Agenda item

I dderbyn y cwestiynau canlynol gan:

1.            Cwestiwn gan y Cynghorydd Tim Thomas i'r Arweinydd

 

A yw'r Arweinydd yn fodlon â'r adnoddau sydd ar gael i aelodau Cydbwyllgor Craffu y Fargen Dinesig?

 

2.            Cwestiwn gan y Cynghorydd Sorrel Dendy i’r Aelod Cabinet dros Gymunedau

 

A yw First Cymru wedi dweud wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr neu roi hysbysiad o'r penderfyniad i ddileu eu gwasanaeth yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr?

 

3.            Cwestiwn gan y Cynghorydd Tom Giffard Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol

 

Dangosodd cais Rhyddid Gwybodaeth a gyflwynais yn ddiweddar fod y Cyngor hwn wedi gwario bron i £200,000 ar wasanaethau cyfieithu Cymraeg allanol dros y 18 mis diwethaf.

 

A wnaiff Aelod y Cabinet esbonio pam nad yw'r Cyngor yn rhoi blaenoriaeth i gyflogi cyfieithwyr mewnol i gadw'r gyllideb gynyddol hon dan reolaeth?

 

4.            Cwestiwngan y Cynghorydd Altaf Hussain i'r Aelod Cabinet Lles a Chynhedlaethau'r Dyfodol

 

Ermwyn datblygu cymunedau mwy egnïol a chyflawni’ch nod, mewn partneriaeth â Chanolfan Hamdden Halo, o sicrhau cynnydd o 9% yn nifer yr ymweliadau â chanolfannau bywyd yn dilyn eich buddsoddiad sylweddol yn eu cyfleusterau – a all yr Aelod Cabinet ddweud wrthym pa ganolfannau eraill ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ar wahân i HALO, y gall pobl dros 60 oed eu defnyddio? A all yr Aelod Cabinet hefyd ddweud wrthym ers pryd y mae’r Cyngor wedi buddsoddi yn y canolfannau bywyd hyn a faint y mae wedi’I fuddsoddi hyd yma er mwyn sicrhau cynnydd o 9% yn nifer yr ymweliadau?

 

 

 

 

 

 

 

Cofnodion:

1.      

2.     1. Cwestiwn gan y Cynghorydd Tim Thomas i'r Arweinydd

A yw'r Arweinydd yn fodlon ar yr adnoddau sydd ar gael i aelodau Cyd-bwyllgor Craffu’r Fargen Ddinesig?

 

Ymateb

Cynigiodd y cyngor gynnal y cyd-bwyllgor craffu ar ran y deg partner. Mae gan yr awdurdod enw da yn genedlaethol am ein gwaith craffu, felly roedd y partneriaid eraill yn y Fargen Ddinesig yn hyderus y gallem arwain y gwaith hwn.

 

Rydym wedi amcangyfrif yr adnoddau ychwanegol sydd eu hangen ar yr awdurdod i gefnogi'r cyd-bwyllgor – yn bennaf o ran amser swyddogion cymorth democrataidd, ac mae hyn yn cael ei ariannu gan y Fargen Ddinesig. Gobeithir y gall y cyd-bwyllgor craffu fanteisio ar arbenigedd y corff atebol (Cyngor Sir Caerdydd) sydd eisoes yn darparu cymorth cyfreithiol, ariannol a democrataidd i'r pwyllgor rhanbarthol – rydym yn osgoi dyblu ymdrechion yn fwriadol.

 

Mae'r pwyllgor wedi cwrdd unwaith, a byddwn yn parhau i adolygu'r gofynion adnoddau dros amser.  Fodd bynnag, dylid cydnabod bod gwaith Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cael ei oruchwylio hefyd gan y canlynol:

 

Llywodraeth y DU

Llywodraeth Cymru

Swyddfa Archwilio Cymru

 

Mae gan y sefydliadau hyn fuddiant a rôl mewn uniondeb, llywodraethu a gwerth am arian y bartneriaeth ac yn ei gallu i gyflawni.

 

Yn ogystal, mae cyfres o adolygiadau porth annibynnol hefyd wedi eu sefydlu a gomisiynwyd gan lywodraeth y DU. Bydd y rhain yn asesu'n fanylach pa mor dda y mae'r bartneriaeth yn cyflawni canlyniadau a byddant, yn eu tro, yn pennu derbyniad parhaus taliadau graddol o'r Trysorlys.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Tim Thomas

Gan ystyried fod Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn faes gwaith mor bwysig, sut ydym yn ei monitro wrth symud ymlaen, a sut y gall aelodau gymryd rhan benodol ynddi.

 

Ymateb

Mae ymweliad safle yng Nghasnewydd cyn y cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gyfer Cyd-bwyllgor Craffu Bargen Ddinesig Caerdydd, felly mae adnoddau digonol yn cefnogi'r cynllun. Bydd pob aelod hefyd yn derbyn adroddiadau ar gyfer cyfarfodydd i ddod, yn hytrach na gosod dolen i'r agenda ar wefan y cyngor. Os oedd gan aelodau unrhyw gwestiynau ynghylch y Fargen Ddinesig, gellid rhannu'r rhain naill ai gyda fi, neu Gadeirydd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (e.e. Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf). Fel arall, gellid hefyd cysylltu â Chyfarwyddwr y Rhaglen at y diben hwn. Ychwanegodd fod Bargen Ddinesig Caerdydd yn agored ac yn dryloyw, yn yr un modd â'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir. Roedd ganddi ei Chyd-bwyllgor ei hun hefyd a oedd yn craffu ar unrhyw waith a phrosiectau wrth fynd ymlaen. Pe bai unrhyw bryderon nad oedd gan y cynllun ddigon o adnoddau wrth iddo ddatblygu, byddai'r awdurdodau cyfranogol yn edrych ar hyn. Roedd adroddiadau monitro chwarterol yn gorfod cael eu cyflwyno i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru fel rhan o'r cynllun hwn. Roedd hefyd angen cyflawni'r targedau a osodwyd yn y cynllun busnes a oedd yn cefnogi'r Fargen Ddinesig. Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi adolygu Bargen Ddinesig Caerdydd yn ystod y cyfnodau cynnar, a chanfuwyd bod y trefniadau llywodraethu'n effeithiol. Ychwanegodd Is-gadeirydd Cyd-bwyllgor Craffu Bargen Ddinesig Caerdydd pe bai gan aelodau unrhyw bryderon penodol fel yr un a godwyd heddiw gan yr aelod perthnasol, byddai ef yn mynd i'r afael â'r rhain yn ôl y gofyn.

 

3.     2. Cwestiwn gan y Cynghorydd Sorrel Dendy i Aelod y Cabinet dros Gymunedau 

A yw First Cymru wedi dweud wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr neu roi hysbysiad o'r penderfyniad i ddileu eu gwasanaeth yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr?

 

Ymateb

Nid oes unrhyw arwydd gan First Cymru Busnes Cyf eu bod yn bwriadu dileu eu gwasanaethau ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn hytrach, maent wedi bod yn gadarnhaol mewn cyfarfodydd diweddar ynghylch y ffaith bod ganddynt wasanaethau parhaus a gwell, o bosibl, wrth symud ymlaen o fewn Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Dendy i Aelod y Cabinet dros Gymunedau

A oes gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gynllun ar waith pe bai'r prif wasanaeth bws yn gadael heb fawr o rybudd, os o gwbl?

 

Ymateb

Caiff y gwasanaethau bysiau eu darparu'n bennaf gan weithredwyr annibynnol ar sail fasnachol, nid yn uniongyrchol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr na thrwy unrhyw gontract gyda'r cyngor a gweithredwyr. Gan hynny, pe bai un gweithredwr yn penderfynu tynnu allan o'r farchnad, ychydig iawn fyddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gallu ei wneud am y sefyllfa. Byddai'r bwlch mewn gwasanaethau'n debygol o gael ei lenwi gan weithredwyr masnachol eraill a oedd yn ceisio cael cyfran uwch o'r farchnad a manteisio ar y cyfle a gyflwynwyd. Er bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn mynd ati i annog a hwyluso'r gwasanaeth hwn er mwyn sicrhau bod llwybrau'n cael eu darparu, nid oes cynllun penodol gan nad yw'n wasanaeth a ddarperir yn uniongyrchol gan y cyngor.

 

Cwestiwn atodol pellach gan y Cynghorydd Tim Thomas

Bydd dyfodol llwybrau bysiau a chymorthdaliadau bysiau o fewn y Fwrdeistref Sirol yn si?r o gael effaith ar ddyfodol gorsaf fysiau Pen-y-bont ar Ogwr a ph’un a fydd yn aros ar agor. A oes dadansoddiad o'r effaith economaidd wedi'i gynnal i edrych ar hyfywedd gorsaf fysiau Pen-y-bont ar Ogwr yn y dyfodol, ochr yn ochr â chymorthdaliadau bysiau/llwybrau bysiau

 

Ymateb

Mae'r toriadau sy'n wynebu'r cyngor ar hyn o bryd a'r rhai a ragwelir yn y dyfodol yn ddigyffelyb a byddant yn ein bwrw'n galed. Bydd y posibilrwydd o gau gorsaf fysiau Pen-y-bont ar Ogwr yn rhywbeth y bydd yn rhaid ei ystyried fel rhan o ostyngiadau'r strategaeth ariannol tymor canolig. Er nad yw'r cyngor eisiau cau'r cyfleuster hwn, rhaid hefyd ystyried y gost o'i gadw ar agor o ddifrif.

 

4.     3. Cwestiwn gan y Cynghorydd Tom Giffard i'r Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

 

Gofynnodd y Cynghorydd Giffard ei gwestiwn yn Gymraeg i ddechrau, ond wedi i'r Aelod Cabinet uchod ofyn iddo ei holi yn Saesneg, ymatebodd yn briodol fel a ganlyn:-

 

Dangosodd cais Rhyddid Gwybodaeth a gyflwynais yn ddiweddar fod y cyngor hwn wedi gwario bron i £200,000 ar wasanaethau cyfieithu Cymraeg allanol dros y 18 mis diwethaf.

 

A wnaiff Aelod y Cabinet esbonio pam nad yw'r cyngor yn rhoi blaenoriaeth i gyflogi cyfieithwyr mewnol i gadw'r gyllideb gynyddol hon dan reolaeth?

 

Ymateb

Cyfanswm ein costau ar draws yr awdurdod am brynu gwasanaethau cyfieithu oedd £192,535 ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2017 a mis Hydref 2018.

 

Nid oes digon o achos busnes ar hyn o bryd dros gyflogi tîm mewnol am y rhesymau dilynol, ond wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn parhau i'w adolygu pe bai'r amgylchiadau'n newid. Mae'r rhesymau dros beidio â chreu gwasanaeth mewnol ar hyn o bryd fel a ganlyn:

 

  • Mae hwn yn ofyniad newydd, felly mae'n cymryd amser i bennu graddfa'r gofyniad cyfieithu.  Cytunodd y cyngor a Chomisiynydd y Gymraeg ar y safonau terfynol ym mis Tachwedd 2018, ac mae gwahanol safonau wedi cael gwahanol ddyddiadau gweithredu ers i'r ddeddfwriaeth ddod i rym. Mae'r costau blynyddol felly wedi amrywio o oddeutu £53 mil yn ystod 2015-16 i oddeutu £130 mil yn ystod 2017-18. Ein cost rhagweledig ar gyfer y flwyddyn ariannol lawn gyfredol yw £110 mil.
  • Er mwyn creu gwasanaeth mewnol cadarn, a fyddai'n gallu ateb y galwadau mwyaf brys am gyfieithu (e.e. cyfieithu agenda'r Cabinet a'r cyngor o fewn pum diwrnod gwaith), byddai'r gost flynyddol oddeutu £136 mil (gan gynnwys ar gostau), ar sail y strwythur canlynol:

 

  • Uwch gyfieithydd – Gradd 10 (£29,055 - £30,756)
  • Cyfieithydd x 3 – Gradd 8 (£23,111 - £24,657)

 

  • Er mwyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sefydlu gwasanaeth cyfieithu mewnol, rhagwelir y byddai angen prynu system TG ychwanegol i reoli'r prosesau cyfieithu, sydd, yn naturiol, yn dod law yn llaw â chostau gweinyddu, cynnal a chadw a rheoli amser. Nid ydym wedi costio'r elfen hon ar hyn o bryd.
  • Gwyddom fod awdurdodau lleol eraill sydd â gwasanaeth mewnol wedi cael anawsterau yn recriwtio cyfieithwyr Cymraeg, ac maent hefyd wedi cael problemau cadw staff pan fyddant wedi llwyddo i’w recriwtio, oherwydd y galw uchel am gyfieithwyr Cymraeg.
  • Mae'r awdurdodau hynny â gwasanaethau mewnol hefyd wedi gorfod prynu gwasanaethau cyfieithwyr allanol er mwyn ateb y galw a chyflenwi swyddi gwag ac absenoldebau staff eraill.

 

Felly, nid oes achos busnes cadarn dros fuddsoddi mewn staff ychwanegol o'r fath ar hyn o bryd.  Fodd bynnag, fel y'i nodwyd eisoes, mae hwn yn rhywbeth y byddwn yn parhau i'w adolygu pe bai'r amgylchiadau'n newid.

 

Bydd diweddariadau'n parhau i gael eu cyflwyno i Bwyllgor y Cabinet Cydraddoldeb ar ein cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Tom Giffard

A allai adroddiad gael ei baratoi ar yr uchod i'w gyflwyno i Bwyllgor y Cabinet Cydraddoldeb er mwyn edrych ar y defnydd o'r Gymraeg a'r gydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg mewn mwy o fanylder.  Dylai pob Cynghorydd allu gweithio'n ddwyieithog. 

 

Ymateb

Rydym yn cymryd ein dyletswydd o ran y defnydd o'r Gymraeg, gan gynnwys Cymraeg yn y gweithle a Safonau'r Gymraeg, yn ddifrifol iawn. Mae hwn yn rhywbeth sy'n cael ei ystyried hefyd gan Bwyllgor y Cabinet Cydraddoldeb fel rhan o'i adroddiadau rheolaidd ar gasglu data am gyflogeion ac ati.  Caiff eitem agenda reolaidd ei hystyried gan Bwyllgor y Cabinet Cydraddoldeb ar ddefnyddio'r Gymraeg a Safonau'r Gymraeg.  Ychwanegodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol nad oedd pob aelod yn siarad Cymraeg nac wedi cael y cyfle i ddysgu Cymraeg.   

 

Ail gwestiwn atodol gan y Cynghorydd Tim Thomas

Pa gyfleoedd sydd ar gael i staff y gweithle ymarfer a dysgu cyfathrebu yn Gymraeg, ac a oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno hyn ymhellach.

 

Ymateb

Mae cyrsiau ar gael yn y gweithle i gyflogeion ddysgu Cymraeg, ac maent yn cael amser o'r gwaith â thâl i wneud hyn. Fodd bynnag, mae unrhyw astudio ar gyfer hyn yn wirfoddol yn hytrach na'n orfodol. Mae'r awdurdod hefyd yn annog recriwtio staff addysgu sy'n siarad Cymraeg, ac roedd cyllid ychwanegol wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru a Chonsortiwm Canolbarth y De at y diben hwn. Mae carfannau ar gyfer cyrsiau hyfforddi lefel 1 a lefel 2 mewn siarad Cymraeg, ac roedd y cyngor hefyd yn ceisio recriwtio siaradwyr Cymraeg i swyddi gwag lle bynnag yr oedd yn bosibl, gan gynnwys rolau prentisiaeth.

 

Trydydd cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Alex Williams

Nid ydym yn cyhoeddi ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth ar-lein oherwydd y costau cyfieithu sy'n gysylltiedig â hyn. A yw hyn yn cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg, ac a yw hyn yn cael sylw ochr yn ochr o bosibl â recriwtio mwy o gyflogeion Cymraeg.

 

Ymateb

Os caiff cais Rhyddid Gwybodaeth ei osod ar wefan y cyngor, caiff ei gyfieithu (i'r Gymraeg). Os na chaiff ei osod ar wefan y cyngor, ni chaiff ei gyfieithu hyd oni ofynnir amdano yn Gymraeg.

 

5.     4. Cwestiwn gan y CynghoryddAltaf Hussain i Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

Er mwyn datblygu cymunedau mwy egnïol a'ch cyraeddiadau mewn partneriaeth â Chanolfan Hamdden HALO, gyda chynnydd o 9% yn yr ymweliadau â Chanolfannau Bywyd yn dilyn eich buddsoddiad mawr yn eu cyfleusterau, a all Aelod y Cabinet ddweud wrthym pa ganolfannau eraill yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr, ar wahân i HALO, y gall trigolion dros 60 mlwydd oed gael mynediad atynt?

 

A all Aelod y Cabinet hefyd ddweud wrthym ers pryd y mae'r cyngor wedi buddsoddi yn y Canolfannau Bywyd hyn, a faint sydd wedi ei fuddsoddi hyd yma er mwyn cyflawni'r cynnydd hwn o 9% mewn ymweliadau?

 

Ymateb

O ran cyfranogiad pobl dros 60 oed mewn canolfannau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ar wahân i HALO, sy'n darparu gwasanaethau cryf, yn enwedig y fenter Nofio Cenedlaethol am ddim i bobl dros 60 oed (yr uchaf yng Nghymru) a'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i wneud Ymarfer Corff (yr ail fwyaf yng Nghymru).  Mae gan Ben-y-bont Gynllun Heneiddio'n Dda, sy'n targedu datblygiad cymunedau sy'n gyfeillgar i'r henoed, gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer pontio’r cenedlaethau yn hytrach na gweithgareddau ar wahân ar gyfer demograffeg benodol.  Byddai'r uchelgeisiau allweddol yn cynnwys trechu unigrwydd ac ynysiad drwy gysylltu oedolion h?n a chymunedau, lleihau cwympiadau neu ofn cwympo a datblygu cyfleoedd cefnogi dementia hefyd.

 

Yn ogystal â chyfleusterau hamdden, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gyda chynghorau tref a chymuned, pwyllgorau rheoli gwirfoddol ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen i sicrhau bod 18 o ganolfannau cymunedol ar gael yn lleol.  Mae'r canolfannau hyn yn cefnogi gweithgareddau megis symud a dawnsio ac ymarfer corff, a chyfleoedd creadigol a chymdeithasol.  Mae ein Cydlynwyr Cymunedol Lleol yn cysylltu pobl sy'n agored i niwed â chyfleoedd o'r fath ac yn helpu i ddatblygu cyfleoedd newydd.  Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru i fuddsoddi mewn grwpiau a chyfleoedd cymunedol drwy gynllun y Gist Gymunedol.  Yn ystod 2017-18, roedd oddeutu chwe phrosiect yn cael eu cefnogi, y gellid eu hystyried fel rhai a oedd yn fwy penodol ar gyfer pobl dros 60, gyda rhwng £6 ac £8 mil o fuddsoddiad.

 

Mae ein partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn cynnwys cynllunio datblygiadau gwasanaethau ar y cyd er mwyn sicrhau bod ein llyfrgelloedd a'n lleoliadau diwylliannol yn cysylltu â’r Cynllun Heneiddio'n Dda (ac yn ei gefnogi).  Crëwyd partneriaeth ddiwylliannol Awen yn 2014 i reoli llyfrgelloedd, lleoliadau a theatrau diwylliannol, datblygiadau celfyddydol a gwasanaethau diwylliannol y cyngor ac i reoli Parc Bryngarw ar ein rhan ni.  Mae'r cyfleoedd wedi cynnwys symud ac ymarfer corff mewn llyfrgelloedd, y cynllun 'llyfrau ar bresgripsiwn', cynllun HYNT, cynnig cymorth i ofalwyr, cymorth i ddatblygu Siediau Dynion a'r gwasanaethau llyfrgell symudol, "Llyfrau ar Glud" ar gyfer y rhai hynny sy'n gaeth i'w cartrefi.  Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi parhau i fuddsoddi yng Nghanolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr a gwasanaethau perthnasol, lle y caiff rhaglen gytbwys o ymarfer corff a gweithgareddau cymdeithasol a llesiant eu cynnal.

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi sicrhau y gall pobl sy'n mynychu gofal preswyl a gofal dydd fod yn fwy egnïol drwy'r rhaglenni 'Symud yn fwy aml' ac 'Olympage', gan gynnwys hyfforddiant staff a gwirfoddolwyr perthnasol.  Mae hyn wedi datblygu i fod yn rhaglenni a digwyddiadau rheolaidd yn y canolfannau cymunedol a arweinir gan bersonél y Gwasanaethau Cymdeithasol.  Gweithir yn agos â Shout (y fforwm pobl h?n) a chefnogir gweithgareddau Tai Chi ar gyfer llesiant yn Evergreen Hall ac amrediad o leoliadau nad ydynt yn eiddo i'r cyngor (e.e. Caerau, Cefn Glas).  Ceir hefyd sesiynau allgymorth symudol, fel sgrinio ffordd o fyw, atal cwympiadau ym Mhorthcawl, Maesteg a Chwm Ogwr sy'n gysylltiedig â chanolfannau cymunedol neu dai gwarchod.

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gyda Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO) a'r Gymdeithas Alzheimer bellach i gefnogi datblygiad cymunedau mwy cyfeillgar i ddementia, a bydd hyn yn cynnwys HALO ac Awen.  Rydym hefyd yn gweithio gydag ysgolion i ddod yn fwy cyfeillgar i'r henoed, a bydd hyn yn cynnwys ein safleoedd deuddefnydd, lle gwelwyd twf ym mhresenoldeb cyffredinol pobl dros 60 oed yn y blynyddoedd diwethaf.  Mae ein gwaith gydag oedolion h?n wedi amlygu pwysigrwydd ein hamgylchedd awyr agored a mannau gwyrdd.  Mae ein rhaglen Dwli ar Gerdded (Love2Walk) yn cynnig rhwng chwech a 12 taith gerdded wythnosol (amrywio yn ôl y tymhorau) dan arweiniad arweinwyr cerdded gwirfoddol, a gwnaeth g?yl gerdded 2018 ddenu 291 o gyfranogwyr. Yn yr un modd, mae Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot i gynnig y rhaglen ParkLives. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae hon wedi canolbwyntio'n benodol ar oedolion h?n a gweithgareddau awyr agored.

 

Yn 2012, sefydlwyd y Bartneriaeth Byw'n Iach rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a GLL/HALO, ac roedd yn cynnwys wyth canolfan hamdden a chyfleusterau pwll nofio a gwasanaethau perthnasol. Y prif amcanion wrth sefydlu'r bartneriaeth oedd sicrhau bod yr asedau'n parhau i fod yn addas i'r diben, sicrhau bod costau'r cyngor yn lleihau, sicrhau bod y cyngor yn cadw rheolaeth benodol dros brisiau a rhaglenni, gan hefyd gyflawni ar ganlyniadau cymdeithasol fel cymunedau iachach, plant a phobl ifanc a chymunedau cryf.

 

Y buddsoddiad cyfalaf ar ddechrau'r bartneriaeth oedd £4.3 miliwn, a chaiff hwn ei ad-dalu yn ystod y 15 mlynedd y mae'r contract yn gweithredu drwy gyllidebau refeniw blynyddol.  Cefnogodd y buddsoddiad cychwynnol ddatblygiad Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr fel cyfleuster blaenllaw, ac roedd yn hanfodol i gefnogi uchelgais y cyngor am gyfleusterau cynaliadwy a darpariaeth ddarbodus.  Ers 2012, mae ein partneriaid wedi parhau i fuddsoddi mewn gwella asedau, gan gynnwys cyd-leoli llyfrgelloedd, mannau chwaraeon pob tywydd, cyfarpar cadw'n heini modern, gosodiadau arbed ynni a mwy. O ran costau blynyddol cyffredinol i'r cyngor, mae'r ffi reoli sy'n daladwy i HALO 50% yn llai na chost y canolfannau hamdden yn 2011-12 bellach, pan oedd y gwasanaethau'n cael eu rhedeg gan y cyngor.  Mae prydles drwsio lawn yn rhan annatod o'r ffi reoli.

 

Mae'r pwyslais ar weithio mewn partneriaeth ledled y Fwrdeistref Sirol a chynnwys amrediad eang o sefydliadau wedi'i gydnabod mewn arolygiad diweddar gan Quest, cynllun Ansawdd y DU ar gyfer chwaraeon a hamdden.  Mae'r dull gweithredu a ddefnyddir ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi ei asesu fel dull 'ardderchog', a hwn yw'r unig awdurdod lleol yng Nghymru i ennill y safon hon.  Mae'r bartneriaeth â Halo wedi ei rheoli o fewn y gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, ac mae hyn wedi cynorthwyo â chyfeiriad strategol y bartneriaeth i wella llesiant ac effeithio ar grwpiau penodol o'r boblogaeth.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Altaf Hussain

Byddai'n rhoi hwn i Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol y tu allan i'r cyfarfod, a gofynnodd am ymateb ysgrifenedig y tu allan i'r cyfarfod (h.y. i bob aelod).