Agenda item

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Band B

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd a'r Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151 adroddiad ar y cyd, a phwrpas hwn oedd rhoi diweddariad i'r Cabinet gyda golwg ar ganlyniad adolygiad Llywodraeth Cymru o fecanwaith ariannu Band B y Model Buddsoddi Cilyddol (MIM), a hefyd i ofyn am gymeradwyaeth y cabinet i ddilyn Dewis 3, ar gyfer ariannu Band B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion, cyn ei gyflwyno i'r Cyngor.

 

Fel cefndir i brif ddarpariaethau'r adroddiad, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion wedi cael ei sefydlu er mwyn cyflawni nifer o amcanion gan gynnwys:-

 

·         datblygu amgylcheddau dysgu o'r radd flaenaf;

·         lleoli'r nifer gywir o ysgolion, o faint hyfyw, yn y lleoedd gorau i wasanaethu eu cymunedau;

·         gwneud ysgolion yn rhan annatod o fywyd ac addysg yn eu cymunedau;

·         lleihau nifer y lleoedd dros ben a chyflawni gwerth gorau am arian; a

·         gwneud ysgolion yn fwy effeithlon a chynaliadwy.

 

Aeth ymlaen i gadarnhau bod y Cyngor, yn ei gyfarfod ar 31 Rhagfyr 2018, wedi cymeradwyo mewn egwyddor yr ymrwymiad ariannol oedd yn ofynnol ar gyfer Band B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion. Byddai'r gymeradwyaeth yn amodol ar y gallu i ganfod digon o adnoddau a'u dyrannu i ateb yr ymrwymiad o ariannu cyfatebol. Amcangyfrifid bod y rhaglen yn gyffredinol o gwmpas £68.2 miliwn ac o hyn disgwylid y byddai oddeutu £43.2 miliwn yn derbyn cyllid cyfalaf (oddeutu £23 miliwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr), a chynigid bod y balans yn cael ei gyllido drwy Fodel Buddsoddi Cilyddol Llywodraeth Cymru.

 

 

Ers i'r Bwrdd Adolygu Strategol Trosfwaol gael ei gymeradwyo ac wedyn ei gyflwyno ym mis Mai 2016, roedd Llywodraeth Cymru wedi adolygu'r cynlluniau oedd wedi eu cynnig ar gyfer ei Model Buddsoddi Cilyddol (MIM), ac asesodd yr adolygiad hwn:-

 

  1. Dichonolrwydd cyflawni'r ysgolion unigol fel prosiectau MIM;
  2. Yr agweddau ymarferol cysylltiedig â grwpio ysgolion ynghyd fesul rhanbarth a gwerth cyfalaf; a
  3. Y llwybr caffael gorau.

 

Wedyn cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd at baragraff 4.6 yr adroddiad, oedd yn nodi rhai adeiladau newydd fel cyfleusterau delfrydol ar gyfer eu cyflawni drwy MIM.

 

Aeth ymlaen i ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi datgan nad oedd cynnwys cynlluniau bychain neu gynlluniau cymhleth iawn drwy MIM yn rhoi gwerth am arian. O ganlyniad, roedd Ysgol Arbennig Pen-y-bont ar Ogwr yn awr yn cael ei hystyried yn anaddas i'w chyflawni dan y model cyllido hwn. Penderfyniad Llywodraeth Cymru yn unig oedd hwn ar sail adolygiad diweddar. Yng ngoleuni'r penderfyniad hwn, mae angen ailystyried dull BCBC o gyllido cynlluniau Band B er mwyn dod i benderfyniad yngl?n â'r ffordd ymlaen.

 

Roedd prosiectau oedd yn cael eu symud ymlaen drwy MIM yn destun nifer o wahaniaethau o'u cymharu â chynlluniau yr ymgymerid â hwy drwy lwybr grant cyfalaf, gan gynnwys y broses gaffael a'r cyfraddau ymyrryd. Darparwyd cymhariaeth uniongyrchol rhwng pob llwybr yn Nhabl 1 yr adroddiad.

 

Wedyn rhoddai'r adroddiad rai goblygiadau ariannol, ac ar ôl hynny dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod Swyddogion wedi siarad â Swyddogion Llywodraeth Cymru am y dewisiadau posibl oedd ar gael, yn dilyn tynnu adeiladau ysgolion arbennig allan o lwybr caffael MIM. Roedd yna gyfanswm o bedwar dewis, ac ymhelaethwyd ar y rhain yn adrannau nesaf yr adroddiad, a rhoddodd ddisgrifiad o bob un o'r rhain er mwyn yr aelodau.

 

Cadarnhaodd Aelod y Cabinet - Addysg ac Adfywio fod y Cabinet wedi edrych ar yr holl ddewisiadau oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ac ar fanteision ac anfanteision y rhain, ac argymhellwyd dilyn Dewis 3 gan yr ystyrid mai hwn oedd y dewis mwyaf cytbwys a'i fod yn caniatáu mwy o hyblygrwydd o ran materion megis dyluniad yr adeilad ac yn y blaen.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd y byddai'r Dewis a gâi ei ddethol felly hefyd yn gymorth i gwrdd â chyfraddau uwch o ymyriadau disgyblion, yn enwedig gan fod awdurdodau lleol wedi cael trafferth i ganfod cyfraniadau cyfalaf i gyfateb i gyfraniadau ariannol Cymru ar gyfer adeiladu cyfleusterau ysgol newydd ym Mand A ac y byddent yn cael mwy o anhawster ym Mand B.

 

Yn olaf gofynnodd am i'r Cabinet gael derbyn adroddiad pellach ar y mater hwn maes o law.

 

PENDERFYNWYD:    Bod y Cabinet:

 

(1)           Yn nodi canlyniad adolygiad Llywodraeth Cymru o fecanwaith cyllido Band B y Model Buddsoddi Cilyddol (MIM).

(2)           Yn rhoi heibio'r dull gwreiddiol o gyllido Band B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion.

(3)           Yn cymeradwyo dilyn Dewis 3 ar gyfer cyflawni Band B yn ariannol, yn amodol ar ganfod a dyrannu digon o adnoddau i gwrdd â'r ymrwymiad o arian cyferbyniol.

Yn cymeradwyo cyflwyno adroddiad i'r Cyngor i ddiwygio'r rhaglen gyfalaf i adlewyrchu'r uchod.

Dogfennau ategol: