Agenda item

Deddf Gamblo 2005 - Datganiad Egwyddorion

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad, gyda'r diben o adrodd ar ganlyniad yr adolygiad tair blynedd o'r Datganiad Egwyddorion Gamblo, y fframwaith sy'n rheoli'r ffordd y mae'r awdurdod hwn yn cyflawni ei ddyletswyddau fel yr awdurdod trwyddedu ar gyfer gamblo.  Adroddwyd y mater hwn i'r Cabinet ar 18 Rhagfyr 2018, ond y cyngor sy'n gyfrifol am gymeradwyo'r Datganiad Egwyddorion ar gyfer y tair blynedd nesaf o 2019 ymlaen.

 

Gwahoddodd y Maer Bennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir i gyflwyno'r adroddiad.

 

 Nododd fod Deddf Gamblo 2005 yn darparu system rheoleiddio ar gyfer rheoli pob gweithgaredd gamblo a ddarperir ym Mhrydain Fawr, ar wahân i'r Loteri Genedlaethol a ‘spread betting’. Sefydlwyd y Comisiwn Gamblo o dan Ddeddf Gamblo 2005 i reoleiddio'r gamblo masnachol ym Mhrydain Fawr, mewn partneriaeth ag awdurdodau trwyddedu fel rheoleiddwyr lleol.  Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar y Comisiwn a'r awdurdodau trwyddedu i geisio trwyddedu gamblo, cyn belled ag y credir ei fod yn rhesymol gyson â'r amcanion trwyddedu, a nodwyd y fframwaith rheoleiddio llawn ym mharagraff 4.2 yr adroddiad.

 

Aeth ymlaen drwy gadarnhau bod angen i'r cyngor gyhoeddi datganiad polisi, a elwir yn Ddatganiad Egwyddorion, bob tair blynedd.  Roedd y ddogfen gyfredol wedi ei hadolygu ac ymgynghoriad drafft wedi ei gynnal.  Roedd copi o'r Datganiad Egwyddorion drafft wedi ei atodi yn Atodiad A yr adroddiad, gyda'r elfennau a adolygwyd wedi eu lliwio'n goch. Tynnodd sylw'r cyngor at dudalen 7 Atodiad A, a oedd yn nodi bod nifer y safleoedd betio ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 2018 wedi gostwng o 17 i 16.

 

Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir fod y Ddeddf yn gosod dyletswydd ar y cyngor i ddatblygu Datganiad Egwyddorion sy'n hyrwyddo'r tri amcan trwyddedu sydd wedi eu cynnwys ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

 

Awgrymodd dadansoddiad o gwynion a gwybodaeth a dderbyniwyd gan y Cyngor ers y diwygiwyd y Datganiad ddiwethaf nad oedd unrhyw dueddiadau na phryderon newydd wedi codi yn ystod y tair blynedd diwethaf, naill ai gan y sector neu'r lleoliad.  Un o'r pryderon gorfodi a oedd wedi codi oedd lleoli peiriannau mewn siopau tecawê a siopau eraill. Mae hyn yn anghyfreithlon, ac arweiniodd at erlyniad, felly ni ellir ymdrin ag ef fel mater polisi.

 

Nododd nad oedd newidiadau mawr wedi eu gwneud i'r Datganiad Egwyddorion, ond, mae'n dilyn y dull gweithredu a nodwyd yn y bumed argraffiad o'r canllawiau statudol a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Gamblo i awdurdodau trwyddedu, a chyfeirir at hwn ym mharagraff 4.2 yr adroddiad.

 

Golygai hyn y bydd yr awdurdod, heb unrhyw ffactor neu risg leol, yn dilyn dull y Comisiwn Gamblo o reoleiddio gamblo, fel y nodir yn y canllawiau. Er bod yn rhaid i'r awdurdod ystyried y canllawiau wrth wneud penderfyniadau, mae'n bwysig cydnabod nad yw'r canllawiau yn ceisio rhwystro'r awdurdod rhag defnyddio ei ddoethineb wrth ymdrin â cheisiadau neu gydymffurfiaeth.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir fod ymarfer ymgynghori wedi ei roi ar waith fel rhan o'r adolygiad, a oedd yn cynnwys y cyrff a'r rhanddeiliaid hynny a nodir ym mharagraff 4.5 yr adroddiad. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad dan sylw rhwng 31 Awst a 9 Tachwedd 2018. Nodwyd yr ymatebion i hwn yn Atodiad B yr adroddiad.

 

Nid oedd y Datganiad Egwyddorion drafft yn cynnwys mater perthnasol, ar ffurf diwygiadau penodol a ddangosir o baragraff 4.8.2 i baragraff 4.9.2 yr adroddiad.

 

Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir fod y Llywodraeth, er nad oedd yn effeithio ar yr adolygiad polisi hwn, wedi cyhoeddi newid i'r arian betio sy'n gysylltiedig â pheiriannau chwarae gemau a elwir yn "Derfynellau Betio Ods Penodedig". Peiriannau electronig a geir mewn siopau betio yw Terfynellau Betio Ods Penodedig, sy'n cynnwys gemau amrywiol, gan gynnwys roulette.  Yr uchafswm y gellir ei roi ar un fet yw £100, a'r brif wobr yw £500.  Mae llawer o ddadlau wedi bod ynghylch y peiriannau hyn, gyda phryderon yn cael eu lleisio ynghylch y ffaith fod gan y peiriannau hyn gyswllt achosol â phroblemau gamblo oherwydd y symiau mawr o arian y gellir eu colli mewn amser byr.  O fis Ebrill 2019, bydd yr uchafswm y gellir ei roi ar fet yn lleihau i £2.00.  (Ffynhonnell: Papur briffio llyfrgell Senedd y DU, 16 Tachwedd 2018).

 

Gofynnodd aelod i Bennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, faint o wiriadau profi oedran wrth brynu oedd wedi eu gwneud yn ystod y tair blynedd diwethaf, a faint o'r rhain a ganfuwyd i fod yn rhy ifanc.

 

Atebodd y byddai'n gallu darparu'r wybodaeth hon y tu allan i'r cyfarfod.

 

Cyfeiriodd aelod at dudalen 45 y papurau, lle roedd y sefyllfa ar ffurf tabl, a ddaeth o ganfyddiadau dadansoddiad lleol o broffil gamblo Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Teimlai y byddai'n ddefnyddiol pe bai'r data a nodwyd yma'n gallu cael ei gymharu â data awdurdodau cyfagos.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir y gallai gwblhau ymarfer cymharu data o'r fath, a dod yn ôl at yr aelod eto y tu allan i'r cyfarfod.

 

Er bod aelod yn cydnabod y rheoliadau oedd gan yr awdurdod lleol a sefydliadau eraill ar waith ar gyfer gamblo, roedd yn poeni ynghylch y pethau a oedd y tu hwnt i'n rheolaeth. O'r herwydd, teimlai y byddai'n ddefnyddiol pe bai'r cyngor yn ysgrifennu at yr Awdurdod Safonau Hysbysebu, gan ofyn iddo edrych ar y materion sy'n ymwneud ag annog gamblo, drwy er enghraifft, gor-hysbysebu gwefannau gamblo ar-lein ac ati.

 

Nododd yr Arweinydd y byddai'n trefnu i hyn ddigwydd, ac yn anfon llythyr ar ran y cyngor yn crybwyll hyn, i'r Comisiynydd Gamblo, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac Ofcom.

 

PENDERFYNWYD:       Bod y cyngor yn cymeradwyo'r Datganiad Egwyddorion Gamblo ar gyfer y cyfnod o dair blynedd rhwng 2019 a 2021, gan gynnwys diwygiadau arfaethedig 1 - 3 y cyfeiriwyd atynt rhwng paragraff 4.8.1 a pharagraff 4.9.2 yr adroddiad, ac yn cymeradwyo'r cyhoeddiad yn unol â'r rheoliadau.

Dogfennau ategol: