Agenda item

Adolygiad o ddarpariaethau ôl-16 ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Gysyniadau

Gwahoddedigion:

 

Lindsay Harvey, Cyfarwyddwr CorfforaetholAddysg a Chymorth i Deuluoedd;

Cyng Charles Smith, Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio;

Nicola Echanis, Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar;

Michelle Hatcher, Rheolwr Gr?p Cynhwysiant a Gwella Ysgolion;

John Fabes, Swyddog Arbenigol: Addysg Ôl-16 a Hyfforddiant

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd yr adroddiad ar yr adolygiad o ddarpariaeth ôl-16 a fyddai'n destun ymgynghoriad cyhoeddus.  Nododd fod yr adolygiad wedi cael ei lunio gan nifer o adolygiadau, amrywiaeth o adroddiadau a deialog broffesiynol ymhlith y gymuned addysg leol.  Cafwyd cytundeb cyffredinol nad oedd y ddarpariaeth gyfredol yn bodloni'r uchelgeisiau a nodwyd ar gyfer addysg ôl-16 ledled y sir.  Roedd yn croesawu barn y pwyllgor wrth lunio darpariaeth ôl-16 ar gyfer y dyfodol a nododd fod angen i addysg ôl-16 ddarparu’r canlyniadau gorau posibl.

 

Gwnaeth y Swyddog Arbenigol Addysg a Hyfforddiant ôl-16 hysbysu’r pwyllgor o gefndir yr adolygiad addysg ôl-16 a oedd yn dyddio nôl i 2011 pan gytunwyd ar fodel trydyddol gwasgaredig gan ysgolion a cholegau ar y pryd a oedd yn cynnig amrywiaeth o bynciau gyda darpariaeth fin nos yn cael ei darparu gan Goleg Pen-y-bont ar Ogwr.  Cynhaliwyd adolygiad pellach yn 2013 ar gais Llywodraeth Cymru a chanfuwyd bod amrywiaeth dda o bynciau ar gael a chydweithredu da, ond oherwydd cyflymder y newid, roedd angen newid.  Cynhaliwyd adolygiadau pellach drwy sefydlu Gr?p Llywio Partneriaeth. Gwnaeth y Bwrdd Adolygu Strategol yn ei dro sefydlu Bwrdd Gweithredu ôl-16 i adolygu darpariaeth gyfer ôl-16.  Gwnaeth y Bwrdd Adolygu Strategol argymell bod chwe chysyniad yn cael eu hystyried a dau opsiwn a ffefrir ar gyfer dyfodol addysg ôl-16.  Wrth gymeradwyo’r argymhellion ym mis Hydref 2017, gwnaeth y Cabinet ofyn am gyflawni gwaith mwy manwl ac ym mis Ebrill 2018 cymeradwyodd ymgynghoriad cyhoeddus ar y chwe chysyniad a'r opsiynau a ffefrir ar gyfer addysg ôl-16. 

 

Gwnaeth y Swyddog Arbenigol Addysg a Hyfforddiant ôl-16 hysbysu'r pwyllgor fod dosbarthiadau chwech ymhob ysgol uwchradd sy'n amrywio'n sylweddol o ran maint ar gyfer tua 1,500 o ddysgwyr; gan gynnwys darpariaeth fin nos; Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg wedi'i gwella drwy gydweithredu sylweddol rhwng Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ac Ysgol Gymraeg Llanhari yn Rhondda Cynon Taf gyda darpariaeth addysg ffydd ar gael yn Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath. O ganlyniad i amrywiaeth o adroddiadau a deialog broffesiynol ymhlith rhanddeiliaid, nododd fod cytundeb cyffredinol nad oedd y ddarpariaeth gyfredol yn gwireddu'r uchelgeisiau ar gyfer addysg ôl-16 ar draws y fwrdeistref, yn sgil maint y dosbarthiadau chwech, cyllid ôl-16, safonau cyrhaeddiad, yr amrywiaeth o bynciau a gynigir a mynediad at ddysgu digidol a staffio.  Y ddau opsiwn a ffefrir yw cysyniad 4 sy'n gyfuniad o ddosbarthiadau chwech mewn ysgolion gyda rhai dosbarthiadau’n uno i greu canolfannau chweched dosbarth newydd a gynhelir gan yr awdurdod lleol a chysyniad 5 sy'n gymysgedd o ddosbarthiadau chwech mewn ysgolion gyda rhai dosbarthiadau’n uno i greu canolfan(nau) chweched dosbarth a reolir gan goleg addysg bellach. 

 

Gwnaeth y Swyddog Arbenigol Addysg a Hyfforddiant ôl-16 hysbysu'r pwyllgor fod angen ystyried materion addysg ffydd, addysg Gymraeg ac anghenion dysgu ychwanegol ar wahân.  O ran addysg ffydd mae Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath gryn bellter i ffwrdd o ysgolion ffydd eraill, tra bo prinder athrawon cyfrwng Cymraeg, a phe bai darpariaeth chweched dosbarth yn cael ei dileu, byddai'n cael sgil effaith ar Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd.  Dywedodd y byddai anghenion dysgu ychwanegol yn destun adolygiad ar wahân ond y byddai hyn yn ategu'r adolygiad o addysg ôl-16.

 

Gwnaeth y Swyddog Arbenigol Addysg a Hyfforddiant ôl-16 hysbysu'r pwyllgor o'r broses ymgynghori i'w dilyn sef y bydd arolygon ar-lein ar wahân ar gael ar gyfer oedolion a phobl ifanc a bydd copïau caled o'r opsiynau ar gael.  Bydd gweithdai yn cael eu cynnal ymhob un o'r naw ysgol uwchradd gyda'r nod o ymgysylltu â 3,000 o ddisgyblion a myfyrwyr.  Ymgysylltir â rhieni hefyd drwy weithdai i drafod y cysyniadau ar gyfer addysg ôl-16.

 

Gwnaeth Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio ddiolch i'r Swyddog Arbenigol Addysg a Hyfforddiant ôl-16 am yr holl ymchwil  roedd ef wedi'i wneud i ddatblygu’r cysyniadau ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.  Roedd yn parhau i fod â meddwl agored o ran y cysyniadau ac y byddai'r hyn a ddewisir yn seiliedig ar y canlyniadau addysg gorau.  Cyfeiriodd at yr angen i gynnal y cyswllt rhwng myfyrwyr chweched dosbarth a gweddill yr ysgol fel modelau rôl uchelgeisiol ac i gefnogi disgyblion iau; byddai canolfan chweched dosbarth ar raddfa fwy yn gallu darparu cynnig lefel 2 (TGAU) i ddysgwyr a bydd cynnal ehangder y cwricwlwm ar lefel 3 yn caniatáu i bynciau lleiafrifol fod yn fwy hyfyw.  Nododd fod angen cydweithredu a'i bod yn bwysig cael amserlen gyffredin.  Roedd hefyd yn bwysig cyflwyno mwy o e-ddysgu ac i athrawon symud o gwmpas canolfannau chweched dosbarth yn hytrach na symud disgyblion o gwmpas.  Roedd hefyd yn bwysig bod pob athro uwchradd yn cael y cyfle i addysgu addysg 16+ a bod statws cyfartal yn cael ei roi i fyfyrwyr academaidd a galwedigaethol. 

 

Gwnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd hysbysu’r pwyllgor mai'r nod oedd cyflawni addysg o safon uchel gyda chymorth o'r radd flaenaf a chynnig cwricwlwm eang. 

 

Mynegodd y pwyllgor bryder o ran symud disgyblion a staff addysgu rhwng safleoedd chweched dosbarth, yn arbennig lle nad oes gan athrawon fynediad i gerbyd neu nid ydynt yn gyrru.  Dywedodd y Swyddog Arbenigol Addysg a Hyfforddiant ôl-16 bod symud staff addysgu yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd wedi cael ei ystyried, gan fod rhai athrawon yn rhannu ceir, nad oes gan rai fynediad i gar ac nid yw rhai yn gyrru.  Roedd symud disgyblion rhwng safleoedd chweched dosbarth hefyd wedi cael ei ystyried. Dywedodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio eu bod yn edrych ar ganolfannau myfyrwyr a fyddai’n cael eu lleoli mewn ysgolion sy'n bodoli eisoes.  Mynegwyd pryder hefyd yngl?n â faint o amser fyddai'n cael ei golli yn sgil athrawon a disgyblion yn teithio rhwng safleoedd yn arbennig yn ystod misoedd yr haf a thywydd garw yn ystod y gaeaf.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd wrth y pwyllgor y byddai amrediad llawn o agweddau yn cael eu hystyried yn ystod yr ymgynghoriad, megis addysgu cyfunol drwy ddefnyddio TGCh a dysgu wyneb yn wyneb. Buddsoddwyd mewn cysylltedd ffeibr a chynadledda fideo na fanteisiwyd arnynt yn llawn hyd yn hyn.  Gwnaeth y Swyddog Arbenigol Addysg a Hyfforddiant ôl-16  hysbysu'r pwyllgor fod nifer o ddisgyblion yn gweld addasu i addysgu cyfunol yn anodd i ddechrau, ond o fewn hanner tymor y byddai'r holl fyfyrwyr ar y trywydd cywir.  Cafodd amser teithio ei ystyried a rhagwelwyd y byddai'r rhan fwyaf o deithiau'n gallu cael eu cwblhau o fewn 20 munud a'u gwneud yn ystod amseroedd cinio.  Mae darpariaeth fin nos ar gael lle y mae myfyrwyr yn dod ynghyd yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr am ddwy awr, ddwywaith yr wythnos.  Hysbysodd y pwyllgor nad yw 40% o fyfyrwyr yn mynychu'r chweched dosbarth ond yn hytrach yn mynychu Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, sef un o'r colegau sy'n perfformio orau. 

 

Gwnaeth y pwyllgor gwestiynu sut y byddai cost teithio rhwng safleoedd yn cael ei dalu.  Gwnaeth y Swyddog Arbenigol Addysg a Hyfforddiant ôl-16 hysbysu'r pwyllgor bod y gost o gefnogi teithio ôl-16 wedi cael ei hariannu gan grant gan Lywodraeth Cymru.  Roedd y grant hwnnw wedi cael ei leihau ers hynny ac roedd bellach yn cael ei weinyddu gan Gonsortiwm Canolbarth y De a'i ddatganoli i gyllidebau ysgolion.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd ei fod ef ac Aelod y Cabinet wedi ymweld â thair ysgol gynradd y diwrnod cynt ac roedd wedi gweld disgyblion pump a chwech oed yn defnyddio apiau fel rhan o'u dysgu.  Dywedodd fod mynd i'r afael â thrafnidiaeth yn her; fodd bynnag mae ysgolion uwchradd yn cydweithio.  Gwnaeth y Swyddog Arbenigol Addysg a Hyfforddiant ôl-16 hysbysu'r pwyllgor fod trafnidiaeth ôl-16 yn daliad yn ôl disgresiwn a wneir gan awdurdodau lleol.  Dywedodd lle mae canolfannau chweched dosbarth yn bodoli, bod grwpiau addysgu yn cael eu lleihau gan greu effeithlonrwydd, gyda'r effeithlonrwydd hwnnw'n cael ei ddefnyddio i gludo myfyrwyr.  Dywedodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod amserlen integredig gyda dull cyffredin o amserlennu gwersi yn cael ei ystyried ac y byddai dysgu cyfunol a thiwtorialau yn dod yn brif ffocws.         

 

Gwnaeth y pwyllgor fynegi pryder o ran y teithio rhwng canolfannau sy’n digwydd yn ystod egwyl cinio a ddylai barhau i fod yn gysegredig ac y gallai fod pwysau ar ddisgyblion i beidio â bwyta eu cinio pan fod yn rhaid iddynt deithio. 

 

Gwnaeth y pwyllgor gwestiynu a fyddai anghenion dysgu ychwanegol ar gyfer myfyrwyr ôl-16 yn rhan o'r adolygiad hwn.  Gwnaeth y Swyddog Arbenigol Addysg a Hyfforddiant ôl-16 nodi y byddai adroddiad ar wahân yn cael ei lunio yn adolygu'r ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol ôl-16 gyda myfyrwyr yn cael eu cyfeirio tuag at y coleg.  Dywedodd y pwyllgor fod eu hanghenion yn unigryw a bod yn rhaid i'w haddysg gael ei theilwra. 

 

Gwnaeth y pwyllgor fynegi pryder pe bai cysyniad 5 yn cael ei weithredu a fyddai'n  arwain at greu canolfan(nau) chweched dosbarth newydd a reolir gan goleg addysg bellach a chyfuno nifer o ganolfannau yn nifer llai o ganolfannau mwy, efallai na fyddai hyn yn arwain at berfformiad uchel.    Dywedodd y pwyllgor fod y dosbarthiadau chwech llai yn y fwrdeistref, sef Ysgol Gyfun Maesteg ymhlith y dosbarthiadau chwech sy'n perfformio orau a bod perfformiad uchel eisoes ymhlith yr holl ddosbarthiadau chwech.  Gwnaeth y pwyllgor hefyd fynegi pryder ynghylch tryloywder llywodraethu a data perfformiad pe bai cysyniad 5 yn cael ei weithredu. 

 

Gwnaeth y pwyllgor fynegi pryderon pe bai cysyniadau 4  a 5 yn cael eu gweithredu a gwnaeth gwestiynu ble y byddai'r ddarpariaeth chweched dosbarth yn cael ei chynnal a ble y byddai'r ddarpariaeth chweched dosbarth yn cael ei cholli.  Gwnaeth y pwyllgor hefyd gwestiynu a fyddai'r cynigion yn gallu cael eu herio pe na bai'r broses ymgynghori yn ddigon tryloyw.  Gwnaeth y Swyddog Arbenigol Addysg a Hyfforddiant ôl-16 hysbysu'r pwyllgor y bwriadwyd i'r cynigion fod yn esblygol ac nid yn chwyldroadol.  Nododd y byddai'r broses ymgynghori yn dryloyw ac y byddai pob cyfnewidiad yn cael ei ystyried.  Byddai unrhyw uno yn cael ei weithredu o gam i gam ac yn ddiogel o safbwynt adolygiad barnwrol.   

 

Gwnaeth y pwyllgor gwestiynu'r dulliau ymchwil a'r dystiolaeth a ddefnyddiwyd i greu'r cynigion ar gyfer darpariaeth addysg ôl-16.  Gwnaeth y pwyllgor hefyd gwestiynu a ymgynghorwyd â chyflogwyr a phrifysgolion ar y cynigion ar gyfer addysg ôl-16 yngl?n â'r hyn sy'n ofynnol ganddynt a gofynnwyd bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ymgynghori â sampl o fusnesau fel rhan o'r  ymgynghoriad.  Mynegwyd pryder gan y pwyllgor bod prifysgolion yn gwneud cynigion diamod.  Gwnaeth y Swyddog Arbenigol Addysg a Hyfforddiant ôl-16 hysbysu'r pwyllgor y bydd yr holl gysyniadau a gwybodaeth gefndir yn yr ymgynghoriad ynghyd â'r papurau ymchwil a ddefnyddiwyd i lywio'r cynigion.  Nododd fod y rhan fwyaf o bapurau ymchwil yn cyfeirio oddi wrth ddosbarthiadau chwech bach a thuag at well arweinyddiaeth ac addysgu mewn lleoliadau mwy.  Dywedodd fod y canolfannau chweched dosbarth sy'n perfformio orau mewn colegau a bod gan Goleg Dewi Sant yng Nghaerdydd grwpiau addysgu mwy o faint.  Dywedodd hefyd fod rhai ysgolion wedi gweld gostyngiad mewn canlyniadau Safon Uwch, tra bod eraill wedi gweld cynnydd o ran perfformiad o ganlyniad i fyfyrwyr yn derbyn cynigion diamod.  Gwnaeth y Swyddog Arbenigol Addysg a Hyfforddiant ôl-16 hysbysu'r pwyllgor fod cryn dipyn o amrywiaeth o ran perfformiad y dosbarthiadau chwech llai.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod ymchwil wedi'i gyflawni gan Estyn yn dangos fwy o anwadalrwydd o ran canlyniadau mewn ysgolion llai. 

 

Mynegwyd pryder gan y pwyllgor yngl?n â sut y byddai'r cynigion yn effeithio ar staff addysgu a disgyblion ac roedd pryder y byddai athrawon yn gadael ysgolion pe na bai darpariaeth chweched dosbarth yn yr ysgol mwyach.  Mynegwyd pryder hefyd y byddai cadw addysg ôl-16 mewn nifer dethol o ysgolion yn unig yn dylanwadu ar ddewis rhieni a allai arwain at ordanysgrifio mewn ysgolion sy'n darparu addysg ôl-16 a lleoedd dros ben lle nad oedd addysg ôl-16 ar gael.  Mynegwyd pryder hefyd yngl?n â cholli rhai pynciau TGAU posib mewn ysgolion lle na fyddai unrhyw chweched dosbarth.  Dywedodd y Swyddog Arbenigol Addysg a Hyfforddiant ôl-16 nad oedd yn rhagweld y byddai perygl o ran argaeledd rhai pynciau TGAU penodol yn cael eu haddysgu mewn ysgolion.

 

Gwnaeth y pwyllgor fynegi pryder o ran yr effaith bosibl ar gyllideb y cyngor pe bai cysyniadau 4 a 5 yn cael eu rhoi ar waith.  Dywedodd y Swyddog Arbenigol Addysg a Hyfforddiant ôl-16 fod cyllid grant arwahanol ar gyfer addysg ôl-16 a bod ysgolion yn cael eu harchwilio bob hydref.  Mae'r awdurdod yn cadw cyfran fach o'r cyllid grant (3%) sy'n cael ei glustnodi ar wahân i gyllidebau eraill.  Nododd y bydd gan y sector addysg bellach hefyd fynediad at y grantiau hyn.  Bu pwysau cyllidol ar y grant sydd wedi cael ei ostwng 2.5%.  Nododd hefyd fod y cyllid fesul myfyriwr yn £1k yn fwy yn Lloegr a bod addysg ôl-16 wedi'i dangyllido yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr. 

 

Gwnaeth y pwyllgor gwestiynu a fyddai'r adolygiad o addysg ôl-16 yn paratoi'r ffordd ar gyfer ysgolion enfawr lle roedd Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ad-drefnu ei ddarpariaeth chweched dosbarth.  Gwnaeth y Swyddog Arbenigol Addysg a Hyfforddiant ôl-16 hysbysu'r pwyllgor fod y materion yn y fwrdeistref yn debyg i'r hyn a geir yng  Nghyngor Rhondda Cynon Taf; fodd bynnag nid oedd y cyngor yn edrych ar ysgolion enfawr. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn oddi wrth y pwyllgor yngl?n ag a fyddai'r ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar y cyd â'r cyrff llywodraethu, gwnaeth y Swyddog Arbenigol Addysg a Hyfforddiant ôl-16 gadarnhau y byddai hynny'n digwydd.  Gwnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd hysbysu'r pwyllgor fod yr awdurdod yn cael ei lywodraethu gan bolisi cenedlaethol a bod cod llym iawn y mae'n rhaid glynu ato.  Dywedodd fod angen blaenoriaethu buddiannau dysgwyr uwchben popeth arall.  Dywedodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio ei fod ef a'r Cyfarwyddwr wedi ymweld â phob ysgol uwchradd ac ysgol arbennig a’u bod yn gadarnhaol iawn yngl?n â'r cynigion. 

 

Diolchodd y pwyllgor i'r gwahoddedigion am eu cyfraniad.        

                                   

Casgliadau

 

  • Gofynnodd yr aelodau bod yr Adolygiad ôl-16 ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael ei ychwanegu at y Flaenraglen Waith.

 

Gwnaeth yr aelodau fynegi'r pryderon canlynol:

 

  • Mynegodd y pwyllgor bryderon yngl?n â'r teithio rhwng y canolfannau y cynigiwyd ei wneud yn ystod amseroedd cinio disgyblion ac athrawon a gwnaeth hefyd gwestiynu a oedd asesiad risg wedi'i gynnal pe bai angen mwy o amser teithio.
  • Roedd y pwyllgor yn bryderus yngl?n â'r cynnydd tebygol mewn trefniadau teithio a oedd yn gysylltiedig â’r rhan fwyaf o'r cysyniadau a gyflwynwyd, a fyddai yn ei dro yn cynyddu'r gyllideb trafnidiaeth ôl-16 a gwnaeth yr aelodau gwestiynu a oedd hyn yn gynaliadwy.
  • Er mwyn osgoi her yn y dyfodol, gwnaeth yr aelodau dynnu sylw at yr angen i gyflwyno pa safleoedd ôl-16 fydd yn cael eu cadw, ynghyd â'r dystiolaeth a'r rhesymeg dros eu cadw.
  • Gwnaeth y pwyllgor fynegi pryderon yngl?n â’r positifrwydd a oedd yn cael ei gyflwyno yn yr ymgynghoriad o ran dysgu ôl-16 mewn grwpiau mawr ac roedd yr aelodau yn awyddus i bwysleisio fod gan y fwrdeistref ddysgwyr ôl-16 sy'n perfformio'n dda mewn lleoliadau llawer llai.
  • Roedd y pwyllgor yn bryderus yngl?n â sut y byddai cadw addysg ôl-16 mewn detholiad o ysgolion yn unig yn dylanwadu ar ddewis rhieni. Awgrymodd yr aelodau y gallai hyn o bosibl arwain at ordanysgrifio mewn ysgolion sy'n darparu addysg ôl-16 a lleoedd dros ben lle nad oedd addysg ôl-16 ar gael.
  • Gwnaeth y pwyllgor fynegi pryderon o ran gweithredu Cysyniad 5 - creu canolfan chweched dosbarth newydd wedi'i rheoli gan goleg addysg bellach  - gan y byddai'r opsiwn hwn yn effeithio ar ysgolion, yr hyn mae'r awdurdod yn ei ddarparu a hefyd ar gyllideb y cyngor. Gwnaeth yr aelodau hefyd fynegi eu pryderon yngl?n â llywodraethu addysg bellach a gwnaethant ddarparu data perfformiad.
  • Er mwyn galluogi aelodau i ddychmygu'r broses yn llwyddiannus, awgrymodd y pwyllgor y dylai swyddogion ddarparu enghreifftiau o ddysgu cyfunol ar waith.
  • Gwnaeth yr aelodau fynegi pryderon o ran gweithredu Cysyniad 3 lle mai’r cynnig yw  cau pob chweched dosbarth a chreu coleg chweched dosbarth wedi'i reoli gan ddarpariaeth addysg bellach.   Gwnaeth y pwyllgor dynnu sylw at y perygl y gallai staff ôl-16 presennol adael ysgolion lle nad oedd pynciau Safon Uwch yn cael eu haddysgu mwyach ac y gallai effeithio ar y dewis a'r amrediad o bynciau sydd ar gael fel opsiynau TGAU.

 

Argymhellion

1.        Mynegwyd pryderon cychwynnol yngl?n â'r dystiolaeth a'r ymchwil a gasglwyd ar gyfer yr adolygiad o ddarpariaethau ôl-16 a gwnaeth y pwyllgor argymell y dylai sampl cynrychioliadol o fusnesau bach, canolig a mawr gael eu gwahodd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad pan fo'n mynd rhagddo a bod gwaith ymchwil cymdeithasol hefyd yn cael ei gomisiynu a’i gynnal ar ddisgyblion yn ein bwrdeistref.

 

2.         Gwnaeth y pwyllgor ofyn am eglurhad ar y broses ymgynghori a gwnaeth argymell fod aelodau'r Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 1 yn cael eu gwahodd i ychwanegu gwerth at y broses a gweithredu fel ymgyngoreion pan fo'r ymgynghoriad yn dechrau a'u bod yn derbyn y canlyniadau terfynol cyn iddynt gael eu cyflwyno i'r cabinet.        

Dogfennau ategol: