Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan:

 (i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

 

Cofnodion:

Y Maer

 

Rhoddodd y Maer wybod i'r Cyngor am y digwyddiadau y bu'n bresennol ynddynt ers cyfarfod diwethaf y Cyngor. Roedd hynny'n cynnwys ymweld â'r Cylch Chwarae Standing to Grow yn Sefydliad Glowyr Nantyffyllon, Maesteg, a oedd wedi agor ystafell newydd yn ddiweddar. Roedd yr ystafell wedi'i hariannu drwy'r Grant Cyllid Cyfalaf Cynnig Gofal Plant, a'i ddyrannu gan y tîm gofal plant ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bu'n bresennol yn y noson wobrwyo flynyddol yn Ysgol Gyfun Pencoed, yn llongyfarch y disgyblion am eu llwyddiant a'r staff am eu hymroddiad a'u hymrwymiad.

 

Cyhoeddodd y Maer y bu'n anrhydedd iddo gefnogi'r Apêl Pabi Coch Flynyddol a gynhaliwyd yng Nghanolfan Hamdden Cwm Garw, lle cafwyd cerddoriaeth gan Fand Adran Tywysog Cymru a chyfraniadau gan amryw o gorau lleol.  Hysbysodd y Maer y Cyngor y byddai'n ymweld ag enillwyr y Gwobrau Busnes Lleol, a gynhelir ym mis Medi. 

 

Y Dirprwy Arweinydd

 

Cyhoeddodd y Dirprwy Arweinydd fod siop ailddefnyddio gyntaf erioed y Fwrdeistref Sirol wedi agor yng nghanolfan ailgylchu gymunedol Maesteg.  Bydd yn cael ei rhedeg gan fenter gymdeithasol Wastesavers, mewn partneriaeth â'r Cyngor a Kier.  Mae'r siop wedi cael ei henwi yn 'Y Seidin' i gydnabod treftadaeth mwyngloddio Maesteg. Gellir cyfrannu unrhyw eitemau o'r cartref sydd mewn cyflwr da i'w defnyddio eto, a bydd yr holl elw yn cael ei hailfuddsoddi mewn rhaglenni cymdeithasol.

 

Mae trefniadau wedi'u gwneud i Aelodau dderbyn hyfforddiant ar Reoli Galwadau Ffôn Camdriniol ac Ymosodol, Rheoli Gwrthdaro ac Ymwybyddiaeth o Ddiogelwch Personol ar 31 Hydref 2019. Bydd y sesiwn gyntaf yn dechrau am 9.30am, a'r sesiwn honno'n cael ei hailadrodd am 1.30pm. Mae rhai lleoedd yn dal ar gael yn y ddwy sesiwn, a dylai Aelodau sydd am ddod i un ohonynt gysylltu ag Andrew Rees, Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd. 

 

Aelod Cabinet Cymunedau

Rhoddodd yr Aelod Cabinet wybod i'r Aelodau am benderfyniad diweddar y Cabinet, a wnaed yn groes iawn i'r graen, i symud tuag at sefyllfa adennill costau llawn yn achos caeau chwarae a phafiliynau chwaraeon. Roedd hyn yn amlygu sefyllfa'r Cyngor, ac yn datgelu'r graddau y mae'r awdurdod lleol wedi bod yn cymorthdalu am y cyfleusterau hynny, a hynny hyd at 80% mewn rhai achosion.  Anogodd fwy o sefydliadau, grwpiau chwaraeon a chynghorau tref a chymuned i gysylltu â chwrdd â'r Cyngor i drafod ysgwyddo cynnal cyfleusterau lleol poblogaidd drwy'r broses Trosglwyddo Asedau Cymunedol. Dywedodd fod Clwb Rygbi Bryncethin yn enghraifft berffaith o'r hyn y gellir ei gyflawni drwy'r broses hon, ac yn dangos sut y gall clwb neu sefydliad sicrhau cyllid i ddatblygu cyfleusterau newydd.  Hyd nes y ceir sefyllfa lle bydd llywodraeth leol yn cael ei hariannu'n ddigonol, bydd angen i'r Cyngor barhau i weithio mewn partneriaeth agosach a defnyddio prosesau fel trosglwyddo asedau cymunedol i sicrhau bod cyfleusterau fel toiledau, pafiliynau, caeau, llecynnau a meysydd chwarae a mwy yn parhau i fod i fod ar gael i'w defnyddio.  Roedd yn gobeithio y byddai'r Aelodau yn cyfleu'r neges hon yn eu wardiau eu hunain, ac yn annog pobl leol i ystyried sut y gallent hwythau hefyd gyfrannu at gadw cyfleusterau poblogaidd yng nghalon y gymuned. 

 

Roedd hi'n bleser iddo gael cadarnhau y byddai cyn-aelodau o'r fyddin a fyddai'n ymgeisio am swydd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn sicr o gael cyfweliad yn ôl gweithdrefnau newydd sy'n cael eu cyflwyno i'w helpu i ymaddasu i fywyd dinesydd. Bwriedir i'r penderfyniad helpu cyn-filwyr, personél sy'n gwasanaethu yn y lluoedd a'u teuluoedd i oresgyn rhwystrau wrth ganfod swydd ddinesig, a lleihau'r risg o broblemau iechyd a lles. Byddwn yn dal i ddefnyddio gweithdrefnau dethol i sicrhau bod yr ymgeisydd gorau ar gyfer y rôl yn cael ei benodi, a bydd cyn-filwyr yn cael cyfle i arddangos sgiliau trosglwyddadwy fel arweinyddiaeth, rheolaeth, datrys problemau a mwy, gan ennill profiad gwerthfawr o gyfweliadau ar yr un pryd. Dywedodd mai dyma oedd y datblygiad diweddaraf yn rhan o Gyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog yr awdurdod, sy'n dod â sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus, busnesau lleol, elusennau a'r sector gwirfoddol ynghyd i gynnig cymorth, cefnogaeth a chyngor priodol.

 

Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod Comisiynydd Pobl H?n Cymru wedi lansio ymgyrch newydd y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ei chefnogi. O dan y teitl 'Rhagfarn ar Sail Oedran Bob Dydd', yr oedd yn ceisio codi ymwybyddiaeth ynghylch graddfa ac effaith problemau a wynebir gan bobl h?n bob dydd. Anelai i herio rhagfarn a gwahaniaethu ar sail oedran, a grymuso pobl h?n i wneud hynny hefyd drwy annog preswylwyr i adrodd am eu profiadau fel bo modd i'r Comisiynydd eu herio.  Dywedodd fod pecyn cefnogi ar gael o wefan Pobl H?n Cymru, ac y gallai'r aelodau fod eisiau rhoi gwybod i'w hetholwyr a'u hannog i gefnogi'r achos hynod deilwng hwn.

 

Cyhoeddodd hefyd fod y Gemau OlympAGE yn cael eu cynnal ddydd Mercher 5 Rhagfyr yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr rhwng 9:30am ac 11am. Pwrpas y Gemau yw datblygu cymunedau sy'n gyfeillgar ag oed a chydnabod manteision annog pobl h?n i fod yn fwy gweithgar o safbwynt iechyd a lles, ac roedd yn sicr y byddai'n llwyddiant mawr unwaith eto.

 

Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol fod Cydwasanaeth Rheoleiddio Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg wedi ennill gwobrau Aur, Arian ac Efydd drwy fenter Paw-Prints 2019 yr RSPCA. Cafodd y gwasanaeth ei gydnabod mewn tri chategori gwahanol, gan ennill Aur am G?n Strae, Arian am Drwyddedu Gweithgarwch Anifeiliaid ac Efydd am G?n Cynel.  Pwrpas y gwobrau yw cydnabod cyflawniadau mewn gwasanaethau c?n strae, cynlluniau wrth gefn, polisi tai, trwyddedu gweithgarwch anifeiliaid a lles c?n cynel.  Yn ogystal â hynny, llongyfarchodd Hope Rescue ym Mhontyclun, a enillodd wobr aur am y modd y maent yn gofalu am g?n cynel ar ran cyrff cyhoeddus yng Nghymru.

 

Cyhoeddodd hefyd ei bod wedi derbyn cadarnhad y bydd nifer o glybiau lleol yn elwa ar fuddsoddiad 'Lle i Chwaraeon' Llywodraeth Cymru. Mae Clwb Athletau Pen-y-bont ar Ogwr wedi ennill £50,000 a fydd, ynghyd â chyfraniadau gan y Cyngor, y clwb a Chyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr, yn cael ei ddefnyddio i ailosod y trac rhedeg 300m yng Nghaeau Pontnewydd.

Ar wahân i hynny, dyfarnwyd £25,000 i Glwb Rygbi a Phêl Droed Nantyffyllon, £10,000 i Glwb Saethu Targed Tondu a bron i £10,000 i Glwb Athletau Bechgyn a Merched Pencoed.  Derbyniwyd bron i £5,000 gan Gr?p Dawns Funk Force, a £4,000 gan Glwb Bowlio Bryn Cynffig a'r Pîl. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio er mwyn helpu i foderneiddio a gwarchod cyfleusterau chwaraeon, a chreu cyfleusterau chwaraeon newydd.

 

Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio bod derbyniadau ysgol Uwchradd ar gyfer mis Medi 2020 yn agor yn hwyrach yr wythnos hon, a gofynnodd i'r Aelodau helpu i annog rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr i ymgeisio am leoedd ar-lein drwy ddefnyddio'r gwasanaeth Fy Nghyfrif.  Dywedodd y byddai rhieni a gofalwyr disgyblion ysgol gynradd sydd ym mlwyddyn chwech ar hyn o bryd yn gallu cyflwyno cais hyd at 24 Ionawr.  Byddant wedyn yn cael gwybod y canlyniad ar 2 Mawrth.  Dywedodd y gellir cael hyd i fanylion pellach ar y dudalen derbyniadau ysgol ar wefan y Cyngor.

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio fod gwaith yn mynd rhagddo i drawsnewid hen swyddfa'r orsaf-feistr ar Reilffordd Porthcawl i greu eiddo masnachol modern cwbl newydd. Roedd disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau'n fuan yn 2020. 

 

Llongyfarchodd Owain Lloyd, disgybl o Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd a oedd wedi ennill 5 gradd A Safon Uwch.

 

Y Prif Weithredwr

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr y newyddion diweddaraf i'r Cyngor am Brexit.  Dywedodd fod y cyfryngau lleol wedi cael eu briffio, ac mai canlyniad hynny oedd bod cynlluniau'r Cyngor wedi cael eu hadrodd yn y Gazette. Dywedodd wrth y Cyngor fod Dyfais Olrhain Risg ar waith, a bod deialog rheolaidd yn cael ei gynnal rhwng Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe a'r Pwyllgor Pysgodfeydd Môr.  Anogodd yr Aelodau i dynnu sylw etholwyr at Gynllun Adsefydlu'r Undeb Ewropeaidd a fydd yn galluogi dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd i barhau i fyw yn y DU.