Agenda item

Cydweithredu â Chynghorau Tref a Chymuned

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau adroddiad, gyda’r nod o gychwyn trafodaeth â Chynghorau Tref a Chymuned (CTCh) a chanfod faint o awydd sydd ganddynt i gydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP).

 

Drwy roi gwybodaeth gefndir, cadarnhaodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolygu a Chraffu Testunau 3 a gyflwynodd yr adroddiad, y dywedwyd y dylai CBSP weithio’n agosach mewn partneriaeth a CTCh mewn ymgais i gynnal gwasanaethau cymunedol sydd mewn perygl o doriadau yn y gyllideb i’r dyfodol a sicrhau’r gwasanaethau a’r canlyniadau gorau i ddinasyddion Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Ar 22 Hydref 2018 cadarnhaodd fod Pwyllgor Trosolygu a Chraffu Testunau 3 wedi derbyn adroddiad (sydd ynghlwm yn Atodiad A), a roddai fanylion canlyniad y Panel Adolygu Annibynnol o safbwynt CTCh a’r effaith y byddai gweithredu’r argymhellion yn ei chael ar CBSP.

 

Roedd yr Aelodau wedi gwneud nifer o sylwadau ac argymhellion yn y cyfarfod o’r Pwyllgor uchod (gweler Atodiad B i’r adroddiad), a oedd yn cynnwys awgrym i gyflwyno’r adroddiad, ynghyd â chanlyniadau’r cyfarfod i Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned.

 

Yna fe wnaeth Cadeirydd Pwyllgor Trosolygu a Chraffu Testunau 3 ddethol rhai o’r pwyntiau amlycaf yn Atodiadau’r adroddiad, megis er enghraifft:-

 

·        Bod gan Ben-y-bont ar Ogwr CTCh a oedd yn cwmpasu 100% o’r sir a bod hynny’n cymharu’n ffafriol ag awdurdodau cyfagos;

·        Roedd cyfanswm o £2.5m o’r praesept wedi cael ei gynhyrchu gan CTCh ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn 2018/19;

·        Teimlai fod y lefelau presenoldeb angen gwella yng nghyfarfodydd y Fforwm i’r dyfodol, yn enwedig ymysg cynrychiolwyr enwebedig o’r CTCh;

·        Y posibilrwydd i’r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned gyfarfod yn amlach na bob chwarter, er mwyn sicrhau momentwm a monitro’n gyson unrhyw waith cydweithredol i’r dyfodol rhwng y ddwy haen o Awdurdod; a

·        Manylion nifer y prosiectau CAT sydd naill ai wedi’u cwblhau neu wrthi’n cael eu hystyried

·        Y sylwadau a’r argymhellion a wnaeth Pwyllgor Trosolygu a Chraffu Testunau 3 yn ei gyfarfod ar 22 Hydref 2018, ar y testun ‘Cydweithredu â Chynghorau Tref a Chymuned.’

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud adolygiad o’r rôl a ddarperir gan Gynghorau Tref/Cymuned, ac yn dilyn awgrym gan un o’r Aelodau, teimlai y byddai o fantais pe gellid gwahodd cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru i’r cyfarfod nesaf/i’r dyfodol o’r Fforwm, i esbonio wrth yr Aelodau ganlyniadau’r adolygiad a gynhaliwyd.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 97/drosodd o’r adroddiad a’r gwasanaethau a’r amwynderau a ddarperir ar hyn o bryd gan CTCh a oedd yn sylweddol i gefnogi’r priod gymunedau. Yn ychwanegol at yr hyn a wnaed eisoes, cadarnhaodd yr adran hon o’r adroddiad fod cyfanswm o 71 o CTCh wedi cadarnhau eu bwriad i gynnal gwasanaethau yn y 12 mis nesaf, er enghraifft, cynnal a chadw caeau chwarae/meysydd pentrefi/mannau agored eraill, toiledau cyhoeddus, neuaddau pentref/canolfannau bro ac ardaloedd/llefydd chwarae ac offer chwarae.

 

Teimlai un Aelod hefyd fod sgiliau Clercod CTCh yn bwysig, yn ogystal â bod CTCh yn ysgwyddo gwaith ar y cyd drwy ddarparu gwasanaethau drwy gyd-ariannu a chronni praeseptau, gan gynnwys ar ran CBSP.

 

Roedd un aelod hefyd o’r farn, y dylai Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned nid yn unig gyfarfod yn amlach, ond hefyd gael mwy o bwerau er mwyn penderfynu ar faterion a bwrw pethau ymlaen, yn hytrach nag ond nodi adroddiadau ar faterion cyfredol a gyflwynid ger eu bron.

 

PENDERFYNWYD:         Bod Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned yn nodi’r argymhellion a gynigiwyd yn flaenorol gan Bwyllgor Trosolygu a Chraffu Testunau 3, sydd ynghlwm yn Atodiad 3 i’r adroddiad.

Dogfennau ategol: