosbarthwyd taflen wybodaeth ym mis Mehefin gyda’r calendrau.

 

Esboniodd fod cynnydd o 15% yn nifer y ceisiadau am y gwasanaeth casglu nwyddau hylendid amsugnol. Roedd cynnydd yn nifer y ceisiadau am y gwasanaeth casglu gwastraff o’r ardd ac roedd y porthol ar-lein wedi denu dros 1800 o gwsmeriaid. Wrth ddadansoddi’r ystadegau ar gyfer y tair blynedd diwethaf, y ffigurau diweddaraf oedd y gorau hyd yma (ar wahân i un cyfnod ym mis Chwefror yn ystod tywydd garw).

 

Nododd y Pwyllgor fod y cyfraddau ailgylchu wedi codi ers cyflwyno’r gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu newydd ym mis Mehefin 2017 ac roedd yn ddiolchgar i bobl Pen-y-bont ar Ogwr am ddefnyddio’r cynllun ailgylchu newydd.

 

Cyfeiriodd un Aelod at y gwasanaeth casglu gwastraff o’r ardd a’r dryswch a ddeilliodd o’r ffaith bod dau galendr wedi’u cyhoeddi, yn dangos dyddiadau gwahanol. Esboniodd y Rheolwr Rhanbarthol y bu’n anodd amcangyfrif faint fyddai’n defnyddio’r gwasanaeth; roedd dros 650 o gwsmeriaid mewn un ardal a dim ond 7 mewn ardal gyfagos. O ganlyniad, roeddent wedi gorfod newid y dyddiau a chyhoeddi’r ail galendr. Byddai ganddynt syniad gwell o’r niferoedd erbyn dechrau’r flwyddyn nesaf a byddai’n haws cynllunio’n fwy effeithiol.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at y cwestiynau penodol a ofynnwyd yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2017 a’r ymatebion a gafwyd yn yr adroddiad. Cafwyd cwestiynau ychwanegol neu gofynnwyd am eglurhad ynghylch rhai pwyntiau.

 

Cwestiwn 2, Ailgylchu plastig du.

 

Gofynnodd yr Aelodau am y wybodaeth ddiweddaraf yn y cyswllt hwn. Esboniodd y Rheolwr Rhanbarthol fod y marchnadoedd ailgylchu ar gyfer plastigion yn crebachu felly roedd yn ddrud iawn i’w ailgylchu. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth fod cynhyrchwyr yn newid lliw cynwysyddion bwyd microdon ac, o ganlyniad, roedd llai o blastig du i’w ailgylchu. Dywedodd yr Arweinydd y dylid annog archfarchnadoedd a gweithgynhyrchwyr i ddefnyddio deunyddiau gwahanol.  Gofynnodd y Pwyllgor i’r Arweinydd gysylltu â’r holl archfarchnadoedd a’r gwneuthurwyr bwyd lleol i ofyn iddynt ddefnyddio plastigion y gellir eu hailgylchu yn lle plastig du. Yn ogystal â hyn, roedd yr Aelodau am i lythyr gael ei ddrafftio i ofyn i Lywodraeth Cymru orfodi’r arfer hwn.

 

Cwestiwn 3, Perfformiad y ganolfan alwadau.

 

Roedd un aelod yn pryderu am y modd roedd y ganolfan alwadau’n ymdrin â galwadau gan bobl â nam ar eu lleferydd a phroblemau cyfathrebu eraill. Dywedodd ei bod yn bwysig fod pawb yn gallu cysylltu â’r ganolfan alwadau a chael eu trin yn briodol. Gofynnodd yr Aelodau am wybodaeth am y math o systemau oedd gan Kier ar waith i ddelio â’r galwadau hyn.

 

Holodd un Aelod am y darpariaethau ar gyfer siaradwyr Cymraeg. Cadarnhaodd y Rheolwr Rhanbarthol fod canolfan alwadau ar wahân yn delio â galwadau yn y Gymraeg er mai anaml y byddai’n cael ei ddefnyddio ac, yn ystod y mis diwethaf, nid oedd neb wedi ffonio.

 

Cwestiwn 4, Cynlluniau i Kier helpu gyda gwasanaeth ailgylchu deunyddiau o swyddfeydd ac ysgolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Ers cyhoeddi’r adroddiad, roedd trafodaethau ag ysgolion yn mynd rhagddynt, meddai Scott Saunders, Rheolwr Busnes Kier, ynghylch casglu cerdyn a bwyd sy’n wastraff.

 

Cwestiwn 5, Recriwtio uwch reolwyr a staff gweithredol rheng flaen cysylltiedig â chontract Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Diolchodd y Pwyllgor i Kier am ddarparu adnoddau i gynorthwyo â’r ymgyrchoedd Glanhau Cymunedau a oedd wedi’u cynnal mewn ardaloedd lleol.  Esboniodd y Rheolwr Rhanbarthol fod yr holl swyddi uwch reoli wedi’u llenwi a bod y tîm yn cydweithio’n dda ac yn cael canlyniadau da. Roeddent yn dibynnu ar staff asiantaeth a bu’n rhaid aros 12 wythnos cyn recriwtio unigolion. Yn gyffredinol, roedd y diwydiant yn or-ddibynnol  ar staff asiantaeth ac roedd hyn yn broblem genedlaethol. Ychwanegol y Rheolwr Rhanbarthol eu bod yn ceisio recriwtio pobl leol ar gontractau amser llawn os oedd modd. Roedd y sefyllfa wedi gwella ers cyflogi rheolwr lleol. Dywedodd un Aelod fod staff dros dro a newidiadau yn y timau’n cynyddu’r siawns na chaiff rhai cynwysyddion eu gwagu.

 

Gofynnodd yr Aelodau pa ganran o staff oedd â chontractau dim oriau. Dywedodd y Rheolwr Rhanbarthol nad oedd neb ar gontract o’r fath hyd y gwyddai ef, ond cytunodd i gadarnhau hynny.

 

Mewn perthynas â’r datganiad am orddibyniaeth Kier ar staff asiantaeth a’r problemau roedd y diffyg cysondeb yn eu creu o ran effeithlonrwydd. Argymhellodd yr Aelodau y dylai Kier gyflogi staff parhaol cyn gynted ag roedd swyddi gwag yn codi. Argymhellwyd hefyd y dylai Kier ddefnyddio cytundebau tymor penodol os oedd modd ar gyfer staff asiantaeth a hynny er mwyn rhoi sicrwydd i’w gweithwyr yn y tymor byr.

 

Cwestiwn 6, Gosod byrnwyr polystyren a gwe-gamerâu mewn canolfannau ailgylchu cymunedol.

 

Gofynnodd yr Aelodau am y wybodaeth ddiweddaraf yn y cyswllt hwn. Dywedodd y Rheolwr Rhanbarthol fod gwe-gamerâu wedi’u gosod yn safleoedd Maesteg a Brynmenyn ond mae’r broses o roi’r cynllun ar waith wedi bod yn rhwystredig o araf. Roedd problemau ar safle Llandudwg gan nad oedd lein i’r safle y byddai’n ddrud gosod un, yn enwedig o ystyried bod cynlluniau i symud y safle yn y dyfodol. Dywedodd y Rheolwr Busnes ei fod yn ystyried gofyn i brosesydd lleol ailgylchu polystyren ac yn ystyried hefyd a oedd angen brynwr o gofio bod gostyngiad yn nhunelledd y gwastraff gweddilliol. Roedd yn ystyried y posibilrwydd o ailddefnyddio polystyren ar gyfer pecynnu. Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth ei bod yn ddefnyddiol i’r cyhoedd fedru gweld yr hyn sy’n digwydd ym mhob safle a chadarnhaodd y byddai’n cysylltu â’r gwasanaeth TGCh i drefnu bod dolen i bob safle ar y wefan.

 

O ran y ffigurau ailgylchu, gofynnodd yr Aelodau am ddadansoddiad o’r data i ddangos pa ganran o wastraff oedd yn deillio o’n canolfannau ailgylchu cymunedol a pha ganran oedd yn deillio o’r deunyddiau a gasglwyd o ymyl y ffordd.

 

Cwestiwn 7, Newid diwrnodau casglu gwastraff cymunedol a’r gwelliannau dilynol.

 

Tanlinellodd un Aelod fod y diwrnod casglu gwastraff ychwanegol yn Wildmill wedi’i drefnu er mwyn casglu deunyddiau i’w hailgylchu ac nid i gasglu gwastraff gweddilliol. Er bod problemau’n parhau yn yr ardal hon, roedd y sefyllfa’n gwella’n araf. Ychwanegodd y Rheolwr Gwastraff a Strydoedd Glanach bod y sefyllfa wedi gwella mewn rhai ardaloedd dros y naw mis diwethaf a bod y Swyddogion Addysg yn helpu i ymdrin â phroblemau a oedd yn parhau. Ychwanegodd fod swyddogion wedi bod yn cydweithio’n agos â’r Aelodau i fynd i’r afael â chasglu gwastraff cymunedol.

 

Diolchodd y Pwyllgor i Kier am drefnu’r diwrnod ailgylchu ychwanegol yn Wildmill ac am y gwaith ychwanegol a oedd yn mynd rhagddo ar safleoedd cymunedol. Dywedodd yr Aelodau fod pethau’n gwella ond bod gwastraff yn yr ardal hon yn dal yn broblem. Gofynnodd yr Aelodau am ystadegau mewn perthynas â chasglu gwastraff cymunedol  yn ardaloedd eraill y Cyngor er mwyn eu cymharu â’r ffigurau ar gyfer Wildmill.

 

Cwestiwn 8, Effaith y cerbydau newydd ar y gwasanaethau casglu gwastraff.

 

Gofynnodd un Aelod am ragor o wybodaeth am y datganiad nad oedd angen didoli deunyddiau ar ymyl y ffordd. Esboniodd y Rheolwr Rhanbarthol mai datganiad yn ymwneud ag effeithlonrwydd y gweithwyr oedd hwn, ac nid datganiad ar gyfer y preswylwyr. 

 

Roedd un Aelod yn pryderu am yrwyr a oedd yn gadael eu cerbydau i helpu i gasglu gwastraff gan ddweud bod hynny wedi achosi damweiniau. Esboniodd y Rheolwr Busnes fod system newydd o’r enw Ident wedi’i gosod ar bob cerbyd. Os oedd gyrrwr yn gadael y cerbyd, byddai popeth yn diffodd yn awtomatig, gan gynnwys y breciau. Diolchodd yr Aelod i Kier gan ddweud bod hynny’n gam ymlaen.

 

Trafododd yr Aelodau’r gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol a’r ffaith bod y galw amdano wedi cynyddu 15%. Ar hyn o bryd, roedd y nwyddau’n cael eu cludo i Rydaman gan mai dyma’r unig le a oedd yn ymdrin â nhw. Gofynnodd yr Aelodau a oedd y cab gyrru wedi’i seilio oddi wrth gefn y cerbyd lle’r oedd y nwyddau’n cael eu rhoi. Esboniodd y Rheolwr Rhanbarthol eu bod wrthi’n ystyried ffyrdd gwahanol o wneud hyn ac y byddai newidiadau’n cael eu cyflwyno cyn gynted â phosibl. Cadarnhaodd Rheolwr Gr?p Gwaith Stryd fod Llywodraeth Cymru yn ystyried y mater ac yn cydweithio â’r cynghorau cyfagos ar y diben hwn. Croesawyd y ffaith bod Llywodraeth Cymru a’r Cyngor yn chwilio am gyfleusterau trin gwastraff gwahanol drwy gydweithio â’r cynghorau lleol i waredu Nwyddau Hylendid Amsugnol..

 

Cwestiwn 9, Canlyniad adolygiad y Cyngor o weithgareddau gorfodi mewnol y Gwasanaethau Stryd.

 

Holwyd am y problemau parhaus yn ymwneud â’r bagiau du a glas sy’n cael eu gadael ar y strydoedd am hyd at wythnos weithiau. Mae’n ymddangos bod problem gyda landlordiaid a thenantiaid preifat ac nad ydynt yn dilyn y cyfarwyddyd. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth fod gwaith ar y gweill i baratoi dogfennau tendro er mwyn penodi partner gorfodi yn y cyswllt hwn erbyn i’r gwaith gorfodi ddechrau yn y gwanwyn 2019. Byddai hyn yn cynnwys materion fel baw ci. Y timau a’r swyddogion addysg fyddai’n parhau i fod yn gyfrifol am orfodi rheol y ddau fag a materion yn ymwneud â sbwriel. Esboniodd y Rheolwr Gwastraff a Strydoedd Glanach y byddai’n well ganddynt ddwyn perswâd ar bobl i gydymffurfio â’r rheolau yn hytrach na defnyddio dirwyon cosb benodedig.  

 

Oherwydd y problemau parhaus mewn rhai wardiau mewn perthynas â gwastraff a chydymffurfio â rheol y ddau fag, argymhellodd yr Aelodau y dylid gwneud bob ymdrech i addysgu pobl am y gwasanaethau casglu deunyddiau i’w hailgylchu a chasglu gwastraff gweddilliol. Argymhellodd yr Aelodau hefyd y dylid archwilio’r cynigion a ganlyn:  

       Paratoi pecyn croeso i denantiaid landlordiaid preifat a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig;

     Cysylltu â gwerthwyr tai lleol i gadarnhau eu bod yn rhoi gwybodaeth i’r rhai sy’n symud i’w hardaloedd am gael gwared ar eu gwastraff;

     Cynnwys manylion y gwasanaeth casglu gwastraff ym miliau’r Dreth Gyngor.

     Cydweithio â’r adrannau Budd-daliadau Tai, y Dreth Gyngor a’r Adran Gwaith a Phensiynau i ymchwilio i’r posibilrwydd o gynnwys manylion y gwasanaeth gwastraff yn eu gohebiaeth.

 

Cwestiwn 12, Ystyried cynnal adolygiad o’r bagiau Nwyddau Hylendid Amsugnol gan gynnwys yr effaith ariannol yn ogystal â’r effaith ar yr amgylchedd. 

 

Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth fod cost y gwasanaeth uchod yn cyfateb i 4.38% o gost y contract gwastraff a’r costau gwaredu’n gyffredinol a bod y nwyddau hyn yn cyfateb i oddeutu 2% o’r tunelledd ailgylchu. Byddai’n bosibl canslo’r gwasanaeth ac arbed arian ond ai dyna’r peth moesol gywir i’w wneud. Roedd ymgynghoriad ynghylch y gyllideb ar fin cael ei lansio ac roedd un cwestiwn yn ymwneud â rhoi’r gorau i’r gwasanaeth casglu nwyddau hylendid amsugnol er mwyn arbed arian, ond byddai hynny’n effeithio ar y ffigurau ailgylchu.  

 

Cwestiwn 13, Esbonio’r rheolau ynghylch pa gerbydau sy’n cael mynd i ganolfannau ailgylchu cymunedol a sut y penderfynir bod cerbyd yn gerbyd masnachol.

 

Cyfeiriodd un Aelod at y dryswch ynghylch disgrifio cerbydau a dehongli’r polisi. Esboniodd y Rheolwr Gwastraff a Strydoedd Glanach na chaniateir faniau a lorïau ar y safleoedd ac y byddai’r ganolfan alwadau’n gallu esbonio ymhellach. 

 

Roedd yr Aelodau’n deall bod y polisïau a’r protocolau ar waith i sicrhau nad yw gwastraff masnachol yn cael ei waredu yn y safleoedd ond argymhellodd y Pwyllgor fod angen egluro a chyflwyno’r trefniadau’n gliriach er mwyn i’r cyhoedd a’r staff yn y canolfannau fod yn ymwybodol ohonynt.

 

Cwestiwn 14, Cosb am fethu â chydymffurfio.

 

Esboniodd un Aelod ei fod yn sylweddoli bod angen sicrhau cyfrinachedd ond roedd yn bwysig adfer hyder. Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau’n deall y pryderon ond roedd yr adran gyfreithiol wedi dweud wrtho na ddylai ddatgelu’r wybodaeth. Esboniodd fod problemau wedi codi ar ddechrau’r contract a arweiniodd at gosb ariannol sylweddol i adlewyrchu perfformiad annigonol ond cafodd y gosb ei lleihau maes o law. 

 

Cyfeiriwyd at yr ystadegau misol am alwadau ar gyfer mis Gorffennaf 2018 a gofynnwyd a fyddai modd dangos y wybodaeth fel canran yn y dyfodol fel bod y tabl yn haws ei ddeall. Dywedodd y Rheolwr Rhanbarthol y byddai’n cyflwyno’r data ar y ffurf hon yn y dyfodol.       

 

Awgrymodd yr Aelodau y dylid hidlo’r achosion a gaiff eu cyfeirio gan yr Aelodau yn ôl pwnc er mwyn dosbarthu’r pryderon yn ôl y Gyfarwyddiaeth dan sylw. Argymhellodd y Pwyllgor y dylid archwilio’r posibilrwydd o ychwanegu cwymplen neu system codio.

 

Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Gwastraff barhau i gael ei gynnwys yn y Flaenraglen Waith a’i gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 3 ymhen rhyw chwe mis. 

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r preswylwyr, yr Aelodau, y swyddogion a Kier am weithio’n amyneddgar gyda’i gilydd i ddatrys unrhyw broblemau. Roedd y sefyllfa wedi gwella’n arw a byddai’r duedd hon, gobeithio, yn parhau.

 

Diolchodd y Pwyllgor Craffu i aelodau’r Cabinet ac i Kier am ddod i’r cyfarfod.

 

 Sylwadau cyffredinol

           Nododd y Pwyllgor fod cyfraddau ailgylchu wedi codi ers cyflwyno’r gwasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu newydd ym mis Mehefin 2017. Roeddent am ddiolch i bobl Pen-y-bont ar Ogwr am gymryd rhan yn y cynllun ailgylchu newydd.

 

           Roedd y Pwyllgor yn ddiolchgar i Kier am ddarparu adnoddau i gynorthwyo â’r ymgyrchoedd Glanhau Cymunedau a gynhaliwyd mewn rhai ardaloedd lleol.

 

           Hoffai’r Pwyllgor ddiolch i Kier am drefnu diwrnod ailgylchu ychwanegol yn Wildmill ac am y gwaith ychwanegol yn y safleoedd cymunedol. Dywedodd yr Aelodau bod y sefyllfa’n gwella ond roedd gwastraff yn yr ardal hon yn dal yn broblem ac roeddent yn hyderus y byddai gwaith y swyddogion addysg yn arwain at newidiadau pellach.

 

           Roedd y Pwyllgor yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru a’r Cyngor yn chwilio am gyfleusterau trin gwastraff lleol drwy gydweithio â chynghorau cyfagos er mwyn gwaredu Nwyddau Hylendid Amsugnol.

 

           O ran Atodiad B – Ystadegau misol am alwadau ar gyfer mis Gorffennaf 2018, er hwylustod, gofynnodd yr Aelodau i’r wybodaeth hon gael ei chyflwyno fel canran y galwadau a gafwyd.

 

Argymhellion

1          Gofynnodd y Pwyllgor i’r Arweinydd gysylltu â’r holl archfarchnadoedd a’r gwneuthurwyr bwyd lleol i’w hannog i roi’r gorau i ddefnyddio plastig du a defnyddio plastigion y gellid eu hailgylchu yn eu lle.  Yn ogystal â hyn, argymhellodd yr Aelodau y dylid drafftio llythyr i Lywodraeth Cymru i’w hannog i orfodi’r arfer hwn.

 

2          O ran y datganiad yn ymwneud â’r ffaith bod Kier yn or-ddibynnol ar staff amlasiantaeth, a’r problemau cysylltiedig ynghylch gwastraff nad oedd yn cael ei gasglu oherwydd diffyg cysondeb, argymhellodd yr Aelodau fod Kier yn cyflogi staff staff parhaol cyn gynted ag y bo swyddi gwag yn codi. Argymhellodd y Pwyllgor hefyd fod Kier yn ceisio rhoi cytundebau tymor penodol i staff asiantaeth os oes modd er mwyn rhoi sicrwydd i’r gweithwyr hyn yn y tymor byr.

 

3          Oherwydd y problemau parhaus gyda gwastraff a chadw at reol y ddau fag mewn rhai wardiau, argymhellodd yr Aelodau y dylai swyddogion wneud ymdrech bendant i addysgu pobl y fwrdeistref sirol ynghylch y gwasanaethau ailgylchu a chasglu gwastraff gweddilliol. Argymhellodd yr Aelodau y dylid archwilio’r cynigion a ganlyn: 

           Paratoi pecyn croeso i denantiaid newydd landlordiaid preifat a landlordiaid cymdeithas cofrestredig;

           Cysylltu â gwerthwyr tai lleol i gadarnhau eu bod yn rhoi gwybod i’r rhai a oedd yn symud i’r ardal am y modd y mae’n rhaid iddynt waredu eu gwastraff;

           Cynnwys manylion y gwasanaeth casglu gwastraff ar filiau’r dreth gyngor 

           Cydweithio â’r adrannau Budd-daliadau Tai, y Dreth Gyngor a’r Adran Gwaith a Phensiynau i ymchwilio i’r posibilrwydd o gynnwys manylion y gwasanaeth gwastraff yn eu gohebiaeth.

Roedd yr Aelodau hefyd yn pryderu am hyd contractau’r swyddogion addysg presennol, gan ei bod yn amlwg fod eu gwaith yn allweddol mewn rhai ardaloedd.

 

4          Er mwyn helpu i hidlo’r achosion a gaiff eu cyfeirio gan Aelodau yn ôl pwnc a chasglu gwybodaeth am y pryderon sy’n berthnasol i bob Cyfarwyddiaeth, mae’r Pwyllgor yn argymell y posibilrwydd o ychwanegu cwymplen neu system codio.  

 

5          O ran categoreiddio cerbydau ac esbonio pa fath o gerbydau sy’n cael mynd â deunyddiau i ganolfannau ailgylchu cymunedol, roedd yr Aelodau’n deall bod y polisïau a’r protocolau ar waith i sicrhau na chaiff gwastraff masnachol eu gwaredu yn y safleoedd hyn. Argymhellodd y Pwyllgor fod angen egluro a chyflwyno’r trefniadau’n gliriach er mwyn i’r cyhoedd a’r staff yn y canolfannau fod yn ymwybodol ohonynt.

 

 

6          Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Gwastraff barhau i gael ei gynnwys yn y Flaenraglen Waith ac, er cysondeb, dylid ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 3 ymhen tua chwe mis. 

 

Gwybodaeth ychwanegol

 

           Mae’r Aelodau wedi gofyn am wybodaeth am y systemau sydd gan Kier ar waith i ymdrin â galwadau gan bobl sydd â nam ar eu lleferydd a phroblemau cyfathrebu eraill, i sicrhau y gallant ffonio’r ganolfan alwadau a chael eu trin yn briodol.

 

           Gofynnodd yr Aelodau a oedd gan Kier ddigon o staff ar gontract i lenwi’r holl waddi ar safle Tondu?

 

           Roedd yr Aelodau am wybod faint o staff sy’n cael eu cyflogi ar gontract dim oriau.

 

           Yn achos ffigurau’r gyfradd ailgylchu, gofynnodd yr Aelodau am ddadansoddiad o’r data i weld pa ganran oedd yn deillio o ddeunyddiau a gasglwyd yn ein canolfannau ailgylchu cymunedol a pha ganran oedd yn deillio o’r deunyddiau a gasglwyd ar ymyl y ffordd.

 

           Byddai’r Aelodau’n hoffi cael ystadegau mewn perthynas â chasglu gwastraff cymunedol yng ngweddill y Cyngor Bwrdeistref Sirol er mwyn medru eu cymharu â’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu ar hyn o bryd yn Wildmill.

 

           Gan fod y Cyngor o’r farn bod Nwyddau Hylendid Amsugnol yn fater cyllidebol, gofynnodd y Pwyllgor a oedd cynnig i losgi Nwyddau Hylendid Amsugnol i gynhyrchu ynni wedi’i archwilio, a hynny er mwyn creu incwm yn hytrach na gorfod talu i’w waredu.

 

Dogfennau ategol: