Agenda item

Adroddiad Drafft Panel Cydnabyddiaeth Annibynnol Cymru 2019/2020

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad a roddai wybodaeth i Aelodau ynghylch Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Cydnabyddiaeth Annibynnol Cymru mewn perthynas â lefel ac amrediad y gydnabyddiaeth y mae’n rhaid i’r Cyngor ei chynnig i’w Aelodau ar gyfer blwyddyn fwrdeistrefol 2019/20.

 

Amlinellodd y codiad yng nghyflog Aelodau ar Gyflog Sylfaenol, Uwch Gyflog a Chyflog Dinesig.   

Dywedodd bod y Cyflog Sylfaenol yn £13,600 ar hyn o bryd a bod y Panel Cydnabyddiaeth Annibynnol yn cynnig codi hyn 1.97%, i £13,868. Nododd bod hawl gan y Cyngor i dalu 18 uwch gyflog ond bod y Cyngor wedi penderfynu talu 15 uwch gyflog.

 

Mae’r Panel Cydnabyddiaeth Annibynnol wedi cynnig codiad i Arweinwyr ac aelodau’r Weithrediaeth oherwydd lefel sylweddol y cyfrifoldeb sydd arnynt. Rhestrir yr Uwch Gyflogau presennol isod ynghyd â’r Uwch Gyflogau arfaethedig. 

 

Uwch gyflogau (gan gynnwys cyflog sylfaenol

Cyflog Presennol

Cyflog Arfaethedig

Arweinydd

£48,300

£49,100

Dirprwy Arweinydd

£33,800

£34,600

Aelodau’r Weithrediaeth

£29,300

£30,100

Cadeiryddion Pwyllgorau (os ydynt yn cael cydnabyddiaeth ariannol)

£22,300

£22,568

Arweinydd gr?p yr wrthblaid fwyaf

£22,300

£22,568

Arweinwyr grwpiau gwleidyddol eraill

£17,300

£17,568

 

Mae’r Panel Cydnabyddiaeth Annibynnol yn cynnig bod y 3 band presennol ar gyfer talu Cyflogau Dinesig yn cael eu dileu a bod taliadau o hyn ymlaen ar un band; byddai’r codiad i’r Maer a’r Dirprwy Faer yn £22,568 a £17,568.

 

O ran Cymorth i Aelodau, mae’r Panel wedi nodi y dylai pob awdurdod, drwy ei Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, sicrhau bod ei aelodau etholedig yn derbyn cymaint o gymorth ag sy’n angenrheidiol iddynt allu cyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol. Dylid sicrhau bod holl aelodau etholedig yn cael ffôn, e-bost a chyfleusterau rhyngrwyd digonol sy’n rhoi mynediad electroneg at wybodaeth briodol.

 

Ni ddylai’r cymorth hwn gostio dim i’r aelod unigol. Ni ddylai unrhyw awdurdod wneud didyniadau o gyflogau aelodau fel cyfraniad tuag at gost y cymorth y mae’r awdurdod wedi penderfynu ei bod yn angenrheidiol ar gyfer effeithiolrwydd a/neu effeithlonrwydd aelodau.   

 

Mewn perthynas ag Aelodau Cyfetholedig, mae’r Panel wedi nodi bod yn rhaid i bob awdurdod, drwy ei Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd neu bwyllgor priodol arall, sicrhau bod aelodau cyfetholedig sydd â’r hawl i bleidleisio, yn derbyn cymaint o gymorth ag sy’n angenrheidiol iddynt allu cyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol. Ni ddylai’r cymorth hwn gostio dim i’r aelod unigol.

 

Nid oes unrhyw newidiadau i gostau Teithio a Chynhaliaeth, Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu Absenoldeb Teuluol. 

 

Dywedodd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd wrth y Pwyllgor ei fod a’r Cadeirydd yn gynt y diwrnod hwnnw wedi mynychu cyfarfod ymgynghori gyda’r Panel Cydnabyddiaeth Annibynnol yn Abertawe. Gofynnodd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd am sylwadau’r Pwyllgor ynghylch y cynigion a wnaed gan y Panel Cydnabyddiaeth Annibynnol.  Roedd y Pwyllgor yn teimlo bod angen ystyried canfyddiadau’r cyhoedd a’r ffaith bod cyllidebau yn gostwng yn barhaus wrth sôn am dderbyn codiad cyflog.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am wybodaeth am gyfanswm y codiad yng nghyflogau Aelodau gan gynnwys y rhai sy’n derbyn Uwch Gyflogau. 

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd:

 

(1)    yn nodi cynnwys yr adroddiad ac yn ystyried yr argymhellion.

 

yn ysgrifennu at y Panel Cydnabyddiaeth Annibynnol gan nodi, er ei fod yn cefnogi’r penderfyniadau a wnaed, bod angen i’r Panel Cydnabyddiaeth Annibynnol ystyried y pwysau cyllidebol a wynebir gan awdurdodau lleol wrth osod lefelau cyflog, gan y bydd gan bob Cyngor ledled Cymru benderfyniadau cyllidebol anodd i’w gwneud. Mae’r Pwyllgor yn cefnogi annibyniaeth y Panel Cydnabyddiaeth Annibynnol ond yn pwyso arno i fod yn ofalus wrth bennu dyfarniadau cyflog oherwydd bod angen i’r Cyngor ddangos i’r cyhoedd ei fod yn ymwybodol o gyfyngiadau cyllidebol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.     

Dogfennau ategol: