Agenda item

Cais Cynllunio sy'n Gwyro P/18/520/FUL

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad, oedd yn cadarnhau bod y Pwyllgor Rheoli Datblygu, ar 30 Awst 2018, wedi ystyried cais cynllunio P/18/520/FUL fel cais sy'n gwyro oddi wrth y Cynllun Datblygu Lleol. Penderfynodd y Pwyllgor Rheoli Datblygu i beidio gwrthod caniatâd cynllunio, fel bod y cais yn cael ei gyfeirio at y Cyngor a gofynnid i'r Cyngor gymeradwyo'r cais gyda rhai amodau.

 

Roedd copi o adroddiad y Pwyllgor Rheoli Datblygu ar y mater hwn wedi ei atodi yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Dywedodd Rheolwr y Gr?p Datblygu fod yr Aelodau yn gyfarwydd â'i weld yn bresennol yn y Pwyllgor Rheoli Datblygu i roi diweddariadau ar y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a materion cynllunio datblygu eraill, pan oedd wedi pwysleisio cydymffurfio a sicrhau eu bod yn cadw at y CDLl. Ambell waith, fodd bynnag, roedd angen i'r Cyngor ystyried adroddiadau yn ymwneud â datblygiad nad oedd yn cydymffurfio â'r CDLl, lle roedd y Pwyllgor uchod wedi penderfynu cymeradwyo, gan na allai'r Pwyllgor wneud penderfyniad terfynol ar rai ceisiadau (oedd yn gwyro oddi wrth y Cynllun Datblygu Lleol).

 

Roedd y cais uchod yn ymwneud ag estyniad i safle presennol ffatri Rockwool yng Nghwm Tarw, Pen-y-bont ar Ogwr, cyflogwr mawr yn y Fwrdeistref Sirol. Byddai'r estyniad yn golygu datblygu tir oedd ar hyn o bryd y tu allan i'r tir a ddyrannwyd ar gyfer y ffatri ac allan i'r wlad. Fel y cyfryw nid oedd y cynnig yn cydymffurfio â’r CDLl.

 

Byddai'r rhan estynedig yn darparu lle storio allanol mwy o faint a mwy hygyrch ar gyfer cynnyrch gorffenedig Rockwool, yn union i'r de o'u ffatri bresennol, gyda mynediad drwy fynedfa newydd oddi ar Heol Gwern Tarw.

Mae buddsoddiad gwerth miliynau o bunnau wedi cael ei sicrhau gan Bencadlys Byd-eang Rockwool yn Nenmarc i ymgymryd â'r estyniad hwn er mwyn gwella effeithlonrwydd y safle o ran danfoniadau, dadlwytho a llwytho ac i ateb y galw cynyddol am y cynnyrch.

 

Mae rhan y datblygiad newydd yn ymwneud â llain o goncrit caled (yn cynnwys mynedfa asffalt a heol mynediad/man parcio/rhan lwytho i Gerbydau Nwyddau Trymion) o oddeutu 20 acer o dir amaethyddol cymharol isel ei werth i'r de o'r cyfleuster presennol. Bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys belt cyfleu amgaeedig wedi ei insiwleiddio i mewn i safle'r brif ffatri, cyfleuster lles y gyrwyr, garej tryc codi a chwt diogelwch. Bydd y cyfleuster storio newydd yn galluogi'r cwmni i ryddhau peth lle wrth fynedfa bresennol y safle, gyferbyn â Ffordd Fferm y Wern; gwneud y defnydd gorau o'r ffatri i gynhyrchu, storio a danfon eu cynnyrch a chyflogi 65 yn ychwanegol o weithwyr llawn amser parhaol (ar ben y 404 o weithwyr presennol) ar y safle. Cafodd y cynhyrchiant yn y gwaith ei arafu yn dilyn y dirywiad economaidd ac nid yw'r cynnig hwn yn cynnwys cynyddu cyfleusterau cynhyrchu, ond yn hytrach gwella effeithlonrwydd y gweithrediad presennol.

 

Bu’r cynnig yn destun trafodaeth helaeth cyn i'r cais gael ei wneud ynghyd ag  ymgynghoriad cymunedol. Gyda'r cais hefyd cafwyd adroddiadau manwl yn cynnwys asesiad traffig, asesiadau ecolegol (yn cynnwys ystlumod, llygod daear, madfall ??r, ymlusgiaid ac adar yn nythu), astudiaeth oleuni, Datganiad Cynllun a Mynediad, Asesiad Effaith Weledol, Adroddiad Asesu S?n, Cam 1-2 Archwiliad Diogelwch Ffyrdd, adroddiad archwilio'r ddaear, asesiad risg llifogydd a chynllun rheoli adeiladu.

 

Mae'r cynnig wedi ei asesu'n drwyadl gan gynnwys y mewnbwn gan ymgyngoreion statudol ac arbenigwyr mewnol y Cyngor ei hun. Nid ystyrid bod y datblygiad yn codi unrhyw broblemau mawr o ran mwynder, dyluniad na diogelwch.

 

Mae nifer o bryderon wedi cael eu codi gan drigolion, y Cyngor Tref a'r aelod lleol. Tynnir sylw at y pryderon hyn ac eir i'r afael â hwy yn yr adroddiad cynllunio a chawsant eu trafod yn helaeth yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu.

 

Cadarnhaodd Rheolwr y Gr?p Datblygu, ar ôl ystyried yr uchod a phwyso a mesur yr holl ystyriaethau o bwys perthnasol i'r cynllun hwn, yn nhermau cynllunio yr ystyrir y datblygiad yn dderbyniol yn y lleoliad penodol hwn oherwydd y cyfiawnhad dros ehangu'r safle cyflogaeth sefydledig hwn o fewn y Fwrdeistref Sirol a chan ystyried unrhyw effeithiau posibl ar y trigolion o amgylch o ran s?n, ansawdd aer a golau; unrhyw effaith ar gymeriad ac ymddangosiad y safle a'r wlad o amgylch; ei effaith bosibl ar fioamrywiaeth yn y safle ac o’i amgylch; a'i effaith bosibl ar y rhwydwaith priffyrdd a draeniad yn ac o gwmpas y safle.

 

Felly, roedd dadl resymegol dros ymestyn safle'r ffatri i'r tir oedd yn y wlad.

 

Mae cyfraith gynllunio yn datgan bod rhaid penderfynu ar geisiadau cynllunio yn unol â'r CDLl, oni fydd amgylchiadau o bwys yn dweud fel arall. Yn yr achos hwn teimlai ef fod ehangu'r cyfleuster diwydiannol sefydledig hwn a'r buddion economaidd cysylltiedig o ran rhagor o waith, yn bwysicach na'r polisïau amddiffyn y tir yn gyffredinol ac y byddai'n rhoi rhyw raddau o gadernid i'r gwaith.

 

Gorffennodd Rheolwr y Gr?p Datblygu drwy ddweud y gallai'r Awdurdod Cynllunio Lleol roi caniatâd ar gyfer datblygiad nad oedd yn cyd-fynd â darpariaethau'r CDLl oedd mewn grym yn yr ardal, pe byddai'r Cyngor yn ei gadarnhau. Nid oedd y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn teimlo y dylent wrthod caniatâd cynllunio. 

 

Cododd yr Aelod dros yr ardal dan sylw rai pryderon ynghylch y seilwaith priffyrdd presennol yn ardal Heol-Y-Cyw/Gwern Tarw a'r effaith niweidiol y gallai estyniad y datblygiad ei chael ar hyn, oherwydd cynnydd yn nifer y cerbydau trymion i ac o safle'r cais. Er ei fod yn cefnogi'r cyfleoedd cyflogaeth ychwanegol a ddeuai gyda'r datblygiad, teimlai na ddylai'r cais gael ei gymeradwyo, heb i Amod gael ei hychwanegu i'r caniatâd a fyddai'n arwain at wneud gwelliannau yn y rhwydwaith priffyrdd yn y lleoliad uchod. Felly cynigiodd welliant i'r argymhelliad i'r perwyl hwn, a gafodd ei eilio.

 

Gofynnodd Aelod arall oedd o blaid y cynnig, a ellid cymryd pleidlais gofnodedig ar y gwelliant.

 

Cymerwyd pleidlais electronig felly p'un a ddylid cael pleidlais gofnodedig, ac roedd canlyniad hyn fel a ganlyn

 

Dros                                 Yn erbyn                            Atal Pleidleisiau

 

36                                     0                                          0

 

Dywedodd Rheolwr y Gr?p Datblygu nad oedd y cynnig a wnaed felly gan yr Aelod yn ddiwygiad i'r argymhelliad, gan nad oedd yr hyn a gynigid yn ffurfio rhan o argymhelliad yr adroddiad. Esboniodd hefyd na fyddai cynnydd yn nifer y cerbydau i/o safle Rockwool o ganlyniad i'r cais. Ychwanegodd hefyd fod cyflwr y briffordd yn bod cyn i'r cais gael ei gyflwyno ac felly nad oedd yn gyfrifoldeb ar y datblygwr i fynd i'r afael o reidrwydd ag unrhyw broblemau oedd yn bod eisoes gyda'r rhwydwaith priffyrdd.

 

Gyda chyngor y Swyddog Monitro, cytunwyd felly y dylai'r bleidlais fod yn 'ie' i'r rheiny oedd o blaid yr argymhelliad, a 'na' i'r rheiny oedd yn dymuno iddo gael ei wrthod.

 

Canlyniad y bleidlais a gofnodwyd oedd:-

 

Dros (cymeradwyo'r adroddiad)            Yn erbyn                      Atal Pleidleisiau

 

28                                                               14                              1

 

PENDERFYNWYD:         Cymeradwyodd y Cyngor yr adroddiad (a'r datblygiad), a bod Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau yn cael yr awdurdod dirprwyedig i gyhoeddi hysbysiad o benderfyniad ynghylch y cynnig, gyda'r Amodau oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: