Agenda item

Rheoli'r Trysorlys - Adroddiad Canol Blwyddyn 2018-19

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog A151 adroddiad er mwyn cydymffurfio â gofyniad yn nogfen y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA), Rheoli'r Trysorlys yn y Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer (y Cod), i roi trosolwg o weithgareddau trysorlys fel rhan o adolygiad canol blwyddyn. Rhoddai'r adroddiad hefyd grynodeb o'r gweithgarwch Rheoli Trysorlys o 1 Ebrill hyd 30 Medi 2018, ac adroddai  ar ragamcanion Rheoli Trysorlys a Dangosyddion Darbodus 2018-19.

 

Roedd yr adroddiad wedi'i seilio ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys (TMS) ar gyfer 2018-19 a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 28 Chwefror 2018.

 

Esboniodd fod CIPFA wedi cyhoeddi rhifynnau newydd o Rheoli'r Trysorlys yn y Gwasanaethau Cyhoeddus@ Cod Ymarfer a'r Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol yn hwyr ym mis Rhagfyr 2017. Fodd bynnag, mae TMS (a'r adroddiad hwn yn sgil hynny) wedi cael eu llunio drwy ddefnyddio Codau 2011, oherwydd amseriad y newid, ac yr oedd rhywfaint o wybodaeth yn dal heb ei chyhoeddi pan gynhyrchwyd y TMS.

 

Ym mis Mawrth 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hefyd ddiwygiad i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) sy'n galluogi'r Cyngor i fuddsoddi mewn rhai offerynnau a oedd gynt yn cael eu trin fel gwariant cyfalaf (er enghraifft, Cronfeydd y Farchnad Arian) heb y gost refeniw bosibl yn gysylltiedig â Darpariaeth Refeniw Isafswm (MRP) a heb ystyried enillion y gwerthiant fel derbyniad cyfalaf.

 

Dangoswyd sefyllfa'r Cyngor o ran buddsoddiadau a dyledion allanol o 1 Ebrill hyd 30 Medi 2018 yn nhabl 1 yn yr adroddiad, a rhoddwyd mwy o fanylion yn adran 4.3 yr adroddiad, y Strategaeth a'r Alldro Benthyca, ac adran 4.4 a esboniai'r Strategaeth Buddsoddi ac Alldro.

 

Er gwybodaeth i'r Aelodau, dywedwyd bod Cyfradd y Banc wedi dechrau'r flwyddyn ariannol ar 0.50% ac wedi parhau ar y gyfradd honno hyd 2 Awst 2018, pan gafwyd cynnydd o 0.25% yng nghyfradd Pwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr o 0.75%. Yn ôl y rhagolygon presennol, ceir cynnydd pellach o 0.25% yng Nghyfradd y Banc erbyn mis Mawrth 2019, gan gyrraedd 1% erbyn diwedd 2018-19.

 

Dyma'r prif bwyntiau i'w nodi yn yr adroddiad:

 

Cyfanswm y dyledion allanol gros a oedd yn weddill ar 30 Medi 2018 oedd £117.52 miliwn, a oedd yn cynnwys:

 

           Roedd y £96.87 miliwn o fenthyciadau yn cynnwys:

 

           £77.62 miliwn yn gysylltiedig â benthyciadau hirdymor gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus (PWLB) (cyfradd gyfartalog o 4.70%)

 

           £19.25m a chanddo ddyddiad aeddfedrwydd o 2054 yn gysylltiedig â benthyciadau LOBO a all gael eu hailamserlennu cyn y dyddiad aeddfedrwydd (cyfradd gyfartalog o 4.65%)

 

Byddai'r Cyngor yn dewis ad-dalu'r benthyciadau LOBO heb unrhyw gostau pe bai'n cael cyfle i wneud hynny yn y dyfodol.

 

Yn dilyn cyngor TM Advisers Arlingclose, cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog A151 fod y Cyngor wedi cysylltu â'r rhoddwr benthyciadau LOBO i drafod opsiynau ad-dalu posibl yn 2017-18. Fodd bynnag, tybiwyd bod y premiwm yn rhy ormodol i weithredu hynny, ond byddai'r Cyngor yn dewis ad-dalu'r benthyciadau hyn heb unrhyw gostau pe bai'n cael cyfle i wneud hynny yn y dyfodol.

Y tro diwethaf i'r Cyngor dderbyn benthyciad hirdymor, derbyniodd fenthyciad o £5 miliwn oddi wrth y PWLB ym mis Mawrth 2012, ac ni ddisgwylir y bydd angen unrhyw fenthyciad hirdymor newydd yn 2018-19.

 

Mae'r ffigur o £20.65 miliwn ar gyfer rhwymedigaethau hirdymor eraill yn cynnwys £17.32 miliwn am drefniant Menter Cyllid Preifat (PFI) yr awdurdod ar gyfer darparu ysgol uwchradd ym Maesteg a £2.40 miliwn yn gysylltiedig â benthyciad o'r Gronfa Cyfalaf a Gedwir yn Ganolog gan LlC ar gyfer gwaith adfywio yng Nghwm Llynfi nad yw wedi dechrau eto.

            

Roedd Buddsoddiadau'r Trysorlys a oedd yn weddill ar 30 Medi 2018 yn creu cyfanswm o £34.30 miliwn (cyfradd gyfartalog o 0.81%) ac yn cynnwys:

 

           £8m ar gyfradd gyfartalog y banciau o 0.85%

           £1 miliwn ar gyfradd gyfartalog y Cymdeithasau Adeiladu o 0.80%

           £23 miliwn ar gyfradd gyfartalog Awdurdodau Lleol o 0.80%

           £2.30 miliwn ar gyfradd gyfartalog Cronfa'r Farchnad Ariannol o 0.69% (yn cynnig mynediad ar unwaith)

 

Roedd Tabl 2 yn yr adroddiad yn dangos y proffil buddsoddi o 1 Ebrill, £30.40 miliwn hyd 30 Medi 2018, £34.30 miliwn.

 

Manylodd Tabl 3 ar y £34.30 miliwn fesul math o wrthbarti yn seiliedig ar y cyfnod aeddfedrwydd a oedd yn weddill ar 30 Medi 2018.

 

Fel yr adroddwyd yn flaenorol wrth y Cabinet a'r Cyngor yn 2017-18, agorodd y Cyngor Gronfa'r Farchnad Arian (MMF) ym mis Awst 2017, sef offeryn ariannol a gymeradwyir yn TMS sy'n cynnig mynediad ar unwaith i'r arian).

 

Sefydlodd y Cyngor MMFs ychwanegol ym mis Medi 2018 (pob un wedi'i chymeradwyo gan Arlingclose) yn ogystal â sefydlu porthol ar y we (yn rhad ac am ddim i'r Cyngor) er mwyn symleiddio ac effeithloni pob agwedd ar MMFs, o gynnal cyfrifon hyd at fasnachu ac adrodd. Ni chwblhawyd yr MMFs newydd na'r broses o ymgeisio am borthol hyd 30 Medi 2018, ond disgwylir iddynt gael eu defnyddio o fis Hydref 2018 ar ôl cwblhau'r broses o'u sefydlu.

 

O ran buddsoddiadau nad ydynt yn gysylltiedig â'r trysorlys, er nad oedd y rhain yn cael eu hystyried yn weithgareddau rheoli'r trysorlys ac felly heb eu cynnwys yng Nghod CIPFA nac yng Nghanllawiau LlC, caiff y Cyngor hefyd brynu eiddo i ddibenion buddsoddi a rhoi benthyciadau a buddsoddi i ddibenion yn gysylltiedig â gwasanaeth. Er enghraifft, mewn tai rhanberchnogaeth, neu fel benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti i is-gyrff y Cyngor. Bydd y benthyciadau a'r buddsoddiadau hynny'n ddarostyngedig i brosesai cymeradwyo arferol y Cyngor ar gyfer gwariant refeniw a chyfalaf, ac ni fydd angen iddynt gydymffurfio â TMS.

 

Esboniodd fod buddsoddiadau presennol y Cyngor, nad ydynt yn gysylltiedig â'r trysorlys, yn ymwneud ag eiddo, ac mai'r balans anarchwiliedig a oedd yn weddill ar 31 Mawrth 2018 oedd £4.36 miliwn.

 

Yna rhoddodd grynodeb o'r wybodaeth yn Atodiadau'r adroddiad, fel a ganlyn:

 

Atodiad A - Mae'r Strategaeth Fuddsoddi yn TMS 2018-19 yn diffinio ansawdd credyd uchel fel sefydliadau a gwarantau a chanddynt sgôr credyd o A- neu'n uwch, ac mae'r tabl hwn yn dangos cywerthedd sgoriau credyd Fitch, Moody a Standard & Poor ac yn esbonio'r gwahanol raddau buddsoddi. Mae'r siart pi ym mharagraff 4.4.10 yr adroddiad, yn crynhoi'r £34.30 miliwn o fuddsoddiadau ar 30 Medi 2018 yn ôl eu sgôr credyd, ac yn dangos hyn yn ôl y ganran sy'n weddill. Nid oes gan y rhan fwyaf o Awdurdodau Lleol sgoriau credyd, ac fe gafodd y gymdeithas adeiladu heb sgôr ei chymeradwyo gan Arlingclose, tra bod gan yr holl fuddsoddiadau sy'n weddill sgôr credyd o A neu'n uwch. 

     

Atodiad B - Cymeradwyodd y Cyngor bolisi MRP diwygiedig ar gyfer 2018-19 ar 19 Medi 2018 a dangoswyd Datganiad MRP 2018-19 diwygiedig, sy'n diwygio'r dull o gyfrifo swm darbodus blynyddol i'w godi ar refeniw er mwyn ad-dalu costau cyllid cyfalaf. Mae diwygio'r Polisi MRP 2018-19 ar gyfer cyfrifo MRP ar wariant cyfalaf a ariennir drwy fenthyca â chymorth wedi arwain at newid o'r dull gostwng balans 4% i ddull llinell syth dros 45 o flynyddoedd. Diwygiwyd y ffigurau yn Atodiad B i adlewyrchu newid bach o gymharu â'r adroddiad a gymeradwywyd gan y Cyngor,

i adlewyrchu'r wybodaeth fwy diweddar sydd ar gael, a mân addasiad cyfrifyddu yn 2018-19.

 

Atodiad C - yn manylu ar Reoli Trysorlys a Dangosyddion Darbodus 2018-19 o fewn y Cyngor, ac yn dangos yr amcangyfrif ar gyfer 2018-19 (a nodwyd yn Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Chwefror) yn ogystal â'r rhagamcan ar gyfer y flwyddyn. Mae'r rhain yn dangos bod y Cyngor yn gweithredu'n unol â'r terfynau cymeradwy.

 

Er bod yr hinsawdd ariannol yn hynod heriol, roedd y Dirprwy Arweinydd am gofnodi bod yr adroddiad yn dystiolaeth glir fod y Cyngor yn dal mewn dwylo cymharol ddiogel oherwydd ymroddiad a phroffesiynoldeb Swyddogion Cyllid.

 

PENDERFYNWYD:                     Bod y Cyngor:

 

(1)        Yn cymeradwyo gweithgareddau rheoli'r trysorlys ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2018 hyd 30 Medi 2018.

(2)        Yn nodi rhagamcanion Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodus 2018-19 yn erbyn y Dangosyddion a gymeradwywyd yn Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2018-19.

                 

Dogfennau ategol: