Agenda item

Parc Afon Ewenni

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad, a bwriad hwn oedd datblygu Depo Priffyrdd modern yn Waterton ar ôl troed llai i ganiatáu i gynnig safle adfywio Parc Afon Ewenni (PAE) fynd yn ei flaen a sicrhau gofynion y depo i'r dyfodol ar gyfer y Cyngor fel rhan o'r broses gyffredinol o resymoli'r depo. Gofynnai’r adroddiad am gymeradwyaeth bellach i gyflwyno adroddiad i'r Cyngor yn cynnig diwygiad i'r Rhaglen Gyfalaf i swm cyfalaf pellach o £4,944,000 gael ei gynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf er mwyn llwyr ailddodrefnu a datblygu'r depo.

 

Rhoddai'r adroddiad beth gwybodaeth gefndir oedd yn cadarnhau bod cymeradwyaeth wedi ei roi gan y Cabinet ym mis Tachwedd 2016, fel mesur dros dro, i barhau i weithredu Depo ar ôl troed llai yn Waterton am y 4-5 mlynedd nesaf ac amlinellai'r adroddiad rai dewisiadau y gellid eu dilyn er mwyn cyflawni hyn.

 

Tynnodd sylw’r Aelodau at baragraff 3.5 yr adroddiad, lle roedd yn sôn yr ystyrid ei fod yn debygol y byddai unrhyw ffurfwedd ar ad-drefnu llywodraeth leol yn y dyfodol yn dal i fod angen Depo Priffyrdd ym Mhen-y-bont ar Ogwr i wasanaethu'r Fwrdeistref Sirol. Roedd y gost o ddarparu Depo Priffyrdd newydd mewn lleoliad newydd yn debygol o gostio swm sylweddol fwy na'r £6.5 - £7.5 miliwn a amcangyfrifid yn ôl yn 2016. Amcangyfrifid yn awr y byddai cost Depo newydd mewn lleoliad newydd o gwmpas £9 - £12 miliwn, o ganlyniad i ofynion newidiol (tebygol) a thrymach Cyfoeth Naturiol Cymru. Gan gydnabod hyn, roedd y dewis o redeg depo oedd heb ei newid ers 4/5 mlynedd fel mesur dros dro ac wedyn adeiladu depo newydd mewn lleoliad gwahanol yn edrych yn fwyfwy anfforddiadwy.

 

Wedyn, rhoddai paragraff 3.6 yr adroddiad wybodaeth ynghylch ymchwiliad a gynhaliwyd i nodi'r gwahaniaethau rhwng parhau i redeg y depo ar ôl troed llai am 4-5 mlynedd, gyda depo newydd yn cael ei adeiladu mewn lleoliad newydd wedi hynny a'r dewis arall o ddatblygu depo gweithredol parhaol ar ôl troed llai yn Waterton.

 

Wedyn cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau at adrannau dilynol yr adroddiad ar y dewisiadau a awgrymwyd, gan gynnwys yr hyn yr oedd Bwrdd PAE wedi ei gytuno, a bod cyfanswm y gyllideb gyfalaf bresennol ar gyfer y cynllun yn £4.376 miliwn. Fodd bynnag, roedd peth o'r gyllideb hon wedi ei rwymo eisoes i waith yn Nepo Bryncethin, o ganlyniad i symud rhai o weithrediadau'r parciau a'r amgylchedd adeiledig i'r lleoliad hwn, gan adael balans o £3.2 miliwn.

 

A throi at y sefyllfa bresennol, cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau yr amcangyfrifid mai cost cynllun yr hyn oedd y dewis gorau ar hyn o bryd, oedd oddeutu £8.144 miliwn. Fodd bynnag, oherwydd costau ychwanegol eraill, roedd yna bellach ddiffyg rhwng cost gyffredinol y gwaith cynnal a chadw/cydymffurfio a'r cyfanswm net yr amcangyfrifid a geid am y tir a'r gyllideb gyfalaf bresennol. Er mwyn symud ymlaen gyda'r dewis hwn, roedd angen buddsoddiad cyfalaf pellach o oddeutu £4.944 miliwn yn ychwanegol at y cyfalaf yr amcangyfrifid oedd yn weddill o £3.2 miliwn, fyddai'n dod o'r cyfanswm o £3.5 miliwn a dderbynnid am y tir ynghyd ag £1.444 miliwn ychwanegol o gyllid cyfalaf cyffredinol.

 

Roedd gosodiad y depo arfaethedig yn darparu ar gyfer:

 

·         Yr ôl troed lleiaf oedd yn weithredol dderbyniol;

·         Depo modern parhaol, oedd yn cydymffurfio â'r safonau priodol

·         Yr uchafswm o dir ar gael i'w werthu

 

Dywedai rhan nesaf yr adroddiad, er bod y depo presennol yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol, ac yn y blaen, fod y depo erbyn hyn mewn cyflwr di-raen.

 

Terfynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau ei gyflwyniad drwy amlinellu goblygiadau ariannol yr adroddiad.

 

Dywedodd Aelod Cabinet - Cymunedau fod y cynnig presennol yn cymryd i ystyriaeth y ffordd fwyaf effeithiol o ddefnyddio'r tir ar gyfer gosod cyfleuster mor newydd yn y lleoliad hwn, ac roedd yn falch i nodi, er y byddai'r depo newydd yn llai na'r un a gynigiwyd yn wreiddiol, y byddai'n costio 40% yn llai ar ôl troed llai o faint.

 

Dywedodd yr Arweinydd y gallai partneriaid posibl hefyd ddefnyddio cyfleuster o'r fath, fyddai'n lleihau'r costau cysylltiedig â hwn, yn ogystal ag ychwanegu y byddai'r cynnig yn destun proses gaffael drylwyr, h.y. gyda'r gwaith yn cael ei osod allan i dendr er mwyn sicrhau'r 'gwerth gorau' (ar gyfer y prosiect).

 

Ehangodd Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau ar hyn er mwyn yr Aelodau, gan ychwanegu y gallai peth o'r gwaith gael ei wneud yn fewnol gan adran y Landlord Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cabinet:

 

(1)      Yn nodi mai'r dewis gorau a gynigid ar gyfer datblygu'r Depo Priffyrdd yn awr oedd darparu depo modern, parhaol addas i'r pwrpas, ar ôl troed llai o faint ar safle Waterton. Byddai hyn yn sicrhau cydymffurfio â'r holl safonau / deddfwriaeth bresennol angenrheidiol tra'n cynyddu i'r eithaf faint o dir oedd ar gael i'w werthu i gynhyrchu cyfalaf a chaniatáu datblygu tai yn unol â'r Cynllun Datblygu Lleol a gymeradwywyd. 

(2)      Yn rhoi awdurdod i gyflwyno adroddiad i'r Cyngor yn argymell bod y cyfalaf a dderbynnid o werthiant tir y Cyngor yn Waterton yn cael ei ailfuddsoddi i gynorthwyo i ddatblygu'r depo, gan na fyddai modd, heb y depo newydd arfaethedig uchod, rhyddhau’r tir i gyd i gael ei werthu.

(3)      Yn rhoi awdurdod i gyflwyno adroddiad i'r Cyngor yn gofyn am gymeradwyaeth bod swm pellach o £4,944,000 o gyfalaf yn cael ei gynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf i ailddodrefnu ac ailddatblygu'r depo'n llawn fel y cynigiwyd, gan gynnwys ailddodrefnu'r adeiladau priodol.

Dogfennau ategol: