Agenda item

I dderbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Gwnaeth yr Arweinydd adrodd mai heddiw oedd cyfarfod cyngor olaf Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac roedd yn si?r y byddai'r holl gydweithwyr eisiau dymuno'n dda i Mr Darren Mepham yn ei rôl newydd fel Prif Weithredwr Coleg Barnet a Southgate yng ngogledd Llundain.

 

Ochr yn ochr ag aelodau, roedd Darren wedi darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer yr awdurdod am fwy na chwe blynedd ers iddo gael ei gyflogi gyntaf gan y cyngor yn 2012.

 

Mae'r cyfnod hwn wedi'i ddiffinio i raddau helaeth fel un o'r hinsoddau ariannol caletaf rydym wedi'i brofi erioed, ond gydag uwch-dîm rheoli cadarn a phrofiadol y tu cefn iddo, profodd Darren ei fod yn fwy na pharod i wynebu'r her yn uniongyrchol.

 

Boed drwy drefniadau cydweithredol gyda chynghorau cyfagos, neu yrru newid sefydliadol yn ei flaen ar raddfa fawr, roedd Darren wrth gwrs wedi goruchwylio amrediad eang o ddatblygiadau yn ystod ei gyfnod yma.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd ei fod yn ddiolchgar i Darren am y cymorth a'r cyngor doeth yr oedd wedi'i roi nid yn unig iddo ef, ond i'r holl aelodau, ac roedd yn gwybod y byddai'r un mor llwyddiannus yn ei rôl newydd.

 

Rydym hefyd wedi gweld yr Aelod Cynulliad dros yr Etholaeth ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr yn ildio’r awenau fel y Prif Weinidog ac roedd yr Arweinydd yn dymuno diolch yn gyhoeddus iddo. Fel Arweinydd yr wrthblaid, dywedodd yr Aelod Cynulliad dros y Ceidwadwyr, Paul Davies, yn ei deyrnged fod Carwyn wedi cyflawni ei ddyletswyddau gydag “ymroddiad a brwdfrydedd.”

 

Roedd yn sicr y byddai'r aelodau yn ymuno ag ef i ddymuno pob llwyddiant i'r Prif Weinidog newydd, Mark Drakeford. Croesawodd hefyd benodiad Gweinidog newydd dros Lywodraeth Leol, Julie James AC ac roedd yn edrych ymlaen at ailosod y berthynas rhwng llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru.

 

Wrth i un drws gau, mae un arall yn agor, ac mae hynny'n bendant yn wir o ran rhaglen moderneiddio ysgolion barhaus Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Wrth i'r flwyddyn dynnu tua'i therfyn, rydym hefyd yn ffarwelio ag Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw ac yn croesawu'r ysgol newydd sbon Ysgol Gymraeg Calon y Cymoedd.

 

Bydd yr ysgol yn cau ei drysau ar ei safle ym Mhontycymer am y tro olaf yr wythnos hon, a bydd yn dechrau 2019 ar ei safle newydd sbon gerllaw Ysgol Gynradd Betws.

 

Bydd unrhyw aelod sydd wedi cael y fraint o weld yr ysgol newydd eisoes yn gwybod beth y gall y disgyblion ei ddisgwyl. Cafodd ei adeiladu fel drych-ddelwedd o'i gymydog newydd, a agorodd ychydig fisoedd yn unig yn ôl.

 

Gwnaeth yr hen ysgol wasanaethu ei chymuned yn dda am nifer o flynyddoedd mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys fel Ysgol Ramadeg ac Ysgol Gyfun, ond roedd wedi cyrraedd diwedd ei hoes hir iawn.

 

Mae'r adeilad newydd sbon trawiadol wedi cael ei adeiladu fel rhan o'n Rhaglen Moderneiddio Ysgolion Band A, ac mae'n cynnig cyfleusterau addysgol o'r radd flaenaf sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif.

 

Roedd yr Arweinydd yn edrych ymlaen at agoriad swyddogol yr ysgol newydd, a'i gwylio'n datblygu'n sylfaen ar gyfer twf addysg cyfrwng Cymraeg yng nghymoedd Ogwr a Garw.

 

Ar ran y Cabinet a'r Cyngor, gwnaeth yr Arweinydd achub ar y cyfle i ddymuno Nadolig ymlaciol a phleserus i'r holl aelodau a swyddogion, a diolchodd iddynt am eu holl gymorth yn 2018, y gwyddai y byddai'n parhau wrth symud ymlaen tua'r dyfodol.