Agenda item

Diweddariad ar Gynllun Adfywio Porthcawl

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad, a phwrpas hwn oedd rhoi diweddariad i'r Cabinet am Gynllun Adfywio Porthcawl, a gofyn am gymeradwyaeth i gyflwyno adroddiad i'r Cyngor yn cynnig adolygu'r rhaglen gyfalaf er mwyn buddsoddi'r cyfalaf y disgwylid ei dderbyn drwy werthu tir o gwmpas Maes Parcio Salt Lake. 

 

Gofynnai'r adroddiad hefyd am gymeradwyaeth i gyflwyno adroddiad i'r Cyngor er mwyn sicrhau ariannu cyfatebol ar gyfer gwelliannau i amddiffynfeydd arfordirol fyddai’n datgloi cyfnodau datblygu yn y dyfodol.

 

Amlinellai'r adroddiad beth gwybodaeth gefndir, ac wedyn cadarnhâi'r amrywiol gyfnodau o waith oedd yngl?n â'r cynllun.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau fod angen prosesu'r cynllun yn y ffordd hon, gan fod yn rhaid cymryd materion eraill i ystyriaeth yn gyntaf, er enghraifft, dadansoddi'r farchnad, cyfyngiadau seilwaith allweddol, yn ogystal â llif arian. Roedd cynllun oedd yn gysylltiedig â'r adroddiad yn egluro'r strategaeth o gyflawni'r cynllun fesul cyfnod.

 

Wedyn disgrifiodd er budd y Cabinet, Gyfnodau 1-7 y cynllun, fel y'u hamlinellwyd ym mharagraffau 4.2 i 4.10 yr adroddiad.

 

Roedd adran nesaf yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o'r gwahanol gyfnodau, oedd yn ymdrin â'r meysydd canlynol. Ychwanegodd y byddai'r cynllun yn ymestyn dros 4 i 5 mlynedd:-

 

·         Cyfnod 1 - Safle'r Siop Fwyd

·         Cyfnod 2 - Tai

·         Cyfnod 3 - Maes Parcio Hillsboro Place

·         Cyfnod 4 - Y Promenâd Dwyreiniol a gwaith ehangach o amddiffyn yr arfordir rhag llifogydd

·         Cyfnodau 5 a 6 - Safleoedd Tai

·         Cyfnod 7 - Safle Hamdden

 

Wedyn ehangodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau ar fuddsoddi'r Cyfalaf a dderbynnid a rhoddodd grynodeb o'r Derbyniadau Cyfalaf oedd wedi dod i law a'r ffyrdd y cynigid ailfuddsoddi'r rhain.

 

Byddai hyn yn arwain at barcio ceir yn fwy effeithlon ym Maes Parcio Hillsboro Place; gwelliannau i Salt Lake er mwyn iddo gael ei redeg fel maes parcio cyhoeddus yn y cyfamser, cyn i'r ardal hon gael ei datblygu (sef Cyfnodau 5 a 6 y Cynllun). Ychwanegodd fod yna welliannau arfaethedig hefyd i wneud Portway yn fwy hygyrch, gan gynnwys mannau croesi a'r posibilrwydd o barcio ar y stryd i'w gwneud yn haws cyrraedd canol y dref.

 

Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn fwriad hefyd gwneud gwaith ffisegol i'r safle hamdden er mwyn ei gwneud yn bosibl defnyddio'r fan hon dros dro fel rhan o'r Strategaeth Hamdden interim, ac yn olaf, cyfres o welliannau ffisegol mewn mannau allweddol eraill, megis y giât i'r safle (o bosibl mewn partneriaeth â Chyngor y Dref), y promenâd a'r cysylltiadau â chanol y dref i gerddwyr.

 

Wedyn cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau fod y cynigion yn yr adroddiad wedi cael eu hasesu yn erbyn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a bod crynodeb o’r asesiad i'w weld ym mharagraff 7 yr adroddiad.

 

Wedyn daeth â'i gyflwyniad i ben drwy sôn am oblygiadau ariannol yr adroddiad a gofynnodd am i £2.64 miliwn o gostau'r prosiect oedd yn gysylltiedig â Chynllun Adfywio Strategol Porthcawl gael eu cynnwys yn y rhaglen gyfalaf.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet - Addysg ac Adfywio fod y Cyngor yn wastad wedi bod eisiau i ansawdd yn hytrach na maint fod yn ffactor bwysicaf y cynllun wrth symud ymlaen, a theimlai y byddai'n fuddiol pe câi'r Portway ei gadw ar agor fel rhan o'r cynllun, gan fod yr ardal hon yn gyfleus i gerddwyr ac yn rhoi llinellau safle syth i mewn i dref Porthcawl. Ychwanegodd y byddai rhagor o le parcio hefyd yn lliniaru'r pwysau parcio oedd i'w gweld ar hyn o bryd ym Mhorthcawl.

 

Daeth yr Arweinydd â'r drafodaeth i ben drwy ddweud bod Swyddogion a'r Cabinet wedi gweithio'n galed ac yn agos gydag aelodau lleol Porthcawl ynghylch cynigion y cynllun yn ogystal â gyda Chyngor Tref Porthcawl ac y byddai rhagor o waith o'r fath yn parhau i'r dyfodol.

 

Roedd y cynigion diweddaraf yn cario ymlaen o'r gwaith ardderchog a wnaed hyd yn hyn drwy ailagor Adeilad Jennings ac ailddatblygu'r harbwr fel Marina. Ychwanegodd ymhellach ei bod yn bwysig bod adfywiad Porthcawl hefyd yn cynnwys amddiffynfeydd môr digonol a thai fforddiadwy ar safleoedd tir llwyd (yn hytrach na thir glas). Byddai'r holl waith arfaethedig yma, gobeithio, yn cyfrannu at wneud Porthcawl y dref lan y môr flaenaf yn Ne Cymru.

 

PENDERFYNWYD:   Argymhellodd y Cabinet gyflwyno adroddiad i'r Cyngor yn gofyn am awdurdod i wneud y canlynol:

 

(1)       Adolygu'r rhaglen gyfalaf i gynnwys cyllideb o £2.64 miliwn o fuddsoddiad yn Adfywiad Porthcawl, yn cael ei ariannu o gyfuniad o dderbyniadau cyfalaf, wedi eu cynhyrchu drwy werthu tir o fewn Salt Lake, a benthyca'n ddoeth; 

 

(2)       Rhoi 25% o arian cyfatebol (oddeutu £1 filiwn) tuag at waith creu amddiffynfeydd arfordirol ym Mhorthcawl ac awdurdod i sicrhau 75% o gyllid drwy Fenter Benthyca Llywodraeth Leol (LGBI) tuag at y gwaith hwn. Ni fyddai’r cynllun yn cael ei ymgorffori yn y rhaglen gyfalaf nes y byddai’r 75% o gyllid LGBI wedi cael ei gymeradwyo; a   

 

(Sylwer: câi’r symiau eu cadarnhau cyn cyflwyno'r achos busnes manwl i Lywodraeth Cymru y disgwylid iddo ddigwydd o gwmpas haf 2019).

 

(3)       Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau a Swyddog Adran 151 i gytuno ar unrhyw amrywiadau costau cysylltiedig â Chynllun Datblygu Porthcawl.

Dogfennau ategol: