Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Craffu adborth o gyfarfodydd blaenorol Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 3 ynghyd â rhestr o'r ymatebion, gan gynnwys y rhai nad oeddent eto wedi cael sylw.
Cymeradwyodd yr Aelodau'r adborth a gafwyd yn sgil yr eitem am Briffyrdd a ystyriwyd yn y cyfarfod ar 12 Mehefin 2018 ynghyd â'r adborth a gafwyd yn sgil yr eitem 'Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Di-blastig' a ystyriwyd yn y cyfarfod ar 23 Gorffennaf 2018.
Ystyriodd yr Aelodau'r adborth a gafwyd yn sgil yr eitem am Wasanaethau Gwastraff a ystyriwyd yn y cyfarfod ar 17 Medi 2018.
Cododd yr Aelodau bryderon ynghylch adborth yn cael ei golli a bod yr un eitem yn cael ei hystyried gan ddau Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc. Codwyd yr angen hefyd i weithredu ar argymhellion.
Awgrymodd Aelod y gellid ystyried hyn wrth i'r strwythur craffu gael ei adolygu.
Soniodd y Swyddog Craffu y byddai'r gyllideb yn cael ei hystyried yn y cyfarfod ym mis Rhagfyr ac y byddai'r broses Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn cael sylw yn y cyfarfod ym mis Ionawr 2019. Gofynnodd yr Aelodau i'r adroddiad ynghylch Trosglwyddo Asedau Cymunedol gynnwys diweddariad yngl?n â'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Craffu yn ei gyfarfod 12 mis yn ôl. Gofynnodd yr Aelodau hefyd sawl gwaith yr oedd y Gr?p Tasg a Gorffen wedi cwrdd a faint o Gynghorwyr oedd y rhan o'r gr?p.
Byddai Eiddo Gwag yn cael sylw yn y cyfarfod ym mis Chwefror 2019. Gofynnodd yr Aelodau am ddiweddariad yngl?n â'u hargymhellion. Gofynnwyd yn benodol a oedd Swyddog Eiddo Gwag dynodedig wedi'i benodi ac a wnaethpwyd y penodiad drwy'r Cydwasanaeth Rheoleiddio.
Gofynnodd yr Aelodau am ddiweddariad yngl?n â hyfforddiant Bridgemaps ac awgrymwyd y dylai pob Aelod gael yr hyfforddiant hwn.
Gofynnodd yr Aelodau am ddisgrifiad llawn o'r hyfforddiant pan gaiff ei hysbysebu, ynghyd â gwahoddiad i gymryd rhan yn yr hyfforddiant hwnnw os yw'n berthnasol, hyd yn oed os oedd yr hyfforddiant wedi'i fwriadu ar gyfer pwyllgor penodol.
Gofynnwyd a oedd cynrychiolaeth o blith yr Aelodau ar y gr?p a oedd yn ystyried Atgyfeiriadau gan Aelodau.
PENDERFYNIAD:
1. Cymeradwyodd y Pwyllgor yr adborth a gafwyd yng nghyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc a nodwyd yr ymatebion nad oeddent wedi dod i law eto.
2. Gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth yngl?n â'r adborth a grybwyllwyd uchod.
3. Dywedodd y Pwyllgor ba wybodaeth ychwanegol y dymunai ei gweld wrth ystyried yr eitemau a ddirprwywyd i gyfarfodydd yn y dyfodol.
Dogfennau ategol: