Agenda item

I dderbyn cyhoeddiadau gan y canlynol:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

 

Cofnodion:

Maer

 

Gwnaeth y Maer longyfarch Gorsaf Dân Pen-y-bont ar Ogwr ar ei llwyddiant am ennill am y drydedd tro yn olynol ym Mhencampwriaeth y Byd am dynnu o gerbyd modur. Rhoddodd wybod i'r Cyngor fod cyfle i wneud enwebiadau ar gyfer ei Wobrau Dinasyddiaeth blynyddol. Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 25 Ionawr 2019, gyda'r enillwyr yn cael eu hanrhydeddu mewn digwyddiad ym mis Mawrth 2019.  

 

Dywedodd y Maer wrth y Cyngor am y digwyddiadau yr oedd ef a'i Gydweddog wedi'u mynychu dros y mis diwethaf a oedd yn cynnwys gosod torch yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr i goffáu diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Ymwelodd y Maer a'r Cydweddog â chwmnïau a oedd wedi derbyn gwobrau yng ngwobrau busnes Pen-y-bont ar Ogwr ac aethpwyd i wobrau gwirfoddoli BAVO (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr), twrnamaint pêl-droed plant y Rotari, cynhyrchiad Ysgol Brynteg o High School Musical, g?yl ddiolchgarwch Ysgol Gynradd Notais a sioe geir Hot Rod ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Treuliodd ef a'i Gydweddog amser yn gwerthu pabïau gyda'r Cynghorydd DBF White yn ail-lansiad Canolfan Llesiant Cefn Glas. Gwnaethon nhw hefyd ymweld ag Ysgol Afon y Felin i gynorthwyo â dadorchuddio cerflun ar dir yr ysgol yn ogystal â chynrychioli'r awdurdod i nodi agoriad swyddogol Cwrt y Crwner ym Mhontypridd a mynd i Wasanaeth Dinesig Bro Morgannwg.

 

Dirprwy Arweinydd

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd wrth y Cyngor am ymgynghoriad cyllideb 'Llunio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr' a oedd wedi'i gau yn gynharach yr wythnos hon, a oedd wedi derbyn 2,677 o arolygon wedi’u cwblhau. Gwnaeth 679 o bobl gymryd rhan yn y sesiynau clicker pad ac roedd 2,148 wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau. Bu ymgysylltu uniongyrchol â grwpiau megis Cynghrair Pobl Anabl Pen-y-bont ar Ogwr a BAVO. Cafwyd rhaglen gyhoeddusrwydd lawn ynghyd â chyfres o stondinau a thrafodaethau ymgysylltu â'r cyhoedd a oedd wedi digwydd ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor. Cynhaliwyd cyfres o weithdai cyllideb cynhyrchiol iawn mewn ysgolion uwchradd a chynradd, gan annog pobl ifanc i ymwneud yn fwy â'r broses ddemocrataidd. Diolchodd y swyddogion am eu gwaith caled yn cyflwyno'r ymgynghoriad ac i'r cyhoedd am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

 

Aelod y Cabinet dros Gymunedau

 

Cyhoeddodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau fod camerâu CCTV newydd wedi'u gosod er mwyn helpu i wneud traethau yn Rest Bay a Newton yn fwy diogel. Bydd y camerâu yn cael eu monitro o bell gan wirfoddolwyr o Sefydliad Cenedlaethol Coastwatch a fydd yn cydweithio'n agos ag achubwyr bywydau'r RNLI (Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub). Bydd y ddau sefydliad yn rhoi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau diogelwch yn uniongyrchol i wylwyr y glannau a'r gwasanaethau brys. Mae'r camerâu wedi'u gosod gan y Cyngor fel rhan o ymdrechion cydweithredol i wneud y morlin mor ddiogel â phosibl.

 

Cyhoeddodd hefyd fod rhaglen £400,000 ar waith i wella palmentydd a llwybrau cerdded yn rhai o'r prif leoedd yn y Fwrdeistref Sirol, gydag 16 o strydoedd yn cael eu targedu i gael eu hatgyweirio a gwella problemau draenio. Y strydoedd sy'n cael eu targedu yw Heol Onnen a Fairfield, Gogledd Corneli, Dol Afon a Maes y Wern, Pencoed, Stryd y Dywysoges, Maesteg, Blosse Street, Nantyffyllon, East Avenue and West Avenue, Cefn Cribwr, Rhodfa’r Gorllewin, Porthcawl, Burns Crescent, Bryntirion, Brynffrwyd Close, Llangrallo, Heol Dewi Sant, Betws, Hill View, Pontycymer, Rhes Moira, Cwm Ogwr, a Kenry Street, Evanstown. 

 

Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Cyhoeddodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ei fod ef ac Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol wedi ymweld â datblygiad Lon Derw, Ynysawdre i weld y cynnydd. Mae'r cyfleuster gofal ychwanegol yn y camau olaf o’r gwaith paratoi, tra bod elfen y cartrefi fforddiadwy wedi'i chynllunio a'i haddasu'n arbennig i gefnogi'r sawl sydd ag amrediad o anghenion ac anableddau. Gwnaeth ef ac Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol dystio'r effaith gadarnhaol y mae'r datblygiad yn ei chael yn barod ar fywydau pobl leol ac roedd yn edrych ymlaen at weld datblygiad Lon Derw yn agor yn llawn. 

 

Cyhoeddodd hefyd bod y Cyngor yn ddiweddar wedi nodi Wythnos Genedlaethol Diogelu gyda chyfres o ddigwyddiadau i godi ymwybyddiaeth yngl?n â'r gwahanol fathau o drais. Roedd hwn yn dilyn lansiad diweddar Hwb Diogelu Amlasiantaethol Pen-y-bont ar Ogwr, sydd yn diogelu pobl sy'n agored i niwed rhag trais a cham-fanteisio. Datganodd fod y Cyngor a'i bartneriaid yn cyflwyno sesiynau ar bynciau a oedd yn cynnwys sut i adnabod achosion o gam-fanteisio’n rhywiol ar blant, siarad â phlant yn eu harddegau am eu hiechyd a'u llesiant, delio â cham-drin cyffuriau ac alcohol, 'secstio', e-ddiogelwch, twyll ar stepen y drws a llawer mwy.  Rhoddodd wybod i Aelodau fod Diogelu yn gallu digwydd ar sawl ffurf a bod gan bawb ran i'w chwarae i helpu i gadw eraill yn ddiogel. Roedd yn falch o weld y Cyngor yn nodi'r wythnos mewn modd manwl a chynhwysfawr ac yn gobeithio ei bod wedi helpu pobl i adnabod y peryglon a chael mynediad at gymorth a chefnogaeth briodol.

 

Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

           

Cyhoeddodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol fod mwy na £8,000 wedi'i fuddsoddi mewn chwaraeon ar lawr gwlad o ganlyniad i'r rownd ddiweddaraf o grantiau'r Gist Gymunedol. O ganlyniad i'r cymorth ariannol, bydd Cornelly Striders, Clwb Triathlon Pencoed, Clwb Bechgyn a Merched Abercynffig, Achubwyr Bywydau Rest Bay, Saethwyr Targed Maes Tondu, Clwb Trampolin Vertigo, Clwb Gymnasteg All Star a Gr?p Diddordeb Cymunedol Impetus Dance i gyd yn elwa. Datganodd fod y Gist Gymunedol yn cael ei hariannu gan Chwaraeon Cymru ac yn cael ei rhedeg yn lleol gan y Cyngor ac yn cynnig grantiau hyd at £1,500 i glybiau chwaraeon, sefydliadau a grwpiau i helpu pobl i ddod yn fwy heini. Gwnaeth annog Aelodau i roi gwybod i'w hetholwyr am y cyfle hwn gyda manylion ar gael ar wefan Chwaraeon Cymru.   

 

Rhoddodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol wybod i Aelodau am y cynlluniau sydd yn eu lle i gefnogi pobl sy'n cysgu ar y stryd y gaeaf hwn. Nododd fod lle diogel, sych a chynnes i gysgu ynddo ar gael yn The Elms yn Ystad Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr o 8pm tan 8am, gydag oriau estynedig ar Wyliau Banc neu os yw'r tywydd yn eithafol. Caiff ei ddarparu gan y cynllun Floor space. Mae gofod llawr yn cael ei ddyrannu’n ddyddiol i ddefnyddwyr sy’n gwneud cais amdano, drwy fynd i Ganolfan Cymorth Leol Gwalia yng Nghanolfan Stryd Bracla rhwng 3pm a 5pm. Mae brecwast ar gael rhwng 6:30am a 9am, lle darperir rhôl frecwast a diod boeth i'r sawl sy'n cysgu ar y stryd ac mae canolfan galw heibio ar gael ar Stryd y Parc rhwng 9.30am a 12pm, sy’n darparu cyfleusterau ymolchi, mynediad at ffôn a chyfrifiadur. Mae hefyd gwasanaeth galw heibio yn y prynhawn ar gael yn y Zone yn Dunraven Place rhwng 1:30pm i 4:30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener a 9am i 12pm ar ddydd Sadwrn, lle gall defnyddwyr y gwasanaeth gael pryd bwyd.

 

Rhoddodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol wybod i Aelodau fod gwasanaeth allan o oriau y Tîm Atebion Tai ar waith, yn cynnig cefnogaeth, cyngor a chymorth ymarferol ym mhob un o'r gwasanaethau a grybwyllwyd gyda'r nod yn y pen draw i ddarparu llety ar gyfer y sawl sy'n cysgu ar y stryd.

 

Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio

 

Cyhoeddodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio ei bod nawr yn bosibl gwneud ceisiadau ar-lein ar gyfer derbyniadau i ysgolion uwchradd. Roedd lansiad y cyfleuster newydd wedi bod yn hynod galonogol ac mae bron i fil o geisiadau wedi eu derbyn hyd yma ar gyfer derbyniad Medi 2019. Bydd derbyniadau i ysgolion babanod, ysgolion cynradd ac ysgolion iau yn agor ar 26 Tachwedd a gofynnodd i Aelodau hysbysu eu hetholwyr am hyn. 

Gall ceisiadau gael eu cwblhau gan ddefnyddio ffurflenni sydd ar gael yn adran ‘Fy Nghyfrif’ y wefan.

 

Gwnaeth Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio longyfarch Ysgol Gynradd Croesty am fod yr ysgol ddiweddaraf i ennill Gwobr Efydd Teithio Llesol gan Sustrans Cymru, i gydnabod y ffaith bod disgyblion a rhieni yn defnyddio dwy olwyn yn hytrach na phedair i gyrraedd yr ysgol o ddydd i ddydd. 

 

Cyhoeddodd hefyd bod mwy na 1.5 miliwn o brydau bwyd maethlon yn cael eu coginio a'u darparu mewn ysgolion lleol bob blwyddyn, a oedd yn un o'r ffeithiau a gyhoeddwyd i hyrwyddo Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol.  Fel rhan o'r digwyddiad, treuliodd cogydd Ysgol Gynradd Tremaen, Leanne Rees Sheppard, sef Cogydd Ysgol y Flwyddyn Cymru ar hyn o bryd, ddiwrnod yn y gegin ym mwyty James Sommerin ym Mhenarth. Dywedodd wrth yr Aelodau fod prydau ysgol yn chwarae rhan bwysig iawn a bod 50 o ysgolion nawr yn derbyn taliadau ar-lein.

 

Prif Weithredwr

 

Cyhoeddodd y Prif Weithredwr fod asesydd ansawdd 'Quest' y diwydiant hamdden wedi mynd ati’n ddiweddar i graffu ar waith cyfunol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Halo Leisure, siopau lleol, clybiau a grwpiau gwirfoddol a oedd wedi cyflwyno sgôr 'ardderchog' a chanmolodd effaith y dull partneriaeth ar iechyd, llesiant a ffitrwydd trigolion lleol. Datganodd mai dyma'r tro cyntaf i Quest asesu dull partneriaeth yng Nghymru, ac felly mae'r sgôr 'ardderchog' yn gamp sylweddol. Ers i'r bartneriaeth hamdden ddechrau yn 2012, bu cynnydd o 9% yn nifer yr ymwelwyr â chanolfannau bywyd ochr yn ochr â buddsoddiad enfawr mewn cyfleusterau newydd.

 

Gwnaeth Quest dynnu sylw at waith y bartneriaeth i ehangu cyfleoedd ar gyfer chwaraeon anabledd a mynd i'r afael â materion fel anfantais a chydraddoldeb rhywiol, gan amlygu mentrau llwyddiannus fel y Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, y Rhwydwaith Merched, Family Active Zone, Gemau Olympage, Access to Leisure, Move More Often, achrediad arian InSport a mwy. Nododd fod y bartneriaeth wedi bod yn allweddol i alluogi hyn oll, ac fe wnaeth longyfarch swyddogion, Aelodau a phartneriaid sydd wedi helpu i gyflawni'r llwyddiant hwn. Roedd yn gobeithio y bydd partneriaethau o'r fath yn parhau i gyflwyno gwasanaeth o safon uchel i'r bobl leol.