Agenda item

Rhaglen Cyfalaf 2018-19 i 2027-28

Cofnodion:

Fe wnaeth Pennaeth Dros Dro Cyllid geisio cytundeb i gyflwyno adroddiad i'r Cyngor i gymeradwyo rhaglen cyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2018-19 i 2027-28. 

 

Adroddodd Pennaeth Dros Dro Cyllid fod nifer o gynlluniau wedi symud ymlaen ers cymeradwyo'r rhaglen cyfalaf sy'n gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor.  Hysbysodd y Cabinet mewn perthynas â Rhaglen Band A Ysgolion y 21ain Ganrif, er gwaethaf gwaith ymchwilio ar y safle yn cael ei gyflawni cyn gosod contract adeiladu Ysgol Gynradd Pencoed, bod angen gweithgareddau torri a llenwi sylweddol ar y safle nad oeddent wedi'u rhagweld yn wreiddiol, gan arwain at gynnydd o £200,000 yng nghostau'r prosiect.  Cynigiwyd i ddiwallu'r gost ychwanegol hon o dan-wario arfaethedig mewn cynlluniau Band A eraill.  Hysbysodd Pennaeth Dros Dro Cylidd y Cabinet fod cyllideb o £165,000 wedi'i gynnwys yn y rhaglen cyfalaf ar gyfer darparu llety ychwanegol yn Ysgol Gynradd Cwmfelin.  Fodd bynnag, yn dilyn datblygiad dylunio, tybiwyd fod amcangyfrif gwreiddiol y prosiect yn annigonol, ac er gwaethaf cynnal ymarfer peirianneg gwerth, derbyniwyd cost prosiect diwygiedig o £235,000, oedd yn arwain at gyllid ychwanegol o £70,000 yn fwy na'r gyllideb a gymeradwywyd, ac awgrymwyd y dylid cael hwn o gyllideb cadw moderneiddio ysgolion.

 

Adroddodd Pennaeth Dros Dro Cyllid fod buddsoddiad cyfalaf o £205,000 wedi'i gymeradwyo ar gyfer sefydlu MASH.  Fodd bynnag mae'r MASH wedi'i symud yn lle i Raven's Courth, gan arwain at gostau sylweddol is nag a ragwelwyd, a fyddai'n rhyddgau £45,116 o arian ar gyfer cynlluniau eraill.  Adroddodd hefyd fod cyllid cyfalaf o £1.217m ar gyfer buddsoddiad TGCh wedi'i gymeradwyo i gyflawni gwaith ystwyth, a oedd yn amodol ar sicrhau tenant ar gyfer Raven's Court.  Yn dilyn penderfyniadau ar ble i osod y MASH, ni fyddai marchnata gweithredol ar gyfer Raven's Court yn cael ei gyflawni bellach ac o ganlyniad nid oedd angen y buddsoddiad a nodwyd yn wreiddiol, oedd yn gadael balans o £1.201m i'w ddad-ymrwymo a'i ddefnyddio ar gyfer cynlluniau eraill.

 

Fe wnaeth Pennaeth Dros Dro Cyllid hefyd adrodd am £360,000 o gyllid tuag at estyniadau mynwentydd ym Mhorthcawl a Gogledd Corneli, fodd bynnag oherwydd ymchwilio pellach a gwaith dichonoldeb roedd angen £170,000 ychwanegol i'w ariannu drwy fenthyca darbodus.  Adroddodd hefyd bod angen cyllideb cyfalaf o £1.64m ar gyfer prynu cerbydau cynnal a chadw priffyrdd newydd i'w ariannu o gyllidebau refeniw cleientiaid presennol, drwy gyfraniadau i gyfalaf neu fenthyca darbodus.  Gwnaeth Pennaeth Dros Dro Cyllid sylw ar yr angen yn dilyn adolygiad o'r ystâd TGCh am gynnydd o £226.375 i'w ariannu o gyfraniad refeniw o gyllideb y rhaglen dreigl TGCh gyfredol.

 

Dywedodd Pennaeth Dros Dro Cyllid fod yr ymarfer caffael ar gyfer prosiect Ffocws Buddsoddiad Arhosfan Portchawl wedi'i gwblhau a'i fod wedi cynyddu i £2,924,000; roedd angen diwygio'r gofyniad cyfatebol i £1,358,060.  Roedd yr arian cyfatebol yn cynnwys ffynonellau allanol a chronfeydd Cyngor amrywiol.  Nododd pe byddai cyfleoedd yn codi i fanteisio ar arian allanol pellach, naill ai drwy ERDF neu ffynonellau eraill yna y byddai'r rhain yn cael eu targed mewn ymdrech i leihau'r gofyn ymhellach am adnoddau'r Cyngor. 

 

Adroddodd Pennaeth Dros Dro Cyllid hefyd fod diddordeb masnachol sylweddol yn y tir a'r adeilad (Ty'r Ardd) sydd yn gartref i Swyddfa'r Cofrestrydd a Llyfrgell Cyfeirio Awen.  Mae cynnydd wedi bod yn y nifer o briodasau sy'n cael eu canslo oherwydd y waith sy'n cael ei gyflawni ar y tir cyfagos.  Gyda gwaith yn cynyddu ar y safle, roedd yn debygol o achosi cynnydd pellach yn y nifer o briodasau sy'n cael eu canslo.   Mae gwaith dichonoldeb wedi'i gyflawni ar adleoli Swyddfa'r Cofrestrydd a allai gael ei symud i lawr gwaelod Swyddfeydd y Ddinas.  Byddai hyn yn darparu derbynneb cyfalaf o werthu'r tir yn ogystal ag arbedion refeniw parhau o gau'r adeilad.  Nododd mai'r gyllideb cyfalaf mynegol sydd ei angen i ail-fodelu ardal y Swyddfeydd Dinesig yw £275,000, sy'n cynnwys creu ardal patio ar gyfer lluniau priodas.  Disgwylir i'r elw cyfalaf disgwyliedig, a nodwyd yn yr adroddiad gwerthuso drafft, yn sylweddol uwch na chost y gwaith. 

 

Adroddodd Pennaeth Dros Dro Cyllid fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi £2.6m i'r Cyngor er mwyn creu darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg ym Mettws, Cwm Ogwr, Tref Pen-y-bont a Phorthcawl gyda'r pedwar prosiect yn costio £650,000 yr un.  

 

Dywedodd Pennaeth Dros Dro Cyllid wrth y Cabinet fod y rhaglen cyfalaf diwygiedig yn cynnwys nifer o addasiadau eraill sy'n adlewyrchu ceisiadau ariannu allanol llwyddiannus newydd a newidiadau i broffiliau gwariant ar draws blynyddoedd ariannol, oedd yn dangos rhaglen ddiwygiedig o £211.185m. O hwn, mae'r Cyngor yn diwallu £138.408m ohono o'u hadnoddau, gan gynnwys Cyllid Cyfalaf gan Lywodraeth Cymru ac mae £72.777m yn cael ei ddiwallu gan adnoddau allanol.

 

Dywedodd Pennaeth Dros Dro Cyllid wrth y Cabinet y byddai angen diweddaru'r rhaglen cyfalaf o bryd i'w gilydd, oherwydd ei natur dros gyfnod o 10 mlynedd; fodd bynnag mae'r rhaglen yn ariannol gadarn.  Dywedodd yr Arweinydd fod prosesau caffael cadarn ar waith; fodd bynnag byddai anghysondebau yn codi ar brosiectau adeiladu ac ni fyddai modd gwybod am y rhain nes i'r gwaith ar y safle ddechrau.  Nododd fod y cynnydd mewn cost yn y rhaglen cyfalaf wedi'i leihau a bod cyllid gan MASH a phrosiectau gweithio'n ystwyth wedi ei ail-ddyrannu.                                                    

 

Dywedodd Pennaeth Dros Dro Cyllid wrth y Cabinet y byddai'n mynd i'r afael â gorwariant mewn modd mor gadarn â phosibl.    

 

DATRYSWYD:           Y Rhaglen Cyfalaf diwygiedig i'w gyflwyno i'r Cyngor ei chymeradwyo.

Dogfennau ategol: