Agenda item

Parc Afon Ewenni

Cofnodion:

Gwnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau adrodd ar gynnig i ddatblygu Depo Priffyrdd modern yn Nhred?r ar ôl troed llai er mwyn galluogi’r cynnig i adfywio safle Parc Afon Ewenni i ddatblygu a diogelu gofynion y depo ar gyfer y Cyngor i’r dyfodol fel rhan o’r broses gyffredinol o resymoli’r depo. Gwnaeth hefyd ofyn am gymeradwyaeth ar gyfer diwygio’r Rhaglen Gyfalaf er mwyn cynnwys swm cyfalaf pellach o £4,944,000 yn y Rhaglen Gyfalaf i adnewyddu a datblygu'r depo'n llawn, i'w ariannu drwy werthu tir yn Nhred?r fel rhan o Barc Afon Ewenni ac yn rhannol gan arian cyfalaf cyffredinol. 

 

Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau y Cyngor y cafwyd cymeradwyaeth gan y Cabinet ym mis Tachwedd 2016 fel mesur dros dro i weithredu Depo ôl troed llai yn Nhred?r am y 4/5 mlynedd nesaf er mwyn dod o hyd i gydbwysedd rhwng gweithredu depo dichonadwy a gwneud y mwyaf o’r tir sydd ar gael i’w waredu. Wrth ddatblygu'r strategaeth ar gyfer depo gweithredol ag ôl troed llai yn Nhred?r, cafodd dau ddewis eu nodi a'u hasesu. Dewis 1 i gadw Adeilad y Priffyrdd ac Adeilad Biffa; dymchwel Cyflenwadau'r Fwrdeistref Sirol (CBS), adeilad Fflyd a storfa biniau olwyn. Dewis 2 i gadw Adeilad Biffa, dymchwel CBS, Fflyd, Priffyrdd a'r storfa biniau olwyn. Gwnaeth Bwrdd Parc Afon Ewenni benderfynu datblygu dewis 2 a chwblhawyd y gwaith yn ystod 2017.

 

Adroddodd y byddai unrhyw gyflunio yn y dyfodol o ran ad-drefnu llywodraeth leol yn dal i ofyn am Ddepo Priffyrdd ym Mhen-y-bont ar Ogwr i wasanaethu'r Fwrdeistref Sirol. Amcangyfrifwyd y byddai Depo newydd mewn lleoliad newydd yn costio rhwng £9 miliwn a £12 miliwn, o ganlyniad i newid (tebygol) a gofynion mwy beichus gan Cyfoeth Naturiol Cymru. I gydnabod hyn, roedd y dewis o weithredu depo a oedd prin wedi'i newid am 4/5 mlynedd fel mesur dros dro yn unol â chymeradwyaeth y Cabinet ac yna adeiladu depo newydd mewn lleoliad diwygiedig yn edrych yn fwyfwy anfforddiadwy.

 

Dywedodd fod ymchwiliad wedi'i gynnal i nodi’r gwahaniaethau rhwng gweithrediad parhaol yr ôl troed llai am 4-5 mlynedd, gyda depo newydd yn cael ei adeiladu mewn lleoliad newydd wedi hynny, a'r dewis arall o ddatblygu depo gweithredol parhaol ar ôl troed llai yn Nhred?r. Dywedodd mai cyfanswm y gyllideb gyfalaf ar hyn o bryd ar gyfer y cynllun oedd £4.376 miliwn. Mae rhywfaint o'r gyllideb hon eisoes wedi’i neilltuo i waith yn Nepo Bryncethin, o ganlyniad i symud rhai o weithrediadau’r parciau a’r amgylchedd adeiledig i'r lleoliad hwn, gan adael £3.2 miliwn yn weddill. 

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau mai oddeutu £8.144 miliwn oedd cost amcangyfrifedig yr opsiwn dewisol; fodd bynnag, roedd diffyg nawr rhwng cost gyffredinol y gwaith cynnal a chadw/cydymffurfio a chyfanswm amcangyfrifedig y derbyniad tir net a'r gyllideb gyfalaf bresennol. Er mwyn datblygu'r dewis hwn, dywedodd fod buddsoddiad cyfalaf pellach o £4.944 miliwn yn ofynnol yn ychwanegol at yr amcangyfrif cyfalaf a oedd yn weddill o £3.2 miliwn, a fyddai'n dod o gyfanswm amcangyfrifedig y derbyniad tir o £3.5 miliwn, gyda £1.444 miliwn yn ychwanegol o arian cyfalaf cyffredinol. Amlinellodd gynllun y depo arfaethedig. Dywedodd mai'r prif ysgogwyr i gyflawni'r gydymffurfiaeth yw’r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a bodloni gofynion Cyfoeth Naturiol Cymru.   

 

Hysbysodd y Cyngor hefyd ei fod yn awyddus i rannu cyfleusterau'r depo newydd gyda sefydliadau eraill sy'n gysylltiedig â’r arfer yn Nepo Bryncethin. Dywedodd y bydd y depo newydd yn effeithlon ac yn drefnus iawn. 

 

Wrth ganmol y cynnig, diolchodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau y swyddogion am arfer barn gadarn a chredodd fod y cynnig am ddepo ag ôl troed llai yn ddewis darbodus. Wrth gefnogi’r cynnig, dywedodd yr Arweinydd ei fod yn gobeithio y bydd y depo newydd yn cyrraedd safonau rhagoriaeth BREEAM.

 

Gwnaeth aelod o'r Cyngor gwestiynu p'un a oedd yn ddoeth datblygu depo newydd ar hyn o bryd a ph'un a fyddai'n well oedi cyn gwneud penderfyniad pan mae gwasanaethau fel chwistrellu chwyn yn cael eu lleihau.    Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau fod y depo newydd yn angenrheidiol i wasanaethu trigolion y Fwrdeistref Sirol oherwydd bydd cerbydau graeanu a thrwsio ar y priffyrdd yn cael eu lleoli yn y depo a ni allai'r Cyngor fforddio datblygu safle mwy.

 

PENDERFYNWYD:  Bod y Cyngor wedi:

 

(1)    nodi mai’r opsiwn dewisol arfaethedig ar gyfer datblygu’r Depo Priffyrdd yw darparu depo parhaol a modern, sy'n addas i'w ddiben, ar ôl troed llai ar safle Tred?r. Bydd hyn yn sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl safonau/deddfwriaethau cyfredol angenrheidiol gan wneud y mwyaf o’r tir sydd ar gael i’w werthu er mwyn cynhyrchu derbyniad cyfalaf a chaniatáu datblygiad tai yn unol â'r Cynllun Datblygu Lleol a gymeradwywyd;

 

(2)    awdurdodi bod y derbyniad cyfalaf o werthu tir y Cyngor yn Nhred?r yn cael ei ail-fuddsoddi i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r depo, oherwydd pe na ddatblygwyd y depo newydd a gynigwyd uchod, ni fyddai'n bosibl rhyddhau'r holl dir i’w werthu;

 

(3)    cymeradwyo bod swm cyfalaf pellach o £4,944,000 yn cael ei gynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf i adnewyddu ac ailddatblygu'r depo yn llawn fel y cynigwyd, gan gynnwys adnewyddu'r adeiladau priodol.

        

Dogfennau ategol: