Cofnodion:
Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a roddodd ddiweddariad i’r Pwyllgor ynghylch trefniadau ar gyfer gwe-ddarlledu cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a Phwyllgorau.
Dywedodd wrth y Pwyllgor bod y Cyngor wedi caffael a chyflwyno gwasanaeth gwe-ddarlledu arloesol a roddwyd ar waith yn 2017/18. Cafodd y gwasanaeth hwn ei ail-gaffael ar gyfer 2018/19 a bu’r un darparwr yn llwyddiannus. Fel rhan o’r broses, aethpwyd ati i gaffael Cyfleuster Dwy Iaith hefyd, a rhoddwyd y cyfleuster hwn ar waith yn Awst 2018.
Esboniodd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd bod y system hon wedi’i rhoi ar waith fel bod y Cyngor yn gallu darparu gwasanaeth Cymraeg pe byddai gofyniad deddfwriaethol yn y dyfodol i we-ddarlledu yn Gymraeg a Saesneg.
Rhoddodd esboniad o’r ystadegau ar gyfer gwe-ddarlledu yn 2017/18, a hefyd y ffigurau hyd yma ar gyfer 2018/19. Ceir y manylion isod, ynghyd â rhai ffigurau ychwanegol nad oedd ar gael adeg ysgrifennu’r adroddiad.
|
Dyddiad |
Enw’r Cyfarfod |
Gweld yn fyw |
Gweld ar alw |
Cyfanswm |
1 |
30 Awst 18 |
Pwyllgor Datblygiad a Rheoli |
38 |
51 |
99 |
2 |
17 Medi 18 |
Pwyllgor Craffu Testun 3 |
11 |
142 |
153 |
3 |
16 Hydref 18 |
Pwyllgor Craffu Testun 1 |
0 |
42 |
42 |
4 |
18 Hydref 18 |
Pwyllgor Craffu Testun 2 |
22 |
47 |
69 |
|
|
|
|
|
|
|
Nifer yn gweld ar gyfartaledd |
|
17.75 |
70.5 |
90.75 |
|
Cyfanswm |
|
71 |
282 |
363 |
Mynegodd Aelodau eu pryder ynghylch y nifer sy’n gwylio gan nodi eu bod yn credu bod angen mynd i’r afael â’r mater.
Esboniodd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd bod y Tîm Gwasanaethau Democrataidd wedi bod yn gweithio gyda’r Tîm Cyfathrebu i roi cyhoeddusrwydd i’r cyfarfodydd sydd wedi’u gwe-ddarlledu yn ddiweddar ar dudalennau Twitter a Facebook y Cyngor. Mae’r Tîm Gwasanaethau Democrataidd a’r Tîm Cyfathrebu yn bwriadu parhau i wneud hyn fel dull rheolaidd o ymgysylltu â’r cyhoedd yn ogystal â chwilio am ffyrdd eraill i hybu diddordeb. Esboniodd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd wrth y Pwyllgor hefyd ei fod yn cydweithio â’r Tîm Cyfathrebu a darparwyr system Gwe-ddarlledu a Rheoli Pwyllgorau’r Cyngor ynghylch creu dolenni ychwanegol ar wefan y Cyngor fel bod y gwasanaeth gwe-ddarlledu’n fwy amlwg i bawb.
Roedd y Pwyllgor o’r farn y byddai angen adolygu’r sefyllfa gwe-ddarlledu yn y dyfodol pe na bai niferoedd gwylio cyffredinol yn gwella. Roedd y Pwyllgor hefyd o’r farn bod angen ymgysylltu’n well â’r cyhoedd fel bod y gwasanaeth gwe-ddarlledu’n fwy amlwg er mwyn annog mwy i wylio. Bu’r Pwyllgor hefyd yn ystyried rôl yr aelodau o ran ymgysylltu â’u hetholwyr ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol ynghylch gwe-ddarlledu cyfarfodydd.
Cynigir bod y cyfarfodydd canlynol yn cael eu gwe-ddarlledu:
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd:
(1) Yn nodi’r diweddariad ynghylch trefniadau ar gyfer gwe-ddarlledu cyfarfodydd y Cyngor, y Cyngor a Phwyllgorau.
Yn nodi’r cyfarfodydd uchod sydd wedi’u rhestru ar gyfer eu gwe-ddarlledu yn y dyfodol.
Dogfennau ategol: