Agenda item

Diweddariad ar Gynllun Adfywio Porthcawl

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau ddiweddariad ar Gynllun Adfywio Porthcawl a gofyn am gymeradwyaeth i adolygu'r rhaglen gyfalaf i fuddsoddi derbyniadau cyfalaf rhagweledig sy’n deillio o werthu tir, yn cynnwys Maes Parcio Salt Lake. Gofynnodd hefyd am gymeradwyaeth i sicrhau arian cyfatebol ar gyfer gwelliannau i amddiffynfeydd arfordirol a fydd yn rhyddhau cyfnodau datblygu yn y dyfodol.

 

Hysbysodd y Cyngor fod y broses o gaffael buddiannau llesddaliad trydydd partïon ym maes parcio Salt Lake, swm o £3.3 miliwn wedi'i chymeradwyo gan y Cabinet ar 19 Rhagfyr 2017, a roddodd fuddiant rhydd-ddaliadol heb ddyled i'r Cyngor ar y safle i sicrhau ei fod yn cael ei ailddatblygu. Dywedodd mai'r cynllun gwreiddiol oedd ystyried rhoi archfarchnad fawr ym maes parcio Hillsboro, ond ers hynny, arweiniodd newidiadau sylfaenol yn y farchnad siopau bwyd at alw am siop fwyd lai o faint. Yn dilyn asesiad o opsiynau, roedd y strategaeth bresennol yn seiliedig ar leoli’r siop ar ochr ogleddol Salt Lake gan gadw Hillsboro fel prif faes parcio canol y dref.  

 

Adroddodd mai un o'r prif ofynion i sicrhau bod safle cyfan Salt Lake yn cael ei ddatblygu yw gwaith amddiffyn arfordirol i leihau peryglon llifogydd, a heb y gwaith hwn, ni fyddai’n bosibl datblygu mwyafrif y parseli a nodwyd ar gyfer tai. Byddai denu cyfleusterau hamdden ar ochr ddeheuol y safle yn gallu bod yn broblematig hefyd. Hysbysodd y Cyngor fod achos busnes amlinellol ar gyfer gwaith amddiffyn arfordirol wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a bod cynlluniau manwl yn cael datblygu. Os bydd yn llwyddiannus, byddai'n arwain at gyllid o 75% drwy’r Fenter Benthyca Llywodraeth Leol tuag at y gwaith hwn. Gofynnwyd i'r awdurdod gyfrannu 25% o arian cyfatebol. Dywedodd nad oedd yn ddisgwyliedig cael penderfyniad ar y cyllid gan Lywodraeth Cymru tan hydref / gaeaf 2019. 

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod dadansoddi marchnadoedd, cyfyngiadau i seilwaith allweddol ac ystyriaethau llif arian yn gorchymyn bod y datblygiad yn cael ei gyflwyno mewn camau. Amlinellodd y strategaeth arfaethedig fesul cam:

 

·         Cam 1 – Safle Archfarchnad

·         Cam 2 – Tai

·         Cam 3 – Maes Parcio Hillsboro Place

·         Cam 4  – Gwaith amddiffyn rhag llifogydd arfordirol ar Bromenâd y Dwyrain a’r ardal ehangach

·         Cam 5 & 6 – Safleoedd Tai

·         Cam 7 – Safle Hamdden

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau'r sail resymegol dros glustnodi derbyniadau cyfalaf ynghyd â chrynodeb o dderbyniadau. Amlinellodd hefyd strategaeth ar gyfer y cynnig i ail-fuddsoddi derbyniadau lle caiff buddsoddiad ei wneud ym maes parcio Hillsboro, tra byddai gwelliannau’n cael eu gwneud i faes parcio Salt Lake er mwyn ei alluogi i redeg fel maes parcio cyhoeddus gan y Cyngor a fydd yn gofyn am beiriannau talu ac arddangos newydd. Byddai gwelliannau hygyrchedd yn cael eu gwneud yn Portway gan gynnwys mannau croesi a'r posibilrwydd o gyflwyno parcio ar y stryd. Byddai gwaith ffisegol i'r safle hamdden yn cael ei ddwyn ymlaen fel rhan o'r strategaeth hamdden a byddai gwelliannau ffisegol yn cael eu gwneud i fynedfa'r safle, y promenâd a chysylltiadau cerddwyr i ganol y dref. Y costau prosiect amcangyfrifedig sy'n gysylltiedig â'r datblygiad yw £2.64 miliwn a gofynnir am awdurdod i gynnwys hyn yn y rhaglen gyfalaf. Byddai’r datblygiad yn cael ei gyflwyno fesul cam i leihau’r swm o fenthyca darbodus a dim ond pan fydd derbyniadau o werthiannau wedi’u sicrhau y gellid mynd i gostau seilwaith ac eithrio’r £100,000 sy’n angenrheidiol i wneud maes parcio Salt Lake yn weithredol. 

 

Cymeradwyodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio y swyddogion am gyflwyno’r datblygiad fesul cam mewn modd rhesymegol.  Croesawodd yr Aelodau'r cynigion a chwestiynu p'un a fyddai'n fwy buddiol oedi gwerthu'r safle nes i'r gwaith amddiffyn arfordirol gael ei gwblhau er mwyn sicrhau bod gwerth y tir a derbyniadau cyfalaf ar eu lefel uchaf posib. Gwnaeth yr Arweinydd hysbysu’r Cyngor nad oedd camau cychwynnol y datblygiad mewn ardal a oedd mewn perygl o lifogydd.  Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau y Cyngor fod camau 5-7 mewn ardaloedd a oedd mewn perygl o lifogydd. Gwnaeth yr Arweinydd hysbysu’r Cyngor fod adwerthwyr bwyd wedi dangos diddordeb sylweddol mewn datblygu siop fwyd. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai cam 1 y safle ar gyfer datblygu siop fwyd a fydd wedi'i lleoli'n agosach at ganol y dref.  Ystyriwyd na fyddai’n addas lleoli’r siop fwyd ar lan y môr. Nododd hefyd y byddai'r meysydd parcio sy’n cael eu hailddatblygu yn cynnwys mannau gwefru ar gyfer cerbydau trydanol. Diolchodd yr Arweinydd yr Aelodau lleol am fod yn gefnogol o'r cynigion. 

 

Gwnaeth aelod o'r Cyngor gwestiynu'r rhesymeg dros fuddsoddi yn seilwaith y meysydd parcio. Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau y Cyngor fod angen sicrhau cydbwysedd wrth fuddsoddi yn y meysydd parcio er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon a'u gwneud yn ddiogel.

 

Gwnaeth aelod o'r Cyngor gwestiynu p'un a fyddai'n fwy synhwyrol gwneud cynnig am waith amddiffyn arfordirol i gynnwys Sandy Bay. Datganodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau y byddai'n well gan Lywodraeth Cymru ariannu yn unol â cham 4 o'r datblygiad. Dywedodd fod y gwaith o ddatblygu maes parcio Salt Lake yn ei gwneud yn ofynnol bod y gwaith amddiffyn arfordirol yn cael ei gyflawni ac y byddai unrhyw oedi i'r gwaith hwn yn achosi oedi wrth ddatblygu’r safle.

 

Gwnaeth aelod o'r Cyngor ddiolch i'r swyddogion ac Aelod y Cabinet am eu cyfraniad ac am fabwysiadu dull gweithredu newydd o ran y datblygiad.

 

PENDERFYNWYD:           Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r elfennau priodol sy’n angenrheidiol i  gyflwyno Cynllun Adfywio Porthcawl:

 

  1. Adolygu'r rhaglen gyfalaf i gynnwys cyllideb o £2.64 miliwn o fuddsoddiad i adfywio Porthcawl, a ariennir gan gyfuniad o dderbyniadau cyfalaf a gafwyd drwy werthu tir yn Salt Lake, a benthyca darbodus;

 

  1. Darparu 25% o arian cyfatebol (tua £1 miliwn) tuag at waith amddiffyn arfordirol ym Mhorthcawl ac i'r awdurdod  sicrhau 75% o gyllid drwy’r Fenter Benthyca Llywodraeth Leol tuag at y gwaith hwn. Ni fydd y cynllun yn cael ei gynnwys yn y rhaglen gyfalaf nes i 75% o arian y Fenter Benthyca Llywodraeth Leol gael ei gymeradwyo;   

 

Noder: bydd y cyfanswm yn cael ei gadarnhau cyn cyflwyno'r achos busnes manwl i Lywodraeth Cymru sy’n ddisgwyliedig oddeutu Haf 2019. 

 

  1. Ddirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau a Swyddog Adran 151 i gytuno ar unrhyw amrywiadau mewn costau sy'n gysylltiedig â Chynllun Datblygu Porthcawl.                           

 

Dogfennau ategol: