Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Cydweithio â Chynghorau Tref a Chymuned

Gwahoddedigion

 

Darren Mepham, Prif Weithredwr

Mark Shephard, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau

Kelly Watson, Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd

Guy Smith, Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau adroddiad a hysbysai'r Pwyllgor ynghylch canlyniad adolygiad cyfredol Llywodraeth Cymru o Gynghorau Tref a Chymuned a'i effaith ar y Cyngor. Amlinellai'r adroddiad y modd yr oedd y Cyngor yn elwa o'r cydweithio hwn hefyd, ynghyd â'r graddau yr oedd awdurdodau lleol eraill yn cydweithio â Chynghorau Tref a Chymuned.

 

Dywedodd y Cadeirydd yr estynnwyd gwahoddiad i Un Llais Cymru i'r cyfarfod ond na chafwyd ymateb ac nad oedd cynrychiolydd yn bresennol. Gofynnodd yr Aelodau a fyddai modd anfon llythyr at Un Llais Cymru yn eu hannog i fod yn bresennol pan fydd y mater yn cael sylw mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Dywedodd Aelod fod yr adroddiad yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio a'i fod hefyd yn crybwyll ansawdd y staff mewn Cynghorau Tref a Chymuned a'u gallu i gydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Nid oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn wastad yn rhoi digon o amser i Gynghorau Tref a Chymuned ymateb ac nid oedd yn briodol gofyn iddynt weithio i'r un lefel gan nad oedd ganddynt yr un nifer o staff na'r un capasiti â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd gwahaniaeth enfawr i'w gael o ran y gallu a'r awydd i gydweithio ac roedd yn gwbl hanfodol dod o hyd i gyfrwng cyfnewid a ffordd ymlaen a oedd yn addas i bawb. Trafododd y Pwyllgor y gwahaniaeth o ran sgiliau a medrau Cynghorwyr a Chlercod Cynghorau Tref a Chymuned yn y Fwrdeistref. Er mwyn deall y medrau hyn i gyd, awgrymodd yr Aelodau y dylid cynnal awdit sgiliau a gofynnwyd i'r pwnc gael ei gynnwys ar agenda Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned i'w drafod.

 

Cododd yr Aelodau bryderon ynghylch yr angen am bwynt cyswllt. Cyn-Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd oedd y prif bwynt cyswllt ac roedd cael gweithiwr penodedig i ddelio â materion yn osgoi dryswch wrth ddod o hyd i'r person cywir i ddelio ag ymholiadau. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio y cafwyd trefn anffurfiol yn y gorffennol lle byddai cyn-Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn gyfrifol am gyswllt â Chynghorau Tref a Chymuned. Ategodd fod hyn yn cael ei ystyried ar hyn o bryd. Trafodwyd swyddogaeth y Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol yng nghyd-destun cynnwys cyfrifoldebau sy'n ymwneud â chyswllt â Chynghorau Tref a Chymuned. Mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch ymestyn y swyddogaeth honno a gofynnodd sut y byddai'r baich gwaith ychwanegol posib yn effeithio ar ei allu i weithio'n effeithiol.

 

Nododd Aelod nad oedd yr adroddiad yn adlewyrchu'i phrofiad hi o gydweithio â Chynghorau Tref a Chymuned. Roedd rhagor o weithgareddau'n cael eu datganoli i Gynghorau Tref a Chymuned ond dim ond ychydig o staff oedd ar gael. Nid oedd rhai ohonynt yn cael tâl, nid oedd rhai wedi'u hyfforddi ac roedd gallu'r staff yn amrywio. Nid oedd gan rai yr awydd i gydweithio. Yn ei barn hi, atebolrwydd oedd y prif fater. Roedd perygl y gallai un person neu gr?p bychan ddylanwadu ar y gwaith i gyd.

 

Dywedodd Aelod yr hoffai wybod rhagor am y ffordd yr oedd Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned a chyfarfodydd y Clercod yn gweithredu. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod presenoldeb yng nghyfarfodydd Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned yn isel ar brydiau. Bwriad y Fforwm oedd delio â'r materion strategol mawrion yn hytrach na gyda materion mwy plwyfol eu natur.  

 

Dywedodd un Aelod fod yr amseru'n broblem. Roedd yn anodd cael gwybodaeth oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac roedd gwybodaeth wedi'i chynnwys yn yr adroddiad nad oedd wedi'i gweld o'r blaen, er ei bod hefyd yn aelod o'r Cyngor Tref. Rhaid oedd cyflymu'r broses. Fodd bynnag, gyda llai o staff a rhagor o Drosglwyddo Asedau Cymunedol yn digwydd, gallai hyn fod yn broblem. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau nad oedd y gwasanaeth yn gweithredu yn ôl ardaloedd daearyddol. Dywedodd nad oedd felly'n wastad yn hawdd ateb cwestiynau e.e., 'faint o arian sydd wedi'i wario ar wasanaeth penodol mewn ward neu ardal benodol?' Yn ogystal â chael Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol, rhaid oedd cael cymorth cyfreithiol, cyllidol a chymorth eiddo er mwyn delio â cheisiadau i Drosglwyddo Asedau Cymunedol. Er mwyn sicrhau digon o adnoddau ar gyfer hyn, rhaid oedd cael sicrwydd bod hwn yn fuddsoddiad gwerth chweil ac y gallai'r arbedion ariannol posib gyfiawnhau'r buddsoddiad.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac y gallai fod yn fecanwaith defnyddiol os oedd y Cynghorau Tref a Chymuned o ddifri am newid. Byddai hefyd yn caniatáu iddynt wneud cyfraniad gwerthfawr. Roedd yn bwysig ystyried sut i sicrhau bod llais bawb yn cael ei glywed mewn rhai meysydd a sut i weithio â Chlercod mewn ffordd wahanol.

 

Nododd Aelod fod llawer o sinigiaeth yng Nghyngor Tref Maesteg ynghylch cydweithio a'r canfyddiad oedd bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gwaredu â'i ddyletswyddau ac yn trosglwyddo costau i gyrff eraill.    Roedd gwneud rhywbeth yngl?n â'r meddylfryd sinigaidd hwn yn her.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod y sefyllfa ariannol yn gyrru'r agenda ac nad oeddent yn trosglwyddo popeth. Dywedodd fod enghreifftiau da o sut y gallai hyn weithio hefyd. Roedd yn gwybod am y ffordd gadarnhaol yr oedd rhai Cynghorau Tref a Chymuned yn ymateb i hyn.

 

Esboniodd Aelod fod rhai Cynghorau Tref a Chymuned wedi cael llythyron yn eu hysbysu y byddai'n rhaid i gyfleusterau gau pe na bai'r Cyngor Tref neu Gymuned hwnnw'n ysgwyddo cyfrifoldeb drostynt. Esboniodd pe na wyddai'r Cynghorau Tref a Chymuned am hyn pan osodwyd y praesept, ni allent eu hariannu. Byddai'n rhaid iddynt wybod beth fyddent yn ei ariannu cyn eu cyfarfod i drafod y gyllideb. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau nad oedd yr awdurdod wedi gallu gohebu â nhw cyn hynny gan mai dim ond pan osodwyd y gyllideb ym mis Chwefror y flwyddyn honno y gwnaethpwyd y penderfyniad. Cafwyd ymgynghoriad ynghylch y gyllideb pan drafodwyd y materion hyn, felly ni ddylai fod yn syndod llwyr. Gallai Cynghorau Tref a Chymuned felly ymbaratoi. Yn ogystal â hynny, roedd nifer o Aelodau'n gwisgo "dwy het", felly dylent fod yn ymwybodol o'r penderfyniadau posib. Deallai'r Pwyllgor y problemau a godai am fod y Cynghorau Tref a Chymuned yn gosod eu praesapt ar adeg wahanol i broses gosod cyllideb y Cyngor. Fodd bynnag, dywedodd fod angen i'r Cyngor amlinellu'r lleihad posib yn y gyllideb er mwyn i'r Cynghorau Tref a Chymuned gael rhagor o amser i ystyried cynigion i gymryd dros wasanaethau ac asedau'r Awdurdod Lleol yn y dyfodol.

 

Ategodd y Prif Weithredwr na allai'r Cyngor barhau i ddarparu gwasanaethau yn yr un modd a'i fod yn awyddus i Gynghorau Tref a Chymuned ymgymryd â swyddogaeth wahanol. Pe gallai'r Cynghorau Tref a Chymuned ddefnyddio cyllid yn fwy effeithiol, gan weithio â grwpiau lleol ar faterion lleol, gellid cyflawni rhagor gyda'r un cyllid.

 

Dywedodd Aelod fod rhai Cynghorau Tref a Chymuned yn fwy tryloyw nag eraill ac y dylai fod parodrwydd i gydweithio cyn trosglwyddo rhagor o wasanaethau a phwerau. Esboniodd y Prif Weithredwr fod maen prawf i'w chael a oedd yn ymwneud â chynnal asesiadau. Bwriad y Cyngor oedd sicrhau bod Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn digwydd mewn modd cynaliadwy ac yn y ffordd gywir bob tro. Ni fyddai'n trosglwyddo ased pe na bai hyder yn y modd y byddai'r ased hwnnw'n cael ei redeg yn y dyfodol. Ategwyd bod peth ymddiriedaeth eisoes yn bod.

 

Soniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau am ymgynghoriad ynghylch y bwriad i sicrhau bod y Cyngor yn darparu caeau chwarae, caeau chwarae pob tywydd a pharciau a phafiliynau yn y dyfodol mewn ffordd sy'n fwy cynaliadwy yn ariannol. Cydnabu y byddai rhai o'r gwasanaethau yn methu pe caent eu trosglwyddo i Gynghorau Tref a Chymuned.

 

Cyfeiriodd Aelod at ganfyddiadau'r Panel Adolygu Annibynnol a gynghorai yn erbyn cael aelodau deuol. Yn ei barn hi, roedd gwasanaethu ar y ddau gyngor yn fantais enfawr am fod gan yr Aelodau ddealltwriaeth dda o'r darlun cyflawn. O ran canfyddiadau ac argymhellion y Panel Adolygu Annibynnol wrth iddo ystyried swyddogaeth y Cynghorau Tref a Chymuned yn y dyfodol, argymhellodd y Pwyllgor y dylid cyflwyno ymateb fel Cyngor cyfan a oedd yn cynnwys y sylwadau hyn:

 

·         Cododd y Pwyllgor bryderon ynghylch yr argymhelliad i beidio â chael Aelodau'n gwisgo "dwy het". Anghytunai'r Pwyllgor a phwysleisiodd bwysigrwydd cydweithio â Chynghorau Tref a Chymuned i rannu arfer orau ac i gynnal perthynas adeiladol rhwng y ddau Gyngor;

·         Wrth drafod datganoli gwasanaethau'r Cyngor a'u cyllidebau cysylltiedig i'r Cynghorau Tref a Chymuned, cododd yr Aelodau gwestiynau yngl?n â'u gallu i ddelio â chyllidebau'r Cyngor Bwrdeistref Sirol. Mynegwyd pryder hefyd am y diffyg atebolrwydd ymhlith Cynghorau Tref a Chymuned.

Pwysleisiodd y Pwyllgor yr angen i'w gwneud yn haws i Gynghorau Tref a Chymuned, y sector gwirfoddol ac unigolion ddarparu gwasanaethau ar ran y Cyngor. Argymhellodd yr Aelodau y dylid dirprwyo p?er i'r Swyddog Cyswllt gynnal asesiad risg ar geisiadau i ddarparu cymorth ac i roi caniatâd addas.

 

Soniodd Aelod am ffederaleiddio Cynghorau Tref a Chymuned ac awgrymodd y gellid treialu peilot i wybod beth oedd y peryglon a'r cyfleoedd posib. Argymhellodd y Pwyllgor y dylid paratoi peilot i dreialu 'Pen-y-bont ar Ogwr gyfunol'.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu hadroddiad ac am eu cyflwyniad.

    

Cydweithio â Chynghorau Tref a Chymuned

Gofynnodd yr Aelodau a fyddai modd anfon llythyr at Un Llais Cymru am nad oedd neb yn bresennol i gynrychioli'r corff a chyfrannu i'r sgwrs ynghylch y ffordd orau o hwyluso cydweithio rhwng yr holl Gynghorau. Pwysleisiodd y Pwyllgor yr angen i annog pobl i fod yn bresennol yn y dyfodol.

 

Deallai'r Pwyllgor y problemau a godai am fod y Cynghorau Tref a Chymuned yn gosod eu praesapt ar adeg wahanol i broses gosod cyllideb y Cyngor. Fodd bynnag, dywedodd fod angen i'r Cyngor amlinellu'r lleihad posib yn y gyllideb er mwyn i'r Cynghorau Tref a Chymuned gael rhagor o amser i ystyried cynigion i gymryd dros wasanaethau ac asedau'r Awdurdod Lleol yn y dyfodol. 

 

Argymhellodd y Pwyllgor y dylid cyflwyno'r adroddiad 'Cydweithio â Chynghorau Tref a Chymuned', ynghyd â'r sylwadau a'r argymhellion a wnaed yn y cyfarfod hwn, i Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned er mwyn cychwyn trafodaeth a dod i wybod pa mor awyddus y byddai'r cynghorau llai i gydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Trafododd y Pwyllgor y gwahaniaeth o ran sgiliau a medrau Cynghorwyr a Chlercod Cynghorau Tref a Chymuned yn y Fwrdeistref. Er mwyn deall yr holl fedrau hyn, argymhellodd yr Aelodau y dylid cynnal awdit sgiliau a gofynnwyd i'r pwnc gael ei gynnwys ar agenda Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned i'w drafod.

 

I gryfhau'r berthynas waith rhwng Cynghorau Tref a Chymuned a Chyngor Pen-y-bont, argymhellodd yr Aelodau y dylid datblygu protocol sy'n rhoi gwybodaeth am y swyddogion cyswllt i ddatrys materion cyfreithiol ac, yn yr un modd, i ddelio ag ymholiadau am wasanaethau. Dylai'r protocol hefyd gynnwys amserlen ymateb. 

 

Mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch ymestyn swyddogaeth y Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol i gynnwys cyfrifoldebau sy'n ymwneud â chyswllt â Chynghorau Tref a Chymuned a gofynnodd sut y byddai'r baich gwaith ychwanegol posib yn effeithio ar ei allu i weithio'n effeithiol.

 

O ran canfyddiadau ac argymhellion y Panel Adolygu Annibynnol wrth iddo ystyried swyddogaeth y Cynghorau Tref a Chymuned yn y dyfodol, argymhellodd y Pwyllgor y dylid cyflwyno ymateb fel Cyngor cyfan a oedd yn cynnwys y sylwadau hyn:

·         Cododd y Pwyllgor bryderon ynghylch yr argymhelliad i beidio â chael Aelodau'n gwisgo "dwy het". Anghytunai'r Pwyllgor a phwysleisiodd bwysigrwydd cydweithio â Chynghorau Tref a Chymuned i rannu arfer orau ac i gynnal perthynas adeiladol rhwng y ddau Gyngor;

·         Wrth drafod datganoli gwasanaethau'r Cyngor a'u cyllidebau cysylltiedig i'r Cynghorau Tref a Chymuned, cododd yr Aelodau gwestiynau yngl?n â'u gallu i ddelio â chyllidebau'r Cyngor Bwrdeistref Sirol. Mynegwyd pryder hefyd am y diffyg atebolrwydd ymhlith Cynghorau Tref a Chymuned.

Er mwyn helpu i annog cydweithio rhwng Cynghorau Tref a Chymuned, ac er mwyn sicrhau eu bod yn deall y buddion posib o uno â Chynghorau Tref a Chymuned eraill, argymhellodd y Pwyllgor y dylid paratoi peilot i dreialu 'Pen-y-bont gyfunol'.

 

Pwysleisiodd y Pwyllgor yr angen i'w gwneud yn haws i Gynghorau Tref a Chymuned, y sector gwirfoddol ac unigolion ddarparu gwasanaethau ar ran y Cyngor. Argymhellodd yr Aelodau y dylid dirprwyo p?er i'r Swyddog Cyswllt gynnal asesiad risg ar geisiadau i ddarparu cymorth ac i roi caniatâd addas.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Gofynnodd yr Aelodau am y rheolau a'r rheoliadau sy'n ymwneud â chomisiynu proses uno ffurfiol.

 

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z