Agenda item

Diweddariad Cronfa Gweithredu yn y Gymuned 2017-18

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad ar ran y Prif Weithredwr a phwrpas hwn oedd rhoi diweddariad o ran defnydd y Gronfa Gweithredu Cymunedol a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 5 Medi 2017.

 

Dywedodd fod Strategaeth Ariannol Tymor Canol 2017-2021 a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 1 Mawrth 2017, yn cynnwys cyllideb newydd o £285 mil ar gyfer creu Cronfa Gweithredu Cymunedol. Nodau hyn yn fras oedd creu cyfleoedd ar gyfer ymyriadau lleol gan Aelodau yn eu wardiau eu hunain er budd y gymuned.

 

Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet i’r Cynllun Gweithredu Cymunedol fel y soniwyd uchod, darparwyd sesiynau hyfforddi ym mis Hydref 2017, er mwyn sicrhau bod yr holl Aelodau etholedig yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am elfennau o’r cynllun, cyn iddynt gyflwyno eu ceisiadau am arian. Roedd y cyllid o £285 mil yn golygu £5 mil i bob Aelod i’w ddyrannu i’w Ward, yn ogystal â £15 mil tuag at gostau gweinyddol. Ychwanegodd y Swyddog Monitro, oherwydd yr oedi cyn rhoi'r cynllun ar waith, fod arian nas defnyddiwyd yn 2017-18 wedi cael ei dreiglo drosodd i flwyddyn ariannol 2018-19 i’w ddefnyddio erbyn diwedd mis Hydref 2018. Ym mis Mehefin 2018, cafodd adroddiad ei ystyried hefyd gan y Pwyllgor Archwilio, oedd yn argymell cynnal adolygiad llawn o’r Cynllun Gweithredu Cymunedol yn dilyn diwedd y cyfnod cyfredol o gyllid.

 

Aeth ymlaen i gadarnhau, yn ystod cyfnod y cynllun, bod cyfanswm o £231,667.24 (85.8%) o’r £270 mil oedd ar gael wedi ei roi o gyllideb y Cynllun i ariannu 156 o brosiectau ar draws y Fwrdeistref Sirol.

 

Defnyddiodd yr Aelodau Etholedig, eu cyllid ar gyfer amrywiaeth o brosiectau y ceir enghreifftiau ohonynt ym mharagraff 4.1.4 yr adroddiad. Roedd rhestr lawn o'r prosiectau, yr Aelodau Etholedig, Wardiau a gwerthoedd, yn cael eu dangos yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod holl Aelodau’r Cyngor (ac eithrio un) ar y pryd wedi defnyddio’r cyllid yr oedd ganddynt hawl i’w dderbyn.

 

Roedd adran nesaf yr adroddiad yn amlinellu adborth o’r Gronfa Gweithredu Cymunedol gan yr Aelodau a’r Swyddogion oedd yn gweinyddu'r cynllun, gydag adolygiad yn dilyn a gynhaliwyd ar y Cynllun gan yr Archwilydd Mewnol. Roedd mwy o gymorth gweinyddol wedi ei rwymo i’r cynllun ynghyd â pheth gwaith cymorth ychwanegol nad oedd wedi cael ei ragweld pan gafodd y cynllun ei gymeradwyo.

 

Gorffennodd ei chyflwyniad, drwy ddweud mai cymysg oedd yr adolygiadau gan Aelodau ar eu profiad o’r cynllun, gyda rhai canlyniadau cadarnhaol ar fudd cymunedol y cynllun a rhai canlyniadau negyddol o ran y broses, meini prawf y cynllun ac ychydig o ddiddordeb yn y cynllun oddi wrth gymdeithasau cymwys yn yr ardal.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei fod ef wedi bod mewn cysylltiad â rhai Aelodau, nad oeddent yn aelodau o’r Pwyllgor Archwilio, a’i fod ef hefyd wedi cael eu hadborth ar y cynllun yn gymysg.

 

Cytunai Aelod gyda darpariaeth pellach yn yr adroddiad, sef y byddai’n fwy defnyddiol yn y dyfodol rhwymo’r lefel hwn o gyllid a’i ddefnyddio’n fwy strategol fel rhan o gyllideb fwy, fyddai o fudd i holl breswylwyr y Fwrdeistref Sirol, drwy ailsianelu’r £285 mil i’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol er mwyn lliniaru gostyngiadau eraill mewn gwasanaethau allweddol a ddarperir i gymunedau.

 

Rhoddodd rhai Aelodau o’r Pwyllgor wedyn eu barn ar lwyddiant cynllun y Gronfa Gweithredu Cymunedol neu fel arall, yn eu Wardiau.

 

PENDERFYNWYD:    (1) Bod yr Aelodau yn nodi’r adroddiad.

 

                                    (2) Bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cabinet bod y Gronfa Gweithredu Cymunedol yn cael ei dirwyn i ben a’r cyllid o £285 mil yn cael ei drosglwyddo’n ôl i’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol i’w ystyried wrth osod cyllideb 2019-20 i 2022-23.       

Dogfennau ategol: