Agenda item

Adolygiad o'r Model ar gyfer Gwasanaethau Ymyrraeth Gynnar

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd ddiweddariad ynghylch y gwaith a gyflawnwyd hyd yma wrth ymateb i un o argymhellion y Sefydliad Gofal Cyhoeddus (yr IPC), yn arbennig felly o ran effaith gwasanaethau cymorth cynnar.  Wrth ymateb i'r argymhelliad a oedd yn ymwneud ag adolygu effaith, rhaid i wasanaethau cymorth cynnar sicrhau eu bod yn gwneud gwahaniaeth i blant a theuluoedd. I'r perwyl hwn, roedd y gwasanaethau presennol yn yr Hwb Canolog yn cael eu hadolygu.

 

Amlinellodd Rheolwr y Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd y gwasanaethau sydd ar gael yn yr Hwb Canolog i gefnogi plant a phobl ifanc sy'n rhan o'r ddarpariaeth Gofal Cymdeithasol i Blant. Ymhlith y gwasanaethau hyn roedd Cysylltu Teuluoedd, Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd Bae'r Gorllewin, Ymateb Cyflym, y Gwasanaeth 'Baby in Mind' a'r Gwasanaeth Adlewyrchu. Aeth ati hefyd i grynhoi ymweliadau'r awdurdod lleol â Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Dinas Casnewydd a Chyngor Sir Caerfyrddin. Y farn oedd bod gan y rhain i gyd wasanaethau cymorth cynnar da. Yn ogystal â hynny, cynhaliwyd gweithdy ym mis Mai 2018 i adolygu'r gwasanaethau presennol, i rannu arfer dda ac i nodi unrhyw fylchau canfyddedig yn y gwasanaethau a ddarperir. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd ei bod yn amlwg, yn sgil yr ymweliadau a'r gweithdy, nad oedd gwahaniaeth sylweddol yn y modd yr oedd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu'i wasanaethau o'u gymharu â gwasanaethau'r sefydliadau yr ymwelwyd â nhw. Pwysleisiodd fod nifer o wasanaethau newydd wedi dod i fodolaeth yn ddiweddar ac ategodd y byddai effaith y rhain yn cael ei chloriannu maes o law.

 

Ategodd Rheolwr y Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd fod pob awdurdod lleol wedi canmol y cydweithio cadarnhaol rhwng Cymorth Cynnar a Gofal Cymdeithasol i Blant ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn ei farn ef, roedd yn amlwg bod Pen-y-bont ar Ogwr yn achub y blaen mewn perthynas â gwaith cam-i-fyny/cam-i-lawr rhwng Gofal Cymdeithasol i Blant a Chymorth Cynnar a bod plant a theuluoedd yn gallu symud o'r naill ddarpariaeth i'r llall yn ddiffwdan. Ymddangosai bod pob awdurdod lleol yn gorfod ymdopi â'r un heriau.

 

Amlinellodd Rheolwr y Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd y materion hynny a gyflwynwyd i Fwrdd Rheoli Corfforaethol yr awdurdod lleol yn ôl ym mis Medi 2018 er gwybodaeth.

 

Gofynnodd Aelod a oedd teuluoedd y plant hynny sy'n mynd i mewn i ofal yn cael cymorth i sicrhau na fyddai hyn yn digwydd eto. Esboniodd Rheolwr y Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd fod Barnado's yn cydweithio'n agos â'r teuluoedd hyn i'w cefnogi nhw.

 

Gofynnodd Aelod pa gefnogaeth yr oedd y plant hyn yn ei chael er mwyn iddynt gael profiadau bywyd ehangach, megis cymryd rhan mewn pêl-droed, ac ati. Esboniodd y Rheolwr Gr?p, Rheoli Achosion a Phontio fod disgwyl i ofalwyr maeth gefnogi plant a'u paratoi ar gyfer bywyd mewn ffordd gadarnhaol.

 

Gofynnodd Aelod a oedd Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig wedi methu am resymau ariannol. Dywedwyd wrtho nad oedd Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig yn methu am resymau ariannol. Byddai pobl sy'n ofalwyr ar hyn o bryd yn dod yn Warcheidwaid Arbennig a byddai'r cyfraddau'n aros yn sefydlog am 2 flynedd.

 

Gofynnodd yr Arweinydd a oedd Gwarcheidwaid Arbennig yn cael yr un gefnogaeth â gofalwyr maeth. Esboniodd y Rheolwr Gr?p, Rheoli Achosion a Phontio fod gan y gefnogaeth y mae Gwarcheidwaid Arbennig yn ei chael ym Mhen-y-bont ar Ogwr enw da. Nodwyd bod tîm arbenigol sy'n canolbwyntio ar y maes hwn ac sy'n darparu adolygiadau blynyddol a chymorth mewn argyfyngau.

 

Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd beth fyddai effaith symud o Fae'r Gorllewin i Gwm Taf. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod goblygiadau ariannol i hyn ac, o gofio bod yr atgyfeiriadau wedi cynyddu 200%, roedd yn bwysig delio â'r achosion hyn mor gynnar â phosib er mwyn osgoi costau gofal. Ategodd fod gr?p cynghori gweinidogol wedi ymweld â 5 awdurdod yn ddiweddar, gan gynnwys Pen-y-bont at Ogwr. Cafwyd gan y tîm gyflwyniad a amlinellai 3 blynedd o waith a'r gwelliannau a wnaed. Roedd Llywodraeth Cymru wedi addo rhoi rhagor o gefnogaeth i Blant sy'n Derbyn Gofal. Llwyddodd Cwm Taf i sicrhau cyllid ar gyfer gwasanaethau plant a gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf o'r cyllid rhanbarthol yn mynd tuag at ofal oedolion. Roedd yn bwysig galw am gyllid ar gyfer gofal cymdeithasol i blant yn dyfodol. Roedd lefel y cyllid oddi wrth Fae'r Gorllewin wedi'i sicrhau. Yn ôl y rhagolygon ariannol, byddai cost gofal cymdeithasol yn gostwng o ganlyniad i'r cynnydd a wnaed mewn meysydd eraill. Dechreuwyd gweld deilliannau gwell i blant ac roedd modd diogelu'r gyllideb hefyd.

 

PENDERFYNWYD:  Bod y Pwyllgor Rhianta Corfforaethol yn nodi ystyriaethau'r adroddiad a chytunodd i fonitro'r cynnydd tuag at eu gweithredu yn rhan o'i Flaenraglen Waith.       

Dogfennau ategol: