Agenda item

Strategaeth Ariannol Tymor Canol 2019-20 i 2022-23

Gwahodedigion:

 

Cllr Phil White, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Cllr Dhanisha Patel, Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau Dyfodol  

Sue Cooper, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Jackie Davies, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Laura Kinsey, Pennaeth Gofal Cymdeithasol I Blant

Arron Norman, Rheolwr Cyllid - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y Strategaeth Ariannol Tymor Canol ddrafft (SGTC) 2019-20 i 2022-23, sy’n esbonio blaenoriaethau gwario’r Cyngor, yr amcanion buddsoddi allweddol a meysydd y gyllideb sydd wedi eu targedu ar gyfer arbedion angenrheidiol. Roedd hefyd yn cynnwys rhagolygon ariannol ar gyfer 2019-23 a chyllideb refeniw ddrafft fanwl ar gyfer 2019-20.

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at gyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru am gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol oedd yn debygol o arwain at ostyngiad yn y Grant Cefnogi Refeniw o 0.33% o gymharu â’r gostyngiad o 0.6% a ragdybid o’r blaen. Ystyriai’r Pwyllgor y dylai ohirio ystyriaeth o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol a chael cyfle i ailedrych ar gyllideb Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant unwaith y byddai effeithiau’r cyllid ychwanegol wedi eu cymryd i ystyriaeth. Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Pwyllgor nad oedd manylion y setliad terfynol a chanlyniad yr ymgynghoriad ar y gyllideb yn hysbys eto, er y byddai cyfeiriad teithio’r gyllideb yn aros yr un fath. Cadarnhaodd yr Aelod o’r Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod y trafodaethau’n parhau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch y cyllid ychwanegol a disgwylid am y manylion terfynol. Dywedodd na fyddai’r setliad terfynol yn hysbys tan 18 Rhagfyr 2018 a bod goblygiadau gostyngiad o 0.33% yn y Grant Cefnogi Refeniw yn dal i gael eu gwerthuso. Ystyriai’r Pwyllgor y byddai angen iddo graffu a gwneud sylwadau ar y gyllideb pan fyddai’r setliad yn hysbys. 

 

Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Pwyllgor fod gan y Gyfarwyddiaeth, yn Chwarter 1 orwariant o £1.8 miliwn wedi ei rannu’n gyfartal rhwng Gwasanaethau Plant a Gofal Cymdeithasol Oedolion. Cynllun ariannol dwy flynedd gyda chynllun adferiad wedi ei sefydlu gyda’r gorwariant yn Gofal Cymdeithasol Oedolion a Gwasanaethau Plant yn £220 mil a £572 mil yn y drefn honno, gyda chyfanswm y gorwariant yn £800 mil. Dywedodd fod arian ychwanegol wedi dod i’r Gyfarwyddiaeth ym mis Hydref a bod yr arbedion gofynnol o £350 mil wedi eu sicrhau. Mae angen cynigion am arbedion o £1.28 miliwn yn 2019/20. Fodd bynnag, mae’r Gyfarwyddiaeth mewn sefyllfa gryfach o lawer, er bod yna bob amser berygl o gynnydd sydyn mewn plant sy’n derbyn gofal gyda theuluoedd ychwanegol yn dod i mewn i ofal. Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid ychwanegol o £20 miliwn i awdurdodau lleol ar draws Cymru a bod y Cyngor hwn yn debygol o dderbyn Grant Cefnogi Refeniw ychwanegol o £900 mil. Dywedodd fod Grant Arbennig o £30 miliwn ychwanegol wedi cael ei roi, ac o’r swm yma dyraniad y Cyngor hwn oedd £1.3 miliwn ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol i gynorthwyo gyda phwysau’r gweithlu, y cyflog byw a gofal yn y cartref. Fodd bynnag, ni fyddai’r cyllid hwn yn cael ei ailadrodd. Dywedodd wrth y Pwyllgor fod rhaid i swyddogion fod yn ddoeth iawn yn eu defnydd o’r cyllid ychwanegol. 

 

Holai’r Pwyllgor sut roedd y Gyfarwyddiaeth yn bwriadu cyflawni’r gostyngiadau arfaethedig yn y gyllideb sydd â statws Coch neu Felyn iddynt. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod llawer o’r gostyngiadau arfaethedig yn y gyllideb yn 2019/20 a 2020/21 sy’n cael eu dangos mewn Coch neu Felyn mewn perthynas â’r contract gydag Awen. Mae angen i Awen gytuno’n gyfan gwbl fod modd cyflawni’r gostyngiadau arfaethedig yn y gyllideb. Roedd hefyd angen derbyn adborth llawn ar ganlyniad proses yr ymgynghoriad ynghylch y gyllideb a gwblhawyd yn ddiweddar. Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Pwyllgor fod yna gontract 25 mlynedd wedi ei sefydlu gydag Awen. Fodd bynnag, ers cychwyn y contract, ni fu darpariaeth ar gyfer cynnydd chwyddiant mewn ffioedd a thaliadau. Efallai hefyd fod angen ystyried amserau agor cyfleusterau fel rhan o’r gostyngiadau arfaethedig yn y gyllideb. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor beth oedd y rheswm bod datblygiad gofal ychwanegol a chodi tâl am wasanaethau Teleofal yn cael eu dangos yn Felyn. Hysbysodd Pennaeth Gofal Oedolion y Pwyllgor fod datblygu gofal ychwanegol yn ei gamau olaf a’i bod hi’n hyderus y câi’r targedau eu cyrraedd erbyn diwedd mis Ionawr. Dywedodd fod y gwasanaeth Teleofal wedi cael ei aildendro ac y bydd y taliadau newydd yn cynhyrchu incwm ychwanegol. Roedd achosion cymhleth yn cael eu hailfodelu ac roedd taliadau llety wrthi’n cael eu hadolygu. Roedd gwasanaethau dydd yn cael eu hailfodelu hefyd drwy adolygu cyfleoedd yn ystod y dydd. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor beth oedd y rheswm bod ailgyflunio’r staff yn dangos statws melyn. Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Pwyllgor fod nifer o ail gyfluniadau staff yn digwydd ar draws y Gyfarwyddiaeth. Roedd Pennaeth y Gwasanaethau Plant wedi cwblhau ailgyflunio gwasanaethau cefnogi rheoli a busnes, tra roedd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion yn parhau i ailstrwythuro’r gwasanaethau yr oedd hi yn gyfrifol amdanynt. Holai’r Pwyllgor a oedd ailgyflunio staff wedi arwain at ddiswyddiadau. Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Pwyllgor fod rhai diswyddiadau wedi eu gwneud a’i bod yn debygol y byddai’n rhaid i ddiswyddiadau pellach ddigwydd. Dywedodd hi fod yna angen darparu gwasanaethau yn wahanol ac iddynt gael eu hail-lunio er mwyn cyflawni arbedion yn y gyllideb. Hysbysodd y Pwyllgor hefyd fod ymgynghori wedi bod yn mynd ymlaen gyda defnyddwyr gwasanaeth a staff gyda’r nod o atal pobl rhag dod yn rhy ddibynnol ar y Gwasanaethau Cymdeithasol. Cafodd diswyddiadau eu hosgoi mewn rhai sefyllfaoedd yn y gwasanaeth Gofal Cartref lle mae staff wedi symud i weithio o fewn cyfleusterau Gofal Ychwanegol wrth iddynt gael eu datblygu. Hysbysodd yr Aelod o’r Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y Pwyllgor fod 500 aelod o staff wedi eu colli hyd yma.

 

Roedd y Pwyllgor, wrth gydnabod bod cyllid ychwanegol i gael ei ddyrannu i Lywodraeth Leol, hefyd yn cydnabod bod mesurau llymder yn dal yn eu lle yn y sector cyhoeddus ac er mwyn i’r Pwyllgor allu craffu’n iawn fod angen iddo gael ffigurau cyllideb cywir yn ei feddiant. 

 

Holai’r Pwyllgor pa effaith a gâi’r cyllid grant ar sicrhau arbedion yn y gyllideb. Gwnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y sylw bod cyllid grant a’i amseriad y tu allan i reolaeth y gwasanaeth a bod yna adegau pan oedd angen dod â’r gwasanaeth i’r prif lif a’i fod hefyd yn galw am feddwl yn ddoeth a chynllunio’n ofalus. Dywedodd beth oedd y broses o gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, Datblygiadau Gofal Ychwanegol a’r Canolbwynt. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor am fanylion ynghylch cyllido achosion cymhleth ac a fydd y cyllid hwnnw’n parhau o ganlyniad i’r newid yn ffin y bwrdd iechyd o’r Bae Gorllewinol i Gwm Taf. Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Pwyllgor fod y gyfran y bydd Pen-y-bont ar Ogwr yn ei derbyn o’r Gronfa Gofal Integredig, fydd yn gymorth gydag achosion gofal cymhleth, wrthi’n cael ei chwblhau. Dywedodd ei bod hi’n awyddus i amddiffyn cyllid achosion ym Mhen-y-bont ar Ogwr er mwyn cael cysondeb. Sicrhaodd y Pwyllgor fod yna reolaeth gadarn ar y rhaglen i gyflawni prosiectau ar gyfer pobl ag anghenion cymhleth. 

 

Holodd y Pwyllgor ynghylch cynaladwyedd y Grant Tai Cymdeithasol o ystyried y gostyngiad arfaethedig yn y gyllideb lefel sylfaenol o £5.8 miliwn i £1.6 miliwn. Gwnaeth Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y sylw nad yw’r Cyngor yn adeiladu tai cymdeithasol ond ei fod yn cynorthwyo i’w darparu mewn partneriaeth gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Mae targedau wedi eu gosod ar gyfer darparu tai cymdeithasol ond mae eu cyflawni yn ddibynnol ar gyllid.       

 

Gofynnodd y Pwyllgor am esboniad o’r cynnig i ostwng y gyllideb ar resymoli darpariaeth gwasanaeth dydd i bobl h?n a gwasanaethau anableddau dysgu gan gynnwys Canolfan Adnoddau Pen-y-bont ar Ogwr. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod Canolfan Adnoddau Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu cyfleusterau i 60-70 o oedolion ag anghenion cymhleth. Mae’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu o’r Ganolfan Adnoddau wedi galluogi pobl i barhau i fyw yn lleol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod gwasanaethau dydd yn cael eu darparu o 3 ardal gyda darpariaeth o fath cymunedol a bod Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn ceisio cryfhau’r ddarpariaeth honno. Hysbysodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion y Pwyllgor fod gwasanaethau dydd wrthi’n cael eu hailfodelu a bod datblygu canolbwyntiau cymunedol yn edrych ar yr agenda atal a llesiant. Dywedodd eu bod yn gweld llai o bobl yn dod i wasanaethau a bod y gwasanaethau dydd yn cael eu hadolygu gan edrych ar arfer gorau i gael eu gweithredu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Hysbysodd yr Aelod o’r Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y Pwyllgor fod y Cyngor ym myd yr hyn na ellid meddwl amdano wrth orfod edrych ar leihau ac ailfodelu gwasanaethau. Dywedodd fod y Cyngor yn ceisio amddiffyn gwasanaethau ond yr un pryd yn ceisio gwneud toriadau gwerth £8 miliwn yn y gyllideb. 

 

Diolchodd y Pwyllgor i’r gwahoddedigion am eu cyfraniad.

 

Casgliadau:

Argymhellodd aelodau fod adroddiad y Strategaeth Ariannol Tymor Canol yn cael ei dwyn yn ôl gerbron y Pwyllgor unwaith y bydd y setliad cyllideb terfynol gan Lywodraeth Cymru wedi cael ei gyhoeddi. Cytunai’r aelodau oherwydd nad oedd ffigur y setliad wedi ei benderfynu eto, na fyddai’r ffigurau yn yr adroddiad yn gywir ac felly y byddai angen gweithio arnynt eto cyn i’r aelodau eu hystyried.

 

Argymhellodd yr Aelodau unwaith y byddai’r setliad yn hysbys a’r ffigurau wedi eu gweithio allan eto gan gydweithwyr yn yr adran gyllid, fod yr aelodau yn cael derbyn y gyllideb yn ei chyfanrwydd ar gyfer pob Cyfarwyddiaeth, fel y gallai’r Aelodau weld y gwariant llawn ym mhob Cyfarwyddiaeth ac nid yn unig yr adrannau lle roedd gostyngiadau wedi cael eu cynnig. 

 

Gwybodaeth Bellach

Gofynnodd y Pwyllgor pa mor gynaliadwy oedd darparu’r cyflenwad o Dai Cymdeithasol a derbyn y gostyngiad arfaethedig yn y gyllideb lefel sylfaenol o £5.8 miliwn i £1.6 miliwn.

 

Gofynnodd yr Aelodau am gael derbyn gwybodaeth ynghylch yr arbedion a gyflawnwyd ar gyfer gofal cymhleth yn y Bae Gorllewinol.  

Dogfennau ategol: