Agenda item

Plant sy'n Derbyn Gofal Mewn Addysg

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p, Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd adroddiad a ddiweddarai'r Pwyllgor Rhianta Corfforaethol ynghylch y cymorth i Blant sy'n Derbyn Gofal Mewn Addysg ar draws yr awdurdod lleol. Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio'n benodol ar y gefnogaeth a roddir i Blant sy'n Derbyn Gofal ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ystod y flwyddyn academaidd 2017-18, ynghyd â'r deilliannau o ran eu cyrhaeddiad. O ran eu cyrhaeddiad addysgol, esboniodd fod Plant sy'n Derbyn Gofal yn aml yn tangyflawni o'u cymharu â'u cyfoedion a'u bod yn llai tebygol o fynd ymlaen i addysg bellach neu hyfforddiant.

 

Esboniodd y Rheolwr Gr?p, Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd y daeth y Tîm Grwpiau Agored i Niwed yn gyfrifol am gefnogi Plant sy'n Derbyn Gofal Mewn Addysg ym mis Mai 2018. Roedd y tîm yn cydweithio'n agos â Gofal Cymdeithasol i Blant a gwasanaethau Cymorth Cynnar eraill i sicrhau bod Plant sy'n Derbyn Gofal yn derbyn addysg o ansawdd uchel a oedd yn bodloni'u hanghenion. Ategodd fod 278 o Blant sy'n Derbyn Gofal i'w cael ym Mhen-y-bont at Ogwr ym mis Ionawr 2018 a broffiliwyd yn unol â'r clystyrau ysgolion a grybwyllwyd yn yr adroddiad. Soniodd y Rheolwr Gr?p, Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd fod llawer o waith yn cael ei wneud yn lleol i sicrhau bod pob disgybl yn cael y gefnogaeth gywir. Roedd datblygu'r Panel Mynediad i Addysg yn rhan o hyn. Crëwyd y Panel i sicrhau bod pob plentyn yn cael mynediad i addysg sy'n bodloni'i anghenion, a hynny mewn modd amserol.

 

Nododd y Rheolwr Gr?p, Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd mai rhan o hyfforddiant y Tîm Grwpiau Agored i Niwed oedd codi ymwybyddiaeth ar draws ysgolion ynghylch effaith bod yn Blentyn sy'n Derbyn Gofal ar unigolion, gan gynnwys y trawma a'r modd y gallai hyn effeithio ar allu'r plentyn i ymroi i ddysgu. Esboniodd swyddogaeth yr awdurdod o ran datblygu cyfleoedd profiad gwaith a phrentisiaethau i Blant sy'n Derbyn Gofal. Roedd gan bob Plentyn sy'n Derbyn Gofal ym Mlwyddyn 11 gyfle i ymgymryd â phrofiad gwaith dros wyliau'r haf ac achubodd 7 ohonynt ar y cyfle hwnnw. O ganlyniad, enillodd 4 ohonynt gymhwyster Agored.

 

Esboniodd y Rheolwr Gr?p, Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd fod sawl ysgol wedi cyflwyno Cynorthwywyr Cymorth Dysgu i gynorthwyo â llythrennedd a rhifedd Plant sy'n Derbyn Gofal. Cafwyd ymateb cadarnhaol i hyn ac mae wedi arwain at ragor o gysondeb o ran y cymorth sy'n cael ei roi.

 

Gofynnodd Aelod a oedd cynnydd wedi bod yn nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles na chafwyd llawer o newid yn y niferoedd. Mae'n bosib bod y niferoedd ychydig yn is o'u cymharu â'r llynedd.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gr?p, Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd ddiweddariad ynghylch cyrhaeddiad addysgol Plant sy'n Derbyn Gofal ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar draws y gwahanol grwpiau oedran. Ategodd eu bod mewn sefyllfa gadarnhaol iawn ar y cyfan. Daeth o hyd i gamgymeriad yn y modd yr adroddwyd ynghylch 9 o'r 19 plentyn ar Lefel 2 a Lefel 2+. Cyfeiriodd yr Aelodau at ddwy astudiaeth achos a amlinellwyd yn yr adroddiad a daethant i'r casgliad nad oedd i'r adroddiad oblygiadau ariannol. Fodd bynnag, nodwyd mai cyfanswm y Grant Datblygu Disgyblion i Blant sy'n Derbyn Gofal i ysgolion yn 2018-19 oedd £240,987.       

Gofynnodd Aelod a oedd Plant sy'n Derbyn Gofal i'w cael mewn lleoliadau cyn ysgol ac a oedd y plant a oedd yn mynychu Heronsbridge wedi'u hepgor o'r canlyniadau hyn. Gofynnodd hefyd a oedd Plant sy'n Derbyn Gofal wedi'u lleoli y tu allan i'r sir ac a oedd y canlyniadau hynny wedi'u cynnwys yn y ffigurau. Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p, Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd fod Plant sy'n Derbyn Gofal i'w cael mewn lleoliadau cyn ysgol ond nad oedd ganddo'r union wybodaeth wrth law. Dywedodd y byddai'n darparu'r manylion hyn ar ôl y cyfarfod.

Roedd plant Heronsbridge wedi'u cynnwys yn y clystyrau. Gofynnwyd a fyddai modd ymdrin â nhw ar wahân a gofynnwyd i'r ffigurau hyn gael eu haddasu i adlewyrchu hynny.

 

Dywedodd Aelod fod y canlyniadau'n gadarnhaol iawn a gofynnodd a oedd rhai clystyrau'n perfformio'n well na'r lleill. Esboniodd y Rheolwr Gr?p, Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd fod y sefyllfa'n amrywio ond eu bod i gyd yn gwneud cynnydd ar y cyfan. Nododd, fodd bynnag, fod y cohortau yn fychan iawn, felly roedd yn anodd cymharu tebyg at ei debyg.

 

Gofynnodd Aelod a oedd y Grant Datblygu Disgyblion yr un fath i blant oed cynradd. Esboniodd y Rheolwr Gr?p, Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd fod hwn yn gais ar gyfer clwstwr yn hytrach nag ar gyfer ysgolion unigol.

 

Gofynnodd Aelod pwy oedd yn cynrychioli'r plant ar y Panel Mynediad i Addysg. Dywedwyd wrtho mai Cadeirydd y Panel oedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd a bod cynrychiolaeth o bob rhan o'r gyfarwyddiaeth hefyd yn bresennol, gan gynnwys o ysgolion cynradd ac uwchradd ac o ysgolion arbennig. Roedd hyn o gymorth mawr i ysgolion gan ei fod yn esbonio'n glir â phwy y dylent gysylltu. Roedd hefyd yn sicrhau cynnydd yn gyflym iawn. Roedd gan y Tîm Grwpiau Agored i Niwed swyddogaeth bwysig ac roedd yn helpu'r awdurdod i gyflawni'i gyfrifoldebau statudol wrth adnabod pob gr?p sy'n agored i niwed a chydweithio'n agos i sicrhau eu bod yn cynnig y fargen orau i ddysgwyr mor gynnar â phosib.

 

Gofynnodd Aelod am wybodaeth ynghylch y Plant sy'n Derbyn Gofal y tu allan i'r sir ac a oeddent yn cael yr un cyfleoedd o ran cyrhaeddiad. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles eu bod yn cael yr un flaenoriaeth. Fodd bynnag, ategodd fod ganddynt anghenion arbennig a'u bod mewn lleoliadau arbenigol yn aml.

 

Nododd yr Arweinydd y cafwyd peth cynnydd cadarnhaol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Roedd y deilliannau yr oeddent am eu gweld y flwyddyn nesaf, ynghyd â'r camau sy'n angenrheidiol i sicrhau rhagor o welliannau, yn glir. Croesawodd yr Aelodau y ffaith i'r astudiaethau achos gael eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:  Nododd y Pwyllgor Rhianta Corfforaethol gynnwys

yr adroddiad.      

Dogfennau ategol: