Agenda item

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) 2019/20 i 2022/23

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Interim a’r Swyddog Adran 151 adroddiad, er mwyn rhoi’r diweddaraf i’r Aelodau ar y Cynllun Ariannol Tymor Canolig.

 

Drwy roi gwybodaeth gefndir, esboniodd fod yr MTFS drafft a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 20 Tachwedd 2018 (ynghlwm yn Atodiad A i’r adroddiad) wedi cael ei arwain i raddau helaeth gan flaenoriaethau diwygiedig y Cyngor sef, Cefnogi Economi Lwyddiannus, Helpu Pobl i fod yn Hunan-Ddibynnol a Defnyddio Adnoddau’n Ddoethach.

 

.

 

Cyfeiriodd at Naratif y Gyllideb a oedd â’r nod o fynegi’r buddsoddiad parhaus a sylweddol mewn gwasanaethau cyhoeddus y bydd y Cyngor yn ei wneud i’r dyfodol. Disgrifiai hefyd sut mae’r Cyngor yn bwriadu newid meysydd cyflawni penodol a chanlyniadau ariannol hyn.

 

Yna rhoddodd yr Atodiad hwn drosolwg ariannol, cyn i’r Pennaeth Cyllid Interim a’r Swyddog Adran 151 roi crynodeb o faint o’r gyllideb sydd wedi’i dyrannu i bob un o’r meysydd gwasanaethau allweddol fel a ganlyn:-

 

·      Addysg

·      Gofal Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

·      Tir y Cyhoedd

·      Cefnogi’r Economi

·      Gwasanaethau Eraill

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid Interim a’r Swyddog Adran 151 fod MTFS y Cyngor wedi’i osod yng nghyd-destun cynlluniau gwariant cyhoeddus ac economaidd y DU, blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.

 

Esboniodd yngl?n â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Cyllid ar 2 Hydref 2018, ac fel yr oedd hyn yn effeithio ar awdurdodau lleol yng Nghymru gan gynnwys CBSP. Ers hynny, mae’r Llywodraeth Ganol yn ei chyllideb hydref ar 29 o Hydref, wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn cael £550m yn ychwanegol dros flynyddoedd 2018-19 i 2020-21.

 

Roedd yr adran nesaf yn yr atodiad i’r adroddiad yn manylu ar yr hyn yr oedd y setliadau uchod yn ei olygu i’r Awdurdod hwn, a oedd yn adlewyrchu ar gyfer 2019-20 ostyngiad cyffredinol o £1.616m neu -0.84%. Dywedodd Llywodraeth Cymru hefyd fod y setliad yn cynnwys £20m yn ychwanegol i ysgafnu’r pwysau ar y Gwasanaethau Cymdeithasol. O roi ystyriaeth i hyn hefyd, roedd y sefyllfa wirioneddol ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr yn ostyngiad o -1.3% neu £2.5m. Roedd y setliad hefyd yn cynnwys cyllid gwaelodol o £2.5m i sicrhau nad oes yr un Awdurdod yn gorfod ymdopi â gostyngiad o dros 1% yn ei Grant Cynnal Refeniw y flwyddyn nesaf.

 

Yn gyffredinol, roedd y setliad dros dro yn unol â’r rhagdybiaeth “mwyaf tebygol” o -1.5% a geir yn MTFS gwreiddiol y Cyngor ar gyfer 2019-20, ond ni chydnabyddai nifer o bwysau o’r newydd y bydd yn rhaid i’r Cyngor eu hwynebu.

 

Roedd adran nesaf yr Atodiad yn amlinellu’r rhesymau pam bod angen gwrthsefyll y pwysau ariannol y mae’n rhaid i’r Cyngor eu hwynebu dros y flwyddyn nesaf, drwy orfod ystyried cynnydd o 5.4% yn y Dreth Gyngor.

 

Yna dangosodd paragraff 4.11 o’r Atodiad yn Nhabl 1, gymhariaeth o’r gyllideb yn erbyn alldro amcanestynedig ar 30 Medi 2019, a oedd yn adlewyrchu tanwariant net o £2.551m.

 

Roedd Tabl 2 ym mharagraff 4.17 o’r Atodiad, yn dangos manylion cynnig MTFS wedi’i gefnogi gan Gronfa Hapddigwyddiadau Gostyngiadau’r Gyllideb yn 2018-19, a oedd yn oddeutu £200k ar gyfer MREC.

 

Yna rhoddodd yr Atodiad amlinelliad o ragolygon MTFS ar gyfer y 4 blynedd nesaf, gan ddangos y byddai’r Cyngor yn dal yn debygol o sicrhau gostyngiad cyffredinol yn y gyllideb ym mhob un o’r blynyddoedd hyn o oddeutu -1.5%. Golygai hyn mewn termau real y byddai’n rhaid iddo, dros y cyfnod hwn, ddod o hyd i gyfanswm o £33.645m yn y ‘senario gorau’ neu £44.648m yn y ‘senario gwaethaf’.

 

Adlewyrchai Tabl 5 o’r Atodiad y sefyllfa bresennol wrth roi sylw i’r gostyngiad rhagolygol mwyaf tebygol yn y gyllideb o £36.439m. Dangosai hyn, er gwaethaf yr arbedion a wnaed cyn belled, fod yn dal angen i’r Cyngor lunio cynigion er mwyn sicrhau gostyngiadau pellach o £21.3m (nas bwriwyd cyfrif ohonynt eto).

 

Yna cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid Interim a’r Swyddog Adran 151 at y Cynigion i Ostwng y Gyllideb a nodir yn yr MTFS presennol (Tabl 6 yn yr Atodiad) a’r Gyllideb Refeniw Ddrafft fel y saif ar hyn o bryd (Tabl 7).

 

Roedd dadansoddiad llawn o’r pwysau ar y gyllideb i’w weld yn nhudalennau 43/44 o’r adroddiad cyffredinol.

 

Cadarnhaodd fod y cynigion i leihau’r gyllideb £8.836m wedi’u cael o’r gyllideb gwasanaethau a’r gyllideb gorfforaethol er mwyn cael cyllideb gytbwys. Amlinellwyd y rhain yn Atodiad B o adroddiad y Cabinet.

 

Yn Nhabl 9 ym mharagraff 4.39 o’r Atodiad ceid crynodeb o’r Cronfeydd Wrth Gefn Wedi’u Clustnodi y Gellir eu Defnyddio, tra bod Tabl 10 yn dangos Dyraniadau Cyllid Cyfalaf Blynyddol.

 

Yna clôdd y Pennaeth Cyllid Interim a’r Swyddog Adran 151 ei chyflwyniad drwy gyfeirio at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 fel y nodir yn Atodiad c i’r adroddiad sydd ynghlwm.

 

Dywedodd un Aelod fod gwasanaethau cyhoeddus anstatudol wedi dioddef toriadau drosodd a drosodd fel rhan o’r broses o wneud gostyngiadau yn yr MTFS dros y blynyddoedd diwethaf, a dywedodd y byddai meysydd fel y canlynol yn dioddef toriadau pellach, er mwyn gwarchod mwy o wasanaethau statudol a ddarperir gan y Cyngor:-

 

  • Ad-drefnu Ardaloedd Chwarae
  • Dileu cymhorthdal y Cyngor ar gyfer rhai llwybrau bysys
  • Rhai gwasanaethau Glanhau Stryd

 

O ran glanhau’r strydoedd, gofynnodd hefyd a oedd unrhyw offer yr oedd yr awdurdod lleol yn bwriadu ei waredu y gellid ei basio ymlaen i Gynghorau Tref/Cymuned er mwyn iddynt hwy allu darparu’r gwasanaeth hwn.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid Interim a’r Swyddog 151 y byddai’n codi’r pwyntiau hyn â’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau ac yna, yn darparu ymateb ysgrifenedig i’r Aelod y tu allan i’r cyfarfod hwn.

 

Ychwanegodd fodd bynnag, y byddai gwasanaethau statudol ac anstatudol, y mae’r Cyngor yn eu darparu, yn wynebu toriadau yn eu cyllideb fel rhan o’r MTFS, ac y byddai pob Cyfarwyddiaeth a bron pob maes gwasanaeth yn y Cyngor yn gorfod wynebu gostyngiadau.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd o safbwynt Ardaloedd Chwarae Plant, na fyddai’r ardaloedd statudol mwyaf yn wynebu cau oherwydd bod angen darparu’r rhain fel rhan o Dir y Cyhoedd. Fodd bynnag, roedd yn rhaid dirprwyo ardaloedd llai i Gynghorau Tref/Cymuned er mwyn iddynt hwy ddewis eu cadw ar agor ai peidio, a hefyd eu cynnal i’r safon ofynnol.

 

O safbwynt gwasanaethau bysys, dywedodd nad oedd dim sicrwydd y byddai’r cwmnïau masnachol yn dal i gynnig gwasanaethau ar hyd rhai llwybrau (y rhai llai poblogaidd) ar ôl i’r Cyngor dynnu’r cymhorthdal.

 

Dywedodd y Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol, os oedd gan y Cyngor asedau dros ben na allai ddal i’w darparu oherwydd cyfyngiadau ariannol, yna gellid trafod â’r Cyngor Tref/Cymuned lleol i weld a fyddai ganddynt ddiddordeb mewn ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros gynnal y rhain.

 

Gofynnodd un Aelod a oedd unrhyw fwriad i gau Gorsaf Fysys Pen-y-bont ar Ogwr gan fod adnoddau i gadw’r cyfleuster hwn ar agor yn brin.

 

Dywedodd y Cadeirydd na osodwyd dyddiad ar gyfer cau hon, ond os na chaiff y Cyngor setliad gwell gan Lywodraeth Cymru yna mae’n bosibl y byddai’n rhaid ail-ystyried hyn, gan ei bod yn costio oddeutu £90k i’r Cyngor ei rhedeg ar hyn o bryd.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid Interim a’r Swyddog Adran 151 wrth yr Aelodau, y byddent yn edrych ar rai mesurau ataliol er mwyn, gyda lwc, peidio â gorwario ar wasanaethau statudol, rhywbeth a fyddai yn ei dro o bosibl yn golygu na fydd yn rhaid gwneud toriadau pellach i rai gwasanaethau anstatudol cyhoeddus.

 

Teimlai un Aelod y dylai CBSP a’r Cynghorau Tref/Cymuned wneud mwy o ymdrech drwy gyfrwng ymgynghoriadau, er mwyn darparu rhai gwasanaethau yn gydweithredol, gan gynnwys hefyd drwy gydgynlluniau ariannu.

 

Dywedodd un Aelod ei bod yn anodd, o ran amseriad, i Gynghorau Tref/Cymuned osod eu praesept ar lefel benodol fel y gallent gynorthwyo’r awdurdod lleol yn yr uchod, o ystyried bod yn rhaid iddynt wneud hyn ym mis Tachwedd, cyn y dyddiad pan fo CBSP yn cadarnhau ei gynigion o safbwynt yr MTFS ym mis Rhagfyr. Roedd Cyllideb y Cyngor wedyn yn cael ei sefydlu ym mis Chwefror/Mawrth yn y Cabinet a’r Cyngor, bob blwyddyn. Roedd amseriad y ddau felly cyn pryd.

 

PENDERFYNWYD:         Bod y Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned yn nodi Strategaeth yr MTFS ar gyfer 2019/20 i 2022/23.         

Dogfennau ategol: