Agenda item

I dderbyn cyhoeddiadau gan y canlynol:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

 

Cofnodion:

Maer

 

Gwnaeth y Maer atgoffa'r aelodau am enwebiadau ar gyfer Gwobrau Blynyddol Dinasyddiaeth y Maer. Mae'r gwobrau'n agored i bobl sy'n byw yn y fwrdeistref sirol, yn ogystal â grwpiau a busnesau lleol. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a gellir lawrlwytho ffurflen enwebiadau oddi yno.  Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw dydd Gwener 25 Ionawr, a bydd yr enillwyr yn cael eu hanrhydeddu mewn digwyddiad ym mis Mawrth.

 

Rydym wedi cael cyfnod Nadolig prysur ers cyfarfod diwethaf y cyngor; gyda'r Maer a'i Gydweddog yn cymryd rhan mewn 29 digwyddiad swyddogol, a oedd yn amrywiol a gwahanol ac yn bleserus iawn.

 

Roedd bendithio ysgol gynradd newydd Pencoed gan Esgob June yn ddigwyddiad arbennig iawn ar gyfer pawb a fynychodd ac roedd yn agoriad hyfryd ar gyfer yr adeilad newydd.

 

Cawsant fore gwych yn y gemau Olympage a gafodd eu cynnal yng Nghanolfan Bywyd Eglwys Bethlehem. Mae'r gemau’n rhoi cyfle i bobl h?n gystadlu a bod yn egnïol mewn lleoliad sy'n hwyl gan wneud ffrindiau newydd mewn amgylchedd cymdeithasol.

 

Fel rhan o'i ymweliadau gwobrau busnes sy'n parhau cafodd y Maer/ei Gydweddog groeso gan Fords a chawsant eu tywys o amgylch y llinell injan draig newydd. Roedd hi'n hyfryd cyfarfod â staff rheoli a llinell gynhyrchu sy'n adeiladu dyfodol ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr. Mae Fords wedi bod yn masnachu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn agos at 40 mlynedd bellach.

 

Roeddent wedi mynychu nifer o gyngherddau ysgol ac wedi gweld peth talent ragorol a gwaith caled gan y disgyblion a'r staff ar draws y fwrdeistref sirol. Diolchodd i bawb a fu'n cymryd rhan yn y rhain.

 

Gan edrych ymlaen at y Flwyddyn Newydd, roedd llawer o ddigwyddiadau eisoes yn ei galendr.

 

Gorffennodd drwy ddymuno  Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd heddychlon i bawb a oedd yn bresennol.

 

Dirprwy Arweinydd

 

Efallai y bydd yr aelodau yn dymuno atgoffa eu hetholwyr y bydd preswylwyr yn gallu rhoi un bag gwastraff ychwanegol allan y Nadolig hwn, ac y bydd y bag 'du' traddodiadol yn addas at y diben hwn.

 

Mae hyn, wrth gwrs, yn ychwanegol at y cyfyngiad gwastraff cyfredol o ddau fag i breswylwyr, ac mae'n berthnasol ar gyfer y casgliad sbwriel cyntaf ar ôl y Nadolig. 

 

Bydd casgliadau ar Noswyl Nadolig ond ni fydd unrhyw gasgliadau ar Ddydd Nadolig na G?yl San Steffan. Bydd popeth yn cael ei gasglu ddau ddiwrnod yn hwyrach na'r arfer am weddill yr wythnos honno.

 

Bydd casgliadau yn cael eu gwneud yn ôl yr arfer ar Nos Galan, ond ni fydd unrhyw gasgliadau ar Ddydd Calan ac felly bydd popeth yn cael ei gasglu un diwrnod yn hwyrach hyd at ddydd Sadwrn 5 Ionawr. Bydd casgliadau yn dychwelyd i’r drefn arferol o ddydd Llun 7 Ionawr 2019 ymlaen.

 

Y brif eitem Nadolig na ellir ei hailgylchu yw papur lapio, plastig du, papur seloffen a pholystyren. Mae bron i bopeth arall yn gallu cael ei ailgylchu, gan gynnwys gwastraff bwyd. Gall cardiau Nadolig fynd allan gyda'ch cardfwrdd, a gall yr amlenni fynd allan gyda'ch sbwriel ailgylchu papur.

 

Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos, gyda chyfradd ailgylchu o 68%, mai ni yw’r ail orau yng Nghymru. Gwnaeth ein preswylwyr ailgylchu digon o fwyd y llynedd i ddarparu p?er ar gyfer ysgol gyfan am bedair blynedd. Mae hyn yn galonogol iawn, ac rwyf yn gobeithio y bydd yr aelodau yn annog cymunedau lleol i ailgylchu gymaint â phosibl y Nadolig hwn.

 

Gwnaeth y Dirprwy Arweinydd hefyd achub ar y cyfle i longyfarch 19 o reolwyr y cyngor sydd wedi ennill cymwysterau newydd fel rhan o Raglen Prentisiaeth Uwch a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

 

Gwnaethant dreulio 18 mis yn astudio ar gyfer y cymhwyster, ac fe'u gwobrwywyd â Diploma NVQ Edexcel a Diploma BTEC Pearson mewn rheoli ac arweinyddiaeth.

 

Mae naw swyddog arall ar hyn o bryd ar y cwrs tra bod ail gr?p o 19 wedi cofrestru'n ddiweddar ar y rhaglenni lefel pedwar a phump. Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn gwella set sgiliau cyffredinol ac ansawdd rheolwyr y cyngor, ac roedd yn falch o weld ei fod yn arwain at ganlyniadau llwyddiannus.

 

Bydd yr aelodau yn ymwybodol fod y Cabinet wedi cymeradwyo Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ddrafft ar gyfer 2019/20 – 2022/23 a chyllideb ddrafft ar gyfer 2019/20. Mae hyn yn ddibynnol ar bentwr o gynigion ar gyfer gostyngiadau mewn gwasanaethau a thoriadau yr oeddem wedi gobeithio na fyddai'n rhaid i ni eu cynnig, ond mae gennym ddyletswydd statudol i ddarparu cyllideb gytbwys.

 

Ddechrau mis Rhagfyr, bydd yr holl aelodau wedi cael cyfle i fynychu sesiwn briffio ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a holi cwestiynau manylach. Bydd yr aelodau hefyd wedi cael cyfle i graffu ar y cynigion cyllideb ac roedd yn edrych ymlaen at glywed unrhyw sylwadau ac argymhellion.

 

Roedd yn falch o fynychu Panel Ymchwilio a Gwerthuso'r Gyllideb yn rheolaidd ac roedd wedi tystio i'r ddadl a'r drafodaeth danbaid ar y cynigion ac eto roedd yn edrych ymlaen at dderbyn yr adroddiad oddi wrth Banel Ymchwilio a Gwerthuso'r Gyllideb. Mae'r ymgynghoriad cyllideb wedi dod i ben bellach a ddoe derbyniodd y Cabinet adroddiad y bydd nawr yn ei ystyried.

 

Heddiw rydym yn disgwyl derbyn y setliad cyllideb terfynol gan Lywodraeth Cymru. Bydd angen dadansoddi ei fanylion ond ni ddisgwylir unrhyw newidiadau o bwys. Pe bai'r awdurdod yn gallu lleihau effaith y gostyngiadau byddai'n gwneud hynny.

 

I gloi, bydd arolwg o ddarpariaeth TGCh yn cael ei anfon at yr holl aelodau cyn bo hir. Bwriad yr arolwg yw nodi sut y gellir datblygu'r ddarpariaeth, defnydd a chymorth TGCh ar gyfer aelodau etholedig yn y dyfodol er mwyn galluogi effeithlonrwydd pellach.

 

Gofynnir yn garedig i'r aelodau gwblhau'r arolwg yn electronig erbyn 31 Ionawr 2019. Dywedodd y byddai canlyniadau'r arolwg yn cael eu cyflwyno i Fforwm TGCh yr aelodau.

 

Aelod y Cabinet dros Gymunedau

 

Cyhoeddodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau y dylai unrhyw berchnogion c?n sy'n dueddol o ymweld â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig gyda'u hanifeiliaid anwes, fod yn ofalus o amgylch ardal y pwll.

 

Yn ystod yr wythnosau diweddar mae llawer o algâu gwyrddlas wedi datblygu sydd i'w gweld yn fwyaf amlwg lle y mae wedi ymgasglu ar lan y d?r. Er ei fod yn digwydd yn naturiol, gall gynhyrchu tocsinau sy'n niweidiol i bobl a ch?n, felly roedd yn annog pobl i gadw'n glir oddi wrtho.

 

Yn anffodus, roedd angen iddo gynghori'r aelodau am broblem arall yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig, sef beiciau modur oddi ar y ffordd sy'n cael eu reidio yn anghyfreithlon ar y safle.

 

Yn ogystal â bod yn beryglus i ymwelwyr eraill sy'n defnyddio'r twyni, mae'r beiciau yn achosi difrod sylweddol i'r cynefinoedd twyni sy'n gartref i nifer o rywogaethau prin a warchodir megis tegeirian y fign galchog.

 

Mae'r cyngor yn cydweithio â Heddlu De Cymru i fynd i'r afael â'r broblem, ac mae ymwelwyr sy'n gweld unrhyw weithgarwch anghyfreithlon o'r fath yn cael eu hannog i adrodd am unrhyw beth maent yn ei weld i'r rhif 101.

 

Gan siarad am warchodfeydd natur, cafodd y cyfle yn ddiweddar i ymweld â'r hyn sydd efallai'n un o gyfrinachau mwyaf y fwrdeistref sirol.

 

Mae Craig y Parcau yn llwybr coetir hyfryd sy'n rhedeg ar hyd Afon Ogwr ar y lan sydd gyferbyn â Chaeau Newbridge.

 

Mae nifer o welliannau wedi'u gwneud i'r llwybrau yno, felly os oes unrhyw un yn dymuno mynd am dro ar ôl eu cinio Nadolig, mae Craig y Parcau'n cael ei argymell yn fawr.


Gall unigolion gael mynediad at Graig y Parcau o'r llwybr bryniog sy'n mynd i fyny tuag at Broadlands.

 

Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

 

Cyhoeddodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol fod ymgyrch y Rhuban Gwyn eleni wedi'i nodi gan nifer o ddigwyddiadau gwahanol.

 

Drwy gydol yr ymgyrch, mae preswylwyr wedi cael eu hatgoffa fod yr 'Assia Suite' yn y Swyddfeydd Dinesig yn barod ac yn gallu cynnig cymorth a chyngor cyfrinachol ar bob math o gam-drin domestig, yn ogystal â chynllunio diogelwch ar gyfer dioddefwyr a'u plant.

 

Ers i'r Suite gael ei sefydlu dair blynedd yn ôl, mae'r gwasanaeth wedi helpu cannoedd o bobl.


Diolchodd i'r aelodau am eu cymorth yn ystod ymgyrch y Rhuban Gwyn eleni, a diolchodd hefyd i bartneriaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sef Heddlu De Cymru, Calan DVS, y Gwasanaeth Prawf, a Chymorth i Ddioddefwyr.  Cydnabu hefyd ymdrechion y Cynghorydd David White, sy'n gwasanaethu fel ein Hyrwyddwr y Rhuban Gwyn, a diolchodd iddo am ei holl waith caled eto eleni.

 

Ar nodyn ychydig yn ysgafnach, gan ei fod yn Nadolig, roedd hi hefyd yn dymuno crybwyll rhywbeth a fydd yn helpu i sicrhau y gall preswylwyr fwynhau dathliadau'r Nadolig.

 

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi paratoi cyngor am ddim sydd wedi'i gynllunio i atal teuluoedd rhag dioddef gwenwyn bwyd yn sgil twrci a chigoedd eraill sydd heb eu coginio ddigon dros y Nadolig.

 

Amcangyfrifir bod tua miliwn o achosion o wenwyn bwyd yn y DU bob blwyddyn, ac mae llawer o'r rhain yn digwydd yn ystod tymor y Nadolig.

 

Efallai y bydd yr aelodau'n dymuno rhoi gwybod i'w hetholwyr am y cyngor a'r arweiniad defnyddiol y gallant ddod o hyd iddo ar wefan food.gov.uk, neu ddilyn yr hashnod “season’s eating’s” ar Twitter. 

 

Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio ei fod ef ynghyd â chydweithwyr yn y Cabinet, aelodau lleol a swyddogion y cyngor wedi cyfarfod yn ddiweddar â Carwyn Jones AC yn Village Farm, yn y Pîl, am y newyddion diweddaraf ar y Rhaglen Hwb Menter.

 

Fel y cynllun datblygu eiddo busnes mwyaf a wnaed erioed yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae hon yn fenter £5.5 miliwn gyffrous iawn a fydd yn creu mwy na 2,600 metr sgwâr o unedau busnes newydd, gan gynnwys blociau yn Village Farm, sy'n addas ar gyfer diwydiant ysgafn.

 

Roedd y buddsoddiad yn bosibl drwy bartneriaeth â Llywodraeth Cymru a thrwy gymorth gan gyllid rhanbarthol yr Undeb Ewropeaidd

 

Yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru, bydd y cyfleusterau newydd yn cael eu creu yn Brocastle, a bydd y Ganolfan Arloesi ym Mharc Gwyddoniaeth Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei hailwampio i fod yn addas ar gyfer anghenion busnes modern.

 

Bydd tua 58 o fusnesau a 150 o swyddi yn cael eu cefnogi gan y fenter, sy'n cael ei darparu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru fel rhan o gynllun i ddiwallu galw cynyddol am safle masnachol sy'n addas ar gyfer mentrau newydd neu lai o faint.

 

Wrth i nifer y cwmnïau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont gynyddu, bydd y fenter hon yn osgoi prinder unedau dechreuol priodol, ac mae'n newyddion ardderchog ar gyfer yr economi leol. Mae penseiri yn gweithio'n galed ar y cynlluniau ar gyfer y canolfannau menter newydd a disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau yn 2019.

 

Efallai y bydd diddordeb gan yr aelodau hefyd i wybod am fenter ysgol newydd sy'n annog cenedlaethau'r dyfodol i fyw bywydau mwy gwyrdd, a mwy cynaliadwy.

 

Mae pyped mwnci gofod rhyngalaethol o'r enw Busta, sy'n fasgot ar gyfer y cynllun uchod, yn helpu i addysgu disgyblion ysgol gynradd ar sut y gall gwastraff bwyd gael ei drawsnewid yn drydan.

 

Mae'n targedu holl fyfyrwyr Cyfnod Allweddol 2 ac mae'n darparu amrediad eang o adnoddau gyda gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm. Mae'r cynllun yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth ag Ailgylchu dros Gymru, Wastebuster ac Eco-ysgolion, ac roedd yn sicr y byddai'r aelodau'n cytuno ei fod yn darparu rhai gwersi sy'n gynyddol bwysig.

 

Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Mae menter newydd wedi'i lansio i roi mwy o gyfle i bobl sy'n agored i niwed, ac i'r sawl sy'n cael cymorth gan wasanaethau cymdeithasol, i fynegi eu barn.

 

Wedi'i enwi'n ganolfan Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr, mae wedi'i sefydlu fel y man cyswllt cyntaf i unrhyw un sydd angen eiriolwr i gyflwyno ei safbwyntiau a sefyll dros ei hawliau.

 

Mae llinell gymorth benodol wedi'i chreu, ac mae ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener.

 

Mae sefydliadau amrywiol wedi dod at ei gilydd i ffurfio'r ganolfan gyda'r cyngor, gan gynnwys ProMo-Cymru, Mental Health Matters, Pobl yn Gyntaf Pen-y-bont ar Ogwr a Phrosiect Eiriolaeth y Llinyn Aur.

 

Efallai y bydd yr aelodau yn dymuno rhoi gwybod i'w hetholwyr am y gwasanaeth defnyddiol iawn hwn. Gellir cysylltu â chanolfan Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr ar 0808 801 0330, a gallwch ddod o hyd i fwy o fanylion drwy ymweld â'r wefan, llaisadewispenybontarogwr.cymru.

 

Cydnabu a diolchodd hefyd i ddisgyblion o Ysgol Gyfun Brynteg, sydd unwaith eto wedi chwarae rôl sylweddol o ran sicrhau bod plant sy'n agored i niwed yn gallu cael Nadolig llawen.

 

Bob blwyddyn, mae'r disgyblion yn codi arian drwy ddigwyddiadau elusennol, ac yna maent yn ei wario yn prynu teganau y maent yn eu rhoi i'r Apêl Siôn Corn blynyddol a drefnir gan dimau Cymorth Cynnar a Diogelu'r cyngor.

 

Eleni, gwnaeth y disgyblion godi bron £5,000 a phrynwyd bagiau o anrhegion ar gyfer 157 o blant anghenus ac agored i niwed.

 

Teimlai fod hwn yn rhywbeth hyfryd i’w wneud, ac yn ymdrech ryfeddol. Yn ogystal â diolch i'r disgyblion, diolchodd hefyd i bawb a fu'n cefnogi'r Apêl Siôn Corn. Hebddo, mae yna blant a phobl ifanc na fyddai wedi cael unrhyw anrhegion Nadolig o gwbl fel arall. Da iawn bawb a fu'n chwarae rhan.

 

I gloi, diolchodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar i Bridge FM a ddaeth â saith crât o anrhegion i mewn yr wythnos diwethaf, yn ogystal â swyddogion y cyngor a fu'n cefnogi'r parti Nadolig Gofalwyr Maeth yng Nghanolfan Gymunedol Bracla ddoe. Mynychodd y digwyddiad a chadarnhaodd pa mor ddymunol ydoedd i weld gofalwyr maeth a phobl ifanc mewn gofal yn agor yr anrhegion hyn ac yn mwynhau digwyddiad oedd mor bwysig.

 

 

Prif Weithredwr

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod gan y cyngor nifer o ymgynghoriadau pwysig a oedd yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd.

 

Roedd y rhain yn cwmpasu amrywiaeth o faterion megis cymhorthdal teithio, darpariaeth chweched dosbarth ôl-16 a chamau gorfodi ar gyfer delio â baw c?n.

 

Yn y Flwyddyn Newydd, bydd ymgynghoriadau hefyd yn cael eu lansio yngl?n â sut rydym yn delio ag eiddo gwag yn y fwrdeistref sirol, a pharciau, pafiliynau a chaeau chwarae.

 

Mae'r rhain i gyd yn faterion pwysig rydym eisiau i'r preswylwyr lleol gymryd rhan ynddynt, felly roedd yn gobeithio y bydd yr aelodau yn annog eu hetholwyr i wneud hynny.

 

Mae manylion llawn ar gael ar dudalen ymgynghoriadau gwefan y cyngor, a gall yr aelodau gael gafael ar fformatau gwahanol drwy gysylltu â'n tîm ymgynghori ac ymgysylltu.

 

Heb ddymuno achub y blaen ar y penderfyniad ffurfiol y gofynnir i'r cyngor ei wneud y prynhawn yma, roedd y Prif Weithredwr yn teimlo y byddai'r aelodau yn dymuno nodi y gwnaeth y Pwyllgor Penodiadau fynd yn ei flaen i benodi Prif Weithredwr dros dro a gwnaeth longyfarch Mr Mark Shephard ar y penodiad hwnnw.

 

Yng nghyfarfod blaenorol y cyngor gwnaeth yr Arweinydd esbonio'r bwriad i benodi Swyddog S151 dros dro am yr un cyfnod amser â'r Prif Weithredwr Dros Dro. Mewn gwirionedd ni wnaethom fwrw ati gyda'r penodiad hwnnw.  Roedd yn falch o ddweud bod Gill Lewis y swyddog S1515 dros dro cyfredol wedi cytuno'n garedig i aros gyda ni ychydig yn hirach, er mwyn sicrhau parhad ac er mwyn cefnogi'r cyngor drwy'r broses gyllidebu. 

 

Roedd y bwriad yn parhau i geisio dod o hyd i ddatrysiad parhaol yn y flwyddyn newydd ond roedd yr uchod yn golygu bod gan yr awdurdod fwy o barhad yn y rôl allweddol hon na fyddai wedi bod yn bosibl fel arall.