Agenda item

Strategaeth Ariannol y Tymor Canol 2019-20 i 2022-23

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad, a phwrpas hwn oedd cyflwyno i'r Cabinet Strategaeth Ariannol y Tymor Canol 2019-20 i 2022-23 (SATC), sy'n egluro blaenoriaethau gwario'r Cyngor, amcanion buddsoddi allweddol a meysydd cyllido a dargedwyd ar gyfer arbedion angenrheidiol. Roedd y Strategaeth hefyd yn cynnwys rhagolygon ariannol am 2019-2023, a Chyllideb Refeniw Ddrafft fanwl ar gyfer 2019-20.

 

Cychwynnodd ei chyflwyniad, drwy ddweud bod y  SATC wedi cael ei harwain gan dair blaenoriaeth y Cyngor, fel y cawsant eu cynnwys yn ei Gynllun Corfforaethol.

 

Roedd adrannau nesaf yr adroddiad yn cynnwys cyllideb naratif, oedd yn anelu at gyfleu'r buddsoddiad parhaus a sylweddol y bydd y Cyngor yn ei wneud yn y gwasanaethau cyhoeddus. Roedd hefyd yn egluro sut roedd y Cyngor yn bwriadu newid rhai meysydd darparu gwasanaethau arbennig a beth fyddai canlyniadau ariannol hyn.

 

Wedyn, rhoddai’r adroddiad drosolwg ariannol, ac yn dilyn hyn rhoddodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro esboniad o faint o'r gyllideb oedd yn cael ei ddyrannu i bob un o'r meysydd gwasanaeth allweddol fel a ganlyn:-

 

·         Addysg

·         Gofal Cymdeithasol a Chymorth Buan

·         Tir Cyhoeddus

·         Cefnogi'r Economi

·         Gwasanaethau Eraill

 

Cadarnhaodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro fod Strategaeth Ariannol Tymor Canol (SATC) y Cyngor wedi ei gosod yng nghyd-destun cynlluniau economaidd a gwariant cyhoeddus y DU, blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a'i rhaglen ddeddfwriaethol.

 

Rhoddodd esboniad yngl?n â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Cyllid ar 2 Hydref 2018, a sut yr oedd hon yn effeithio ar awdurdodau lleol yng Nghymru gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr. Ers hynny cafwyd cyllideb hydref y Llywodraeth Ganolog ar 29 Hydref, oedd yn cadarnhau y byddai Llywodraeth Cymru yn derbyn £550 miliwn dros y blynyddoedd 2018-19 i 2020-21.

 

Roedd adran nesaf yr adroddiad yn egluro beth yr oedd y setliadau uchod yn ei olygu i'r Awdurdod hwn, oedd yn adlewyrchu ar gyfer 2019-20 ostyngiad o £1.616 miliwn neu -0.84%. Dywedodd Llywodraeth Cymru hefyd fod y setliad yn cynnwys £20 miliwn ychwanegol i liniaru'r pwysau ar y Gwasanaethau Cymdeithasol. Pe cymerid hyn hefyd i ystyriaeth, y wir sefyllfa i Ben-y-bont ar Ogwr oedd gostyngiad o -1.3% neu £2.5 miliwn. Roedd y setliad hefyd yn cynnwys £2.5 miliwn o gyllid gwaelodol i sicrhau nad oes rhaid i'r un Awdurdod ymdopi â gostyngiad o fwy nag 1% yn ei Grant Cynnal Refeniw y flwyddyn nesaf.

 

Ar y cyfan roedd y setliad amodol yn cyd-fynd â'r rhagdybiaeth "fwyaf tebygol" o -1.5% sydd wedi ei gynnwys yn SATC 2019-20 gwreiddiol y Cyngor, ond nid oedd yn cydnabod nifer o bwysau newydd y byddai’n rhaid i'r Cyngor eu hwynebu.

 

Roedd adran nesaf yr adroddiad yn amlinellu'r rhesymau pam yr oedd angen mynd i'r afael â'r pwysau ariannol, y byddai'n rhaid i'r Cyngor eu hwynebu yn y flwyddyn sydd i ddod, drwy ystyried cynnydd o 5.4% yn y Dreth Gyngor.

 

Wedyn, dangosai paragraff 4.11 yr adroddiad, yn Nhabl 1, gymhariaeth rhwng y gyllideb a'r canlyniad a ddisgwylid ar 30 Medi 2019, oedd yn adlewyrchu tanwariant net o 2,551 miliwn.

 

Dangosai Tabl 2, ym mharagraff 4.17 yr adroddiad, fanylion cynnig SATC oedd yn cael ei gefnogi gan Gronfa Wrth Gefn Toriadau Cyllideb yn 2018-19, oedd yn swm o £200 mil ar gyfer MREC.

 

Rhoddai’r adroddiad wedyn amlinelliad o ragolygon SATC am y 4 mlynedd nesaf, yn dangos y byddai'r Cyngor yn dal yn debygol o gyflawni gostyngiad cyffredinol yn y gyllideb ym mhob un o'r blynyddoedd hyn o oddeutu -1.5%. Mewn termau real, golygai hyn y byddai'n rhaid iddo, dros y cyfnod hwn, ddod o hyd i gyfanswm o £33,645 miliwn yn y sefyllfa orau neu £44,648 yn y sefyllfa waethaf.

 

Roedd Tabl 5 yr adroddiad yn adlewyrchu'r sefyllfa bresennol wrth fynd i'r afael â’r gofyniad lleihau cyllideb mwyaf tebygol o £36,439 miliwn. Dangosai hyn, er gwaethaf yr arbedion a wnaed hyd yma, fod angen i'r Cyngor o hyd ddatblygu cynigion er mwyn sicrhau gostyngiadau o £21.3 miliwn (na roddwyd cyfrif amdanynt eto).

 

Wedyn cyfeiriodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro at y Cynigion i Leihau'r Gyllideb a nodwyd yn y SATC presennol (Tabl 6 yn yr adroddiad) a'r Gyllideb Refeniw ddrafft fel y safai ar y pryd (Tabl 7).

 

Dangoswyd dadansoddiad llawn o’r pwysau ar y gyllideb yn Atodiad A i'r adroddiad.

 

Cadarnhaodd fod cynigion lleihau'r gyllideb o £8,836 miliwn wedi cael eu nodi o gyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol er mwyn cyflawni cyllideb fantoledig. Amlinellwyd y rhain yn Atodiad B i'r adroddiad.

 

Rhoddai Tabl 9, ym mharagraff 4.39 yr adroddiad, grynodeb o Gronfeydd Wrth Gefn wedi eu Clustnodi y gellid eu defnyddio, tra roedd Tabl 10 yn dangos Dyraniadau Cyllid Cyfalaf Blynyddol.

 

Daeth y Swyddog Adran 151 Dros Dro â'i chyflwyniad i ben drwy gyfeirio at Asesiad Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 oedd yn Atodiad C yr adroddiad.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod y gyllideb ddrafft yn cyfeirio at £115 miliwn ar gyfer Addysg a Chymorth i Deuluoedd, ynghyd â buddsoddiad cyfalaf o £21.5 miliwn ar gyfer Band A a £23 miliwn ar gyfer Band B ei raglen o foderneiddio ysgolion.

 

Disgwyliai wariant o £67 miliwn ar Ofal Cymdeithasol a gwasanaethau Lles, a £23.5m ar wasanaethau Tir y Cyhoedd yn cynnwys £9 miliwn ar gasglu a chael gwared â gwastraff.

 

Roedd y cynigion yn cynnwys awgrym o gynnydd yn y Dreth Gyngor o 5.4%, sy'n cyfateb i £1.45 ychwanegol yr wythnos ar gyfer eiddo Band D ar gyfartaledd.

 

Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd nad oedd gosod cyllideb werth miliynau o bunnau byth yn hawdd, ond bod hynny'n arbennig o wir yn yr hinsawdd ariannol bresennol, lle roedd y Cyngor wedi cael ei orfodi i wneud i fyny am ddiffygion enfawr mewn cyllid.

 

Aeth ymlaen i gadarnhau bod y cynnydd a awgrymir yn y Dreth Gyngor yn adlewyrchu'r angen i liniaru pwysau sydd heb gyllid ar eu cyfer ac sy'n anochel, ond na fyddai’r cynnydd mewn unrhyw ffordd yn ddigon i dalu'r gost lawn am hyn.

 

Yn ogystal â gostyngiadau yn swm y cyllid yr oedd yr Awdurdod yn ei dderbyn, roedd yn wynebu pwysau ychwanegol megis rheoliadau newydd a newidiadau deddfwriaethol, niferoedd mwy o ddisgyblion, mwy yn dibynnu ar wasanaethau'r Cyngor oherwydd poblogaeth oedd yn heneiddio, a mwy.

 

Ychwanegodd, tra roedd yr awdurdodau lleol yn disgwyl am ganlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus, fod y Cyngor yn rhannu'r cynigion drafft er mwyn i'r broses graffu gael cychwyn.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ei fod yn edrych ymlaen at dderbyn adborth yr ymgynghoriad cyhoeddus yng nghyfarfod nesaf y Cabinet, fel y gallai'r Aelodau ystyried y cynigion yn eu cyd-destun, cyn symud ymlaen i gam nesaf y gwaith.

 

Terfynodd ei gyflwyniad drwy gadarnhau y byddai'r blynyddoedd i ddod yn heriol iawn pan fyddai angen arbedion o rhwng £30 a £40 miliwn. Dangosai’r adroddiad, er mwyn amddiffyn gwasanaethau hanfodol y mae'n rhaid i'r Cyngor eu darparu ar gyfer ei 140,000 o drigolion, y byddai’n rhaid i'r Dreth Gyngor mewn blynyddoedd i ddod gynyddu i 10% i lenwi'r gwactod ariannol y mae'r Cyngor eto i'w wynebu.

 

Fe wnaeth Aelodau o'r Cabinet yn eu tro adleisio teimladau'r Dirprwy Arweinydd.

 

Daeth yr Arweinydd â'r drafodaeth i ben ar yr eitem hon, gan atgoffa'r cyhoedd bod yna amser o hyd iddynt ysgrifennu i mewn gyda'u cynigion ar y SATC. Ychwanegodd fod y Cabinet yn gweithio'n agos gyda'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, er mwyn gwneud y gorau o'r setliad. Gobeithiai y byddai yna gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru drwy'r Llywodraeth Ganolog, er mwyn i'r Awdurdod gael ategiad ariannol, gan fod pob mymryn yn help yn hyn o beth.

 

PENDERFYNWYD:   Bod y Cabinet yn cyflwyno cyllideb flynyddol 2019-20 a datblygiad y Strategaeth Ariannol y Tymor Canol 2019-20 i 2022-23 ar gyfer ymgynghori.      

Dogfennau ategol: