Agenda item

Adroddiad Diweddaru ar Uno Fforwm Cydraddoldeb a Grŵp Cydlyniad Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr (Fforwm Cydlyniad Cymunedol a Chydraddoldeb Pen-y-bont ar Ogwr erbyn hyn)

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb y diweddaraf ar gynnydd uniad Gr?p Fforwm Cydraddoldeb a Chydlyniad Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Rhoddodd resymau a nodau’r uniad i’r Pwyllgor. Roedd presenoldeb yn y ddau gr?p yn isel a chan fod rhai o’r un unigolion a grwpiau ynghlwm, penderfynwyd archwilio mantais uno’r ddau. Roedd y rhesymau eraill yn cynnwys rhannu cyfrifoldebau ymhlith llawer o’r mynychwyr, ystyried dull ar y cyd gyda Chydlyniad Cymunedol ac adolygiad pellach o Amodau Gorchwyl Fforwm Cydraddoldeb Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Esboniodd fod cyfarfod cwmpasu cychwynnol wedi’i gynnal ar 1 Chwefror 2018 a fynychwyd gan gynrychiolwyr y ddau gr?p. Cynhaliwyd y cydgyfarfod cyntaf ar 27 Ebrill 2018 lle cytunwyd y trefniadau Cadeirio ac Ysgrifenyddiaeth a’r Amodau Gorchwyl. Cynhaliwyd dau gyfarfod pellach ym mis Gorffennaf a Hydref 2018, gyda’r nod i bob cyfarfod gael prif agenda lle derbynnir cyflwyniad sy’n berthnasol i’r mynychwyr. Mae’r Gr?p wedi cael cyflwyniadau ar Ymgyrch Gwarchod (Operation Guardian) – Llinellau Sirol, ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb a rôl a gwaith yr Ymddiriedolaeth Cefnogi Ieuenctid Ethnig. Mae presenoldeb yn y gr?p wedi cynyddu a chred y mynychwyr fod y cyfarfodydd yn fwy ystyrlon a boddhaus ac maen nhw’n credu hefyd iddynt elwa ers yr uniad. Bydd y cyfarfod nesaf yn trafod lles a bydd yn cael ei gynnal ym mis Ionawr 2019.

 

Mae Heddlu De Cymru hefyd wedi darparu adroddiad a gyflwynwyd yn flaenorol i’r Gr?p Cydlyniad Cymunedol a ddarparodd ffigurau troseddau casineb, y defnydd o’r ffigurau ar drais yn erbyn menywod a merched, stopio a chwilio a chwynion a godwyd yn erbyn yr heddlu ac ymddygiad yr heddlu.

 

Gofynnodd Aelod o’r Pwyllgor a wnaed y Cynghorau Tref a Chymuned yn ymwybodol o’r gr?p ac a oes modd iddynt fod ynghlwm.  

 

Credodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb y dylai Cynghorau Tref a Chymuned fod yn ymwybodol o’r gr?p a byddai’n ysgrifennu atynt yn eu gwahodd i fynychu ac yn sicrhau bod adroddiadau a chofnodion ar gael iddynt er mwyn gweld a fyddai ganddynt ddiddordeb mewn mynychu. Credai y byddai o fantais cyrraedd cynifer o sefydliadau â phosibl.

 

Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor a ellid gwahodd BAVO, grwpiau Cyfeillgar i Ddementia a Iaith Gymraeg i’r gr?p er mwyn i’r gr?p allu cael cyrhaeddiad mwy o faint. Datganodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod angen annog aelodaeth mor eang â phosibl i fod ynghlwm â’r gr?p. Mae BAVO eisoes wedi cytuno i fynychu cyfarfodydd y dyfodol.   

 

Gofynnodd Aelod a osodwyd unrhyw dargedau am bresenoldeb ar gyfer y gr?p newydd ei uno. Datganodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb nad oes targed penodol ar gyfer y niferoedd sy’n bresennol ond roedd angen sicrhau bod gan y gr?p bresenoldeb eang.

Gofynnodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb i’r Pwyllgor a oedd ganddo ddull roedd yn ei ffafrio o dderbyn cyfathrebiadau gan y gr?p. Gofynnodd yr Aelodau am gael adroddiad blynyddol y gr?p oherwydd dyna fyddai’r ffordd fwyaf llawn gwybodaeth a manteisiol o gael gwybodaeth.

 

Gofynnodd Aelod o’r Pwyllgor a ellid sefydlu cyfleuster trwy ModernGov a allai ddosbarthu’r adroddiad blynyddol i bob Aelod, yn ogystal â mynychwyr y Fforwm Cydlyniad a Chydraddoldeb, fel ag y gwneir gyda’r dogfennau agenda. Dywedodd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd y byddai hynny’n bosibl a byddai’r Tîm yn edrych ar y ffordd fwyaf effeithiol o wneud hyn trwy weithio gyda’r Tîm Cyfathrebu.

 

PENDERFYNWYD: Bod Pwyllgor y Cabinet Cydraddoldeb yn nodi’r adroddiad.

Dogfennau ategol: