Agenda item

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019-20 i 2022-23

Gwahoddedigion:

Pob Aelod Cabinet

Pob CMB

Zak Shell, Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth

Nicola Echanis, Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar

Jackie Davies, Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion

Laura Kinsey, Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant

 

Neil Clode, Prifathro, Ysgol Gynradd Llangewydd

Hannah Castle, Prifathro, Ysgol Gyfun Cynffig

Pob aelod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1

Pob aelod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2

Pob aelod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 3

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 y Strategaeth Gyllido Tymor Canol ddrafft 2019-20 i 2022-23 er mwyn i’r Aelodau ystyried y wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad a phenderfynu ar sylwadau neu argymhellion i’w cyfuno a’u cynnwys yn yr adroddiad i'r Cabinet fel rhan o broses ymgynghori’r gyllideb. Ychwanegodd y byddai’r setliad terfynol ar gael ar 19 Rhagfyr 2018 ond ei bod hi, yn y cyfamser, yn gofyn i’r Pwyllgor flaenoriaethu’r gostyngiadau arfaethedig, ystyried newidiadau i’r Dreth Gyngor neu symud ymlaen gyda’r gostyngiadau oedd wedi eu disgrifio yn yr adroddiad.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd J Spanswick, Cadeirydd SOSC3, i roi sylwadau ar dabl 7 yr adroddiad, y Gyllideb Refeniw Ddrafft 2019-20. Eglurodd ef ei fod yn gweld y gwahaniaeth rhwng y toriadau yn rhwystredig. Anghytunai ag eitem pwysau‘r gyllideb yn ymwneud â Hawliau Tramwy a’r cynigion yn ymwneud â thoriadau pellach i wasanaethau glanhau eraill (COM41 a COM41a) fyddai’n arwain at wneud y gwasanaeth yn adweithiol yn unig. Byddai hyn yn golygu na fyddai llawer o gwynion yn derbyn sylw ac na fyddai atgyfeiriadau yn cael eu gweithredu. Dewis arall yn lle hyn fyddai codi taliadau. Hoffai ef weld unrhyw gyllid ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i leihau toriadau i gyfleusterau hamdden awyr agored a chaeau chwarae ac i’r gwasanaethau hyn gael eu hamddiffyn o hyn ymlaen.

 

Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau mai penderfyniad gwleidyddol oedd lefel y toriadau, yn seiliedig ar flaenoriaethau, a’i bod yn anochel y byddai rhai gwasanaethau yn wynebu toriadau mwy nag eraill. Gellid cyflawni rhai arbedion drwy ffyrdd doethach o weithio ond mewn meysydd eraill byddai’n rhaid gwneud toriadau. Byddai effaith ar lanhau strydoedd ond gellid lliniaru’r effaith drwy weithio’n agos gyda Chynghorau Tref a Chymuned.

 

Eglurodd Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth fod pwysau’r gyllideb yn ymwneud â “Hawliau Tramwy - dyletswydd statudol i ymgymryd ag adolygiad o ddeng mlynedd gyntaf Cynllun Gwella Hawliau Tramwy’r Cyngor erbyn mis Hydref 2019” yn ganlyniad toriadau sylweddol a wnaed yn y maes hwnnw gan adael tîm bychan gyda baich gwaith mawr. Nid oedd yn realistig disgwyl i’r tîm hwnnw gwblhau’r gwaith angenrheidiol i wneud cais am gyllid a phe na châi’r gwaith ei gyflawni y gallent golli allan ar gyllid yn y dyfodol.

 

Gofynnodd Aelod am y prif ganlyniadau ar gyfer y gyfarwyddiaeth hon o’r ymgynghoriad. Eglurodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 nad oedd yr holl ganfyddiadau yn ei meddiant ond y gallai roi amlinelliad byr.

·    Teimlai 50% o’r atebwyr y gellid cwtogi ar y gwasanaethau diwylliannol.

·    Dywedodd 60% o’r atebwyr y byddent yn fodlon talu mwy i gael mynediad at gyfleusterau chwaraeon, pafiliynau a pharciau.

·    Dywedodd 79% o’r atebwyr y dylai dalwyr Bathodynnau Glas dalu am barcio.

·    Credai 48% o’r atebwyr y dylai’r Cyngor edrych ar y dewis o dalu am symudedd at siopau.

·    Anghytunai 42% o’r atebwyr â’r cynnig i dynnu cymorthdaliadau oddi ar wasanaethau bysiau.

·    Cytunai 46% o’r atebwyr y dylid cau’r orsaf fysiau i wneud arbedion yn y gyllideb.

·    Roedd 53% o’r atebwyr yn fodlon talu £20 am gasglu tair eitem swmpus.

·    Y gwasanaethau mwyaf poblogaidd i’w hamddiffyn oedd ysgolion, gofal am bobl h?n, gwasanaethau i bobl anabl a gwasanaethau hamdden.

·    Y gwasanaethau a ddewiswyd i’w torri oedd llyfrgelloedd, canolfannau celfyddydol, theatrau, chwaraeon ac adloniant, chwistrellu chwyn, cyllid ar gyfer cludiant i bobl ifanc dros 16 mlwydd oed a chasgliad ar wahân ar gyfer cynhyrchion hylendid amsugnol.

 

Gofynnodd Aelod am ddiweddariad ar orfodaeth sbwriel. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth fod y contract ar gyfer gwasanaeth gorfodi ar hyn o bryd allan i dendr ac y dylai fod wedi ei sefydlu ar gyfer dechrau’r flwyddyn ariannol nesaf. 

 

Cyfeiriodd Aelod at yr offer na fyddai ei angen pe câi’r gostyngiadau i’r gwasanaethau glanhau eu gweithredu. Adroddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth y gallent drafod hyn gyda’r Cynghorau Tref, er mai wedi ei hurio yr oedd peth o’r offer ac felly na fyddai modd gwneud hynny ym mhob achos.

 

Gofynnodd Aelod, pe bai’r toriadau yn parhau, pa mor hir fyddai cyn i’r awdurdod syrthio. Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod rhaid gwneud newidiadau. Roedd yn hanfodol datblygu perthynas newydd â Chynghorau Tref a Chymuned ynghylch yr hyn y gellid a’r hyn na ellid ei gyflawni. Ceid esiamplau da yn Lloegr lle roedd yna fwy o weithio ar y cyd.

 

Cyfeiriodd Aelod at drosglwyddo caeau a phafiliynau a gofynnodd a oedd y Cynghorau Tref a Chymuned yn ymwybodol o’r problemau. Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y cynhelid ymgynghoriad cyhoeddus yn y flwyddyn newydd ac y byddai hwn yn gymorth i siapio’r adroddiad i’r Cabinet a’r ffordd ymlaen.

 

Eglurodd yr Aelod o’r Cabinet dros Gymunedau y byddent, yn ogystal â chynnal yr ymgynghoriad, hefyd yn siarad â’r Cynghorau Tref a Chymuned yngl?n â Throsglwyddo Asedau Cymunedol a’r broses ymgeisio symlach, newydd.

 

Dywedodd Cadeirydd SOSC3 fod canlyniad yr ymgynghoriad yn dibynnu ar y ffordd yr oedd y cwestiynau’n cael eu gofyn. Yn ei farn ef, roedd y cwestiynau wedi eu pwysoli a hoffai’r pwyllgor, yn y dyfodol, weld cwestiynau’r ymgynghoriad cyn iddynt gael eu cylchredeg.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd C Webster, Cadeirydd SOSC1, i roi sylwadau ar y gyllideb refeniw ddrafft. Dywedodd hi fod ganddi bryderon yngl?n ag adolygiad arweinyddiaeth y gwasanaethau Cynhwysiant, Cludiant o'r Cartref i’r Ysgol, diogelwch plant a’r effaith ar eu haddysg. Roedd yna wahaniaeth mawr ar draws Cymru a gallai hyn effeithio ar addysg plant.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod adolygiad yr arweinyddiaeth o fewn y Gwasanaeth Cynhwysiant ar hyn o bryd yn destun ymgynghoriad ac y byddai hwn yn cau ar 10 Ionawr 2019. Roedd y staff yn yr ysgolion cynradd ac uwchradd wedi derbyn diweddariadau ac roedd arbedion sylweddol wedi cael eu nodi. Roedd yn amser ansicr ac roeddent yn dal i ystyried y goblygiadau llawn tra’n ceisio amddiffyn gwasanaethau rheng flaen.  

 

Cyfeiriodd Aelod at y gostyngiad yn y cyfraniad i Gonsortiwm Canolbarth y De (CSC) a gofynnodd a oedd yn werth ei dalu ac a oeddem yn cael gwerth am arian. Gofynnodd hefyd sut beth fyddai toriad o 1% i ysgolion.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod gweithio rhanbarthol wedi ei sefydlu fel rhan o gytundeb gyda Llywodraeth Cymru. Buasai gostyngiadau flwyddyn ar ôl blwyddyn ers 2015, oedd yn gymaint â gostyngiad o 12%. Penodwyd asiantaeth annibynnol i weld a oedd y CSC yn darparu gwerth am arian. Ychwanegodd fod safonau ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gwella. Roedd awdurdodau eraill yn edrych am doriadau uwch ac roedd staff y swyddfa gefn a’r adeiladau wedi eu cwtogi’n barod.

 

Dywedodd Aelod, gyda throseddau ymhlith ieuenctid ar gynnydd, y byddai cwtogi ar y staff yn arwain at lai o gyfleoedd i ymyrryd. Gofynnodd hi pa ddarpariaeth fyddai yna pe bai’r awdurdod yn tynnu allan o’r Bae Gorllewinol. Cytunai Pennaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd a dywedodd fod hwn yn amser tyngedfennol i’r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid. Roedd arbedion sylweddol wedi cael eu gwneud eisoes heb golli staff.

 

Gwahoddwyd cynrychiolwyr yr ysgolion cynradd/uwchradd i wneud sylwadau ar y cynigion. Adroddent y gallai gwaith Cynghorwr Her a ddarperid gan CSC fod yn gryf ond amrywiol. Cymharol fychan oedd Pen-y-bont ar Ogwr o fewn y Consortiwm ond roedd hyn yn creu cyfle i weithio’n rhanbarthol a manteisio ar amrediad o arbenigeddau. Gyda golwg ar y toriadau o 1%, dywedent y byddai hyn yn effeithio ar yr amgylchedd dysgu. Gallai toriad o 1% gael effaith ar weithgareddau allgyrsiol, darpariaeth gerdd a gwersi nofio pe bai llymder yn parhau.

 

Gofynnodd Aelod a fyddai yna risg y byddai toriad o 1% yn gwthio rhagor o ysgolion ymhellach i ddiffyg ariannol. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod gan oddeutu hanner yr ysgolion ddiffyg yn eu cyllidebau ar ddiwedd y flwyddyn. Roedd swyddogion yn cynorthwyo ysgolion i ddod dros y sefyllfa honno ac eglurodd fod ganddynt ddyletswydd statudol i fantoli’r llyfrau o fewn tair blynedd ac roedd y swyddogion cyllid yn gweithio’n agos gyda’r ysgolion i gyflawni hyn.

 

Awgrymodd aelod y gellid torri addysg feithrin anstatudol o 30 awr i 10 awr ac y rhoddai hyn arbediad o £1.8 miliwn.

 

Dywedodd yr Arweinydd mai addysg oedd y gwasanaeth pwysicaf yr oedd yr awdurdod yn ei ddarparu a’i fod yn fuddsoddiad yn y dyfodol. Gallai addysg godi pobl allan o dlodi ac roedd yr awdurdod wedi llwyddo i osgoi toriadau yn y maes hwn ers blynyddoedd lawer. Ceid tystiolaeth gadarn fod angen cymorth yn y blynyddoedd cynnar er mwyn gwneud gwahaniaeth. Roedd darpariaeth lawn amser wedi gwneud gwahaniaeth enfawr a byddai effaith anferth ar y rhieni a’r plant hefyd pe câi ei lleihau. Roedd ef wedi cael trafodaethau gyda gweinidogion Llywodraeth Cymru ynghylch y cynnig o ofal plant ar draws Cymru ac roedd rhagor o arian wedi cael ei ganfod. O ran y CSC roedd Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig iawn i weithio’n rhanbarthol ac roedd ymdrechion yn cael eu gwneud i sicrhau bod yr awdurdod yn derbyn gwerth am arian.    

 

Roedd gan Aelod bryderon difrifol ynghylch dileu cludiant i bobl ifanc dros 16. Dywedodd fod rhai o’r cymunedau mwyaf difreintiedig drwy Gymru Gyfan o fewn y fwrdeistref a bod hwn fel rhaff achub ac yn gyfrwng i gael cyfle. Gofynnodd sut yr oedd hyn yn gweithio yn erbyn cynigion cenedlaethau’r dyfodol i greu Cymru fwy cyfartal. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod yna her ynghylch cludiant ac ar hyn o bryd fod yna orwariant o £570,000. Dros y 5 mlynedd ddiwethaf, roeddent wedi arbed £2 filiwn ac roeddent yn awr yn edrych ar yr elfen anstatudol oedd yn gymaint â £450,000. At hynny, roedd mwy o bwysau o ran disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Roedd y gwasanaeth tacsi pwrpasol yn ddrud iawn ac roedd hi’n anodd sicrhau arbedion. Cynhaliwyd adolygiad o gludiant ysgol ac roedd arbedion wedi cael eu sicrhau drwy’r llwybrau diogel i'r ysgol. 

 

Dywedodd cynrychiolwyr yr ysgolion cynradd/uwchradd, pe bai cludiant ôl-16 yn cael ei ddileu, na fyddai rhai disgyblion, efallai, yn parhau mewn addysg, yn enwedig plant difreintiedig fyddai’n cael eu hamddifadu o’r cyfle i barhau mewn addysg. Gallai dileu darpariaeth feithrin anstatudol gael effaith enfawr ar blant. Roedd y llinell waelod yn mynd yn waeth bob blwyddyn a byddai’n effeithio ar y canlyniadau. Cytunai cynrychiolydd cofrestredig y byddai yna effaith ar blant pe na chaent y cyfle hwn.

 

Cododd Aelod bryderon ynghylch y cludiant o'r cartref i’r ysgol, cynigion i ddileu hebryngwyr. Byddai plant yn agored i niwed pe na bai yna hebryngwr a gallai hyn gynyddu bwlio a thynnu sylw’r gyrrwr. Dywedodd, er mwyn arbed £35,000, fod yna berygl mawr i blant gael eu niweidio yn feddyliol neu’n gorfforol a bod y cynnig hwn yn un na ddylid ei ystyried o gwbl. 

 

Dywedodd yr Arweinydd, pe bai llymder yn dod i ben, y gallai hwn fod yn doriad na fyddent yn ei wneud a’i fod ef yn rhannu eu pryderon ynghylch hwn ac arbedion eraill. Roedd amlder a chymhlethdod yr achosion o blant ag ADY yn cynyddu ac roedd hwn yn faes oedd angen mwy o fuddsoddiad. Roedd cynnig i fuddsoddi £320,000 mewn ysgolion uwchradd ar gyfer plant ag ADY, mewn cydnabyddiaeth o’r cynnydd yn yr anghenion a’r cymhlethdod. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd, na fyddai’r toriad hwn, pe cytunid arno, yn dod i rym am 2/3 blynedd.

 

Cododd Aelod y materion o dynnu cymorthdaliadau bysiau a chludiant i bobl ifanc ôl-16. Awgrymai fod y ddau yn gweithio gyda’i gilydd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd y byddent yn cydweithio i gynyddu cyfleoedd a lleihau risgiau. Roedd yr Arweinydd hefyd yn siarad â Chludiant i Gymru ynghylch y cynnydd yn eu cyllideb a’r ffyrdd mwyaf effeithiol o fuddsoddi. Byddent yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn sicrhau bod y cynigion yn ategu ei gilydd.

 

Dywedodd Aelod fod hon yn her anferth i ysgolion ac y dylent fod yn edrych am gyllid allanol. Esboniodd yr Arweinydd ei fod yn dal i lobïo Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, gan wneud yr achos dros gymorth ychwanegol. Roedd yn disgwyl am eglurder gan Lywodraeth Cymru ynghylch cyllido costau pensiynau i athrawon yn llawn. 

 

Dywedodd Cadeirydd SOSC3 ei fod yn derbyn y byddai’r toriad o 1% yn anodd ond bod yn rhaid i’r holl gyfarwyddiaethau gydweithio. Dywedodd fod ysgolion wedi cael eu hamddiffyn o’r blaen ond na allai hyn barhau i’r dyfodol. Roedd miliynau wedi eu buddsoddi yn Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain ac roedd yn annheg i barhau i amddiffyn ysgolion. Credai ef fod angen i Fyrddau Llywodraethu “ddeffro” a dechrau herio penaethiaid i ddarganfod toriadau lle maent yn debygol o achosi y lleiaf o niwed.

 

Esboniodd Cadeirydd SOSC1 ei bod hi’n deall y materion ynghylch cwtogi darpariaeth feithrin. Roedd ganddi bryderon mawr yngl?n â chludiant dysgwyr a’r pwysigrwydd bod plant yn cael siwrnai gyfforddus er mwyn osgoi pryder. Roedd hebryngwr yn ofynnol yn statudol pe bai hynny’n cael ei nodi yn natganiad y plentyn ond credai hi fod yr awdurdod yn wael am roi datganiadau. Ychwanegodd fod yr ?yl Ddysgu wedi bod yn llwyddiant enfawr i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol yn enwedig o ran hyfforddiant a rhannu arferion da. Roedd y Consortiwm wedi rhoi cefnogaeth ac roedd hi’n falch i weld bod arbedion wedi eu gwneud a’u bod yn awr mewn adeiladau mwy addas.

 

Gofynnodd Aelod am ragor o wybodaeth ynghylch y gostyngiad yn y gyllideb ganolog ar gyfer cymorth 1 i 1 a’r adolygiad o Wasanaeth Seicoleg Addysg. Dywedodd cynrychiolydd ysgolion cynradd/uwchradd y credai ef y dylid cadw’r cyllid yn ganolog fel y gallai ddilyn y plentyn. Ni wyddai sut y byddent yn gallu cynorthwyo plant pe na châi cyllid ei ddarparu yn y ffordd hon.

 

Amlinellodd y Prif Weithredwr y cynigion i leihau’r gyllideb yn ei gyfarwyddiaeth ac esboniodd fod yn rhaid i arbedion fod yn rhai cadarn a bod rhaid deall canlyniadau unrhyw doriadau. 

 

Dywedodd Aelod ei fod ef yn siomedig fod y Gronfa Gweithredu Cymunedol yn cael ei dileu oherwydd ei fod yn gynllun da. 

 

Gofynnodd Aelod am wybodaeth bellach am yr adolygiad atal digartrefedd, beth oedd enw’r corff allanol ac a fyddai’r toriadau yn dihysbyddu’r gallu i gynorthwyo’r digartref. Esboniodd y Prif Weithredwr fod yna danwariant sylweddol yn hanesyddol ac y gallai hyn orfodi gwasanaethau eraill i wneud toriadau nad oeddent efallai yn angenrheidiol. Nid oedd corff allanol penodol dan sylw. Fodd bynnag, roedd y cysyniad yn cael ei ystyried gyda chymdeithasau tai. Roeddent yn edrych i weld a oedd yna gymdeithas dai fyddai â diddordeb mewn ymgymryd â hyn ac a ellid darparu’r gwasanaeth yn fwy effeithlon ac effeithiol.

 

Gofynnodd Aelod a oedd hi’n synhwyrol i rewi/dileu swyddi gwag ac adolygu strwythurau. Eglurodd y Prif Weithredwr fod ad-drefnu trwm yn mynd ymlaen yn ei gyfarwyddiaeth ef a’i bod yn bwysig cael y strwythur yn iawn ar draws cyswllt cwsmeriaid, cyfathrebu a marchnata, tai a pherfformiad. Roeddent yn edrych ar y modd yr oeddent yn gweinyddu data a’r berthynas â rheoleiddwyr allanol megis Swyddfa Archwilio Cymru. Gallai timau fod yn treulio amser heb fod angen yn casglu gwybodaeth a’i chyflwyno mewn gwahanol ffurfiau. Gallai hyn symud y pwyslais i gefnogi penderfyniadau rheolwyr a chynorthwyo i sbarduno perfformiad mewn ffordd wahanol.

 

Cododd Aelod y potensial i gynhyrchu incwm mewn meysydd megis yr heddlu/diogelwch cymunedol/CCTV, trwsio ffyrdd a chodi tâl am ffilmio. Dylid mabwysiadu dull busnes o gynhyrchu incwm yn ychwanegol at y dulliau traddodiadol.

 

Atebodd y Prif Weithredwr nad oedd codi tâl am ffilmio wedi cael ei nodi o ran cynhyrchu incwm am nad oedd yn ymddangos fod yna lawer o ffilmio yn digwydd o fewn y fwrdeistref. Roedd awdurdodau yn Lloegr yn mentro i mewn i feysydd megis hyfforddiant, rhedeg tafarndai, gwestai ac archfarchnadoedd ond bod yna broblemau gyda’r rhain i gyd. Roedd sgwrs yn mynd ymlaen hefyd gydag awdurdod yn Llundain lle y gallai fod yn rhatach o bosibl prynu cymorth i mewn yn hytrach na chan y sector cyhoeddus.

 

Cymunedau

Yn dilyn ystyriaeth y Pwyllgor o gynigion drafft y gyllideb ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Cymunedau, penderfynodd yr Aelodau wneud y sylwadau a’r argymhellion canlynol:

 

Sylwadau Cyffredinol

  • Lleisiodd y Pwyllgor eu siom o weld y gwahaniaeth rhwng y toriadau ar draws y Gyfarwyddiaeth a sut roedd y Gyfarwyddiaeth Cymunedau yn edrych ar doriad o 8% yn eu cyllideb tra roedd eraill - wrth gynnwys Twf - yn wynebu toriad o ddim ond 1.8%.
  • Mewn perthynas â COM14a, cododd Aelodau bryderon ynghylch effaith cynigion lleihau’r gyllideb ar y gwasanaethau glanhau a’r tebygolrwydd y bydd y gwasanaeth yn gweithredu ar sail adweithiol yn unig. Felly mae’r Aelodau’n croesawu datganiad y Gyfarwyddiaeth y byddai unrhyw offer dros ben ym meddiant y Cyngor yn cael ei roi i Gynghorau Tref a Chymuned fesul achos i gyflawni gwasanaethau glanhau er mwyn gwrthweithio’r sbwriel tebygol ar ochr y ffyrdd.

 

Argymhellion

Gwnaeth y Pwyllgor y sylw y dylid amddiffyn gwasanaethau gweladwy rhag gostyngiadau cyllidebol, yn enwedig y gwasanaethau glanhau. Mae’r Aelodau felly’n argymell, os bydd y Cyngor yn derbyn unrhyw gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, y dylid ystyried cadw arian wrth gefn i wrthbwyso COM41 a COM41a.

 

Yn ystod eu trafodaethau ar COM42 a COM42a, argymhellodd y Pwyllgor ddosbarthu llythyr i Gynghorau Tref a Chymuned a’r sector gwirfoddol i’w hysbysu am y gostyngiadau arfaethedig yn y gyllideb. Roedd yn dda gan y Pwyllgor glywed bod y Cyngor yn symleiddio’r broses o Drosglwyddo Asedau Cymunedol er mwyn cynorthwyo gyda phroses oedd yn fwy effeithiol i’r holl bartïon.

 

Mae’r Pwyllgor yn argymell, cyn i’r ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y Gyllideb gael ei gwblhau y flwyddyn nesaf, bod y Panel Ymchwil a Gwerthuso yn derbyn cwestiynau arfaethedig yr ymgynghoriad er mwyn sicrhau bod yna rai cwestiynau uniongyrchol ynghylch y gostyngiadau arfaethedig yn y gyllideb yn hytrach na chwestiynau mwy cyffredinol y gellid eu camddehongli.

 

Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Yn dilyn ystyriaeth y Pwyllgor o gynigion drafft y gyllideb ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd, penderfynodd yr Aelodau wneud y sylwadau a’r argymhellion canlynol:

 

Sylwadau Cyffredinol

  • Mewn perthynas ag EFS33, cododd yr Aelodau bryderon ynghylch tynnu goruchwylwyr oddi ar wasanaethau bysiau ysgolion cynradd oedd â llai nag 8 disgybl gan dynnu sylw at y ffaith y byddai hyn yn gadael plant yn agored i niwed a thynnu sylw’r gyrrwr. Daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod y perygl i blant gael eu niweidio’n feddyliol neu’n gorfforol yn rhy fawr er mwyn arbediad posibl o £35,000.
  • Mynegodd y Pwyllgor beth pryder ynghylch cynnig gostyngiad yn y gyllideb EFS41 - dileu cludiant ôl-16, gan y byddai’r toriad yn effeithio ar bobl ifanc yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o fewn y Fwrdeistref, na fyddent efallai’n parhau gyda’u haddysg heb i gludiant gael ei ddarparu. Tynnodd yr Aelodau sylw hefyd at yr effaith negyddol a gâi’r cynnig yn ei dro o ran cynnydd tebygol yn nifer y bobl ifanc nad oeddent mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Daeth y Pwyllgor i’r casgliad y dylai’r toriadau i addysg gael eu hystyried ochr yn ochr â’r gostyngiad yn y cymorthdaliadau i fysiau.
  • Yn ystod y trafodaethau ynghylch yr arbedion effeithlonrwydd yn erbyn y Gyllideb Ddirprwyedig i Ysgolion - SCH1 - tynnodd y Pwyllgor sylw at yr angen i lywodraethwyr herio penaethiaid yn gryf ynghylch eu cyllidebau ac edrych ar yr holl bosibiliadau ar gyfer cynhyrchu incwm mewn ymgais i wrthweithio’r toriad o 1% posibl yn y gyllideb.

 

Argymhellion

Gwnaeth y Pwyllgor sylw ar yr effaith ariannol bosibl a gâi’r arbediad effeithlonrwydd arfaethedig ar gyllidebau ysgolion oedd eisoes mewn diffyg ariannol a’r anhawster cynyddol y byddai’n ei greu i allu dod dros y sefyllfa honno o fewn y cyfnod statudol o amser. Mae’r Aelodau felly’n argymell, os bydd y Cyngor yn derbyn unrhyw gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, y dylid ystyried cadw arian wrth gefn i wrthbwyso SCH01.

 

Y Prif Weithredwr

Yn dilyn ystyriaeth y Pwyllgor o gynigion drafft y gyllideb ar gyfer Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr, penderfynodd yr Aelodau wneud y sylwadau a’r argymhellion canlynol:

 

Argymhellion

Bu’r Pwyllgor yn trafod Cronfa Gweithredu Cymunedol yr Aelodau ac er bod yr Aelodau’n cytuno ag egwyddor y prosiect, ni allant gefnogi parhad y cyllid ac felly maent yn argymell bod y Gyfarwyddiaeth yn mynd ymlaen i ddileu Cronfa Gweithredu Cymunedol yr Aelodau.

 

Trosolwg Gorfforaethol

Tynnodd yr Aelodau sylw at yr angen i’r Cyngor ymgymryd â gwyliadwriaeth gorfforaethol gynyddol, a fyddai yn ei thro yn gallu cynhyrchu incwm. Gwnaeth y Pwyllgor y cynigion canlynol:

 

Argymhellion

Fel yr amlinellwyd yn y Panel Ymchwil a Gwerthuso mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr gyflwyno ffioedd a thaliadau i gyd-fynd ag awdurdodau eraill; edrych ar y posibilrwydd o godi tâl ar gwmnïau ac aelodau o’r cyhoedd pan fyddant wedi difrodi eiddo’r Cyngor; edrych ar gyllido’r gwasanaeth CCTV ar y cyd â’r Heddlu.

 

Yn ychwanegol at y sylwadau uchod, mae’r Pwyllgor yn argymell bod y Cyngor yn edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno dirwyon ar gyfer aelodau o’r cyhoedd sy’n difrodi eiddo cyhoeddus ac nad ydynt yn glynu at y cod priffyrdd, drwy wneud defnydd llawn o’r CCTV sydd yn ei le eisoes ym Mhen-y-bont ar Ogwr a defnyddio’r car camera sy’n eiddo i BCBC i atal parcio peryglus o gwmpas ysgolion yn y Fwrdeistref.

Dogfennau ategol: