Agenda item

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Band B

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd a'r Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 dros dro adroddiad ar y cyd. Diben hwn oedd fel a ganlyn:

 

  • diweddaru'r cyngor o ran canlyniad adolygiad Llywodraeth Cymru o ddull cyllido Band B y Model Buddsoddi Cydfuddiannol a'r cyfraddau ymyrraeth grant cyfalaf diwygiedig
  • cael cymeradwyaeth y cyngor ar yr ymrwymiad ariannol diwygiedig sydd ei angen i gyflawni Band B y rhaglen moderneiddio ysgolion
  • cymeradwyo newid i'r rhaglen gyfalaf er mwyn adlewyrchu'r ymrwymiad diwygiedig

 

Mae paragraff 2 yr adroddiad yn nodi'r egwyddorion, fel y'u cymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Mawrth 2015, a fabwysiadwyd gan swyddogion wrth lunio'r cyngor sydd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad cyfredol.

 

Gwnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd atgoffa'r aelodau o brif amcanion y rhaglen moderneiddio ysgolion, a hyrwyddwyd gan y cyngor yn 2006, fel y'u dangosir ym mharagraff 3.4 yr adroddiad.

 

Er mwyn llywio ein dull o foderneiddio ysgolion, mae swyddogion hefyd wedi gweithio â phartneriaid amrywiol i ystyried y canlynol yn ofalus:

 

  • cyflwr yr adeiladau
  • y gwaith cynnal a chadw sydd eto i'w wneud
  • twf y boblogaeth
  • amcanestyniadau poblogaeth disgyblion
  • datblygiadau tai a nodwyd o fewn y Cynllun Datblygu Lleol

 

Bydd aelodau'n ymwybodol fod rhaglen moderneiddio ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn llwyddiannus iawn hyd yma, gyda chwe darpariaeth newydd eisoes yn cael eu hadeiladu o fewn Band A, a'r bwriad i agor Ysgol Calon y Cymoedd ym mis Ionawr 2019.

 

Ym mis Hydref 2017, cyflwynwyd adroddiad i'r Cabinet a oedd yn nodi canlyniad gwaith y ffrwd waith moderneiddio ysgolion a chyflwyniad y rhaglen amlinellol strategol ddiwygiedig.

 

Gwnaeth y Cabinet ystyried y cynlluniau Band B arfaethedig, a phenderfynu cymeradwyo'r canlynol, ar sail y galw cynyddol am leoedd, y gofyniad i hybu'r Gymraeg a chyflwr yr adeilad:

 

·          Gogledd-ddwyrain Pen-y-bont ar Ogwr (cyflwyno dau ddosbarth (AB)) - grant cyfalaf

·          De-ddwyrain Pen-y-bont ar Ogwr (2.5AB) - grant cyfalaf

·   Ysgol Arbennig Pen-y-bont ar Ogwr (270 o leoedd) – Model Buddsoddi Cydfuddiannol

·      Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr – cyfrwng Cymraeg (2AB) - grant cyfalaf

·     Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr – cyfrwng Saesneg (2AB) - grant cyfalaf

 

Yn ogystal, darparodd Llywodraeth Cymru £30 miliwn mewn grant cyfalaf ledled Cymru er mwyn hybu'r Gymraeg a chefnogi ymrwymiad Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, a gofynnwyd i gynghorau wneud cais yn ei erbyn. Nododd swyddogion yr angen i greu cyfleusterau gofal plant cyfrwng Cymraeg a fyddai'n cyflwyno cyfleoedd iaith Gymraeg i ardaloedd yn y fwrdeistref sirol lle nad oes digon o ddarpariaeth ar hyn o bryd (hynny yw: Bro Ogwr a Chwm Garw, Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl). Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cais Pen-y-bont ar Ogwr am £2.6 miliwn mewn egwyddor.

 

Yn ystod ei gyfarfod ar 31 Ionawr 2018, cymeradwyodd y cyngor, mewn egwyddor, yr ymrwymiad ariannol y byddai ei angen ar gyfer Band B y rhaglen moderneiddio ysgolion.

 

Amcangyfrifwyd y byddai'r rhaglen gyffredinol yn costio oddeutu £68.2 miliwn; rhagwelwyd y byddai oddeutu £43.2 miliwn o hwn yn dod o gyllid cyfalaf (oddeutu £23 miliwn wedi ei ariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr), a chynigiwyd bod y gweddill yn cael ei ariannu drwy Fodel Buddsoddi Cydfuddiannol Llywodraeth Cymru.

 

Roedd Llywodraeth Cymru wedi cynghori awdurdodau lleol y byddai'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, sef dull newydd o fuddsoddi mewn seilwaith cyhoeddus yng Nghymru, lle bydd partneriaid preifat yn adeiladu ac yn cynnal a chadw ysgolion yn gyfnewid am ffi, yn talu am gostau adeiladu, cynnal a chadw ac ariannu'r prosiect.

 

Cyfradd ymyrraeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Model Buddsoddi Cydfuddiannol yw 75%, a bydd hwn yn cael ei dalu i'r awdurdod lleol ar ffurf grant. Bydd cyllidebau refeniw yr awdurdod lleol yn talu am y 25% arall dros gyfnod contract o 25 mlynedd. Roedd hefyd angen i'r awdurdod lleol dalu 50% o'r costau cyfalaf ymlaen llaw ar gyfer dodrefn, offer a TG.

 

Ar ddiwedd cyfnod penodol o amser, bydd yr ased yn cael ei drosglwyddo i'r awdurdod lleol. Roedd Llywodraeth Cymru wedi nodi y byddai'n cyflwyno pecyn o gynlluniau i'r farchnad fel prosiectau dylunio ac adeiladu a oedd yn cynnwys nifer o gynlluniau o fewn ardal ddaearyddol (gan gynnwys cynlluniau ar draws ardaloedd awdurdod lleol), a byddent yn ddigon gwerthfawr i ddenu cwmnïau mawr (e.e. £100 miliwn).

 

Ers cymeradwyo'r cynllun amlinellol strategol, mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu'r cynlluniau sydd wedi eu cynnig ar gyfer y Model Buddsoddi Cydfuddiannol.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi nad yw cynnwys cynlluniau bach neu gymhleth iawn (fel ysgolion arbennig) yn cyflwyno gwerth am arian drwy lwybr y Model Buddsoddi Cydfuddiannol.

 

O ganlyniad, ni chredir bod Ysgol Arbennig Pen-y-bont ar Ogwr yn addas i'w chyflawni o dan y model ariannu hwn.

 

Mae'n bwysig nodi bod hyn yn ymwneud yn gyfan gwbl â phenderfyniad diweddar Llywodraeth Cymru i dynnu ysgolion arbennig o gyllid y Model Buddsoddi Cydfuddiannol, yn hytrach na bai yr awdurdod lleol.

 

Oherwydd penderfyniad Llywodraeth Cymru, roedd angen ailystyried y dull o ariannu cynlluniau Band B Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a gwneud penderfyniad ar y ffordd ymlaen. Felly, cyflwynwyd adroddiad i'r Cabinet ar 20 Tachwedd i'w gymeradwyo ar gyfer dull ariannu diwygiedig, cyn cael cymeradwyaeth y cyngor llawn ar 21 Tachwedd.

 

Ar 20 Tachwedd, cymeradwyodd y Cabinet becyn ariannu diwygiedig a oedd yn seiliedig ar ariannu dau gynllun ysgol gynradd drwy lwybr y Model Buddsoddi Cydfuddiannol, a dau gynllun ysgol gynradd a chynllun ysgol arbennig drwy lwybr y grant cyfalaf.

 

Fodd bynnag, cyn y cyflwynwyd yr adroddiad i'r cyngor, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newid i gyfradd ymyrraeth y grant cyfalaf. Cynyddodd cyfraniadau Llywodraeth Cymru tuag at Fand B 75% ar gyfer cynlluniau ysgolion arbennig ac unedau atgyfeirio disgyblion, a 65% ar gyfer pob cynllun arall; byddai cyfradd ymyrraeth y Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn parhau i fod ar 75%.

 

Gan y byddai'r newid yn y gyfradd ymyrraeth yn cael effaith gadarnhaol ar gost y cyngor o gyflawni Band B, penderfynwyd gohirio adroddiad y cyngor, oherwydd nad oedd y manylion yn ffeithiol gywir mwyach a gallai'r newid yn y gyfradd ymyrraeth effeithio ar y dull cyflawni arfaethedig; byddai hyn yn rhoi cyfle i'r Cabinet adolygu ei benderfyniad o ran hyn. Rwy'n ddiolchgar i'r aelodau am ganiatáu i mi ddod â'r papur hwn yn ôl i'r cyfarfod hwn.

 

Bydd aelodau'n cofio pan gyflwynwyd y mater hwn gerbron cyfarfod llawn y cyngor ym mis Ionawr 2018, gofynnwyd am oddeutu £23 miliwn o arian cyfalaf cyfatebol i gyflawni'r pedwar cynllun ysgol gynradd a nodwyd bryd hynny.

 

Ceir cymhariaeth gynhwysfawr o gynlluniau'r grant cyfalaf a'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn Nhabl 1 yr adroddiad.

 

Mae'n bwysig nodi er na ellir cadarnhau'r ffigurau ar hyn o bryd, ni fydd benthyca digymorth yn digwydd hyd oni fydd y cyllid cyfalaf cyffredinol, cyllid adran 106 a derbyniadau cyfalaf sydd ar gael a chronfeydd cyfalaf wrth gefn sydd wedi eu clustnodi wedi eu gwario, a bydd hyn yn gofyn am gyllideb refeniw rheolaidd i fodloni'r costau benthyca. 

 

Mae paragraff 8.4 yr adroddiad yn amlinellu'r pedwar opsiwn a ystyriwyd gan swyddogion.

 

Mae paragraff 8.6 yn crynhoi goblygiadau refeniw a chyfalaf llawn bob opsiwn ariannu diwygiedig ar sail y rhagdybiaethau cyfredol.

 

Mae'n bwysig nodi mai amcangyfrifon yw'r costau hyn, sy'n seiliedig ar yr wybodaeth a oedd ar gael ar y pryd, a gwybodaeth am y Model Buddsoddi Cydfuddiannol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru, a byddant yn newid yn unol â chynnydd mewn cyfraddau chwyddiannol a llog.

 

Wedi hyn, ehangodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd ar yr opsiynau cyllido amrywiol (Opsiynau 1 i 4) a ystyriwyd gan swyddogion, fel y'u hamlinellwyd ym mharagraffau 8.4 i 8.11 yr adroddiad, a nodi'r rhesymau pam y credir mai Opsiwn 2 yw'r dewis gorau.

 

Dywedodd aelod y gobeithiai y byddai unrhyw ysgolion newydd arfaethedig a adeiladwyd o ansawdd da ac i'r safonau gofynnol fel rhan o brosiect Ysgolion yr 21ain Ganrif Pen-y-bont ar Ogwr.

 

PENDERFYNWYD:       Bod y cyngor yn cymeradwyo'r gyllideb ddiwygiedig sydd ei hangen o ran Band B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion i'w chynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf.

Dogfennau ategol: