Agenda item

Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Gysyniadau Posibl ar gyfer Darpariaeth Ôl-16 ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Cofnodion:

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y Cabinet wedi cymeradwyo ymgynghoriad cyhoeddus ar ddatblygiad addysg ôl-16 yn y dyfodol ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ("Y Sir"). Roedd yr adroddiad diweddaraf hwn oedd gerbron yr Aelodau, yn rhoi'r Papur Ymgynghori Ôl-16 i'r Cabinet ac yn egluro'r dulliau a gynigid ar gyfer ymgynghori, ynghyd ag Asesiad Effaith Cychwynnol ar Gydraddoldeb ac Asesiad o ran Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

Dywedodd fod y Cabinet ar 24 Ebrill 2018 wedi cymeradwyo ymgynghoriad cyhoeddus ar chwe chysyniad o ddarpariaeth addysgol ôl-16, fel y'u hamlinellwyd ym mharagraff 3.2 yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y papur ymgynghori, ar gysyniadau ar gyfer darpariaeth ôl-16 ar draws y Sir, erbyn hyn wedi cael ei baratoi a'i fod ynghlwm yn atodiad A yr adroddiad. Hefyd wedi eu cynnwys fel atodiadau i'r adroddiad roedd Asesiad Effaith cychwynnol ar Gydraddoldeb ac Asesiad o ran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). O'r cysyniadau a restrwyd ym mharagraff 3.2 o'r adroddiad, Cysyniadau 4 a 5 oedd y dewisiadau oedd orau gan y Cabinet ar ôl adroddiad y Cabinet ym mis Ebrill 2018.

 

Amlinellwyd mwy o wybodaeth am y ddau Gysyniad hwn yn adrannau nesaf yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd wedyn at baragraff 4.5 yr adroddiad, oedd yn rhestru amrywiaeth o wybodaeth am gyd-destun yn ymwneud â darpariaeth ôl-16 fel yr oedd wedi ei gynnwys yn y papur ymgynghori. Byddai'r ymgynghoriad yn rhedeg o 26 Tachwedd 2018 hyd 22 Chwefror 2019.

 

O ran prif oblygiadau ariannol yr adroddiad, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod cyllid ar gyfer darpariaeth chweched dosbarth yn BCBC yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru fel un dyraniad grant ôl-16 bob blwyddyn. Roedd yna ddyraniad craidd, oedd yn seiliedig yn bennaf ar nifer y dysgwyr, gyda dyraniadau ychwanegol i gymryd amddifadedd dysgwyr ac addysg gyfrwng Cymraeg i ystyriaeth. Cyfanswm y cyllid ar gyfer 2018-19 oedd £5,829,430, ac o'r swm hwn roedd dros 97% yn cael ei ddosrannu i ysgolion uwchradd. Yn y tair blynedd ddiwethaf roedd y grant craidd wedi ei ostwng o £672,427 o ganlyniad i effeithiau cyfunol niferoedd llai o ddysgwyr a gostyngiadau gan Lywodraeth Cymru i'r grant ôl-16 canolog ar gyfer ysgolion.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet - Addysg ac Adfywio nad oedd penderfyniadau pendant wedi eu gwneud hyd yma o ran cysyniadau posibl yn y dyfodol ar gyfer darpariaeth ôl-16.

 

Gobeithiai'r Aelod o'r Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol fod yr ymgynghoriad yn cael ei ledaenu ar hyd ac ar led, ar draws ystod eang o sefydliadau, yn enwedig y rheiny oedd yn gysylltiedig â phobl ifanc, megis y Coleg Paratoi Milwrol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd y byddai'r ymgynghoriad yn ymwneud ag ystod eang o sefydliadau a sectorau ac yn y blaen, yn enwedig busnesau lleol, gan gynnwys yr holl ddarparwyr hyfforddiant 16-18 mlwydd oed.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd, ei fod ef yn gobeithio y byddai'r ymgynghoriad yn ffurf cyfweliadau wyneb yn wyneb yn ogystal ag ar-lein, gan gynnwys myfyrwyr a darparwyr addysg uwch hefyd, yn cynnwys colegau a phrifysgolion lleol. Meddyliai hefyd y byddai o fudd sylweddol pe bai'r ymgynghoriad yn cael ei ymestyn i gynnwys y Cyngor Ieuenctid.

 

Dywedodd y Swyddog Arbenigol, Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 fod y dyddiad cau ar gyfer y broses ymgynghori wedi ei symud ymlaen i 3 Rhagfyr, gan fod angen cyfieithu'r ddogfen ymgynghori hefyd.

 

Câi adroddiad pellach ar ganlyniad yr ymgynghoriad ei gyflwyno i'r Cabinet yn ei gyfarfod ym mis Ebrill.

 

Daeth yr Arweinydd â'r drafodaeth ar yr eitem hon i ben, drwy ddweud y byddai'n werth cael sesiwn friffio ar gyfer yr holl Aelodau ar addysg Ôl-16 yn y dyfodol ar ddyddiad addas.

 

PENDERFYNWYD:     Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r papur ymgynghori ar y chwe Chysyniad ar gyfer dyfodol addysg ôl-16 ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.   

Dogfennau ategol: