Agenda item

I Dderbyn y Cwestiynau Dilynol i'r Cabinet

CwestiwnI’r Aelod Cabinet dros Addysg ac AdfywiowrthCynghorydd T Thomas

 

A fydd yr Aelod Cabinet yn gwneud datganiad am nifer y disgyblion sy’n dilyn cyrsiau Safon Uwch yn ysgolion y Fwrdeistref Sirol.

 

CwestiwnI’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Help CynnarwrthCynghorydd A Hussain

 

Mae 575,000 o bobl yng Nghymru yn colli’u clyw ac mae’r nifer yn cynyddu wrth i’r boblogaeth heneiddio ac wrth i ni fyw’n hirach. Nidoes gennyf y ffigurau ar gyfer y nifer sy’n colli’u clyw yma yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Cyhoeddodd Action on Hearing Loss Cymru adroddiad yn ddiweddar gan argymell y dylai Awdurdodau Lleol adolygu eu darpariaeth a’u trefniadau i sicrhau mynediad i bobl fyddar neu’n colli’u clyw, gan sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.Dylid rhoi sylw penodol i’r pwynt cyswllt cyntaf, y broses asesu, y system ar gyfer darparu offer cynorthwyol a’r

wybodaeth/cyngor/canllawiausydd ar gael drwy’r Awdurdod cyfan.

 

O gofio’r argymhelliad uchod gan Action on Hearing Loss Cymru, a all yr Aelod Cabinet roi gwybod i’r Cyngor sut rydym yn cynorthwyo’r rhai sy’n colli’u clyw yma yn ein Sir?

Cofnodion:

Cwestiwn i'r Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio oddi wrth y Cyng. T Thomas.

 

‘A wnaiff yr Aelod Cabinet ddatganiad ynghylch y nifer sy'n sefyll Cymraeg Safon Uwch ar draws ysgolion y Fwrdeistref Sirol?'

 

Ymateb

 

Cymraeg (Iaith 1af) Safon Uwch

 

Yn 2017, safodd 10 myfyriwr o ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr Safon Uwch Cymraeg Iaith 1af.  Ledled Cymru, yn 2017, safodd 214 o fyfyrwyr Safon Uwch Cymraeg Iaith 1af.  Gan hynny, daeth 5% o'r holl geisiadau Safon Uwch Cymraeg Iaith 1af o ysgolion ledled Cymru yn 2017 o Ben-y-bont ar Ogwr. Mae hyn yn debyg i nifer y ceisiadau yn 2016, o gymharu â gostyngiad o 13% ledled Cymru ers 2015.

 

Mae canran y disgyblion sy'n ennill graddau A*-E ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cyd-fynd â chyfartaledd Cymru.  Roedd canran y disgyblion a enillodd raddau A*-C ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn uwch na chyfartaledd Cymru gyfan yn 2015, ond yn is na'r cyfartaledd hwnnw yn 2016 a 2017. Bydd cynifer o fyfyrwyr yn sefyll Safon Uwch Cymraeg Iaith 1af yn 2018 â nifer y ceisiadau yn 2016 o leiaf.

 

Ledled Cymru, cafwyd gostyngiad yn nifer y disgyblion sy'n astudio Cymraeg Iaith 1af o 280 yn 2015 i 214 yn 2017. Yn yr un modd, cafwyd gostyngiad yn nifer y disgyblion sy'n astudio Safon UG Cymraeg Iaith af o 280 yn 2014 i 218 yn 2017.

 

2.  Cymraeg (2il Iaith) Safon Uwch

 

Yn 2017, safodd 29 o fyfyrwyr o ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr Safon Uwch Cymraeg 2il Iaith. Ledled Cymru, yn 2017, safodd 242 o fyfyrwyr Safon Uwch Cymraeg 2il Iaith. Gan hynny, daeth 12% o'r holl geisiadau Safon Uwch Cymraeg 2il Iaith o ysgolion ledled Cymru yn 2017 o Ben-y-bont ar Ogwr. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o gymharu â 2016.

 

Roedd canran y disgyblion a enillodd raddau A* - C yn llawer uwch na chyfartaledd Cymru gyfan. Roedd canran disgyblion Pen-y-bont ar Ogwr a enillodd raddau A*- E ychydig yn is na chyfartaledd Cymru gyfan. Dim ond un myfyriwr na wnaeth ennill gradd 'llwyddo'. Bydd cynifer o fyfyrwyr yn sefyll Safon Uwch Cymraeg 2il Iaith yn 2018 â nifer y ceisiadau yn 2015 a 2016 o leiaf.

 

Ledled Cymru, gostyngodd nifer y disgyblion a astudiodd Safon Uwch Cymraeg o 272 yn 2015 i 242 yn 2017. Yn yr un modd, gostyngodd nifer y disgyblion a astudiodd Safon UG Cymraeg 2il Iaith o 354 yn 2014 i 298 yn 2017.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu dirwyn y cwrs byr TGAU Cymraeg 2il Iaith i ben ac erbyn hyn mae'r holl fyfyrwyr yng nghyfnod allweddol 4 yn astudio'r cwrs llawn TGAU Cymraeg 2il Iaith.  Gan hynny, nid yw'r niferoedd mawr sy'n astudio Cymraeg hyd at TGAU wedi'u hadlewyrchu yn y niferoedd sy'n astudio'r pwnc ar Safon Uwch.  Os cafwyd unrhyw newid o gwbl, mae ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn adrodd mai gostwng a wnaeth y niferoedd sy'n dewis Safon UG Cymraeg 2il Iaith ers ei gwneud hi'n orfodol i ddilyn y cwrs llawn TGAU Cymraeg.

 

3.  Cynnig y cwricwlwm

 

Mae Cymraeg 2il Iaith ar Safon Uwch ac UG wedi'u cynnwys ym mlociau opsiwn yr amserlen gydweithredol ar gyfer y cwricwlwm sy'n hygyrch i holl fyfyrwyr Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Cyflwynir Safon Uwch ac UG Cymraeg 2il Iaith ar hyn o bryd gan Ysgol Gyfun Bryntirion, ond gellir dilyn y cymwysterau hefyd yn Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath ac yng Ngholeg 6ed Dosbarth Pen-y-bont (yn Ysgol Gyfun Pencoed.

 

Yn ogystal â'r 16 o fyfyrwyr yn Ysgol Gyfun Bryntirion, mae nifer fach o fyfyrwyr yn astudio Cymraeg Safon Uwch/UG yn Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath ac yn Ysgol Gyfun Pencoed.

 

  Dyma ddolen gyswllt i Safon Uwch Cymraeg Iaith 1af ym mhrosbectws cyffredin ar-lein Pen-y-bont ar Ogwr:

 

https://www.bridgendpathways.co.uk/cy/course?courseid=155

 

Dyma ddolen gyswllt i Safon Uwch Cymraeg 2il Iaith ym mhrosbectws cyffredin ar-lein Pen-y-bont ar Ogwr:

 

https://www.bridgendpathways.co.uk/cy/course?courseid=156

 

4.  Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCMA)

 

Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCMA) Pen-y-bont ar Ogwr yn ymroi'n llawn i hyrwyddo cynnydd yn natblygiad y Gymraeg o ofal plant drwy'r blynyddoedd cynnar, addysg gynradd ac uwchradd. Mae'r CSCMA yn gwbl gyson â pholisi Llywodraeth Cymru, ac mae Llywodraeth Cymru wedi craffu'n fanwl ar CSCMA Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio ac yn ddigon cadarn i gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 

Mae Consortiwm Canolbarth y De hefyd yn datblygu cynllun cyfrwng Cymraeg rhanbarthol a gefnogir gan Swyddog Addysg Gymraeg.  Pwrpas y Cynllun yw cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae gwaith yn cael ei gyflawni'n benodol ar ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac ar waith partneriaethol rhwng ysgolion cyfrwng Cymraeg yn Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr.

 

Drwy fonitro'n ofalus, mae'r Cyngor yn bwriadu sicrhau lefelau cadw cryf mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg, ac ymdrin ag unrhyw faterion a allai atal hynny.  Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont  ar Ogwr (CBSPO) wedi cynyddu'r ystod o ddarpariaeth ADY cyfrwng Cymraeg yn benodol yn sgil adborth o'r gwaith monitro. Mae'r staff addysgu yn treulio cyfnodau sabothol er mwyn gwella eu sgiliau Cymraeg ac yn cael effaith wrth ddychwelyd, gan ychwanegu at yr adnoddau cyfrwng Cymraeg yn ein hysgolion.

 

5.  Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif

 

CBSPO ar hyn o bryd yn ystyried ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar a chynradd, gan gynnwys darpariaeth gofal plant newydd a chynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cynradd.  Rydym yn ystyried ehangu'r sector ymhellach yn rhan o gynlluniau Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

6.  Hyrwyddo'r Gymraeg ymhellach

Mae'r Siarter Iaith yn cael ei mabwysiadu gan nifer o ysgolion ar draws y sector cynradd.  Nod siarter ydyw sy'n cydnabod amlygrwydd a datblygiad sgiliau Cymraeg, a'r anogaeth ar gyfer hynny, ar draws yr ysgol gyfan - yn hytrach nag agweddau addysgu'r pwnc yn unig.

 

Mae holl ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyrraedd trothwy'r Siarter Iaith, ac mae sawl ysgol cyfrwng Saesneg yn dechrau'r broses o gyrraedd y trothwy hwnnw.  Bydd yr ymagwedd hon i'w gweld yn gryfach yn y dyfodol yng nghynlluniau clwstwr Tîm Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Cwestiwn atodol gan y Cyng. T Thomas

 

O safbwynt y nifer sy'n astudio Cymraeg Safon Uwch, beth mae'r awdurdod yn ei wneud i hyrwyddo cynnig gweithredol? Mae hyn yn cynnwys cynllunio'r ddarpariaeth, amserlennu, cynllunio'r gweithlu gan gynnwys datblygiad/hyfforddiant proffesiynol, ond yr hyn y mae gennyf ddiddordeb arbennig ynddo yn y cyd-destun hwn yw gwaith hyrwyddo cyffredinol ymhlith disgyblion Bl 11 ac o ran cyfleoedd gyrfa.

 

Ymateb (gan yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio)

 

Fel yr Aelod Cabinet perthnasol, gallaf gadarnhau bod CBS Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo'n llwyr i ddarpariaeth statudol y Gymraeg. Yr oedd yn falch o ddweud mai Cyngor Sir Morgannwg, dan reolaeth Lafur, a sefydlodd yr ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg gyntaf, yn Rhydfelin, ac ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg Pen-y-bont ar Ogwr yn Llangynwyd. Ychwanegodd fod ganddo ddiddordeb cryf mewn iaith a diwylliant.

 

Pan fydd myfyrwyr yn cychwyn eu cymwysterau Safon Uwch, nid yw'r Gymraeg yn orfodol mwyach a bydd y myfyrwyr yn gwneud dewisiadau. Cytunodd â'r Cynghorydd fod pennawd diweddar yn y Glamorgan Gazette yn anghywir ac yn gamarweiniol wrth ddweud na allai myfyrwyr ym Mhorthcawl astudio'r Gymraeg. Mae'r ffaith ein bod yn cyfrannu adnoddau at amserlen Chweched Dosbarth gyffredin ar draws ein holl ysgolion yn golygu bod modd i fyfyrwyr o Borthcawl astudio'r Gymraeg, drwy gyfuno â grwpiau o Gynffig a Bryntirion.

 

Wrth inni ddatblygu ein strategaeth 16+, bydd y buddsoddiad hwn o fudd i'r Gymraeg yn ogystal â phynciau Safon Uwch eraill a allai fod yn annichonadwy fel arall. Yr hyn yr ydym wedi'i wneud hyd yma yw galluogi niferoedd Cymraeg Safon Uwch ym Mhen-y-bont ar Ogwr i wrthsefyll y duedd i ostwng a geir mewn llawer o siroedd eraill yng Nghymru.

 

Mae'n destun pryder bod y niferoedd sy'n astudio'r holl ieithoedd modern yn tueddu i ostwng ledled Cymru, ac ar draws y DU, ac yr oedd yn cytuno eto â'r Cynghorydd y byddai'n bolisi da gweithio gyda myfyrwyr Blwyddyn 11 i'w hargyhoeddi ynghylch gwerth astudio ieithoedd a diwylliant yn gyffredinol, gan gynnwys iaith a diwylliant Cymru wrth gwrs. Yn anffodus, ni fu cysyniad Brexit o gymorth yn hyn o beth, gan y byddai Brexit yn arwain at ynysu a diffyg ymwybyddiaeth o werth ieithoedd prif ffrwd a ieithoedd lleiafrifol fel y Gymraeg, Catalan ac ieithoedd a diwylliannau rhanbarthau eraill yn Ewrop.

 

Mae astudio unrhyw iaith yn ei gwneud hi'n haws astudio iaith arall, felly mae creu Cymru ddwyieithog yn nod cadarnhaol iawn; ar ben hynny, mae'n dilyn mai'r ffordd orau o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg yw hyrwyddo diddordeb mewn ieithoedd a diwylliant yn gyffredinol ar draws cymdeithas, yn hytrach na dibynnu ar ysgolion yn unig, er mwyn galluogi cymdeithas i symud ymlaen i gystadlu ym marchnadoedd swyddi Cymru, y DU, Ewrop ac ar draws y byd.

 

Ailbwysleisiodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd baragraff 6 yr ymateb cyntaf, sef bod cyfathrebu drwy'r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo ym mhob ysgol yn y Fwrdeistref Sirol, a bod hyn nid yn unig yn cael ei bwysleisio ymhlith disgyblion a oedd yn cael eu haddysgu yn yr ysgolion, ond hefyd ymhlith eu rhieni a'u gwarcheidwaid.

 

Cyfeiriodd ymhellach at baragraff 4 yr ymateb cyntaf a'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCME) sydd hefyd yn annog siaradwyr Cymraeg.

 

Cwestiwn i'r Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar oddi wrth y Cyng. A Hussain

 

‘Mae 575,500 o bobl yn byw gyda byddardod yng Nghymru, ac mae'r nifer ar gynnydd wrth i'r boblogaeth heneiddio ac wrth i bobl fyw'n hirach. Nid wyf yn gwybod faint bobl sy'n byw gyda byddardod yma yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr. 

 

Yn eu hadroddiad diweddar, mae Action on Hearing Loss Cymru wedi argymell, ac rwyf yn dyfynnu, "Dylai Awdurdodau Lleol adolygu eu darpariaeth a'u trefniadau mynediad i bobl sydd yn fyddar neu wedi colli eu clyw, gan sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Dylid rhoi sylw neilltuol i'r canlynol:

 

·                  y pwynt cyswllt/mynediad cyntaf,

·                  y broses asesu,

·                  y drefn ar gyfer cyflwyno cyfarpar cynorthwyol a

·                  darparu gwybodaeth/cyngor/arweiniad ym mhob rhan o'r awdurdod lleol."

 

Gan gadw'r argymhelliad uchod a awgrymwyd gan Action on Hearing Loss Cymru mewn cof, a all yr Aelod Cabinet roi gwybod i'r Cyngor sut rydym yn cefnogi pobl sydd wedi colli eu clyw yma yn ein Sir?'

 

Ymateb

 

Mae gan yr adran Gofal Cymdeithasol Oedolion Dîm Synhwyraidd sydd wedi'i leoli yn y Tîm Adnoddau Cymunedol, gyda Gweithwyr Cymdeithasol Arbenigol, Gweithiwr Cymdeithasol Cynorthwyol, Swyddogion Adsefydlu a Chynorthwywyr Synhwyraidd. Mae'r tîm yn gweithio gydag unigolion sy'n byw gyda nam ar y synhwyrau, sy'n cynnwys pobl sydd wedi colli eu golwg, pobl sydd yn ddiwylliannol fyddar (B), sydd wedi troi'n fyddar (b) neu sydd wedi colli eu clyw, yn ogystal â phobl sydd wedi colli eu golwg a'u clyw (pobl fyddar a dall).  

 

Y nod yw sicrhau bod oedolion a phlant â nam ar y synhwyrau yn cael cefnogaeth i fyw bywyd mor llawn ac annibynnol ag sy'n bosibl.

 

Yn y drefn y gofynnwyd y cwestiwn:

 

Y pwynt cyswllt/mynediad cyntaf - Yn achos oedolion, daw'r holl ymholiadau/atgyfeiriadau ynghylch colli synhwyrau drwy'r Pwynt Mynediad Cyffredin. Gellir cysylltu drwy e-bost, llythyr, ffacs neu neges-destun ar ffôn symudol. Rydym hefyd yn profi "Signvideo" sef llwyfan sy'n rhoi mynediad i'r Pwynt Mynediad Cyffredin i bobl fyddar drwy ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain, gan eu galluogi i deimlo'n hyderus wrth ffonio pobl sy'n clywed drwy ddehonglwyr sydd wedi'u hyfforddi'n llawn. Gellir gwneud galwadau SignVideo drwy ffôn fideo, cyfrifiadur glin, cyfrifiadur desg, ffôn clyfar neu lechen. Gofynnir i bob unigolyn pa ddull cyfathrebu y mae'n ei ffafrio, a chofnodir hynny yn WCCIS. Mae'n bosib mai dim ond gwybodaeth, cyngor neu gefnogaeth briodol fydd ei hangen er mwyn ymdrin ag ymholiad. Os oes angen cynnal asesiad arbenigol, gellir trefnu i gynnal yr asesiad hwnnw yng nghartref yr unigolyn ac/neu yng Nghanolfan Adnoddau Trem y Môr ym Metws.

 

Y broses asesu - Gall y Tîm gynnal nifer o wahanol asesiadau yn dibynnu ar amgylchiadau'r unigolyn. Cynhelir asesiad o angen, gan ddefnyddio'r un offeryn asesu a ddefnyddir ar gyfer unrhyw aelod arall o'r cyhoedd. Gall ein dull o gyfathrebu amrywio, a gall gynnwys dehonglwyr ar gyfer gwahanol fathau o iaith arwyddion, yn ogystal â iaith lafar. Ar adegau, bu angen defnyddio dehonglydd iaith arwyddion a dehonglydd iaith lafar ar yr un pryd i gefnogi asesiad. Yr hyn sy'n bwysig yw bod yr unigolyn yn cael pob cyfle i esbonio ei amgylchiadau a'r hyn sy'n herio ei annibyniaeth.

 

Os oes angen cynnal asesiad arbenigol, gellir trefnu hynny. Mae ystod o gyfarpar arbenigol ar gael i helpu pobl sydd â nam ar y synhwyrau i barhau i fyw'n annibynnol.  Efallai y bydd peth o'r cyfarpar yn cael ei ddarparu yn rhan o'r asesiad arbenigol neu'r hyfforddiant adsefydlu. Yn Nhrem y Môr, ceir Ystafell Adnoddau Synhwyraidd lle mae cyfarpar yn cael ei arddangos ac ar gael i'w brofi. Mae'r ystafell hefyd yn cynnwys gwybodaeth a chyngor ynghylch lle i brynu eitemau arbenigol.

 

Mae'r tîm yn gweithio'n agos â'r Clinig Awdioleg yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac yn derbyn atgyfeiriadau i bobl sydd angen cymorth i barhau i fyw'n annibynnol. Bydd Gweithiwr Cymdeithasol Arbenigol ar gyfer Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw yn cynnal sesiynau rheolaidd yn Nhrem y Môr i'r bobl hynny a gaiff eu hatgyfeirio, er mwyn canfod cyfarpar/hyfforddiant sgiliau fydd yn helpu'r unigolyn i barhau i fyw'n annibynnol.

 

Darparu gwybodaeth a chyngor (ym mhob rhan o'r awdurdod) - Mae'n ddyletswydd arnom i gadw cofrestrau o bobl sy'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr a chanddynt nam ar y synhwyrau.  Penderfyniad gwirfoddol yw cael eich cynnwys ar y cofrestrau hyn, ond maent yn ein helpu i ddatblygu a chynllunio gwasanaethau.  Gallwn ddarparu gwybodaeth am gofrestru fel unigolyn â nam difrifol ar y golwg (dall), â nam ar y golwg (rhannol ddall), Byddar neu drwm ei glyw, neu unigolyn byddar a dall. Byddwn hefyd yn esbonio unrhyw hawliadau yn gysylltiedig â chofrestru.

 

Gall y Tîm ddarparu catalogau o gyfarpar a rhoi cyngor ynghylch yr eitemau y gellir eu prynu er mwyn helpu'r unigolyn i fyw'n annibynnol. Mae'r tîm yn cadw rhestrau o grwpiau cymorth yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr y gall pobl ymuno â hwy i gymdeithasu/i gael cefnogaeth/am wybodaeth a chyngor. Bydd Action on Hearing Loss yn cynnal cyfarfod misol ym Mhencoed. Cefnogir hyn gan y tîm drwy drefnu bod aelod yn bresennol i fod wrth law i dderbyn atgyfeiriadau a darparu gwybodaeth a chyngor.

 

Mae gan Ben-y-bont ar Ogwr Gytundeb Lefel Gwasanaeth â Sense Cymru sy'n darparu gwasanaeth allgymorth i helpu pobl sydd yn fyddar/rhannol fyddar, neu sydd wedi colli eu clyw, ac a allai fod anghenion ychwanegol, fel anghenion yn gysylltiedig â iechyd meddwl, anabledd corfforol neu anawsterau dysgu.  Mae'r Gwasanaeth yn cynorthwyo unigolion i sicrhau canlyniadau cadarnhaol drwy hyrwyddo annibyniaeth, ymgysylltiad a chyfranogiad yn y gymuned leol, gan hyrwyddo neu gynnal eu hannibyniaeth yn eu cartref eu hunain. Cefnogir hyn gan y canlynol: dulliau cyfathrebu sydd yn gweddu i'r unigolyn, anogaeth i ryngweithio'n gymdeithasol mewn modd priodol, cynyddu hyder a gwybodaeth, cynorthwyo unigolion i feithrin sgiliau a thechnegau er mwyn ymdopi â bywyd o ddydd i ddydd, gwella cyfleoedd i unigolion gymryd rhan mewn gweithgarwch fel addysg, gwaith, hyfforddiant, iechyd a hamdden, ac i ddarparu gwybodaeth berthnasol mewn fformatau priodol, a chyfeirio. Mae'r gwasanaeth hwn hefyd yn ymweld â'r Gr?p Pobl Fyddar ddwywaith y mis lle gall gyfeirio unigolion i wasanaethau eraill ac/neu ddarparu cyngor a gwybodaeth.  Hyd y gwyddom, mae'r gwasanaeth hwn yn unigryw ac ni cheir ei fath yn unrhyw ran arall o Gymru.

 

Darperir gwasanaeth Tywysydd Cyfathrebu drwy Gytundeb Lefel Gwasanaeth arall. Mae'r gwasanaeth hwn yn rhoi cefnogaeth i bobl ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd wedi colli'r ddau synnwyr, i'w galluogi i gyfranogi ac ymgysylltu yn ei cymunedau, a hyrwyddo neu gynnal eu hannibyniaeth yn eu cartref. 

 

Bydd Tywyswyr Cyfathrebu yn sicrhau bod pobl yn cael cefnogaeth well i fyw bywyd llawn a sicrhau llesiant drwy hwyluso cefnogaeth cyfathrebu a mynediad i'r gymuned, gan ddarparu technegau hebrwng a thywys a darparu gwybodaeth hygyrch a pherthnasol mewn fformatau priodol.

 

Wrth gyfathrebu â Chyfarwyddwr Action on Hearing Loss, cyfeirir yn gadarnhaol at Ben-y-bont ar Ogwr am ei barodrwydd i ymateb i bobl sydd yn fyddar/rhannol fyddar neu sydd wedi colli eu clyw.

 

Cwestiwn atodol gan y Cyng A Hussain

 

Diolch am eich ateb manwl, ac mae'n bleser gennyf nodi bod peth o'r ddarpariaeth gwasanaeth fwyaf arbenigol yng Nghymru i'w chael ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae'r defnydd o fideo arwyddion yn y Pwynt Mynediad Cyffredin yn rhagorol, yn ogystal â mynediad cychwynnol drwy negeseuon e-bost a negeseuon testun.

 

A allai'r Aelod Cabinet roi gwybod i'r Cyngor pa mor hir yw'r rhestr aros ar gyfer asesiad arbenigol (hy, faint o ddiwrnodiau/wythnosau/misoedd y gallai rhywun fod yn aros) a beth yw'r broses asesu.

 

Ymateb

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y byddai'n rhoi ystyriaeth bellach i'r cwestiwn ac yn ymateb i'r holl Aelodau gyda hyn y tu allan i'r cyfarfod.