Agenda item

Cynllun Adsefydlu Pobl sy'n Agored i Niwed

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch-swyddog Strategaeth - Tai ac Adfywio Cymunedol adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth gan y Cabinet i ailsefydlu pum teulu arall o ffoaduriaid o dan y Cynllun Adsefydlu Pobl sy'n Agored i Niwed neu'r Cynllun Adsefydlu Plant sy'n Agored i Niwed. Yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Cabinet, ceisiodd yr adroddiad hepgoriad o dan baragraff 3.2.9.2 o Reolau Gweithdrefnol Contract y Cyngor rhag y gofyniad i gael dyfynbrisiau neu dendrau trwy gystadleuaeth agored o dan y Cynllun Dirprwyo er mwyn amrywio'r contract presennol â Chymdeithas Tai Hafod ar gyfer y pum uned ychwanegol. 

 

Eglurodd yr Uwch-swyddog Strategaeth - Tai ac Adfywio Cymunedol fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ailsefydlu 20,000 o ffoaduriaid o Syria erbyn 2020 a oedd yn ffoi o Syria o ganlyniad i'r rhyfel cartref.  Eglurodd ei bod yn debygol y byddai Cymru yn derbyn 1,000 i 1,500 o ffoaduriaid dros y pum mlynedd nesaf fel rhan o raglen y Cynllun Adsefydlu Pobl sy'n Agored i Niwed. Fodd bynnag, ategodd fod cymryd rhan yn wirfoddol.

Eglurodd yr Uwch-swyddog Strategaeth - Tai ac Adfywio Cymunedol fod unigolion yn derbyn statws ffoaduriaid gan roi caniatâd iddynt aros am bum mlynedd gyda mynediad llawn i gyflogaeth ac arian cyhoeddus.  Pe na baent wedi dychwelyd i Syria ar ôl pum mlynedd, gallent fod yn gymwys i wneud cais i aros yn y DU. Erbyn diwedd mis Mawrth 2018, dywedodd fod 10,500 o ffoaduriaid yn y DU gyda 645 ohonyn nhw yng Nghymru. 

 

Eglurodd yr Uwch-swyddog Strategaeth - Tai ac Adfywio Cymunedol fod y Cabinet wedi rhoi ei gymeradwyaeth ym mis Gorffennaf 2016 ac wedi amlinellu ymrwymiad Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Tai Hafod. Eglurodd i'r teulu cyntaf o Syria gyrraedd yn y fwrdeistref sirol ar 2 Tachwedd 2016. Mae'r chwe theulu nawr wedi ymgartrefu, a chyrhaeddodd y teulu olaf ar 12 Medi 2017. Dywedodd i'r teuluoedd ymgartrefu ar draws y fwrdeistref sirol a bod ganddynt fynediad da i ysgolion ac amwynderau lleol.  Cafodd yr holl deuluoedd groeso cynnes gan aelodau'r gymuned ac eglwysi lleol. 

 

Dywedodd yr Uwch-swyddog Strategaeth - Tai ac Adfywio Cymunedol wrth y Cabinet fod Cydgadeirydd Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyd-lefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Gydraddoldeb, Diwygio Lles a Gwrthdlodi wedi ysgrifennu at yr Awdurdodau Lleol yn gofyn am eu hymrwymiad i’r broses adsefydlu fynd rhagddi ym mis Mawrth 2018. Mewn ymateb i'r llythyr hwn, adolygwyd blynyddoedd dilynol y rhaglen a chynigiwyd bod yr Awdurdod yn adsefydlu pum teulu arall yn ystod gweddill y rhaglen yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Cabinet. I sicrhau cysondeb gwasanaeth, byddai hepgoriad i'r Rheolau Gweithdrefnol Contract yn ofynnol.  

 

Eglurodd yr Uwch-swyddog Strategaeth - Tai ac Adfywio Cymunedol fod arian y flwyddyn gyntaf ar gael gan y Gyllideb Cymorth Datblygu Dramor at gostau uniongyrchol yr awdurdod lleol a bod cymorth ychwanegol ar gyfer anghenion addysgol a meddygol.  Byddai arian blwyddyn dau i bump yn cael ei ddyrannu ar sail tariff graddedig dros bedair blynedd. 

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol fod y rhain yn achosion cymhleth yn cynnwys ffoaduriaid rhyfel yn ffoi o Syria.  O ran rhifau, nid oedd 34 allan o fwy na 10,000 yn nifer sylweddol ond yn arwydd bod yr awdurdod yn chwarae rhan ar adeg pan oedd toriadau sylweddol.   

 

Cytunodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio â hyn gan ategu bod y Cabinet yn falch fod Pen-y-bont ar Ogwr ynghlwm â hyn ac yn cydnabod nad oedd yn hinsawdd ddymunol o ran y cyfryngau cymdeithasol a bod angen ymdrin â’r sefyllfa’n ofalus.

 

Dywedodd yr Arweinydd ein bod yn ffodus nad oes un ohonom ni wedi profi trawma o'r fath. Roedd yn falch o'r cymorth a roddwyd gan y gymuned a gofynnodd i'w ddiolchiadau gael eu hestyn i'r ysgolion, eglwysi a'r cymunedau lleol. Diolchodd hefyd i'r Uwch-swyddog Strategaeth - Tai ac Adfywio Cymunedol, ei gydweithwyr a Hafod.

 

PENDERFYNWYD:          Bod y Cabinet wedi:

 

(1)      Yn cymeradwyo ailsefydlu pum teulu ychwanegol erbyn 2020 gyda hyblygrwydd i ailsefydlu teuluoedd naill ai o’r Cynllun Adsefydlu Pobl sy'n Agored i Niwed neu’r Cynllun Adsefydlu Plant sy'n Agored i Niwed, yn dibynnu ar yr angen mwyaf brys am ailsefydlu ar y pryd

(2)        Yn cytuno i geisio hepgoriad o dan baragraff 3.2.9.2 o Reolau Gweithdrefnol Contract y Cyngor rhag y gofyniad i gael dyfynbrisiau neu dendrau trwy gystadleuaeth agored, o dan y Cynllun Dirprwyo er mwyn amrywio'r contract presennol â Chymdeithas Tai Hafod ar gyfer y pum uned ychwanegol.

Dogfennau ategol: