Agenda item

Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi

Gwahoddedigion:

 

Darren Mepham, Prif Weithredwr;

Rachel Jones, Rheolwr Caffael Corfforaethol;

Kelly Watson, Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd;

Cyng Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd.

 

Cofnodion:

Diweddarwyd y Pwyllgor ynghylch safbwynt yr awdurdod o ran y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at yr holl weithwyr a fydd yn cael lleiafswm o £9.00 yr awr o Ebrill 2019 a holwyd a fyddai'r Cyngor yn dod yn Gyflogwr Cyflog Byw ym mis Ebrill 2020. Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio y cytunwyd ar strwythur tâl y Cyngor yn rhan o godiad cyflog dwy flynedd i'w weithwyr. Roedd yn annhebygol y byddai'r Cyngor yn gallu dod yn Gyflogwr Cyflog Byw cyn y byddai gorfodaeth arno i wneud hynny oherwydd cyfyngiadau cyllidebol. Roedd y Pwyllgor o'r farn y dylai'r Cyngor anelu at fod yn Gyflogwr Cyflog Byw.

 

Holodd y Pwyllgor pam nad oedd y Cyngor wedi ymrwymo i'r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi ac awgrymodd y dylai fod yn gyfrifoldeb corfforaethol ar y Cyngor i lynu wrth y Cod. Nododd y Dirprwy Arweinydd fod y Cyngor yn glynu wrth bolisi Llywodraeth Cymru o ran caffael ond canllaw yn unig yw'r Cod Ymarfer y cyfeirir ato. Hysbysodd y Pwyllgor fod y Cod yn awgrymu'r modd y dylai'r Cyngor lynu wrtho a bod yr adroddiad yn manylu ar y modd y mae'r Cyngor eisoes wedi cymryd camau i gydymffurfio â'r Cod. Gofynnodd y Pwyllgor a oedd y swyddogion yn gwybod am y pecynnau cymorth amrywiol sydd ar gael er mwyn ymrwymo i'r Cod. Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio fod y swyddogion yn gwybod am fodolaeth y pecynnau cymorth ond ategodd unwaith yn rhagor mai rhoi argymhellion i'w gweithredu gerbron a wna'r Cod Ymarfer ac nad oes gofyniad cyfreithiol i ymrwymo iddynt. 

 

Holodd y Pwyllgor faint o awdurdodau lleol oedd wedi ymrwymo i'r Cod. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio mai ychydig o awdurdodau oedd wedi ymrwymo iddo. Ar lefel ymarferol, ychwanegol fod awdurdodau lleol wedi mabwysiadu elfennau o'r Cod o'u gwirfodd, fel yn achos y Cyngor hwn. Byddai'r Cyngor yn mabwysiadu elfennau'r o'r Cod i'r graddau yr oedd yr adnoddau'n caniatáu hynny. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio y byddai'n darparu manylion yr awdurdodau lleol Cymreig hynny sydd wedi ymrwymo i'r Cod Ymarfer, ynghyd â'r costau sydd wedi deillio o'i weithredu.

 

Holodd y Pwyllgor a oedd cyflenwyr yn cael eu hannog i ymrwymo i'r Cod drwy'r contractau â chyflenwyr. Hysbysodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio y Pwyllgor nad yw'r Cyngor yn gorfodi contractwyr i lynu wrth y Cod am nad yw wedi ymrwymo iddo ei hun.

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at y ffaith nad oedd y Cyngor ar hyn o bryd yn cynnal asesiad o arferion cyflogaeth anghyfreithlon neu anfoesol a holodd sut yr oedd y Cyngor yn monitro'r sefyllfa i sicrhau bod pobl sy'n gweithio i gyflenwyr a chontractwyr y Cyngor yn cael eu trin yn deg. Hysbysodd y Rheolwr Caffael Corfforaethol y Pwyllgor fod gofyn i gyflenwyr a chontractwyr ateb cwestiynau ynghylch atal caethwasiaeth, cosbrestru a chyflogaeth foesegol yn nogfen SQUID y Cyngor.

 

Holodd y Pwyllgor a gynhaliwyd dadansoddiad o'r costau sydd ynghlwm wrth weithredu'r Cod a'i becynnau cymorth. Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio nad oedd gweithredu'r Cod wedi'i brisio.

 

Gofynnodd y Pwyllgor beth fyddai cost amcangyfrifedig gweithredu'r Cod Ymarfer.  Er bod Cyfarwyddiaethau'n monitro'r contractau maent yn eu rheoli, nododd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio y byddai angen i'r awdurdod gyflogi rhagor o swyddogion ymhob Cyfarwyddiaeth yn ogystal â swyddog Caffael ychwanegol, a hynny er mwyn monitro'r sefyllfa ran cydymffurfio â gofynion atal caethwasiaeth, cosbrestru a chyflogaeth foesegol.  Hysbysodd y Dirprwy Arweinydd y Pwyllgor fod yn rhaid ystyried ymrwymo i'r Cod yn unol â'r gwasgfeydd yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Nododd y byddai angen i'r Cyngor asesu a fyddai'n dod yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig ac, unwaith yn rhagor, byddai'n rhaid iddo ystyried y gwasgfeydd arno wrth fodloni gofynion y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Hysbysodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio y Pwyllgor y byddai'r Cyngor yn cydymffurfio o ran talu'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol hyd nes y byddai'r gyfradd fesul awr yn cynyddu. Cadarnhaodd y Dirprwy Arweinydd fod Cyngor Caerdydd yn Gyflogwr Cyflog Byw.

 

Holodd y Pwyllgor a oedd ewyllys i fabwysiadu'r Cod Ymarfer. Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod dyhead gwleidyddol i fabwysiadu'r Cod Ymarfer ond ategodd fod hyn yn dibynnu ar setliad Llywodraeth Cymru ac ar adnoddau'r Cyngor.

 

Gofynnodd y Pwyllgor a ystyriwyd penodi Hyrwyddwr Atal Caethwasiaeth a Chyflogaeth Foesegol. Nododd y Dirprwy Arweinydd fod y cyfrifoldeb dros atal caethwasiaeth a chyflogaeth foesegol yn perthyn i'w bortffolio ef. Roedd yn ystyried menter gan Gyngor Preston a oedd yn ymwneud ag atal caethwasiaeth a chyflogaeth foesegol a dywedodd y byddai'n cynhyrchu nodyn briffio ac y byddai'n ei rannu â'r Pwyllgor.  

 

Holodd y Pwyllgor a oedd adroddiad ynghylch y bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi'i gynhyrchu. Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio nad oedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn rhan o'r Cod Moesegol, ond ategodd fod yr Adran Adnoddau Dynol yn ystyried y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ac y byddai'n sicrhau bod yr adroddiad hwnnw'n cael ei gynhyrchu'n gynt.

 

Holodd y Pwyllgor ynghylch y berthynas ag Undebau Llafur. Credai'r Dirprwy Arweinydd fod y berthynas yn gadarnhaol. Dywedodd fod cyfarfodydd ffurfiol ac anffurfiol rheolaidd yn cael eu cynnal ag Undebau Llafur a'u bod yn digwydd bob deufis. Roedd y berthynas yn dda ar y cyfan.

 

Holodd y Pwyllgor a oedd gan y Cyngor weithwyr ar gontractau dim oriau.  Nododd y Dirprwy Arweinydd nad oedd gan y Cyngor dim bwriad i newid i safbwynt o ran contractau dim oriau. Hysbysodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio y Pwyllgor y byddai'n gofyn i'r Adran Adnoddau Dynol roi gwybodaeth i'r Pwyllgor am safbwynt y Cyngor o ran defnyddio contractau dim oriau.  

 

Holodd y Pwyllgor a oedd contractwyr sy'n cael eu defnyddio gan y Cyngor yn cytuno â safbwynt y Cyngor o ran contractau dim oriau. Hysbysodd y Rheolwr Caffael Corfforaethol y Pwyllgor nad oes gorfodaeth ar gontractwyr i gydymffurfio â pholisïau'r Cyngor pan fo gwaith yn cael ei ddyfarnu drwy dendr, ond nododd y byddai'n rhaid i gontractwyr fod wedi mabwysiadu arferion cyflogaeth er mwyn tendro. Mae gofyn i gontractwyr arwyddo eu bod yn gyflogwyr moesegol. Nododd nad oedd yn gwybod am gwynion a wnaed yn erbyn contractwyr neu isgontractwyr y Cyngor o ran arferion anfoesol.

 

Holodd y Pwyllgor a oedd y Cyngor wedi defnyddio cytundebau peidio â datgelu neu a oedd ganddo ganllawiau parthed eu defnydd. Hysbysodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio y Pwyllgor nad yw cytundebau peidio â datgelu'n cael eu defnyddio ym maes Caffael, ond dywedodd fod rhai amgylchiadau ym maes cyflogaeth lle defnyddir cytundebau setlo. Nododd y glynir wrth ganllawiau ACAS pan ddefnyddir cytundebau setlo.

 

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd y Cyngor yn defnyddio interniaethau di-dâl.   Hysbysodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio y Pwyllgor fod y Cyngor yn cynnig cyfleoedd profiad gwaith, ond dywedodd y byddai'n rhaid iddi gael eglurder ynghylch safbwynt y Cyngor o ran defnyddio interniaethau. Hysbysodd y Rheolwr Caffael Corfforaethol y Pwyllgor fod gofyn i gontractwyr sy'n tendro am gontractau adeiladu mawrion â'r Cyngor gynnig prentisiaethau. Hysbysodd y Dirprwy Arweinydd y Pwyllgor fod yr holl ddogfennaeth gaffael wedi'i llunio yn unol â pholisïau Llywodraeth Cymru sy'n ystyried gofynion cyflogaeth foesegol ac atal caethwasiaeth.  Nododd y byddai'n barod i'r Cyngor ymrwymo i'r Cod Ymarfer ar yr amod fod Llywodraeth Cymru'n sicrhau digon o adnoddau i'w weithredu. Hysbysodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio y Pwyllgor fod y Rheolwr Caffael Corfforaethol y gweithio ar strategaeth gaffael a fydd yn cynnwys gofyniad i gontractwyr lynu wrth arferion cyflogaeth moesegol.   Byddai'n rhaid i'r Cyngor gymeradwyo'r Strategaeth Gaffael. Dywedodd fod popeth a wna'r Cyngor eisoes yn cyd-fynd â'r Cod Ymarfer. Rhoddodd y Dirprwy Arweinydd sicrwydd i'r Pwyllgor fod gofynion y Cod Ymarfer yn cael eu bodloni'n fewnol.  

 

Diolchodd y Pwyllgor i'r gwahoddedigion am eu cyfraniadau.

 

Casgliadau

 

Sylwadau Cyffredinol

Er bod y Pwyllgor yn deall y goblygiadau cyllidebol, anogodd yr Aelodau Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ymrwymo i dalu cyflog sydd gyfuwch â Chyflog Byw y Sefydliad Cyflog Byw.

 

Argymhellion

Wrth gyfeirio at oblygiadau ariannol ymrwymo i'r Cod Ymarfer, argymhellodd y Pwyllgor y dylid cynnal dadansoddiad llawn o'r costau ac yna adrodd yn ôl i'r Aelodau.

 

Yn ogystal â'r uchod, argymhellodd y Pwyllgor hefyd y dylai Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr weithio ag Undebau Llafur i weithredu'r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi ac y dylai hynny fod yn gost niwtral.  

 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Faint o Awdurdodau Lleol yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i'r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi a faint mae hyn wedi'i gostio i'r Cynghorau hynny?
  • Gofynnodd y Pwyllgor am gopi o'r adroddiad sy'n cael ei lunio am y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
  • Gofynnodd yr Aelodau a oedd gan y Cyngor yn cynnig interniaethau di-dâl.
  • Holodd y Pwyllgor ynghylch polisi'r Awdurdod Lleol o ran contractau dim oriau a holodd hefyd a oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cyflogi rhywun ar gytundeb dim oriau ar hyn o bryd.
  • Wrth drafod cyflogaeth foesegol yn y sefydliad ac o fewn cadwyni cyflenwi, cytunodd yr Aelodau i dderbyn nodyn briffio oddi wrth y Dirprwy Arweinydd sy'n amlinellu'r ymchwil a gynhaliwyd i'r hyn a gyflawnwyd gan Gyngor Preston ar y pwnc.

                                 

Dogfennau ategol: