Gwahoddedigion:
Cyng Charles Smith, Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio
Holl Aelodau Pwyllgor Craffu Testun 2
Lindsay Harvey, Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth I Deuluoedd
Nicola Echanis,
Pennaeth Addysg a Chymorth
Cynnar
Michelle Hatcher, Rheolwr Gr?p Cynhwysiant a
Gwella Ysgolion
John Fabes, Swyddog Arbenigol: Addysg Ôl-16 a Hyfforddiant
Elizabeth Jones, Anghenion Dysgu
Ychwanegol Trawsnewid, Consortiwm
Canolbarth y De
Denise Inger, Prif Weithredwr Cyfarwyddwr
SNAP Cymru
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad i hysbysu’r Pwyllgor am ddatblygiadau Deddf ALNET (2018) yng Nghymru a’r gwaith a wnaed ar draws y rhanbarth i baratoi ar gyfer cyflwyno’r Ddeddf a sut yr oeddem ni fel Awdurdod yn paratoi ar ei chyfer.
Amlinellodd Rheolwr Gr?p Cynhwysiant a Gwella Ysgolion brif feysydd yr adroddiad, ac yn dilyn hynny gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau gan yr Aelodau i’r Gwahoddedigion
Teimlai Aelod fod angen rhoi mwy o eglurder o safbwynt cyfrifoldebau’r Ddeddf, megis pwy oedd yn gyfrifol am gwblhau Asesiadau a sut y câi partneriaid eu herio wrth i’w gwaith gael ei asesu. At hynny, nododd fod yna fwriad i recriwtio un aelod o staff i gynorthwyo gyda’r gwaith y byddai’r Ddeddf yn ei greu. Gofynnodd yr Aelodau faint o amser y byddai Asesiad yn ei gymryd i’w gwblhau ac a oedd gan yr awdurdod lleol y capasiti i gyflawni’r gwaith ychwanegol a gâi ei gynhyrchu dan y Ddeddf.
Dywedodd Arweinydd Trawsnewid ADY o Gonsortiwm Canolbarth y De (CCD) na fyddai yna fwy o blant i’w cynorthwyo dan y Ddeddf, gan eu bod i gyd wedi eu nodi o fewn y system a ddefnyddid ar hyn o bryd. Ychwanegodd y byddai mwy o ddisgwyl i awdurdodau lleol a’u partneriaid gyflawni gwaith sy’n ofynnol dan y Ddeddf. Fodd bynnag, mae pobl ifanc ag Anghenion Addysg Arbennig ar hyn o bryd yn cael eu hadnabod ac mae eu hanghenion unigol gwahanol yn cael eu hateb, a byddai’r duedd hon yn parhau o dan ALNET. Ychwanegodd ymhellach fod yna fecanweithiau mewn ysgolion i adnabod plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Eglurodd y byddai gwaith dan y Ddeddf newydd yn fwy mandadol mewn rhai meysydd nag ydynt yn awr.
Eglurodd Arweinydd Trawsnewid ADY o’r CSC y byddai’r systemau newydd y cynigid eu sefydlu yn caniatáu gwell cydweithio rhwng yn Awdurdod a’i bartneriaid a’i asiantaethau/rhanddeiliaid allweddol. Un o gydrannau allweddol y Ddeddf oedd mynd i’r afael ag unrhyw anghydfod rhwng partneriaid o’r fath. Nododd yr hyn yr oedd un Aelod wedi ei ddweud yn gynharach, mai un swyddog arweiniol sydd wedi cael ei recriwtio i gynorthwyo gyda gwaith ALNET ychwanegol. Fodd bynnag, dywedodd y câi swyddog arweiniol newydd ei recriwtio ym mhob Bwrdd Iechyd sy’n cynnal yr awdurdodau lleol sy’n ffurfio rhan o Gonsortia Canol y De. Byddai polisïau a gweithdrefnau newydd sydd i gael eu cyflwyno dan y Ddeddf hefyd yn caniatáu perchnogaeth well ar y meysydd gwaith gwahanol y mae angen eu prosesu’n fuan.
Gofynnodd Aelod am eglurder y byddai’r Ddeddf yn parhau i gefnogi pobl ifanc ag ADY i fyny hyd at 25 mlwydd oed. Dywedodd cynrychiolydd y CSC mai felly y byddai. Ychwanegodd fod BCBC hefyd wedi creu rhaglen bontio ar gyfer unigolion ôl-16 gyda’r bwriad o gysgodi plant ag ADY wrth iddynt fynd yn h?n a mynd ymlaen i Addysg Uwch.
Cyfeiriodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywiad sylw’r Aelodau at oblygiadau ariannol yr adroddiad, a’r swm sylweddol o gyllid fyddai’n cefnogi’r cynigion ADY newydd, gan gynnwys drwy amrywiol lwybrau cyllid Grant, y Consortia a’r Awdurdodau sy’n rhan ohono, Anogodd Aelodau’r Pwyllgor i osod pwysau ar Lywodraeth Cymru yn y dyfodol pe bai angen hyn, i barhau i gyllido’r gwaith sy’n angenrheidiol dan y Ddeddf newydd.
Holodd Aelod ynghylch y ffrydiau gwahanol o gyllid grant ar gyfer yr ALNET fel y manylwyd yn yr adroddiad, nad oeddent, wrth eu rhoi at ei gilydd, yn cyfateb i’r cyfanswm o £783 mil fel y nodwyd ar dudalen 36 o Atodiad 1.
Dywedodd cynrychiolydd y CSC mai camgymeriad clercio oedd hyn o bosibl, a byddai hi’n edrych i mewn i’r mater hwn y tu allan i’r cyfarfod, a rhoi gwybod i’r Aelod wedi hynny.
Nododd Aelod fod angen buddsoddiad sylweddol er mwyn cydymffurfio’n ddigonol â darpariaethau’r Ddeddf newydd a’i nodau ac amcanion mawr. Nododd ymhellach y byddai’r gwaith oedd ei angen yn strategol, yn golygu llawer o waith ar y cyd â phartneriaid, fyddai’n galw am reoli perfformiad. Byddai’r system a drawsnewidiwyd yn sicrhau bod yr holl ddysgwyr ag ADY yn cael eu cynorthwyo i oresgyn rhwystrau i ddysgu ac yn cyflawni eu llawn botensial; byddai’n gwella cynllunio a darparu cefnogaeth i ddysgwyr; ac yn olaf, byddai’n canolbwyntio ar bwysigrwydd canfod anghenion yn gynnar a rhoi ymyriadau amserol ac effeithiol yn eu lle fyddai’n cael eu monitro a’u haddasu i sicrhau eu bod yn cyflawni’r deilliannau a ddymunid. Nododd hefyd y cysylltiad rhwng Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac amcanion ALNET. Gofynnodd i’r swyddogion bwth oedd y newidiadau oedd wrth galon deilliannau’r gwasanaeth a ddarperid.
Dywedodd Rheolwr Gr?p Cynhwysiant a Gwella Ysgolion y byddai’r gwaith fyddai’n ofynnol dan y Ddeddf newydd yn adlewyrchu dull unigolyn-ganolog fyddai’n bwydo i mewn i Gynlluniau Datblygu Unigol gyda Chymorth yn gyffredinol. Roedd ymarferiad peilot wedi cael ei gyflwyno fel rhan o’r paratoad yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf, mewn rhai ysgolion. Byddai’r Ddeddf newydd yn sicrhau bod lleisiau plant a rhieni hefyd yn cael eu clywed ac byddai hynny’n arwain at weithredu priodol.
Ychwanegodd y byddai Cynlluniau Datblygu yn disodli rhoi Datganiad lle bynnag y byddai modd er mwyn mabwysiadau dull mwy personol na’r un sy’n bodoli ar hyn o bryd.
Câi digwyddiadau hyfforddi eu trefnu ar gyfer ysgolion yn ystod y cyfnod pontio, gyda Phenaethiaid neu Ddirprwy Benaethiaid ysgolion yn mynychu’r rhain. Byddai’r sesiwn gyntaf o’r math yma yn codi ymwybyddiaeth o’r Ddeddf a’i phrif themâu, gyda sesiynau’n dilyn ar God Anghenion Dysgu Ychwanegol er mwyn cynllunio ar gyfer y newidiadau.
Cyfeiriodd Aelod at dudalen 36 yr adroddiad a dyrannu cyllid grant i
ALNET, a gofynnodd ar ba fformiwla yr oedd y swm hwn wedi ei seilio.
Dywedodd Arweinydd Trawsnewid ADY o’r CSC fod y cyllid hwn yn cael ei ddyrannu ar sail rhanbarthol. Ychwanegodd y byddai hi’n rhoi’r fformiwla ar gyfer hyn i’r Cynghorydd y tu allan i’r cyfarfod. Roedd cyllid cychwynnol pellach wedi cael ei ddyrannu hefyd i awdurdodau lleol er mwyn iddynt ateb gofynion y ddeddfwriaeth newydd. Roedd hyn yn wir am holl awdurdodau lleol Consortiwm Canol y De, yn ogystal â chael ei ystyried ar sail rhanbarthol.
Nododd Cynrychiolydd Cofrestredig oddi wrth yr adroddiad mai dim ond at bedwar awdurdod lleol yr oedd yn cyfeirio o fewn y Consortiwm, er bod yna bump mewn gwirionedd.
Cadarnhaodd cynrychiolydd y CSC mai camgymeriad oedd hwn ar ei rhan hi wrth lunio’r adroddiad a chadarnhaodd fod Bro Morgannwg, yn ogystal â’r pedwar awdurdod arall, sef Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Dinas Caerdydd, Cyngor Merthyr Tudful a Chyngor Rhondda Cynon Taf i gyd yn rhan o’r Consortiwm.
Nododd Aelod fod y Bil Awtistiaeth yn cael ei adolygu gan Lywodraeth Cymru, a gofynnodd, pe bai’r Bil yn cael ei gymeradwyo, a fyddai hyn yn gwella coladu data, er enghraifft, cadarnhau faint o unigolion yng Nghymru sydd wedi cael diagnosis o’r cyflwr yn ogystal â rhoi data mwy cywir yngl?n â phobl ag ADY. Dywedodd hefyd y dylai data tebyg i hyn gael ei gymharu ar lefel genedlaethol rhwng awdurdodau lleol.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol SNAP Cymru fod y broses o gasglu data mewn meysydd megis ADY yn gadarn, er eu bod yn edrych drwy’r amser am ffyrdd o wella hyn ymhellach, ac y byddai’r gwaith hwn yn parhau o dan y Ddeddf newydd, gan gynnwys nid yn unig yn lleol ond hefyd yn genedlaethol.
Ychwanegodd Arweinydd Trawsnewid ADY o’r CSC fod yna drefniadau mwy caeth mewn ysgolion nag oedd yn bod o’r blaen. Er enghraifft, roedd hi’n awr yn fandadol i ysgolion gael Cydlynydd Anghenion Addysg Arbennig (CAAA), gyda’r holl athrawon hefyd yn derbyn hyfforddiant priodol er mwyn iddynt fedru cefnogi disgyblion ag ADY yn ddigonol.
Gofynnodd Aelod, gan ddilyn cwestiwn blaenorol, a oedd casglu data ynghylch pobl ag ADY yn ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol.
Dywedodd Arweinydd Trawsnewid ADY o’r CSC nad oedd. Fodd bynnag, roedd coladu data o’r fath yn cael ei wneud ac yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth dan y Ddeddf newydd.
Cyfeiriodd Aelod at y goblygiadau ariannol a’r cynigion cyllido, a gofynnodd i’r Gwahoddedigion a oedd hyn yn ddigonol, yn enwedig ar gyfer y gwaith parhaus dan y Ddeddf, o’i gyferbynnu â’r gwaith cychwynnol oedd ei angen.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd y byddai cyllido gwaith dan y Ddeddf newydd yn heriol, er y bwriedid edrych ar fwy o ffyrdd arloesol o gydweithio ar draws pob un o’r awdurdodau lleol sy’n ffurfio’r Consortia.
Nododd Aelod fod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1 o’r blaen wedi ystyried adroddiad ar gynigion ADY ym mis Medi 2017, ac nad oedd Aelodau Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2 wedi cael gweld y rhain. Credai ef fod rhai o’r argymhellion hyn (a gyflwynwyd yn eu tro i’r Cabinet), yn ymwneud â chyllido ADY yn y dyfodol. Gwyddai hefyd fod toriad o 2.4% wedi ei wneud i Anghenion Addysg Arbennig (AAA) fel rhan o gynigion cyllideb y flwyddyn hon ac felly roedd hi’n bwysig iawn gwneud yn fawr o’r cyllid grant oedd ar gael hyd yr eithaf.
Dywedodd Rheolwr Gr?p Cynhwysiant a Gwella Ysgolion wrth yr Aelodau, er na allai wneud sylwadau am yr uchod, fod cynnydd wedi bod yn y gefnogaeth o ran darparu cymorth i ddysgwyr ag ADY yn Ysgol Bryn Castell, Uned Gyfeirio Disgyblion y Bont, yn ogystal â chymorth ychwanegol a ddarperid i ddisgyblion oedd yn cael eu haddysgu yn y Cyfnod Sylfaen. Roedd tiwtora ychwanegol mewn llythrennedd a rhifedd hefyd yn cael ei ddarparu ar gyfer pobl ag ADY, ac roedd agor Canolfan Adnoddau arall yn cael ei gynnig.
Ychwanegodd y byddai hefyd fwy o gymorth mewn ysgolion prif lif ac ysgolion arbennig ar gyfer disgyblion ag ADY.
Dywedodd Cynrychiolydd Cofrestredig fod y rhan fwyaf o ysgolion yn cael anhawster o ran eu hadnoddau, a bod nifer y swyddi llywodraethwyr gwag yn rhai ysgolion yn dystiolaeth rannol i hyn. Er gwaethaf y cyfraniadau cynharach gan y Gwahoddedigion, roedd y rhan fwyaf o ysgolion yn cael trafferthion ariannol, yn enwedig ysgolion prif lif a chymorth i blant ag AAA neu ADY. Roedd ef o’r farn, yn wyneb y gostyngiadau yng nghyllidebau Ysgolion, yr oedd awdurdodau lleol wedi eu hwynebu yn y blynyddoedd diwethaf fel rhan o’r dirwasgiad ac a oedd yn parhau, fod angen i Lywodraeth Cymru gyllido’r newidiadau ADY yn llawn. At hynny dywedodd, er bod cymorth ychwanegol wedi cael ei ddarparu mewn ysgolion prif lif i ddisgyblion ADY, roedd yn dal i fod yn llawer llai na’r hyn oedd ei angen.
Cadarnhaodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywiad fod y Cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu i weithredu’r Bil ADY, ac y disgwylid y byddai hyn yn cael ei gefnogi’n ariannol gan Lywodraeth Cymru maes o law.
Gofynnodd Aelod a oedd yna broblem yn gysylltiedig â recriwtio staff addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cadarnhaodd Rheolwr Gr?p Cynhwysiant a Gwella Ysgolion fod yna anhawster i recriwtio staff a allai siarad Cymraeg i swyddi addysgu.
Gofynnodd y Cadeirydd ai problem oedd yn bod ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn unig oedd hon ynteu a oedd yn ymestyn i ardaloedd eraill.
Cadarnhaodd Rheolwr Gr?p Cynhwysiant a Gwella Ysgolion fod y broblem hon yn bodoli ledled Cymru, ond yn fwy felly yn Ne Cymru. Ychwanegodd fod hyn yn cael ei adolygu gyda golwg ar ddenu athrawon oedd yn gallu siarad Cymraeg, gan gynnwys recriwtio staff o’r fath sydd hefyd wedi cael profiad uniongyrchol o gynorthwyo pobl ag anghenion dysgu.
Teimlai Aelod fod darpariaethau’r Ddeddf newydd fel pe baent yn annog mwy o gyfryngu gyda golwg ar osgoi tribiwnlysoedd pryd bynnag yr oedd modd gan eu bod yn gostus i’r Awdurdod.
Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod yr Awdurdod yn ceisio darbwyllo yn erbyn cynnal tribiwnlysoedd, drwy geisio ateb anghenion person ifanc gyda chymorth asiantaethau sy’n bartneriaid yn gynnar yn y broses.
Diolchodd y Cadeirydd, ar ran yr Aelodau, i’r Gwahoddedigion, am fod yn bresennol ac ymateb i gwestiynau’r Aelodau, ac wedi hynny gadawsant y cyfarfod.
Casgliadau:
Argymhellion yr Aelodau:
Gwybodaeth bellach y gofynnwyd amdani
Gofynnodd yr Aelodau am eglurder ynghylch y cyfrifoldebau o dan y ddeddf o ran pwy sy’n gyfrifol am gwblhau asesiadau – beth yw cyfrifoldeb cyfreithiol y partneriaid sy’n cynnal yr asesiadau a pha hawliau cyfreithiol a dull craffu sydd gan yr awdurdod os byddant yn methu â chyflawni?
Dylai’r cynrychiolydd o Gonsortiwm Canol y De ddilyn hyn a rhoi adborth i’r Aelodau, gan y tybid mai camgymeriad clercio oedd hwn.
Dogfennau ategol: