Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) ar Bersbectif Defnyddwyr y Gwasanaeth o Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid a'r Swyddog Adran 151adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Bersbectif Defnyddwyr y Gwasanaeth o Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl o fewn yr awdurdod.

 

Adroddodd Martin Gibson a oedd yn cynrychioli Swyddfa Archwilio Cymru ei fod wedi cwblhau gwaith yn 2017-18 i ddeall persbectif defnyddwyr y gwasanaeth o Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl ym mhob Cyngor yng Nghymru. Nododd mai casgliad cyffredinol yr adroddiad oedd bod y rhan fwyaf o ddefnyddwyr gwasanaethau yn hapus gyda'r gwasanaeth addasiadau tai, ond nad oedd y Cyngor yn sicrhau’r cyfleoedd mwyaf posibl i wella'r gwasanaeth a darparu gwerth am arian. Cafodd pum cynnig am welliant eu nodi yn dilyn yr adolygiad. 

 

Holodd y Pwyllgor a yw defnyddwyr gwasanaethau yn cael cyfle i werthuso'r gwaith pan fo'r contractwr adeiladu yn dal i wneud addasiadau neu a allant gael y contractwr i ddychwelyd i'r eiddo'n gyflym i gywiro problemau a namau. Dywedodd cynrychiolydd SAC wrth y Pwyllgor fod gwerthusiad yn cael ei gynnal ar ôl cwblhau'r addasiadau. Nododd fod Gofal a Thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr yn ymgymryd â dau draean o waith addasu a bod defnyddwyr gwasanaethau yn derbyn arolwg bodlonrwydd o'r addasiadau a wnaed, sy’n cael eu gwerthuso wedi hynny. Mae traean o ddefnyddwyr gwasanaethau nad ydynt yn defnyddio Gofal a Thrwsio ac mae SAC yn credu y dylai'r awdurdod gryfhau ei drefniadau gwerthuso. Gwnaeth y Rheolwr Gr?p Tai hysbysu’r Pwyllgor fod arolwg o ddefnyddwyr gwasanaethau nad ydynt yn defnyddio gwasanaethau Gofal a Thrwsio yn cael ei gynnal. Mae'r mwyafrif o'r ymatebion a dderbyniwyd yn gadarnhaol ac mae'r addasiadau wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau defnyddwyr gwasanaethau. Nododd fod y syrferwyr yn gwneud archwiliadau terfynol yn y cyfamser o'r addasiadau a wnaed gan gontractwyr a bod y syrferwyr yn rhan o'r Tîm Grant Cyfleusterau i'r Anabl (DFG). Hysbysodd y Pwyllgor fod angen cryfhau'r trefniadau i werthuso addasiadau, lle mae defnyddwyr gwasanaethau yn comisiynu contractwyr annibynnol i ymgymryd â'r addasiadau.

 

Gofynnodd y Pwyllgor a yw defnyddwyr gwasanaethau yn ymwybodol o gost yr addasiadau. Gwnaeth y Rheolwr Gr?p Tai hysbysu’r Pwyllgor y bydd yr asiant yn darparu Rhestr Feintiau a fydd yn nodi cost yr addasiadau. Caiff ymgeiswyr brawf modd ac efallai bydd yn ofynnol iddynt wneud cyfraniad tuag at gost yr addasiadau. Bydd ymgeiswyr yn cael dewis o ran pa asiantau y dymunant ymgysylltu â nhw. Nododd fod Gofal a Thrwsio yn adnabyddus iawn ac wedi'i sefydlu er mwyn cyflawni'r gwaith addasu. Mae angen i'r defnyddwyr gwasanaethau sy’n defnyddio eu hasiantau eu hunain gael o leiaf dau ddyfynbris ar gyfer yr addasiadau. 

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at absenoldeb rhestr o gontractwyr cymeradwy a holodd a yw’r awdurdod yn cysylltu ag awdurdodau lleol cyfagos. Gwnaeth y Rheolwr Gr?p Tai hysbysu’r Pwyllgor fod yr awdurdod yn cysylltu â Chynghorau Caerdydd a Chastell-nedd Port Talbot i edrych ar arferion da er mwyn adolygu arferion yr awdurdod. 

 

Ystyriodd y Pwyllgor y dylid creu rhestr o'r adeiladwyr proffesiynol sy'n gallu cyflawni gwaith addasu i leihau’r perygl o grefftwaith diffygiol. Nododd y Rheolwr Gr?p Tai eu bod yn edrych ar system fwy cadarn o fonitro contractwyr er mwyn lleihau’r perygl ac i weld a allai’r Adran weithio'n agos gydag Adran Landlord Corfforaethol y Cyngor. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor a yw’n ofynnol i gontractwyr weithio yn unol ag amserlen gytunedig. Dywedodd y Rheolwr Gr?p Tai wrth y Pwyllgor y bydd yn rhaid i gontractwyr raglennu gwaith, er efallai y bydd oedi anochel i waith sydd ar gychwyn. Nododd y byddai disgwyl i gontractwyr ddisgwyl cychwyn ar yr addasiadau a chwblhau’r gwaith o fewn blwyddyn i gymeradwyaeth y Grant Cyfleusterau i’r Anabl. Gwneir taliadau dros dro i gontractwyr yn dibynnu ar werth y gwaith a rhaid bod pob tystysgrif cwblhau yn ei lle cyn gwneud y taliad terfynol. 

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at nifer y dyddiau a gymerwyd i ddarparu DFG, sydd ar gyfartaledd yn cymryd 300 diwrnod, a holodd a oedd hyn o ganlyniad i’r ffaith bod nifer o asiantaethau’n cael eu defnyddio. Nododd y Rheolwr Gr?p Tai fod angen symleiddio prosesau ac y bydd defnyddio asiantaeth yn ychwanegu haen i'r broses. Nododd hefyd mai un o rwystredigaethau'r swyddogion yw'r anghysondeb wrth gofnodi dangosyddion perfformiad gan awdurdodau lleol. Dywedodd cynrychiolydd SAC fod gan SAC bryderon ynghylch cofnodi’r dangosydd perfformiad ar gyfer y DFG, sydd heb ei archwilio.

 

Gwnaeth y Pwyllgor gais y dylai astudiaethau achos gael eu cynnal lle mae eiddo wedi manteisio ar y DFG. Nododd y Rheolwr Gr?p Tai y byddai astudiaethau achos yn cael eu cynnal a'u hadrodd i'r Pwyllgor er gwybodaeth.

 

Gofynnodd y Pwyllgor a fyddai argymhellion SAC yn cael eu plethu i’r adolygiad o’r DFG. Nododd y Rheolwr Gr?p Tai fod y DFG yn un math o grant ac y byddai'r adolygiad yn edrych ar y mathau eraill o grantiau sydd ar gael ac yn archwilio dulliau gwell o weithio gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae rhai systemau eisoes ar waith gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol ond mae angen i’r systemau hynny gael eu hadolygu i greu gwell trefniadau gweithio gyda Therapyddion Galwedigaethol. 

 

Holodd y Pwyllgor a fyddai SAC yn ailedrych ar yr adolygiad o’r DFG.  Nododd cynrychiolydd SAC fod cynlluniau'n cael eu datblygu gyda'r Pennaeth Cyllid. Nododd y Pennaeth Cyllid y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor i ddarparu cynllun gweithredu mewn perthynas â'r argymhellion yn SAC. 

 

Cwestiynodd y Pwyllgor a yw cwynion a chanmoliaethau’n cael eu cofnodi.  Nododd y Rheolwr Gr?p Tai y cedwir cofnod o bryderon ac ni fydd taliadau’n cael eu gwneud nes y bydd y gwaith wedi’i gwblhau'n foddhaol. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Pwyllgor, nododd y Rheolwr Gr?p Tai y byddai'n hysbysu’r Pwyllgor o’r ffi a dalwyd i'r asiant i gefnogi’r defnyddiwr gwasanaeth drwy'r broses adeiladu.

 

PENDERFYNWYD:           Bod y Pwyllgor wedi nodi Adroddiad SAC ar Bersbectif Defnyddwyr y Gwasanaeth o Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl.                

 

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z