Agenda item

Adroddiad Alldro Rheoli'r Trysorlys Blynyddol 2017-18

Cofnodion:

Fe wnaeth Pennaeth Cyllid Dros dro a Swyddog S151 gyflwyno adroddiad, a phwrpas hwn oedd cydymffurfio â gofyniad Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) 'Rheoli'r Trysorlys yn y Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer:' i adrodd am drosolwg ar weithgareddau'r trysorlys dros y flwyddyn ariannol flaenorol ac adrodd am union Reolaeth y Trysorlys a Dangosyddion Darbodus am 2017-18.

 

Mae'r adroddiad yn seiliedig ar Strategaeth Rheoli'r Trysorlys (TMS) am 2017-18 a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 1 Mawrth 2017.

 

Cyhoeddodd CIPFA argraffiadau newydd o ‘Reoli'r Trysorlys yn y Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer’ a'r ‘Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol’ ddiwedd Rhagfyr 2017. Fodd bynnag, cynhyrchwyd y TMS 2017-18 a'r adroddiad hwn gan ddefnyddio Codau 2011. Hefyd ym mis Mawrth 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiwygiad i ‘Reoliadau Awdurdodau Lleol (Arian Cyfalaf a Chyfrifyddiaeth) (Cymru)’, sy'n galluogi'r Cyngor i fuddsoddi mewn rhai offerynnau o 2017-18, oedd gynt yn cael eu trin fel gwariant cyfalaf, heb y gost refeniw bosibl o Ddarpariaeth Isafswm Refeniw (MRP) a heb i'r elw o werthiant gael ei ystyried fel derbyn cyfalaf.

 

Ychwanegodd mai'r cynghorwyr rheoli trysorlys i'r Cyngor yw Arlingclose. Mae eu contract yn rhedeg o 1 Medi 2016 am bedair blynedd yn dilyn proses dendro a chaiff y contract ei adnewyddu'n flynyddol a chaiff y naill barti neu'r llall derfynu'r cytundeb hwn drwy rhoi rhybudd o dri mis ymlaen llaw.

 

Cafodd swyddogaeth rheoli'r trysorlys ei adolygu gan Archwilwyr Allanol y Cyngor, sef Swyddfa Archwilio Cymru, yn ystod archwiliad blynyddol 2017-18 ac ni wnaed dim newidiadau i Reolaeth y Trysorlys. Yn ychwanegol at waith yr Archwilwyr Allanol, cynhaliodd yr Archwilwyr Mewnol archwiliad o swyddogaeth rheolaeth y trysorlys yn ystod 2017-18 a nododd yr archwilwyr, 'yn seiliedig ar asesiad o gryfderau a gwendid y meysydd a archwiliwyd, a thrwy gynnal profion, daethpwyd i'r casgliad yr ystyrir effeithiolrwydd yr amgylchedd rheoli mewnol yn gadarn ac felly gellir rhoi sicrwydd sylweddol ynghylch rheoli risgiau'.

 

Ar ddechrau'r flwyddyn ariannol roedd y Gyfradd Banc yn 0.25% a chynyddodd Pwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr (MPC) hyn o 0.25% i 0.50% ym mis Tachwedd 2017. Roedd yn arwyddocaol am mai dyma'r cynnydd cyntaf yn y gyfradd sylfaenol mewn deng mlynedd, er bod yr MPC, mewn gwirionedd wedi dadwneud y toriad a wnaeth ym mis Awst 2016 yn dilyn canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd. Parhaodd y Gyfradd Banc ar 0.50% am weddill 2017-18.

 

Dangoswyd sefyllfa dyled a buddsoddiad allanol y Cyngor o 1 Ebrill 2017 i 31 Mawrth 2018 yn adran 4.1 a thabl 1 yr adroddiad. Rhoddwyd mwy o fanylion yn Adran 4.4 a 4.5. Y pwyntiau allweddol i'w nodi oedd:

 

·         Cyfanswm y ddyled allanol gros oedd yn dal yn ddyledus ar 31 Mawrth 2018 oedd £117.89 miliwn.

·         Mae'r £96.87 miliwn o fenthyciad tymor hir ar 31 Mawrth 2018 yn cynnwys:

 

a)        £77.62 miliwn yn ymwneud â Bwrdd Benthyca Gwaith Cyhoeddus ar gyfraddau sefydlog (llog cyfartalog o 4.70%)

b)        £19.25 miliwn gyda dyddiad dod i ben o 2054, yn ymwneud â benthyciadau Dewis Echwynnwr, Dewis Benthyciwr (LOBO), a all gael eu hailamseru cyn y dyddiad ad-dalu. Siaradodd y Cyngor ag echwynnwr LOBO ynghylch dewisiadau ad-dalu posibl yn 2017-18.

c)       Fodd bynnag, teimlid bod y premiwm yn ormodol i'w weithredu ond y byddai'r Cyngor yn cymryd y dewis o ad-dalu'r benthyciadau hyn am ddim cost, os caiff y cyfle i wneud hynny yn y dyfodol. Y gyfradd llog gyfartalog gyfredol ar y LOBO's hyn yw 4.65% o gymharu â chyfradd llog gyfartalog PWLB o 4.70%.

 

·                             Ni chymerwyd benthyciad tymor hir newydd yn ystod 2017-18 ac nid ailamserwyd dyled gan nad oedd arbedion o bwys i'w gwneud. Fodd bynnag, i ddibenion llif arian cymerwyd 2 fenthyciad tymor byr yn rhoi cyfanswm o £4 miliwn a chafodd y rhain eu had-dalu'n llawn o fewn llai na mis o'r dyddiad y cymerwyd hwy allan gyda dim balans yn ddyledus ar 31 Mawrth 2018.

 

·                             Mae'r ffigur o £21.02 miliwn o rwymedigaethau hirdymor eraill ar 31 Mawrth 2018 yn cynnwys £17.64 miliwn ar gyfer trefniant Menter Cyllid Cyhoeddus (PFI) y Cyngor ar gyfer darparu Ysgol Uwchradd ym Maesteg gyda thymor o 16 mlynedd ar ôl. Wedi ei gynnwys yn y ffigur hwn mae'r rhwymedigaeth fyrdymor o £0.64 miliwn sydd wedi ei chynnwys fel rhwymedigaethau ariannol cyfredol ym mantolen y Cyngor yn y SOA. Mae £2.40 miliwn hefyd wedi ei gynnwys yn ymwneud â benthyciad gan Gronfa Cadw Cyfalaf Ganolog Llywodraeth Cymru ar gyfer gwaith adfywio yng Nghwm Llynfi.

 

1.    Darparodd llifau arian ffafriol gronfeydd dros ben, fel bod y balans ar fuddsoddiadau ar 31 Mawrth 2018 yn £30.40 miliwn (cyfradd llog gyfartalog o 0.62%) yn gostwng o £33.75 miliwn ar ddechrau'r flwyddyn ariannol ond cynyddodd y gyfradd gyfartalog o 0.55%. Y gyfradd gyfartalog ar gyfer 2017-18 oedd 0.49% (yr un gyfradd â 2016-17). Mae dadansoddiad o'r symudiad hwn a'r llog a dderbyniwyd wedi ei ddangos yn nhabl 2 yn adran 4.5.5 drwy deip gwrthbarti a rhydd tabl 3 fanylion y £30.40 miliwn yn ôl cyfradd credyd, proffil ad-dalu a theip gwrthbarti.

2.    Mae'r Cyngor yn diffinio ansawdd credyd uchel fel sefydliadau a gwarantau sydd â chyfradd credyd o A- neu uwch. Mae'r siart pei yn adran 4.5.8 yn crynhoi'r buddsoddiadau gwerth £30.40 miliwn yn ôl cyfraddau credyd ac yn dangos hyn fel y ganran sydd ar ôl. Nid oes gan y rhan fwyaf o Awdurdodau Lleol gyfraddau credyd a chafodd gweddill ein buddsoddiadau gyfradd credyd o A neu uwch.

3.    Gwneir penderfyniadau buddsoddi drwy gyfeirio at y gyfradd credyd hirdymor isaf a gyhoeddwyd gan Fitch, Moody’s neu Standard & Poor er mwyn sicrhau bod hyn yn aros o fewn terfyn cyfradd gredyd isaf gytunedig y Cyngor yn y Strategaeth Fuddsoddi yn y TMS. Dengys Atodiad B y tabl cywerthedd ar gyfer y cyfraddau credyd cyhoeddedig hyn ac mae'n esbonio'r graddau buddsoddi gwahanol.

 

·         Dangosir Dangosyddion Perfformiad i ddibenion cymharu ar gyfer y cyfraddau hyn yn adran 4.6. Roedd cyfraddau elw cyfartalog y Cyngor yn 2017-18 ar fuddsoddiadau ar ddiwedd pob chwarter yn fwy ffafriol o'u cymharu â chyfartaledd Awdurdodau Lleol Cymru oedd yn gleientiaid i Arlingclose fel y dangosir yn 4.6.4 e.e. ar 31-03-18, roedd BCBC yn 0.62% o  gymharu â 0.47%.

 

Mae'r Cyngor yn amrywio i ddosbarthiadau o asedau mwy diogel a/neu log uwch a defnyddir unrhyw offerynnau newydd drwy ymgynghoriad llawn ag Arlingclose. Er mwyn medru defnyddio'r rhan fwyaf o'r mathau gwahanol hyn o offerynnau mae gofyn i'r Cyngor ddefnyddio cyfrif(on) un a enwebwyd gyda thrydydd parti ar gyfer cadw buddsoddiadau o'r fath yn ddiogel (cyfrif gwarchod) gan na allwn ddelio'n uniongyrchol. Ar 5 Medi 2017, cymeradwyodd y Cabinet agor cyfrif gwarchod gyda King & Shaxson. Fe wnaeth hefyd ddirprwyo awdurdod i Swyddog Adran 151, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Monitro, i agor cyfrifon gwarchod ychwanegol i gefnogi cyflawni cyfrifoldebau rheoli'r trysorlys pe bai angen. Defnyddiwyd y cyfrif gwarchod ym mis Hydref 2017 i fuddsoddi mewn bil Trysorlys Ei Mawrhydi o £1 miliwn a ddaeth i ben ym mis Ionawr 2018.

 

Agorodd y Cyngor Gronfa Marchnad Arian yn Awst 2017 gyda'r Eglwysi, yr Elusennau, a Chronfa Gadw Sector Cyhoeddus Awdurdodau Lleol (CCLA)  sy'n crynhoi arian cadw'r sector cyhoeddus yn gwbl gydnaws ag egwyddorion a gwerthoedd y sector cyhoeddus. Mae wedi ei sefydlu yn y DU, yn cael ei rheoli gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol gyda bwrdd ymgynghorol yn cynrychioli cyfranwyr y sector cyhoeddus, sy'n sicrhau trefniadau llywodraethu cadarn ar y Gronfa. Mae hwn yn offeryn ariannol cymeradwy yn TMS 2017-18 ac mae'n rhoi mynediad at gyllid yn syth. Nid oedd balans yn weddill ar 31 Mawrth 2018.

 

Yn 2017-18, gweithredodd y Cyngor o fewn cyfyngiadau'r trysorlys a Rheolaeth y Trysorlys a Dangosyddion Darbodus fel yr esboniwyd yn y TMS 2017-18 y cytunwyd arni ac roedd yn cydymffurfio hefyd â'i Arferion Rheoli'r Trysorlys. Dangosir manylion Rheolaeth y Trysorlys a Dangosyddion Darbodus yn 4.9 ac Atodiad A i'r adroddiad. 

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i Swyddogion Ariannol y Cyngor am reoli adnoddau'r Cyngor yn ddarbodus a chael elw da iawn o'r buddsoddiadau.

 

PENDERFYNWYD:      bod y Cyngor:

 

(1)  yn cymeradwyo gweithgareddau rheoli'r trysorlys am 2017-18.

Yn cymeradwyo Rheolaeth wirioneddol y Trysorlys a Dangosyddion Darbodus 2017-18

Dogfennau ategol: