Agenda item

Adolygiad o Bolisi Darpariaeth Isafswm Refeniw (MRP) 2018-19.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog S151 adroddiad, a diben hwn oedd cyflwyno i'r Cyngor ddulliau gwahanol o gyfrifo tâl refeniw blynyddol darbodus i ad-dalu costau ariannu cyfalaf, a adwaenir fel y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw, yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru).

 

Dywedodd nad yw'r ddeddfwriaeth yn diffinio'r hyn a olygir wrth 'ddarpariaeth ddarbodus'. Mae Canllawiau Llywodraeth Cymru'n amlinellu amrywiol ddulliau derbyniol gyda'r nod o sicrhau bod dyled yn cael ei thalu'n ôl dros gyfnod sy'n rhesymol gymesur â'r cyfnod y mae'r gwariant cyfalaf yn rhoi budd, neu'r cyfnod sy'n ddealledig ym mhenderfyniad y Grant Cynnal Refeniw.

 

Mae'n ofynnol i Awdurdodau gynhyrchu Datganiad Blynyddol ar eu Polisi ar gyfer codi'r Ddarpariaeth Isafswm Refeniw, a adwaenir fel MRP, a rhaid i hyn gael ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn. Oherwydd hynny, mae angen cymeradwyaeth y Cyngor llawn hefyd i unrhyw newidiadau yn y Polisi. 

 

Roedd Atodiad A yr adroddiad yn cynnwys Polisi MRP Blynyddol 2018-19 wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor. Y tâl MRP presennol 2018-19 am fenthyciad a gynhelir, yn seiliedig ar falans gostyngol o 4%, yw £4.884 miliwn yn erbyn cyllideb o £4.981 miliwn. Mae hyn o fewn Ariannu Cyfalaf yn y Gyllideb Refeniw Di-Gyfarwyddiaeth.

 

Mae dull y Balans Gostyngol yn dyrannu taliadau uwch i'r blynyddoedd cynharaf a thaliadau llai yn y blynyddoedd diwethaf. Mae'r tâl o 4% yn awgrymu y bydd y ddyled wedi ei thalu mewn pum mlynedd ar hugain. Fodd bynnag, mae'r balans gostyngol yn golygu na fydd y ddyled wedi ei thalu'n llwyr mewn gwirionedd tan yn llawer diweddarach na hyn.

 

Er enghraifft, ymhen 45 mlynedd, sy'n cyfateb i hyd oes cyfartalog asedau'r Cyngor, byddai'r fethodoleg bresennol yn dal i adael dyled o £18.673 miliwn ar ôl gyda thâl blynyddol o £778,000 o'r cyfrif refeniw. Nid yw hyn i'w weld yn cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac nid yw'n benthyg ei hun i ddarpariaeth ddarbodus. Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn un o nifer fechan iawn o Awdurdodau sy'n dal i ddefnyddio'r dull hwn.

 

Roedd hefyd yn werth nodi bod y Cyngor, yn ogystal â'r ddarpariaeth refeniw ar gyfer benthyciad a gynhelir, yn gwneud darpariaeth refeniw wirfoddol ychwanegol. Ar 31 Mawrth 2018, ffigur cronnus hyn yw £14.743 miliwn, wedi ei adeiladu ers 2004-05 ac yn 2018-19 y gost i refeniw hyd yma eleni yw £1.380 miliwn sydd i gyd yn mynd i ostwng y gofyniad ariannu’r cyfalaf sy'n weddill.

 

Roedd Atodiad B yr adroddiad yn rhoi rhai dewisiadau ar gyfer newid yr MRP i ddull Balans Gostyngol o 3% ac wedyn ar sail llinell syth dros 40 mlynedd, 45 mlynedd a 50 mlynedd. Mae'n dangos mai methodoleg fwy darbodus fyddai sail llinell syth, y gellid ei gysylltu ag oes asedau fel ar fethodoleg balans gostyngol, mae'r gost refeniw  yn dal i barhau hyd yn oed ar flwyddyn 200. Byddai sail llinell syth yn arwain at:-

 

  • Yr holl ddefnyddwyr yn elwa'n gyfartal o ddefnydd yr asedau dros eu hoes;
  • Darparu sicrwydd y gost refeniw flynyddol;
  • Sicrhau bod y ddyled yn cael ei thalu'n llawn dros oes yr ased.

           

Felly, nid ymgais i nodi arbedion tymor byr yw newid y fethodoleg ond ffordd o amddiffyn defnyddwyr presennol yr asedau a’u defnyddwyr yn y dyfodol drwy wneud y gost refeniw yn fwy darbodus.

 

Mae oes asedau ar gofrestr asedau'r Cyngor wedi cael eu harchwilio ac oes gyfartalog ased yw 45 mlynedd. Byddai'n ymddangos yn ddoeth i symud i sail llinell syth a thalu am y ddyled dros 45 mlynedd. Canlyniad hyn fyddai cost newydd am y flwyddyn o £2.713 miliwn, £2.171 miliwn yn llai na'r gost wreiddiol o £4.884 miliwn.

 

Gofynnai'r adroddiad am gymeradwyaeth i'r diffyg gwariant ar y gyllideb ariannu cyfalaf fyddai'n ganlyniad hyn gael ei ddefnyddio i gynyddu Cronfa wrth Gefn y Rhaglen Gyfalaf sydd wedi ei chlustnodi i gefnogi cynlluniau cyfalaf yn y dyfodol.

 

Roedd y Datganiad Darpariaeth Isafswm Refeniw Blynyddol ar gyfer 2018-19 wedi ei osod allan yn Atodiad C yr adroddiad.

 

Ymatebodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog S151 i nifer o gwestiynau gan Aelodau, ac yn dilyn hynny,

 

PENDERFYNWYD:  Bod y Cyngor yn cymeradwyo

 

(1)       Adolygu Polisi MRP 2018-19 ar gyfer cyfrifo MRP ar wariant cyfalaf oedd yn cael ei gyllido o fenthyciad a gynhelir o ddull balans gostyngol o 4% i ddull llinell syth dros 45 mlynedd, ac mae Datganiad Darpariaeth Isafswm Refeniw wedi ei gymeradwyo (gweler Atodiad C yr adroddiad).

(2)       Bod y gwarged o ganlyniad yn y gyllideb ariannu cyfalaf am 2018-19 yn cael ei ddefnyddio i gynyddu Cronfa wrth Gefn y Rhaglen Gyfalaf sydd wedi ei chlustnodi, a

  bod ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i drin y gyllideb sylfaenol ar gyfer MRP 2019-20 o fewn Strategaeth Ariannol y Tymor.

Dogfennau ategol: