Agenda item

Pecyn Ymddeoliad Cynnar a Diswyddo Gwirfoddol

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad eithrio a ofynnai i'r Cyngor gymeradwyo'r pecyn diswyddo (y manylir arno yn yr Atodiad i'r adroddiad), yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar Atebolrwydd tâl o fewn Llywodraeth Leol yng Nghymru, ac a gaiff ei adlewyrchu ym Mholisi Tâl y Cyngor (a gaiff ei ddiweddaru'n flynyddol) ar gyfer 2018-19 ar ôl dileu swydd Rheolwr Gr?p.

 

Fel gwybodaeth gefndir, esboniodd fod y canllawiau statudol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru o dan Adran 40 o'r Ddeddf Lleoliaeth 2011, yn argymell y dylai'r Cyngor gymeradwyo pecynnau diswyddo dros £100k. Nod y canllawiau yw hyrwyddo gonestrwydd a thryloywder yn gysylltiedig â phecynnau diswyddo sydd yn uwch na'r swm hwn.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau fod y cyfrifiadau a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad yn cynnwys taliadau na chyflwynir i'r cyflogai, a bod diffiniad y canllawiau o'r elfennau sy'n creu'r pecyn diswyddo £100k ac uwch yn cynnwys y canlynol:

 

i.              Cyflog a delir yn lle rhybudd;

ii.             Cyfandaliad diswyddo, a

iii.    Y gost i'r awdurdod yn sgil unrhyw ychwanegiad at bensiwn neu straen ar y gronfa bensiwn.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn ei flaen i ddweud bod ymarfer wedi'i gynnal i ad-drefnu rheolwyr trydedd haen, a gynigiai y dylid gwahanu gwasanaethau yn ôl cyfrifoldebau gweithredol a strategol o fewn ei Gyfarwyddiaeth. Byddai'r Pennaeth Gwasanaeth newydd unigol yn arwain adain weithredol y Gyfarwyddiaeth, a byddai'r elfen strategol yn adrodd wrth y Cyfarwyddwr Corfforaethol.

 

Byddai'r swydd newydd yn cael ei neilltuo ar gyfer y ddau Reolwr Gr?p yr oedd eu swyddi'n cael eu dileu, ac effaith hynny fyddai diswyddo un ohonynt yn orfodol. Mae'r cyflogai yn un o'r ddwy swydd hyn, hy y Rheolwr Gr?p - Gwaith Stryd wedi cadarnhau nad yw'n dymuno cael ei ystyried ar gyfer y swydd newydd.

 

Bydd rhyddhau'r cyflogai hwn yn cyfrannu at y targed o £500k o arbedion mewn costau uwch reoli dros y 2-3 blynedd nesaf.

 

Esboniai paragraff 4.7 yr adroddiad sut y caiff y cyfandaliad diswyddo ei gyfrifo o dan gynllun Polisi Cyflogau'r Cyngor, tra nodai paragraff 4.8 nad oedd y "straen" ar y gronfa bensiwn yn cael ei dalu i'r cyflogai, ac mai taliad cyfalaf oedd hwnnw gan y Cyngor i'r gronfa bensiwn gyffredinol ei hun er mwyn talu'r gost o alluogi'r cyflogai i gael mynediad cynnar i'w bensiwn. Mae swm y taliad yn seiliedig ar ddarpariaeth yn Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2013, sydd yn rhagnodi y bydd gan unrhyw gyflogai 55 oed a throsodd sydd yn gadael ei swydd oherwydd diswyddo, yr hawl i gael mynediad yn syth at y LGPS heb leihau'r pensiwn ar sail tybiaethau actwaraidd yn sgil talu'r pensiwn yn gynnar.

 

Gorffennodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau ei gyflwyniad drwy ddweud beth fyddai goblygiadau ariannol yr adroddiad, fel yr amlygir ym mharagraff 8.1.

 

Cyfeiriodd Aelod at Nodyn 3 yn Atodiad 1, a'r Iawndal y byddai'r cyflogai'n ei dderbyn, a'r ffaith mai dyma oedd 'elfen ddewisol y cyfandaliad diswyddo'. Hyd y bo polisi tâl neilltuol mewn grym, cynghorir na fyddai rhyw lawer o obaith i osgoi anrhydeddu'r tâl dewisol hwn i gyflogai sy'n wynebu cael ei ddiswyddo.' Teimlai y dylid adolygu'r rhan hon o'r Polisi Tâl yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni.

 

Dywedodd yr Arweinydd y gallai'r Awdurdod ystyried hyn, ond y byddai angen ymgynghori â'r Undebau Llafur amrywiol i ddechrau. Ychwanegodd, fodd bynnag, fod eu safbwynt yn glir ynghylch diogelu telerau ac amodau cyfredol cyflogeion y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:         Bod y Cyngor yn derbyn y pecyn diswyddo (fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad) yn unol â datganiad Polisi Tâl y Cyngor a gymeradwywyd ar gyfer 2018-19.