Agenda item

I dderbyn cyhoeddiadau oddi wrth:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

(iv) Swyddog Monitro

 

 

Cofnodion:

Y Maer

 

Dywedodd y Maer fod angen llongyfarch Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Thîm Rhyddhau Pen-y-bont ar Ogwr. Llwyddodd y tîm yn ddiweddar i gadw'r teitl fel y tîm gorau yn y DU am y chweched tro. Enillodd y tîm yn wyneb cystadleuaeth gref gan dimau ar draws y wlad mewn Her ym Mae Caerdydd a gynhaliwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.  Diolchodd yn fawr i bawb a gymerodd ran am eu hymroddiad a'u gwaith caled parhaus.

 

Bu'r cyfnod ers cyfarfod diwethaf y Cyngor yn gyfnod prysur iddo, ac roedd Judy ac yntau wedi bod yn bresennol mewn 28 o ddigwyddiadau swyddogol. Bu'r digwyddiadau'n amrywiol, yn wahanol ac yn bleserus iawn. Cyfeiriodd yn arbennig at:

 

  • Ben-blwydd Mrs Catherine Powell yn 100 yng nghartref gofal preswyl Oakland ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Nid yw ond newydd adael ei chartref ym Mhen-prysg, Pencoed.
  • Aethom i 60fed penblwydd priodas Mr a Mrs Lewis o Nantyffyllon.
  • Cafwyd presenoldeb da o blith yr Aelodau pan agorwyd Ysgol Brynmenyn gan y Prif Weinidog Carwyn Jones. Dyma'r pumed ysgol newydd i gael ei hagor mewn pum mlynedd, ac mae'n dangos ymrwymiad parhaus yr awdurdod i ddarparu addysg o'r safon uchaf.
  • Ar ôl cyfarfod diwethaf y Cyngor, cawsom y pleser o godi lluman yr RAF i ddathlu 100 mlynedd ers ei ffurfio. Hoffem ddiolch i bawb a oedd yn bresennol i'n helpu i ddathlu'r garreg filltir bwysig hon.
  • Aethom i fore coffi Macmillan KPC a chinio Elusennol Clwb y Rotari er budd apêl Closer to Home Tenovus, a gododd dros £7,000 i'r achos ardderchog hwn.
  • Roedd y Seminar Rhyng-ffydd a'r cinio yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, yn noson ragorol, ac yn gyfle gwych i gwrdd â phobl o bob cefndir a ffydd.
  • Roedd gwobrau blynyddol Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr a gynhaliwyd yng Nghoed-y-Mwstwr yn uchafbwynt arall a byddaf yn ymweld â'r holl enillwyr i'w llongyfarch wyneb yn wyneb, i gwrdd â'u staff ac i weld y gwaith y maent yn ei wneud.
  • Cafwyd presenoldeb da yng Ngwasanaeth Dinesig y Maer, a diolchodd i'r holl swyddogion a gymerodd ran am eu gwaith caled er mwyn sicrhau bod y digwyddiad yn llwyddiant.
  • Llongyfarchiadau i siop Ymchwil Canser Pen-y-bont ar Ogwr am fod ar agor ers 25ain mlynedd. Dros y cyfnod hwnnw, mae'r siop a'i chriw o wirfoddolwyr ymroddedig wedi codi dros £1.8 miliwn o bunnoedd.
  • Roedd hi'n anrhydedd cael gwahoddiad i gyflwyno Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) i Mr John Berry i gydnabod y gwaith y mae wedi'i gyflawni ar hyd ei oes i'r YMCA.  Pleser o'r mwyaf hefyd oedd gwahodd Mr Roger Hudd i'r swyddfeydd dinesig i dderbyn ei BEM am ei holl waith caled ar hyd y blynyddoedd er budd elusennau amrywiol.

 

I gloi, atgoffodd y Maer yr holl ddynion o blith y Cynghorwyr y byddai llun yn cael ei dynnu i gefnogi Ymgyrch y Rhuban Gwyn ar ôl y cyfarfod heddiw. Dylai'r Aelodau fod wedi derbyn e-bost ynghylch hyn eisoes oddi wrth y Cynghorydd David White, sef ein Hyrwyddwr Rhuban Gwyn, a byddai'n braf pe bai cynifer ag sy'n bosibl o'r dynion sy'n Gynghorwyr yn gallu cymryd rhan, er mwyn dangos ein cefnogaeth a'n hymrwymiad tuag at yr ymgyrch bwysig hon. 

 

Y Dirprwy Arweinydd

 

Gobeithiai'r Dirprwy Arweinydd fod y gweithdy a gynhaliwyd cyn cyfarfod y Cyngor wedi bod yn fuddiol ac yn addysgiadol i'r Aelodau, ac y byddai'r rhai nad oeddent wedi gallu dod i'r gweithdy yn gallu bod yn bresennol pan fyddai'r sesiwn yn cael ei hailadrodd ar yr un pwnc ar ôl cyfarfod y Cyngor.

 

Aeth ein hymgynghoriad ar y gyllideb heibio'r marc hanner ffordd yn ddiweddar, ac mae'n parhau i ddenu ymateb cryf, ond gofynnodd i'r holl Aelodau barhau i wneud pob ymdrech i annog eu hetholwyr i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ac i ddweud eu dweud.

 

Yr oedd yn hyderus y byddai'r Aelodau wedi gweld adroddiadau diweddar yn y cyfryngau ynghylch y gyllideb sydd ar ddod o fewn y Cyngor, a rybuddiai fod toriadau sylweddol i wasanaethau a chynnydd yn y dreth Gyngor bellach yn anochel.

 

Yn anffodus, yn dilyn dyraniad hynod siomedig, nid gor-ddweud yw hyn. Byddai'r Cyngor yn derbyn llai o arian yn sgil pwysau cynyddol

 

Bydd y cynnydd yng nghyflogau athrawon sy'n cael ei negodi ar raddfa genedlaethol yn cynyddu cyfanswm y diffyg yng nghyllideb y Cyngor eleni i fwy na £12 miliwn. Er bod Llywodraeth Cymru wedi nodi y byddai'n darparu cyllid ychwanegol er mwyn helpu i ysgwyddo'r pwysau ariannol ychwanegol sy'n gysylltiedig â hyn, nid oedd unrhyw awgrym eto a fyddai'r arian yn ddigon i dalu'r gost yn llawn, neu a fyddai ond yn cyfrannu'n rhannol at y gost.

 

Ni fyddai cynnydd i'r dreth gyngor o oddeutu 5 y cant y flwyddyn nesaf yn ddigon  i dalu traean hyd yn oed o'r diffyg sydd o flaen yr Awdurdod.

 

Nid oedd CBSPO bellach mewn sefyllfa i allu diogelu gwasanaethau a ystyrir gan lawer yn hanfodol, felly byddai toriadau sylweddol yn anochel o hyn allan.

 

Mae bron i dri chwarter y gyllideb yn mynd tuag at Ysgolion a Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol, ond mae'r Cyngor wedi cael ei orfodi i sefyllfa lle na all wneud unrhyw addewidion.

 

Y gwir amdani oedd fod y cynnydd yr oedd ar awdurdodau lleol ei angen heb fod yn ddigon i dalu costau sylfaenol. Yr oedd felly'n apelio ar yr holl Gynghorwyr, yn awr yn fwy nag erioed, i gydweithio.

 

Roedd yn rhaid i'r holl Aelodau fod yn realistig ynghylch y sefyllfa, a derbyn y byddai'n rhaid gostwng nifer o wasanaethau pwysig neu eu tynnu'n ôl yn llwyr hyd yn oed. Ar yr un pryd, mae'n rhaid i'r Llywodraeth ganolog a Llywodraeth Cymru hefyd dderbyn na all y sefyllfa hon barhau am byth.

 

Mae angen ystyried cynifer o safbwyntiau ag sy'n bosibl, felly gofynnodd i'r Cynghorwyr annog eu hetholwyr i gwblhau'r ymgynghoriad ar y gyllideb.

 

Yr oedd yr ymgynghoriad ar gael ar wefan y Cyngor, ar ffurf copi caled ac mewn amrywiaeth o fformatau amgen, gan gynnwys dogfen hawdd ei darllen a dogfen wedi'i llunio'n arbennig i breswylwyr iau.

 

Yn rhan o'r ymgynghoriad, mae dadl yn cael ei threfnu ar y cyfryngau cymdeithasol ar 7 Tachwedd er mwyn helpu i annog cynifer o bobl ag sy'n bosibl i gymryd rhan cyn dirwyn y broses i ben ar gyfer y cam dadansoddi.

 

Ar ôl eu llenwi, y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd yr holl arolygon ymgynghori yw 18 Tachwedd 2018. Gorffennodd drwy ddweud y byddai angen gwneud penderfyniadau anodd iawn ar ôl hynny.

 

Yr Aelod Cabinet - Cymunedau

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau fod storm fawr gyntaf y tymor wedi pasio, a bod gweithwyr cyngor wedi bod yn ei chanol hi unwaith eto wrth i staff ymroddgar sicrhau bod popeth yn parhau i redeg yn llyfn.

 

Roedd gylïau yn cael eu jetio yn rheolaidd er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw rwystrau ynddynt, ac ymatebodd ein harolygwyr priffyrdd, ein goruchwylwyr a'n timau draenio i sawl digwyddiad, gan ddatrys nifer o broblemau er mwyn atal y rheiny rhag datblygu'n broblem fwy.

 

Roedd y Cyngor wedi dosbarthu nifer fawr o sachau tywod, wedi ymateb i adroddiadau o lifogydd lleol ac wedi symud amryw o goed a oedd wedi disgyn er mwyn cadw ffyrdd yn ddiogel a'r fwrdeistref sirol yn symud.

 

Roedd synwyryddion llifogydd yn ein hysbysu bod lefelau'r d?r yn codi, yn enwedig yn Heol Faen, Greenacre a Stryd Wyndham. Fel o'r blaen, achoswyd hyn gan law trwm iawn, ond hefyd gan falurion a sbwriel a oedd wedi'i dipio'n anghyfreithlon ac a olchodd i lawr yr afonydd gan greu rhwystr mewn draeniau a cheuffosydd.

 

Fel y gallai'r Aelodau ei ddychmygu, gwaith anodd ac annifyr yn yr oerfel oedd hwn, ond roedd ein staff bob amser ar gael i ymateb a helpu.

 

Yr oedd yn sicr y byddai'r Aelodau am gydnabod eu hymdrechion, a diolch i bawb a gyfrannodd at gadw ein cymunedau'n ddiogel.

 

Rydym wedi derbyn dros £1.7 miliwn gan Lywodraeth Cymru i ariannu cynlluniau Teithio Egnïol pellach. Pwrpas y cynlluniau hyn yw ei gwneud hi'n haws i breswylwyr adael eu ceir gartref wrth deithio'n lleol, a bydd yr arian yn cael ei wario ar amryw o gynlluniau a gwelliannau.

 

Bydd y buddsoddiad unigol mwyaf o £500,000 yn cwblhau'r ddolen gyswllt goll rhwng Llangrallo ac Ysgol Gyfun Pencoed, drwy greu llwybr oddi ar y ffordd i gerddwyr a beicwyr ar Heol Llangrallo.

 

Porthcawl sy'n elwa ar yr ail fuddsoddiad mwyaf, sef £450,000, drwy ymestyn y llwybr teithio egnïol ar hyd Promenâd y Dwyrain o Draeth Coney er mwyn iddo barhau at Ysgol Gynradd y Drenewydd yn Notais ar hyd Heol Newydd.

 

Roedd gwaith arall wedi'i gynnwys yn rhan o'r cyllid, a byddwn hefyd yn ei fuddsoddi yng nghostau dylunio a dichonadwyedd yr wyth cynllun Teithio Egnïol nesaf sydd yn yr arfaeth.

 

Mae'n cymryd amser, egni ac arian i sefydlu gwelliannau Teithio Egnïol, ac yr oedd yn falch o weld y modd y mae rhwydwaith eang lleol o lwybrau beicio a cherdded yn dod ynghyd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Yr Aelod Cabinet - Y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Cafodd gwasanaethau gwarchod a diogelu ein preswylwyr mwyaf bregus hwb sylweddol yn ddiweddar wedi i'r Aelod Cabinet uchod gyhoeddi lansiad swyddogol Canolfan Diogelu Aml-asiantaeth Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Daeth y gwasanaeth integredig newydd, a elwir hefyd yn MASH, yn weithredol ym mis Medi. Dyma'r drydedd ganolfan o'i math yng Nghymru.

 

Mae MASH wedi'i lleoli yn swyddfeydd Ravens Court ac yn dod â thros 80 o weithwyr proffesiynol ynghyd, gan gynnwys swyddogion heddlu, gweithwyr cymdeithasol, swyddogion lles addysg, nyrsys swyddogion prawf a mwy.

 

Mae'n ymdrech bartneriaethol wirioneddol a'r nod yw ei gwneud hi'n haws rhannu gwybodaeth yn fwy effeithlon fel bo modd cynnal asesiadau cynt, gan sicrhau drwy hynny y gall pobl fregus dderbyn y cymorth sydd ei angen arnynt.

 

Dyma ddatblygiad hynod arwyddocaol sy'n dangos sut rydym yn canfod ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau hanfodol, ac mae'n ychwanegiad i'w groesawu i drefniadau diogelu presennol y fwrdeistref sirol.

 

Efallai y bydd yr Aelodau hefyd wedi sylwi y bu hi'n Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol yn ddiweddar. O'n safbwynt ni yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae pob wythnos yn wythnos mabwysiadu a maethu. Fel y gwyddoch, mae gennym staff ymroddedig sy'n gweithio i recriwtio mwy o bobl a all gynnig cartref i blant bregus.

 

Mae ein hymgyrchoedd 'nyth wag' a 'phontio'r bwlch' a gynhaliwyd yn ddiweddar, yn targedu aelwydydd lle gallai'r plant fod wedi tyfu i fyny a symud i ffwrdd, ac rydym yn chwilio am bobl dros 21 oed, sy'n ffit ac yn ddigon iach i ofalu am blant, a chanddynt ystafell wely sbâr ac sy'n gallu cynnig cartref sefydlog i blentyn lleol.

 

Os hoffai unrhyw un gael rhagor o wybodaeth, gellir ymweld â gwefan Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr, neu ffonio'r tîm maethu ar 642674.

 

Mae CBSPO wedi ennill Gwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru am ei raglen i weithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso, sef BAFTAs y byd gofal cymdeithasol.

 

Enillodd yr awdurdod y wobr gyntaf yn y categori 'Datblygu gweithlu hyderus a chynaliadwy' yn y seremoni wobrwyo anrhydeddus a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas Caerdydd.

 

Roedd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, yn falch dros ben o gael cydnabyddiaeth am y ffordd ddychmygus y mae ein rhaglen yn helpu gweithwyr cymdeithasol newydd i gael y cychwyn gorau posib i'w gyrfa.

 

Bydd gweithwyr cymdeithasol newydd yn cael cefnogaeth ac yn cael eu haddysgu a'u mentora drwy gymysgedd o weithdai mewnol a digwyddiadau hyfforddi gyda siaradwyr allanol, a hefyd drwy sesiynau mentora unigol a gr?p.

 

Gorffennodd drwy ddweud mai pwrpas yr 'Acolâdau' deuflynyddol, a drefnir gan Gofal Cymdeithasol Cymru gyda chefnogaeth partneriaid a noddwyr yw gwobrwyo arfer rhagorol ym maes gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant.

 

Yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol ei bod hi'n wych gweld bod y datblygwyr Lovell yn creu 48 o gartrefi newydd fforddiadwy ynni-effeithlon o ansawdd uchel i bobl leol ar Heol Llangrallo ar ôl cael eu dewis gan Tai Hafod.

 

Datblygwyd y cynllun dylunio ac adeiladu gwerth £5.4 miliwn mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a bydd yn sicrhau cartrefi rhent cymdeithasol newydd y ceir angen mawr amdanynt.

 

Bydd y datblygiad newydd yn creu cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth sylweddol i bobl leol, gan gynnwys 3 prentisiaeth, 6 swydd, 7 hyfforddeiaeth taledig a thros 150 o oriau o leoliadau profiad gwaith.

 

Bydd y tai yn cael eu cwblhau fesul cam, a bwriedir i'r tai olaf fod yn barod i fyw ynddynt ym mis  Mai 2019.

 

Manteisiodd ar y cyfle hefyd i atgoffa'r aelodau mai Mis Hanes Pobl Dduon yw mis Hydref, a gofynnodd i'r aelodau helpu i hyrwyddo digwyddiad Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru.

 

Roedd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 30 Hydref yng Ngholeg Pen-y-bont, ac roedd wedi'i anelu at Pobl Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Y gobaith oedd cael dealltwriaeth well o'u profiadau o'r gwasanaeth iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol.

 

Pe bai'r Aelodau yn gwybod am unrhyw un a fyddai'n awyddus i fod yn bresennol, gofynnodd iddynt gysylltu â Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb y Cyngor am fwy o fanylion.

 

Yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

 

Roedd yr Aelod Cabinet uchod yn dymuno llongyfarch Ysgol Gynradd Oldcastle am gefnogi cynllun cynilo i blant a drefnir gan Undeb Credyd Lifesavers Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Cymerodd tua 76 o blant ran yn wythnos gyntaf y cynllun gan gynilo £340 o'u harian poced.

 

Mae 236 o blant bellach yn aelodau, ac mae'r ysgol wedi cynilo cyfanswm o £11,900 hyd yma.

 

Fel cwmnïau cydweithredol ariannol sy'n eiddo i'w haelodau, gall undebau credyd dderbyn arian a chynnig benthyciadau llog isel.

 

Mae'r fenter yn addysgu'r disgyblion ynghylch pwysigrwydd cynilo a materion ariannol, ac yn cefnogi datblygiad sgiliau fel rhifedd, gweithio mewn tîm, cyfathrebu a mwy.

 

Mae'r ysgol wedi ennill y wobr gyntaf gan Undebau Credyd Cymru am ei hymdrechion.

 

Gan fod ymchwil gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn dangos bod peryg na fydd un o bob chwech yng Nghymru yn gallu cwblhau ad-daliadau ar gredyd, mae'r cynllun fwy buddiol nag erioed. Mynegodd ddiolch i bawb fu'n ymwneud â'r fenter.

 

Yr oedd yn gobeithio bod yr Aelodau wedi gweld yr adroddiad diweddar am y datblygiadau diweddaraf ym Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr. Fodd bynnag, i'r rhai nad oeddent wedi'i weld, dywedodd fod pum busnes newydd wedi llofnodi les ar gyfer stondinau ers lansio ein cynllun i adfer ffyniant y farchnad, a bod disgwyl cyhoeddiadau pellach yn fuan.

 

Mae'r stondinau newydd yn cynnig cymysgedd amrywiol o nwyddau sy'n amrywio rhwng hen finyl, bwyd iechyd protein ac anrhegion Cymreig a dillad boutique a chyflenwadau o wlân ac offer gwnïo arbenigol.

 

Bydd yr Aelodau hefyd yn gweld gwaith i weddnewid y tu allan i'r farchnad wrth i gyfres o baneli  darluniadol gael eu codi, ac wrth symud hen gloch y farchnad i fan amlycach.

 

Rydym wedi gweithio'n agos â masnachwyr y farchnad, Canolfan Siopa Rhiw, Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr, gr?p gwella busnes CF31, Watts and Morgan ac aelodau etholedig lleol ar hyn, ac mae'n tystio i'r hyn y gellir ei gyflawni o weithio mewn partneriaeth.

 

Mae'r newyddion wedi cael derbyniad da iawn, yn enwedig yn y cyfryngau cymdeithasol, ac y argoeli'n dda ar gyfer datblygiadau a mentrau pellach yn y dyfodol.

 

Yn olaf, efallai y bydd yr Aelodau hefyd am ddweud wrth eu hetholwyr fod derbyniadau ysgol uwchradd ar gyfer mis Medi 2019 bellach ar agor, a bod rhieni a gwarcheidwaid yn gallu cyflwyno ceisiadau ar-lein am y tro cyntaf drwy ddefnyddio ffurflen sydd ar gael yn adran 'Fy Nghyfrif' ar wefan y Cyngor.

 

Y Prif Weithredwr

 

Atgoffodd y Prif Weithredwr yr Aelodau fod yr Awdurdod wedi cychwyn cyfres o adolygiadau rheoli ar draws y sefydliad.  Bydd pob Cynghorydd eisoes wedi derbyn trosolwg o'r strwythur uwch reoli yng Nghyfarwyddiaeth newydd y Prif Weithredwr.

 

Ddoe, penodwyd Zak Shell i rôl Pennaeth Gweithrediadau yn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau ar ôl proses ddethol mewn arddull canolfan asesu yn seiliedig ar gymhwysedd.

 

Mae newidiadau pellach i'r drydedd haen hefyd yn mynd rhagddynt yn y Gyfarwyddiaeth honno, a byddai'r Aelodau yn cael gwybod am y strwythur uwch pan fyddai wedi'i gwblhau.

 

Ychwanegodd fod newidiadau pellach i reolwyr trydedd haen hefyd wedi'u cwblhau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol Plant, a bod ymgyngoriadau pellach ar y gweill o fewn y Gyfarwyddiaeth.

 

Yn y Gyfarwyddiaeth Addysg, mae'r swyddogaethau Dysgu a Sgiliau Oedolion wedi cael eu symud i fod yn rhan o'r gyfarwyddiaeth addysg, gan alinio ein darpariaeth dysgu a sgiliau yn well o'r blynyddoedd cynnar yr holl ffordd at oedolion oed gwaith. Fodd bynnag, ni fydd unrhyw newidiadau i uwch reolwyr ond yn cael eu hystyried ar ôl inni gwblhau archwiliad o opsiynau i gydweithio â Chyngor Merthyr.

 

Nod yr holl newidiadau hyn yw taro cydbwysedd, gan ymateb i'r gostyngiad cyffredinol yn nifer y staff wrth i'r gyngor leihau fel sefydliad, gwireddu arbedion ariannol a pharhau â'n hymgyrch i integreiddio swyddogaethau'n agosach o hyd i gefnogi'r ymagwedd 'Un Cyngor'.

 

Efallai fod yr Aelodau'n ymwybodol bod rhaglen adsefydlu ffoaduriaid Llywodraeth y DU yn helpu i ddarparu llety saff a diogel i deuluoedd sy'n ffoi i ryfeloedd y Dwyrain Canol.

 

Disgwylir i hyd at 1,500 ymgartrefu yng Nghymru, a hyd yma mae chwe theulu, sef cyfanswm o 31 o bobl, wedi cael eu hailgartrefu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, lle maent wedi integreiddio'n llwyr i fywyd lleol.

 

Cytunwyd yn ddiweddar yng nghyfarfod y Cabinet ddoe i gartrefu pum teulu arall rhwng nawr a 2020. Mae Llywodraeth y DU yn neilltuo cyllid penodol i alluogi hyn, a byddwn yn cydweithio â Thai Hafod i gefnogi'r teuluoedd hynny.

 

Fel o'r blaen, bydd Hafod yn rheoli tenantiaethau yn y sector rhentu preifat ar gyfer y teuluoedd, ac felly ni cheir unrhyw effaith na sgil-effaith ar y rhestr tai bresennol.

 

Os yw hi'n dal yn anniogel iddynt ddychwelyd adref ar ôl pum mlynedd, bydd y ffoaduriaid yn gallu gwneud cais i Lywodraeth y DU i gael aros yn y DU.

 

Ceir diweddariadau pellach wrth i'r rhaglen ddatblygu.

 

Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol o'r amrywiaeth helaeth o waith a gyflawnir gan gymunedau ffydd o bob enwad, sydd yn aml iawn yn gweithio ar agendâu sydd hefyd yn bwysig i ni a'n partneriaid. Er enghraifft, cefnogi pobl sydd yn ddigartref, neu sydd mewn perygl o golli eu cartref, cefnogi pobl sy'n byw mewn tlodi neu greu cysylltiadau rhwng pobl ac ymdrin ag achosion o unigedd.

 

Mae'r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae Pen-y-bont ar Ogwr yn aelod ohono yn trefnu digwyddiad ym mis Tachwedd i gyd-daro â'r wythnos rhyng-ffydd. Bydd y digwyddiad yn dod â chynrychiolwyr o'r sefydliadau hynny ynghyd ac yn gyfle i ryngweithio a chyfnewid syniadau ac ymagweddau. Bwriedir i'r digwyddiad hefyd fod yn gyfle ar gyfer rhyngweithio rhwng y sefydliadau hyn a rhai asiantaethau statudol sy'n gweithio i ddatrys problemau tebyg, fel y gwasanaeth tân, gofal cymdeithasol a'r gwasanaethau tai.

 

Swyddog Monitro

 

Roedd y Swyddog Monitro yn dymuno hysbysu'r Aelodau fod cyfarfod o'r Pwyllgor Archwilio wedi cael ei ychwanegu at Raglen Cyfarfodydd 2018/19, er mwyn rhoi ystyriaeth ddigonol i'r eitemau niferus sydd wedi'u cynnwys ym Mlaenraglen Waith Flynyddol gyfredol y Pwyllgorau. Cynhelir y cyfarfod ddydd Iau 13 Rhagfyr 2018 am 2.00pm yn y swyddfeydd hyn. Mae'r Swyddogion Cyllid a'r Cadeirydd wedi cytuno y dylid ychwanegu'r cyfarfod at y Rhaglen Gyfarfodydd, ac mae Aelodau'r Pwyllgor wedi cael gwybod bod angen cynnal cyfarfod ychwanegol.

Gofynnir i'r Cyngor nodi'r wybodaeth hon, a bydd y cyfarfod yn cael ei ychwanegu at galendrau electronig Aelodau'r Pwyllgor Archwilio yn fuan.

 

Atgoffodd yr Aelodau hefyd y byddai ffurflen yn cael ei hanfon atynt yn fuan i'w llenwi ynghylch Gwiriadau Datgelu a Gwahardd. Roedd angen dychwelyd y ffurflen i'r Cyngor erbyn ????Tachwedd ar yr hwyraf. (Holi Kelly)