Agenda item

Estyniad prosiect ar y rhaglenni Ysbrydoli i Gyflawni ac Ysbrydoli i Weithio, a ariannwyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i estyn y prosiectau Ysbrydoli i Gyflawni ac Ysbrydoli i Weithio a arweinir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop o dan Flaenoriaeth 3 (Cyflogaeth a Chyrhaeddiad Pobl Ifanc). Gofynnodd yr adroddiad hefyd i'r Cabinet ddirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn amodol ar gymeradwyaeth Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i ymrwymo i’r llythyrau ariannu angenrheidiol gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a'r cytundebau cysylltiedig gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a buddiolwyr ar y cyd eraill ar ran y Cyngor.  

 

Darparodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd gefndir i'r rhaglenni gwaith ac esboniodd y byddai’r broses o gyflwyno’r ddau brosiect yn dod i ben yn ôl y bwriad ar ddiwedd Rhagfyr 2018, a byddai’r rhaglenni’n cau yn gyfan gwbl erbyn diwedd mis Mawrth 2019. Byddai’r estyniad arfaethedig ar gyfer y ddau brosiect yn gweld y gwasanaeth yn rhedeg tan fis Rhagfyr 2022 gan barhau i gefnogi pobl ifanc nad oeddent mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), neu y gallent berthyn i’r categori hwnnw o bosibl. Roedd y gwaith hwn yn ganolog i alluogi'r awdurdod lleol i gyflawni’r gofynion a osodwyd yn Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid Llywodraeth Cymru.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd yr amcanion ar gyfer pob rhaglen, crynodeb o’r bobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr, canlyniadau'r prosiect hyd yn hyn a'r cynigion ar gyfer proffil staff. Esboniodd y byddai’n rhaid dod o hyd i arian cyfatebol addas am gyfnod yr estyniad arfaethedig, un trwy gyfraniad gan ysgolion uwchradd yn defnyddio canran osodedig o'u Grant Gwella Addysg, ac un trwy Grant Cymorth Ieuenctid Llywodraeth Cymru. Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd y risg i'r awdurdod y gallai ffrydiau arian cyfatebol leihau neu beidio â bod ar gael mewn blynyddoedd i ddod a phe bai hyn yn digwydd, yr opsiwn i ddod o hyd i arian amgen neu i dynnu'n ôl o'r prosiect gyda'r risg o adfachu'r grant.

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol fod yr adroddiad yn gadarnhaol iawn a nododd  nifer y bobl yr oedd yr awdurdod wedi gweithio gyda nhw a sut roedd y lefel wedi lleihau. Dywedodd fod hwn yn gr?p pwysig i weithio gydag ef ac yn gyfle i sicrhau llwyddiant ar gyfer y dyfodol, ac roedd yn cefnogi'r cynigion.

 

Cefnogodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio yr argymhellion a dywedodd fod ganddo astudiaethau achos ar gyfer nifer o'r rheini a oedd wedi cael budd o’r rhaglenni.     

 

Dywedodd yr Arweinydd fod hyn yn newyddion gwych a'i bod yn bwysig buddsoddi mewn pobl ifanc. Roedd y tabl yn dweud cyfrolau a dangosodd leihad o dros 50% ar draws yr awdurdod lleol yn nifer y myfyrwyr blwyddyn 11 sy’n gadael ysgol a oedd yn perthyn i’r categori NEET ar ôl gadael ysgol yn y flwyddyn academaidd gyntaf y daeth Ysbrydoli i Gyflawni yn weithredol. Gofynnodd i roi ei ddiolch i'r swyddogion.  

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cabinet:

 

(1)         Yn awdurdodi'r estyniad arfaethedig ar gyfer y prosiectau Ysbrydoli i Gyflawni ac Ysbrydoli i Weithio.

Yn dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol  - Addysg a Chymorth i Deuluoedd, yn amodol ar gymeradwyaeth y Swyddog S151 a'r Swyddog Monitro, i ymrwymo i’r llythyrau ariannu angenrheidiol gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a’r cytundebau cysylltiedig gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a buddiolwyr ar y cyd eraill ar ran y Cyngor.     

Dogfennau ategol: