Agenda item

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) Adran 65 Pŵer i Osod Pris Siwrnai ar gyfer Cerbydau Hacni Gwrthwynebiadau I'r Cynnig I Ddiwygio Tarrif Pris Siwrnai ar gyfer Cerbydau Hacni

Cofnodion:

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Rheoleiddio Cyffredinol ar wrthwynebiadau i'r cynigion oedd wedi'u cymeradwyo gan y Cabinet i amrywio cyfradd cyfredol Prisiau Siwrnai Cerbydau Hacni.  Nododd fod y Cabinet yn ei gyfarfod ar 5 Medi 2017 wedi ystyried 3 chynnig i amrywio'r tabl prisiau siwrnai hacni cyfredol a phenderfynu gwrthod y cynigion hynnyac argymell archwilio i nodweddion cyfreithiol ac ymarferol ymgynghori ar ffioedd cerbydau hacni gyda'r fasnach tacsi a'r fasnach gyhoeddus.

Adroddodd Pennaeth Gwasanaethau Rheoleiddio fod swyddogion wedi gofyn i bob un o'r ymgeiswyr ystyried cynigion eraill gyda'r bwriad o gyflwyno cais sengl pellach gyda chefnogaeth gan yr holl bleidiau.  Fodd bynnag, ni lwyddwyd i ddod i gytundeb rhwng yr ymgeiswyr ac yn ystod y cyfnod hwn derbyniwyd cais ychwanegol gan Mr Peter Renwick o Premier Cars (Caerdydd) Ltd. Cynhaliwyd ymgynghoriaeth gyda phob un o'r gyrwyr cerbydau huriant preifat/cerbydau hacni trwyddedig ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn gofyn am eu barn a p'un a oeddent yn ffafrio un o'r 3 opsiwn ar y cynigion ac ystyried yn flaenorol gan y Cabinet, a'r cynnig dilynol a dderbyniwyd.  Cyflwynwyd canlyniadau'r ymgynghoriaeth i'r Cabinet ar 23 Hydref 2018.  Fe wnaeth y Cabinet gymeradwyo Cynnig 1, a gyflwynwyd gan Mr James Borland a Richard Parrott, yn amodol ar gyhoeddi hysbysiad cyhoeddus mewn papur newydd lleol yn gwahodd gwrthwynebiadau.

 

Fe wnaeth Pennaeth Gwasanaethau Rheoleiddio hysbysu'r Cabinet fod yr adroddiad a gyflwynwyd iddo r 23 Hydref 2018 yn cynnwys ffigyrau anghywir am gost siwrnai 5 milltir a 15 milltir ar gyfer Cynnig 1, ond fod y wybodaeth a ddarparwyd i'r fasnach drwyddedig yn ystod y cyfnod ymgynghori yn gywir ac o'r herwydd mae canlyniadau'r ymgynghoriaeth yn seiliedig ar y ffigyrau cywir.   

 

Fe wnaeth Pennaeth Gwasanaethau Rheoleiddio hysbysu'r Cabinet fod 3 gwrthwynebiad wedi'u derbyn yn dilyn yr hysbysiad ac fe wnaeth amlinellu'r ymatebion hynny.  Nododd fod gofyn i'r Cabinet ystyried y gwrthwynebiadau a phenderfynu p'un a yw'n parhau'n fodlon gyda'r penderfyniad i gadarnhau Cynnig 1 fel yr opsiwn sy'n cael ei ffafrio yn seiliedig ar y ffigyrau cywir, neu wedi adolygu'r wybodaeth ynghylch y ffigyrau diweddaraf, i ddewis cynnig gwahanol. 

 

Fe wnaeth yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol gynnig fod y Cabinet yn cefnogi Cynnig 1 gan mai dyma oedd wedi derbyn y mwyaf o gefnogaeth gan y fasnach.  Nododd ei bod yn fodlon gyda'r ymgynghoriad oedd wedi'i gynnal a bod y fasnach wedi derbyn y ffigyrau cywir a'i bod yn credu y gellid adfer costau ail-galibradu.  Dywedodd yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol hefyd fod hwn yn rhoi cap ar y pris siwrnai uchaf y gellir ei godi, ac nid oedd yn rhaid i yrwyr godi eu prisiau os nad oeddent yn dymuno.  Dywedodd yr Is Arweinydd ei fod yn fodlon gyda'r ymgynghoriad a gynhaliwyd ac nad oedd ail-galibradu offer yn anorchfygol.        

 

DATRYSWYD:           Bod y Cabinet:

a)  Wedi nodi sylwadau a dderbyniwyd yn Atodiad B yr adroddiad wrth ystyried y penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 23 Hydref 2018 i ddiwygio'r tariff prisiau siwrnai;

Wedi penderfynu i barhau gyda Chynnig 1 a chyflwyno tariff cerbydau hacni newydd yn seiliedig ar y ffigyrau diwygiedig a nodwyd yn yr adroddiad gyda dyddiad rhoi ar waith nad oedd yn hwyrach na 2 Chwefror 2019.

Dogfennau ategol: