Agenda item

I dderbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Atgoffodd yr Arweinydd yr holl aelodau fod Darren Mepham yn gadael yr awdurdod yn y Flwyddyn Newydd i'w rôl newydd fel Prif Weithredwr coleg addysg bellach Barnett and Southgate yng ngogledd Llundain.

 

Manteisiodd ar y cyfle i longyfarch Darren. Roedd yr Awdurdod wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ystod y chwe blynedd y bu'n gyflogedig yno, ac wedi wynebu rhai o'r amgylchiadau mwyaf heriol a welwyd erioed o fewn y Cyngor.

 

Mae hyn wedi cynnwys datblygiadau fel newid bwrdd iechyd, gweithio drwy heriau ariannol anodd i sicrhau cyllideb gytbwys a sefyllfa ariannol gadarn, cydweithio mwy â chynghorau cyfagos ee drwy rannu gwasanaethau rheoleiddio, newidiadau radical er mwyn symleiddio trefniadau rheoli'r holl gyfarwyddiaethau, gan gynnwys sefydlu cyfarwyddiaeth newydd i gyfuno mwyafrif ein gwasanaethau corfforaethol, ac wrth gwrs, y mae wedi sicrhau mwy na thraean o ostyngiad mewn costau uwch reoli.

 

Byddai Darren yn aros gyda CBSPO dros y tri mis nesaf a bydd yn parhau i gyflawni rôl arweinyddol ymarferol dros y cyfnod hwnnw. Fel awdurdod byddem yn ceisio penodi unigolyn yn barhaol i'r swydd cyn gynted ag sy'n bosibl. Yr oedd wedi bod yn siarad, a byddai'n siarad ymhellach â chydweithwyr yn y Cabinet ac arweinwyr gr?p ynghylch y trefniadau dros dro yr oedd angen eu gwneud.

 

Bydd Darren yma yn nau gyfarfod nesaf y Cyngor cyn dechrau ei rôl newydd, felly nid heddiw oedd yr adeg i ffarwelio.

 

Mae gennym uwch dîm rheoli galluog a medrus iawn a chanddynt ddegawdau o brofiad rhyngddynt, ac roedd yr Arweinydd yn hyderus iawn bydd ein holl raglenni uchelgeisiol yn parhau i symud ymlaen.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd £1.5 miliwn o gyllid gan yr UE yn cael ei fuddsoddi yng nghanolfan chwaraeon d?r newydd sbon Porthcawl yn Rest Bay. Mae'r cyllid yn cael ei ddarparu yn rhan o raglen Cyrchfan Denu Ymwelwyr newydd Llywodraeth Cymru, a lansiwyd gan Croeso Cymru i greu 13 o gyrchfannau y mae'n rhaid i ymwelwyr eu gweld. Un o'r cyrchfannau hyn fydd y ganolfan chwaraeon d?r, ac fe'i dyluniwyd i apelio i rai sy'n ymddiddori mewn chwaraeon d?r ledled De Cymru a thu hwnt. Mae'r gwaith wedi dechrau, a 'bwrdd selffi' wedi cael ei osod ar ffensys a osodwyd o amgylch y safle adeiladu er mwyn lleihau effaith weledol y gwaith, ac i ddangos ein bod yn ymdrechu i sicrhau bod Porthcawl yn parhau i dyfu a ffynnu fel un o brif gyrchfannau arfordir Cymru.

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd mai pleser o'r mwyaf oedd bod yn bresennol wrth i'r Prif Weinidog agor adeilad newydd sbon Ysgol Gynradd Brynmenyn yr wythnos diwethaf. Nid yw'r ysgol gwerth £9 miliwn ond yn un o'r ysgolion diweddaraf i gael ei darparu yn rhan o'n rhaglen flaenllaw i foderneiddio ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif. Daw'r agoriad yn fuan iawn ar ôl agoriad swyddogol adeilad newydd Ysgol Betws.

 

Roedd yr hen eiddo ar Heol Bryn dros ganrif oed, ac nid oedd modd ei ehangu gan fod tir comin yn ei amgylchynu.

 

Mae'r ysgol newydd ddwywaith mor fawr ac yn cynnwys meithrinfa, 14 ystafell ddosbarth fawr ac ynddynt dechnoleg dysgu fodern, cyfleusterau addysgol o'r radd flaenaf, a thros 14,000 metr sgwâr o ofod agored wedi'i ddylunio'n arbennig. Mae hyn yn wahanol i'r hen safle ac arno iard fechan a dim un darn o laswellt.

 

Yn ei chartref newydd drws nesaf i Goleg Cymunedol y Dderwen, mae ganddi faes parcio penodedig a pharthau gollwng a chodi diogel. Mae'r ysgol hefyd yn coffáu arwres fu'n gweithio yn yr ysgol fel athrawes gynorthwyol. Bu farw ym 1911 wrth achub disgybl rhag boddi.

 

Yn rhannol gan ei fod ar ochr bryn, nid oedd hen adeilad yr ysgol yn hygyrch i blant ag anableddau corfforol sylweddol. Un o'r nifer o fanteision yn gysylltiedig â chartref newydd yr ysgol yw bod modd i blant lleol nad oeddent yn gallu cael eu haddysgu yn yr hen leoliad fynychu eu hysgol gymunedol o hyn allan. Roedd clywed mam un o'r bechgyn bach sydd bellach ym Mrynmenyn oherwydd y cyfleusterau modern a chwbl hygyrch yn dweud yr hyn y mae'n ei olygu iddi yn atgoffa rhywun o'r gwahaniaeth y mae'r buddsoddiad hwn wedi'i wneud, yn ogystal â gwrando ar areithiau emosiynol Cadeirydd y Llywodraethwyr a'r Pennaeth yn yr agoriad swyddogol.

 

Gall Ysgol Brynmenyn ymfalchïo yn ei hanes, ac yn sgil ymdrechion pawb sydd wedi cyfrannu at gyflawni'r prosiect hwn, mae dyfodol yr ysgol yn ddisglair hefyd.