Agenda item

Rhaglen Datblygu Aelodau

Cofnodion:

Rhoddodd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd wybodaeth a diweddariad ynghylch rhaglen hyfforddi a datblygu Aelodau’r Cyngor a gweithgareddau cysylltiedig.  

 

Rhoddodd amlinelliad o sesiynau Hyfforddi a Datblygu Aelodau, Sesiynau Hyfforddi’r Pwyllgor Datblygiad a Rheoli a sesiynau briffio Cyn Cyfarfodydd y Cyngor sydd wedi’u darparu ers 1 Ebrill 2018.  

 

Dywedodd wrth y Pwyllgor y byddai’r Swyddog Monitro’n cynnal Hyfforddiant Cod Ymddygiad yn bennaf i Gynghorwyr Tref a Chymuned ar 29 Hydref, ond bod croeso i holl Aelodau fynychu pe byddent am wneud hynny. 

 

Amlinellodd y Briffiau Cyn Cyfarfodydd y Cyngor sydd wedi’u trefnu: 

 

  • 24 Hydref: Ymarfer Ymgynghori ynghylch y Gyllideb gyda Chynghorwyr
  • 21 Tachwedd: Gofalwyr Ifanc
  • 19 Rhagfyr: Gwrth-Gaethiwed a Masnachu Pobl
  • 23 Ionawr: Cynllun Datblygu Gwledig
  • 20 Chwefror: Ymweld ar Rota

 

Amlinellodd raglen sesiynau hyfforddi’r Pwyllgor Datblygiad a Rheoli i’r dyfodol:  

 

  • 2 Tachwedd: Hysbysiadau a gweithdrefnau Adran 215
  • 3 Ionawr: Adroddiad Perfformiad Diwedd Blwyddyn
  • 14 Chwefror: Systemau Draenio Cynaliadwy a Chyrff Cymeradwyo SuDS – y System Newydd
  • 28 Mawrth: Cyfraniadau addysg a lleoedd dros ben yn Ysgolion yr 21ain ganrif

 

Amlinellodd hefyd y Sesiynau Hyfforddi a Datblygu Aelodau/Briffiau Cyn Cyfarfodydd y Cyngor i’w trefnu: 

 

  • Addysg Ddewisol yn y Cartref
  • Defnyddio Mapiau Pontydd
  • Ymwybyddiaeth o Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Awtistiaeth
  • Hyfforddiant Craffu – Amrywiol 
  • Ffrindiau Dementia – Sesiwn Ail-adrodd
  • Gweithio Rhanbarthol/Partneriaeth Cwm Taf

 

Aeth yna ymlaen i roi manylion am y cyrsiau a ddarparwyd ers dechrau’r tymor etholiadol a nifer yr Aelodau sydd wedi cwblhau bob un o’r cyrsiau hyn. Esboniodd mai 20 Aelod yn unig sydd wedi ymwneud â modiwlau e-ddysgu ers dechrau’r tymor etholiadol a gofynnodd i’r pwyllgor sut y gellir annog Aelodau i wneud mwy o ddefnydd o’r cyfleusterau e-ddysgu sydd ar gael. 

 

Pwysleisiodd Aelodau’r Pwyllgor bwysigrwydd y modiwlau e-ddysgu gan eu bod yn cael eu darparu fel rhai gorfodol i Gynghorwyr ond nad oes rhwymedigaeth gyfreithiol i’w cwblhau. Roedd y Pwyllgor o’r farn bod rhai Cynghorwyr yn cael trafferth mewngofnodi i’r system er mwyn ymgymryd â’r hyfforddiant. Esboniodd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd bod angen i’r Aelodau ddefnyddio eu rhif cyflogres i fewngofnodi i’r porthol e-ddysgu.

 

Dywedodd hefyd wrth y Pwyllgor bod croeso i’r holl Aelodau fynychu sesiynau hyfforddi Datblygiad a Rheoli ac nad oedd yn rhaid iddynt fod yn aelod o’r Pwyllgor i fynychu’r sesiynau.

 

Gofynnodd y Pwyllgor a fyddai modd cael esboniad am y mathau o hyfforddiant a beth fyddent yn ei olygu er mwyn i Gynghorwyr gael darlun gwell cyn penderfynu mynychu.  

 

Gofynnodd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd wrth y pwyllgor a oeddynt am wneud unrhyw sylwadau eraill ynghylch sesiynau hyfforddi. 

 

Roedd y Pwyllgor yn awyddus i gael yr hyfforddiant Mapiau Pontydd cyn gynted â phosibl gan y byddai’r hyfforddiant hwnnw wedi bod yn ddefnyddiol ar sawl achlysur gan arbed llawer o amser ar atgyfeiriadau. Esboniodd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd ei fod yn mynd i gyfarfod â’r Adran TGCh i drafod syniadau a phroses hyfforddi Cynghorwyr ac y byddai’n rhoi gwybod iddynt am unrhyw ddatblygiadau pellach. Gofynnodd a oedd y Pwyllgor eisiau i’r hyfforddiant fod ar ffurf Briffiau Cyn Cyfarfod y Cyngor neu sesiwn Hyfforddi a Datblygu Aelodau. Roedd y Pwyllgor o’r farn y byddai sesiwn Hyfforddi a Datblygu Aelodau’n fwy buddiol. 

 

Gofynnodd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd a oedd unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau yr hoffent eu gwneud i’r rhaglen arfaethedig. Cytunodd Aelodau y byddent yn hoffi hyfforddiant mwy cynhwysfawr ar y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol gan eu bod yn teimlo bod lle i wella ar eu dealltwriaeth. 

 

Rhoddodd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad ar Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Ddementia gan fod cyfeiriad at hyn yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Esboniodd nad oedd yr hyfforddwr ar gael ar hyn o bryd ac y byddai sesiwn arall yn cael ei threfnu i Aelodau maes o law. 

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd:

(1)   yn nodi Briffiau Cyn Cyfarfodydd y Cyngor i’r dyfodol a restrir ym mharagraff 4.5.1 yr adroddiad, ac y dylai Aelodau sydd ag unrhyw syniadau ar gyfer Briffiau Cyn Cyfarfodydd y Cyngor gysylltu â’r Tîm Gwasanaethau Democrataidd; 

(2)   yn nodi gweithgareddau Datblygu Aelodau i’r dyfodol a restrir ym mharagraff 4.7.1 yr adroddiad, ac y dylai Aelodau sydd ag unrhyw syniadau ar gyfer sesiynau Hyfforddi a Datblygu Aelodau gysylltu â’r Tîm Gwasanaethau Democrataidd;

yn gofyn i Aelodau gwblhau’r modiwlau E-ddysgu gorfodol a restrir ym mharagraff 4.8.2 yr adroddiad.     

Dogfennau ategol: